Diogelwch Ffyrdd Cymru
17/10/08
 |
Mae’r Cyngh Gwilym Evans, Anthea Jones (Swyddog Seiclo Cyngor Sir Powys), Y Pennaeth Ms Linda Jones, Y Cyngh Kelvin Curry, a disgyblion o’r ysgol yn agoriad agor yn swyddogol y cyfleusterau newydd. |
Yn awr, gall plant ysgol yn Rhaeadr Gwy fynd ar gefn beic i’r ysgol yn fwy diogel, diolch i well cyfleusterau beicio. Llwyddodd Cyngor Sir Powys i sicrhau £60,000 oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y prosiect, sy’n cynnwys lloches feiciau newydd yn yr ysgol, lledu’r llwybrau a darparu mynedfa ar wahân i dir yr ysgol a’r ffensys sy’n gysylltiedig â hyn.
Agorwyd y cyfleusterau newydd yn swyddogol Ddydd Mercher (Hydref 1) yn ystod prynhawn o ddathliadau yn yr ysgol. Daeth y Cynghorydd Gwilym Evans, Aelod o Fwrdd Cyngor Sir Powys â chyfrifoldeb am Ddiogelwch ar y Ffyrdd, a hefyd y Cynghorydd Sir lleol Kelvin Curry hefyd i’r achlysur.
Dywedodd y Cynghorydd Evans: “Rydym wrth ein bodd yn agor y cyfleusterau newydd yma. Roedd yr ysgol yn arbennig o egnïol yn eu cais am lwybr, ac rydym yn falch o allu sicrhau’r cyllid i alluogi hyn i ddigwydd.’
Dywedodd Ms Linda Jones, Pennaeth Ysgol Gynradd Rhaeadr Gwy: “Rwyf wrth fy modd gyda’r llwybr newydd a’r lloches. Rydym yn awyddus i gymaint â phosibl o’r plant i gerdded ac i seiclo i’r ysgol. Mae’n helpu i greu amgylchedd mwy diogel o amgylch yr ysgol, gyda llai o draffig, ac rydym yn awyddus hefyd i hybu dulliau gwyrdd o deithio."
10/10/08
Os ydych chi wedi beicio yn Abertawe, neu wedi bod eisiau gwneud hynny, dyma'ch cyfle i gael dweud eich dweud am Gynllun Gweithredu Beicio Cyngor Abertawe.
Mae Bwrdd Trosolwg yr Amgylchedd, Adfywio a Diwylliant wrthi'n bwrw golwg ar ddatblygiad y cynllun ac am wybod beth yw barn pobl Abertawe am feicio yn yr ardal a'r cyffiniau.
Meddai Rob Speht, Cadeirydd Bwrdd Trosolwg yr Amgylchedd, Adfywio a Diwylliant, "Mae beicio'n ffordd bwysig o leihau tagfeydd yng nghanol y ddinas a gwella iechyd trigolion lleol.
Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio i ffyrdd newydd o annog beicio yn Abertawe ac rydym yn awyddus i geisio barn pobl â diddordeb."
Bydd pawb sy'n llenwi'r holiadur yn cael y cyfle i ennill beic a gyflwynwyd fel rhodd gan Schmoos o Stryd Wyndham. Cliciwch y ddolen i gwblhau'r holiadur.
Holiadur Beicio Abertawe
I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 637732 neu e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk

10/10/08
Clustnodwyd Porth Tywyn fel ardal a allai elwa o’r cynllun hwn sy’n canolbwyntio ar ddarparu diogelwch a rhwyddineb i ddulliau teithio cynaliadwy, tra’n ymwybodol ar yr un pryd bod yna nifer o deithiau sy’n gofyn am ddefnydd car preifat o hyd.
I gael gwybod rhagor...
1/10/08
Mae ymgyrch i annog disgyblion yn Ysgol Gynradd Gatholig St Therese i fynd ar eu beiciau wedi derbyn hwb wedi i reseli beiciau newydd gael eu gosod.
Hwb i ymgyrch feicio Ysgol Gynradd St Therese
Derbyniodd yr ysgol arian gan Fenter Ysgolion Iach i brynu'r rheseli, a osodwyd gan DÎm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystod gwyliau'r haf.
Mae staff yn yr ysgol wedi gweithio'n ddiflino i annog disgyblion i ddefnyddio dulliau iachach o gludiant er mwyn teithio nÔl ac ymlaen i'r ysgol.
Meddai Arwyn Woolcock, aelod y cabinet dros yr amgylchedd, bod gan yr ysgol y fantais o fod ar dir gwastad ac mae'n agos at gartrefi disgyblion yn ystÂd y Sandfields.
