Diogelwch Ffyrdd Cymru
20/10/08
Mae hysbyseb deledu bwerus sy’n ceisio lleihau nifer y trychinebau motor-beic ar ffyrdd Sir Ddinbych a Wrecsam wedi ennill gwobr diwydiant.
Fe enillodd yr hysbyseb, a gynhyrchwyd gan Knew Productions sydd wedi eu lleoli yn Wrecsam, mewn partneriaeth ag asiantaeth hysbysebu speake 2, Caer, wedi ennill y Wobr Agored Orau yng Ngwobrau’r Sefydliad Fideograffi 2008, a gynhaliwyd yn Stadiwm Ricoh, Coventry ar Hydref 15.
Fe gomisiynodd Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yr hysbyseb 30 eiliad a ddarlledir ar ITV Cymru I hyrwyddo BikeSafe, gyda chefnogaeth lawn gan Gyngor Wrecsam.
Mae’r teitl 'Not Playing Anymore' yn adlewyrchu effaith difrodus gwrthdrawiadau angheuol ar deuluoedd ac anwyliaid ac mae’n ceisio ysbrydoli beicwyr i wella eu sgiliau reidio drwy gysylltu â BikeSafe.
Yn 2007 cafwyd 152 o wrthdrawiadau gyda motorbeicwyr ar draws Gogledd Cymru, 13 ohonynt yn rhai angheuol, roedd 5 o’r rhain yn Sir Ddinbych a 2 yn Wrecsam. Dengys ymchwil er bod llawer o fotorbeicwyr yn teithio i’r rhanbarth o Ogledd Lloegr, y West Midlands, y Wirral a Chanolbarth Cymru, mae llawer o’r beicwyr sy’n cael eu lladd ar y ffyrdd yng Ngogledd Cymru’n byw yn y rhanbarth.
Meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Amgylchedd: "Mae gan yr hysbyseb yma neges eithriadol bwerus sy’n amcanu addysgu motorbeicwyr o’r peryglon y maent yn eu hwynebu ar y ffyrdd. Mae Cynghorau Sir Ddinbych a Wrecsam wedi gweithio gyda Knew Productions a Speake2 i ddargludo ymgyrch gyhoeddusrwydd effeithiol ac rydym yn falch iawn bod y fideo proffesiynol wedi ennill yr acolâd uchel hwn gan ddiwydiant".
Meddai’r Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: "Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn falch o fod wedi gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych ar yr hysbyseb deledu cymeradwy hwn. Mae unrhyw beth y gellir ei wneud i leihau nifer y marwolaethau motor-beic ar ein ffyrdd yn gam positif bob amser. Ni all unrhyw un fethu â gwerthfawrogi effaith marwolaethau ffordd ar deuluoedd a ffrindiau. Mae’r hysbyseb hwn wedi portreadu’n llwyddiannus yr effaith ar anwyliaid ac mae’n atogffâd noeth i feicwyr i fod yn ‘BikeSafe’."
Ychwanegodd Richard Knew, Cyfarwyddwr Knew Productions a Chymrawd o’r Sefydliad Fideograffi: “Bu ein criw yn gweithio’n wirioneddol galed ar y ffilmio. Defnyddiwyd camerâu mini arbenigol i gael y lluniau o safbwynt y motor-beic tegan, felly roedd yna benliniau dolurus erbyn diwedd y ffilmio! Rydym yn wirioneddol falch o ennill y wobr hon drwy’r Deyrnas Gyfunol, ond yn fwy na hynny mae’n foddhaus gweithio ar brosiect sy’n helpu i wella diogelwch ffyrdd o fewn ein rhanbarth.”
Ychwanegodd Saul Peake, Cyfarwyddwr speake2: "Rydym yn falch iawn o’r cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o BikeSafe a grëwyd gan yr hysbyseb hwn. Caiff hyn ei arddangos gan gynnydd o dair gwaith yn fwy mewn gweithgaredd ar dudalennau Gogledd Cymru ar eu gwefan. Ein gobaith yw ail-redeg yr hysbyseb y flwyddyn nesaf ac ymestyn ein gweithgaredd i’r wasg a’r cyfryngau awyr agored."
Click Here To View The "Not Playing Anymore" TV Advert
5/10/08
Mae cynllun peilot wedi ei anelu at hyrwyddo reidio beiciau modur yn fwy diogel yn y Sir i gael ei lansio ddechrau mis Hydref, cyhoeddodd Cyngor Sir Powys.
Bydd Uned Diogelwch ar y Ffyrdd y Cyngor yn lansio ei Chynllun Asesu Beiciau Modur yng Nghanolfan Adnoddau’r Cyfryngau yn Llandrindod ddydd Llun, 6 Hydref.