"Serch hynny, mae bod mewn ystÂd dai mor fawr yn golygu bod mwy o dagfeydd yn yr ardal nag a geir fel arfer gerllaw ysgolion eraill," meddai.
"Wrth feicio i'r ysgol, mae'r plant yn gwneud eu rhan i helpu i leihau tagfeydd, gwella diogelwch i gerddwyr a lleihau llygredd.
"Bydd y fenter hefyd yn cael effaith ar iechyd y plant drwy eu hannog i wneud ymarfer corff yn rheolaidd."
Ers dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, mae disgyblion St Theres wedi gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio'r cyfleuster newydd hwn, nid yn unig i wella eu ffitrwydd ond hefyd i ystyried eu diogelwch drwy lynu at reolau newydd yr ysgol,Dim helmed, Dim Beic!
"Rwyf wrth fy modd gweld bod disgyblion Ysgol Gynradd St Therese yn elwa ar eu rheseli beiciau newydd," ychwanegodd y Cynghorydd Woolcock.
Mae'r Uned Diogelwch Ffyrdd hefyd yn annog beicio diogel drwy gynnig sesiynau sgiliau i holl ddisgyblion yr ysgol.
25/6/08

Heddiw (dydd Mercher, 25 Mehefin), cyhoeddwyd y bwriad i sefydlu safonau cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant beicio yng Nghymru mewn ymgais i wella diogelwch a chynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy’n beicio.
Yn ystod Cynhadledd Cerdded a Beicio yng Nghaerdydd, meddai Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, y byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn buddsoddi £250,000 i hyfforddi mwy na 100 o hyfforddwyr i addysgu’r safonau newydd hyn ledled Cymru.
Y nod yw cynyddu nifer yr hyfforddwyr sy’n gymwys i ddarparu safon gyson o hyfforddiant a fydd yn paratoi plant ac oedolion i feicio ar ein ffyrdd ni heddiw. Meddai Ms Davidson:
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ysgogi mwy o bobl i feicio – fel ffordd o deithio; fel ffordd o wneud mwy o ymarfer corff; ac fel ffordd o dreulio amser yn yr awyr agored a mwynhau ein cefn gwlad.
Rhaid i ni oll leihau ein hôl-troed carbon, a gall beicio helpu i wneud gwahaniaeth go iawn yn hyn o beth – yn arbennig am fod y rhan fwyaf o’n teithiau mewn car yn llai na 5 milltir o hyd. Gyda chost moduro ar gynnydd, mae beicio yn rhad, yn iach ac yn ffordd gynaliadwy o deithio.
Pleser mawr, felly, yw cael cyhoeddi’r fenter newydd hon, a ariennir eleni gan Lywodraeth y Cynulliad i annog mwy o bobl i feicio.
Mae’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Beicio eisoes wedi cael eu mabwysiadu gan nifer fach o awdurdodau lleol yng Nghymru, ond bydd yr arian newydd a’r bartneriaeth â CTC – sefydliad cenedlaethol beicwyr y DU – yn helpu i sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu ledled Cymru.
Gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Elusennol CTC a’r Cyngor Chwaraeon, bydd y cyllid sy’n werth £250,000 dros dair blynedd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y Safonau Cenedlaethol yn cael eu mabwysiadu ledled Cymru ochr yn ochr â’r brand Bikeability llwyddiannus.
Meddai Kevin Mayne, Cyfarwyddwr CTC:
Hyfedredd beicio ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yw Bikeability. Mae’n rhoi hyder i rieni a phlant deithio ar eu beiciau bob dydd o dan amgylchiadau go iawn. Pleser mawr i ni yw gweld Llywodraeth y Cynulliad yn annog mwy o bobl i feicio. Bydd y cyllid hefyd yn caniatáu i ni gyflogi Swyddog Datblygu Hyfforddiant Beicio, a fydd yn gyfrifol am gefnogi darparwyr gweithgareddau beicio yng Nghymru wrth iddynt annog mwy o bobl i ddefnyddio eu beiciau.
Meddai Ms Davidson:
Mae CTC yn amcangyfrif bod tua 10% o ddisgyblion blwyddyn 6 yn cael rhywfaint o hyfforddiant beicio, ond yn anaml iawn y gwneir hyn ar y ffordd. Rydym am weld hyn yn cael ei newid yn sylweddol trwy raglen o waith i hyfforddi mwy na 100 o hyfforddwyr yn y Safonau Cenedlaethol, a fydd wedi hynny yn darparu hyfforddiant beicio priodol i ysgolion ac oedolion. Mae swyddog prosiect newydd yn cael ei recriwtio hefyd i helpu i gydlynu’r gwaith hwn.