Mae’r cynllun ar gael i feicwyr modur sy’n byw ym Mhowys a dyma’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, diolch i gyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Dyfed Powys, bydd y cynllun yn rhoi cyfle i feicwyr modur gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi hanner diwrnod.
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys sesiwn hyfforddi am awr a ddilynir gan reid ddwy awr o hyd gydag aelodau’r heddlu.
Meddai’r Cyng. Gwilym Evans, aelod o’r Bwrdd sy’n gyfrifol am Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Beicwyr modur yw’r defnyddwyr ffyrdd mwyaf bregus ym Mhowys ac mae gennym y nifer uchaf o wrthdrawiadau angheuol sy’n cynnwys beicwyr modur yma o’i gymharu ag unrhyw Sir arall yng Nghymru.
“Rydym am hyrwyddo reidio mwy diogel a chwtogi ar nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y ffyrdd ym Mhowys a bydd yr asesiad hwn, ynghyd â’n cynlluniau eraill, yn ein helpu i gyflawni hyn.”
Meddai Sarah Morris, Uwch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd y Cyngor: “Gobeithiwn hyfforddi 50 o feicwyr modur o Bowys cyn diwedd Mawrth 2009 a byddwn yn monitro a gwerthuso cynnydd y cynllun.
“Os bydd yn llwyddiannus, bydd y cynllun yn mynd yn fyw o fis Ebrill nesaf a chynigir y cwrs am bris gostyngol.”
Os hoffech fwy o wybodaeth am y cynllun yna cysylltwch â Sarah ar 01597 826637 neu ebost sarah.morris@powys.gov.uk
29/4/08
Bydd BikeSafe – Pontio’r Bwlch, sef menter gan bedwar Heddlu Cymru gyda chefnogaeth y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Leol, yn helpu i asesu a chynghori beicwyr modur ynghylch mwynhau teithio a chadw’n ddiogel.
Gan fod beicwyr modur 40 gwaith yn fwy tebyg o gael eu lladd na gyrwyr ceir, mae’n hanfodol iddyn nhw fanteisio ar y cyfle i gael hyfforddiant ychwanegol a sicrhau y gallan nhw deithio’n ddiogel ar y ffordd. Ewch i wefan BikeSafe

Dyma Weithdai BikeSafe ar gyfer gweddill 2008:
Cwmbrân
17/18 Mai
7/8 Mehefin
28/29 Mehefin
5/6 Gorffennaf (Merched)
19/20 Gorffennaf
6/7 Medi
27/28 Medi
Caerdydd
17/18 Mai
12/13 Gorffennaf (Merched)
20/21 Medi
Abertawe
14/15 Mehefin
16/17 Awst
Caerfyrddin
17/18 Mai
14/15 Mehefin (Merched)
21/22 Mehefin
20/21 Medi |
Bae Colwyn
Free 2 Day Bikesafe Workshop to residents of Denbighshire, Flintshire and Wrexham
17/18 Mai
12/13 Mehefin (Iau/Gwener)
21/22 Mehefin
5/6 Gorffennaf
19/20 Gorffennaf
16 /17 Awst
23/24 Awst
13/14 Medi
27/28 Medi
11/12 Hydref
|
Adborth o gyrsiau BikeSafe de Cymru
“Rwy’n llawer mwy ymwybodol o’r peryglon pob dydd sy’n cael eu cymryd yn ganiataol yn rhy aml a chefais ddarlun cyffredinol o ba mor beryglus y gall beic modur fod yn y dwylo anghywir. Yn bersonol, petai’r diwrnod hyfforddi yma wedi bodoli tua 40 mlynedd yn ôl, efallai y byddai wedi arbed i mi lanio yn yr ysbyty dair gwaith."
"Wedi mwynhau’r cwrs mâs draw. Rwy’n teimlo mod i’n gwella’n barod ac rwy’n teimlo’n fwy hyderus ac wedi datblygu."
"Rhagorol. Wedi mwynhau’n fawr iawn a byddaf yn ei argymell i bobl eraill. Rwy’n edrych ymlaen at fynd mâs a chael ymarfer yr hyn rwy wedi ei ddysgu."
"Yn hwylus iawn ac yn ddefnyddiol iawn. Y cwrs uwch gorau ar reidio yr wyf wedi ei wneud erioed."
"Roedd cymhwyso’r theori i ymarfer ar y ffordd yn syfrdanol."
'Roedd y cydbwysedd yn y cwrs yn dda iawn. Rwy wedi dysgu cymaint ac mae fy reidio wedi gwella 100%. Mae fy hyder wedi cynyddu tu hwnt ac rwy mor falch fy mod i wedi mynd. Bydda i’n sicr yn mynd ar gwrs arall yn y dyfodol. Rhagorol!"