18/6/08
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn mynd i ysbryd Wythnos y Beic (Mehefin 14 - 22) gyda chyfres o weithgareddau hyfforddi ar gyfer plant y sir.
Mae Wythnos y Beic yn gyfle blynyddol i hyrwyddo beicio fel ffynhonnell ffitrwydd a hwyl.
Bydd Tîm Diogelwch Ffyrdd Sir Ddinbych yn trefnu hyfforddiant beicio gan ddefnyddio’r Safonau Newydd (gweler www.ctsb.org.uk.) Fy ddisodlodd y rhain yr hen hyfedredd beicio y mae llawer o bobl yn gyfarwydd â nhw, mis Medi diwethaf.
Mae dros 500 o feicwyr ifanc o 25 o ysgolion cynradd neu ysgolion plant iau'r sir wedi cymryd hyfforddiant lefel 1 a 2 yn ystod y flwyddyn ysgol. Mae’r hyfforddiant hwn yn parhau drwy gydol Wythnos y Beic yn ysgolion cynradd Clocaenog a Chyffylliog.
Ar ddydd Mercher, Mehefin 18, mae ysgol gynradd Bryn Hedydd, Y Rhyl, yn cynnal Diwrnod o Hwyl Beicio ar gyfer yr holl ddisgyblion, yn seiliedig ar ymarferiadau safonau cenedlaethol 1 a chânt eu graddio i siwtio pob grwp blwyddyn. Caiff hyn ei drefnu gan riant, Barry Dunn, sydd hefyd yn hyfforddwr cydnabyddedig ar gyfer yr hyfforddiant newydd.
Mae lefel 1 y safonau newydd yn gyfres o reolaeth allfordd ac ymarferiadau hydrinedd sydd wedi eu dylunio i sicrhau fod y beiciwr yn ddiogel i fynd ymlaen i hyfforddiant lefel 2 sy’n digwydd ar ffyrdd lleol distaw.
Mae safon lefel 3 yn hyfforddi beicwyr i reidio’n ddiogel yng nghymhlethdod y rhwydwaith ffyrdd ac amgylchiadau traffig modern.
Meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy, “Mae’n ardderchog gweld ein beicwyr ifanc ar eu beiciau’n gwisgo helmedau a’r festiau gwelededd ac yn cael y profiad o hyfforddiant ffordd gwirioneddol a allai eu galluogi i fod yn feicwyr rheolaidd wrth iddyn nhw fynd yn hyn.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn hyfforddwr, cysylltwch ag Alan
Hinchliffe, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Sir Ddinbych ar 01824 706887.
16/6/08
Mae Wythnos y Beic, sef cyfle blynyddol ar lefel y DU i ddathlu beicio, yn cael ei chynnal rhwng 14 a 22 Mehefin 2008.
Nod Wythnos y Beic, sy’n cael ei hariannu gan y Llywodraeth gyda chymorth oddi wrth y diwydiant beicio, yw annog mwy o bobl i feicio, a hynny’n amlach. Gall unrhyw sefydliad neu unigolyn drefnu digwyddiadau a manteisio ar y cymorth sydd ar gael yn ystod Wythnos y Beic, ac mae’r cymorth hwnnw’n cynnwys deunydd hyrwyddo di-dâl, cael eich cynnwys ar gronfa ddata ar-lein wythnos y beic, yn ogystal ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus os oes ei angen.
Mae Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, wedi nodi dechrau Wythnos y Beic 2008 drwy feicio i’r gwaith (ddydd Llun 16, Mehefin). Meddai Ms Davidson:
Rwy’n falch iawn o gael helpu i hyrwyddo Wythnos y Beic a hoffwn annog pobl o bob cwr o Gymru i fynd allan i feicio. Rwy’n falch o weld hefyd fod y Cynulliad yn gosod esiampl dda drwy drefnu’n digwyddiadau ein hunain ar gyfer y staff yn ystod Wythnos y Beic.
Aeth hi ati hefyd i amlinellu nifer o fentrau gan Lywodraeth y Cynulliad er mwyn annog pobl ledled Cymru i feicio:
- Cynhadledd ar gerdded a beicio – mewn partneriaeth â Chyngor Chwaraeon Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Sustrans Cymru, er mwyn llywio’r hyn a gaiff ei wneud yn y dyfodol er mwyn hyrwyddo Cerdded a Beicio. Cynhelir y gynhadledd ar 25 Mehefin ac nid oes unrhyw leoedd gwag ar ôl erbyn hyn.
- Cyflwyno’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Beicio yng Nghymru. Cynhelir yr hyfforddiant gan Ymddiriedolaeth Elusennol CTC a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Y nod yw sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer yr hyfforddwyr cymwysedig er mwyn i fwy o blant gael hyfforddiant beicio o ansawdd uchel.
- Prosiectau Bike It - bydd Sustrans Cymru yn cael cyllid ar gyfer 2 brosiect peilot 'Bike It' a fydd yn anelu at annog mwy o blant i feicio i’r ysgol.
- Twristiaeth beicio a llety cynaliadwy: cydweithio â Chroeso Cymru i wella’r wybodaeth am lety a ddarperir ar hyd y Llwybrau Beicio Cenedlaethol yng Nghymru, er mwyn i’r cyhoedd fedru chwilio am lety sy’n agos i’r Llwybrau Beicio Cenedlaethol yn yr un modd ag y gallant ei wneud ar gyfer y Llwybrau Cerdded Cenedlaethol.
- Cynllun Gweithredu mewn perthynas â Gemau Olympaidd 2012 - mae swyddogion wedi cysylltu â chydweithwyr yn yr adran chwaraeon ac yn y tîm sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymdrin â Gemau Olympaidd 2012 ynglyn â hyrwyddo lleoedd beicio mynydd yng Nghymru fel mannau lle gall timau sy’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd fynd iddynt er mwyn hyfforddi.
Ychwanegodd Ms Davidson:
Os bydd mwy o bobl ledled Cymru yn mynd ati i gerdded ac i feicio, bydd hynny’n fodd i leihau dibyniaeth ar y car, a bydd yn cyfrannu hefyd at leihau allyriadau CO2, sy’n achosi’r newid yn yr hinsawdd. Mae angen i bob un ohonom leihau ein hôl-troed amgylcheddol, a gall beicio helpu i wneud gwahaniaeth go iawn. Gan fod y costau sy’n gysylltiedig â moduro yn mynd yn ddrutach o hyd, mae beicio yn ffordd rad, iach a chynaliadwy o deithio.
Wefan: Wythnos y Beic 2008.
28/4/08
Mae pedwar deg o blismyn wedi neidio ar gefn eu beiciau i helpu i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe. 
Mae'r plismyn o Heddlu De Cymru wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant beicio arbennig gyda Thîm Diogelwch Ffyrdd cyngor Abertawe mewn ymgais i'w helpu i fynd ar gefn beic pan fyddant ar eu rhawd.
Dywedodd y Sarjant Phil Davies o Dîm Partneriaeth a Chymunedau Heddlu De Cymru fod y cyfle i blismyn fynd ar feiciau wrth fod allan ar batrôl yn golygu eu bod yn gallu creu cysylltiadau gwell â chymunedau. Meddai, "Mae cael ein patrolau lleol ar feiciau yn lle mewn ceir yn golygu eu bod yn haws i drigolion gwrdd a siarad â nhw yn ein cymunedau. Mae'r hyfforddiant wedi eu galluogi i wneud hynny'n ddiogel."
Mae'r cyngor hefyd wedi cael help rhai o'r plismyn i hybu hyfforddiant diogelwch seiclo ymhlith plant ysgol yn ysgolion Abertawe. Mae hyn yn golygu bod mwy o blant wedi cael yr hyfforddiant diogelwch hanfodol nag erioed o'r blaen. Yn ôl y ffigurau newydd, cafwyd cynnydd o fwy nag 11 y cant yn nifer yr ysgolion sydd wedi cael hyfforddiant yn 2007/2008.
Meddai Clive John, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe, "Ein nod yw cyrraedd mwy nag 80 o ysgolion cynradd yn Abertawe.
"Mae hyfforddi'r heddlu i fynd i'r ysgolion a darparu'r wybodaeth ddiogelwch hanfodol yma i blant ysgol wedi ein galluogi i fynd i fwy o ysgolion na'r llynedd. Mae'r cynnydd yn golygu bod 1,259 o blant deg ac un ar ddeg oed bellach yn gallu reidio'u beiciau'n ddiogel pan fyddant ar strydoedd Abertawe."
Ychwanegodd y Sarjant Davies, "Mae'n bwysig i ni weithio gydag awdurdodau lleol i drosglwyddo neges diogelwch ffyrdd i blant ysgol. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gwneud gwahaniaeth fel hyn."