"Roedd y cwrs cyfan yn rhagorol. Roedd pob agwedd wedi’i gynnwys yn dda. Rwy wedi dysgu sgiliau defnyddiol iawn ac rwy’n siwr fy mod i erbyn hyn yn reidiwr mwy diogel, nid yn unig ar y beic modur ond hefyd yn y car – mae’r sgiliau’n berthnasol iawn."
Gwefan am feicio modur yn ddiogel yng Nghymru, wedi'i hysgrifennu a'i rheoli gan feicwyr proffesiynol i feicwyr. Ewch i wefan Cymru Ar Y Beic
10/4/08
Er mwyn i feicwyr modur allu dewis helmedau mwy diogel, bydd SHARP, o wanwyn 2008 ymlaen, yn dweud wrthyn nhw pa lefel o amddiffyniad y bydd helmed yn ei chynnig.
Bydd yn rhoi asesiad annibynnol i ddefnyddwyr yr helmedau a werthir ym Mhrydain o berfformiad diogelwch yr helmedau hynny. Bydd SHARP yn rhoi gradd i bob model o helmed i ddangos ei berfformiad mewn cyfres o brofion manwl ac yn rhoi rhwng 1 a 5 seren iddo. Cewch wybod rhagor ar wefan SHARP. www.sharp.direct.gov.uk
17/3/08
Cafodd ymgyrch gan yr heddlu i leihau'r nifer o feicwyr sy'n gyrru yn beryglus ar ffyrdd Cymru ei lansio yn Y Fenni ddydd Sul. Mae'r pedwar llu yng Nghymru yn defnyddio hofrenyddion, ceir heb arwyddion, a beiciau camerâu i gwtogi nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig gyda beicio modur.
Cafodd cyfanswm o 43 o feicwyr neu deithwyr ar feiciau modur eu lladd yng Nghymru yn ystod 2007, y nifer ucha ers 1984.
Dywedodd yr heddlu bod beicwyr cyfrifol yn cael eu croesawu ond eu bod yn bwriadu "atal grwpiau sy'n defnyddio'r ffordd fel trac rasio".
Yng ngorsaf bysiau'r Fenni y bydd rhan gynta'r cynllun mis o hyd yn cychwyn gan Heddlu Gwent.
Ar gyfartaledd, oedran y rhai gafodd eu lladd y llynedd oedd 38 oed, yn ôl y Prif Arolygydd John Pavett.
"Mae'r ffaith bod gan Gymru rai o'r ffyrdd beicio gorau a lefel traffic isel o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU yn denu beicwyr i'r ardal, yn enwedig ar benwythnosau a phan mae'r tywydd yn braf," meddai.
"Mae nifer sylweddol o feicwyr yn defnyddio ffyrdd Cymru yn cynyddu'r nifer posib o safon gyrru gwael ac felly nifer yr achosion o wrthdaro.
"Ein bwriad ydi i leihau nifer y beicwyr sy'n cael eu lladd a'u hanafu yn ddifrifol ar ein ffyrdd gan gynnig presenoldeb amlwg, sicrhau bod deddfau rheolau'r ffordd yn cael ei dilyn ac addysgu gyrwyr am ddiogelwch."
Digwyddiadau eraill fydd yn cael eu cynnig ydi Bikesafe 2008 sy'n rhoi cyfle i feicwyr yrru gyda beicwyr o'r heddlu.
Mae gwefan Cymru ar y Beic yn cynnig gwybodaeth am deithiau beic i ymwelwyr. www.walesbybike.com
12/3/08
O heddiw ymlaen, bydd nifer o feicwyr modur sy'n byw yng Ngogledd Cymru yn cael cynnig dilyn cwrs dau ddiwrnod BikeSafe neu gwrs BikeSafe ac FBoS o dan adain Cynllun Beiciwr Modur Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru.
Beicwyr modur sy'n parhau i fod y defnyddwyr ffordd mwyaf agored i niwed yn y wlad. Ar gyfartaledd, dim ond 1% o'r holl ddefnyddwyr yw beicwyr modur, ond mae 20% o'r holl ddamweiniau ar ein ffyrdd yn ymwneud â beicwyr modur. Yn ystod 2007, roedd nifer o'r rhai a anafwyd yng Ngogledd Cymru wedi bod mewn damwain oddi fewn 10 milltir i'w cartref.
Mae Grwp Diogelwch Ffyrdd Gogledd Cymru yn pryderu am ddiogelwch y gymuned beicwyr modur a'r rhai a effeithir gan y sefyllfa. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r sgiliau sydd eu hangen i leihau anafiadau, mae'r Grwp wedi cytuno i ddarparu cyrsiau BikeSafe ac FBoS am ddim i nifer cyfyngedig o drigolion Gogledd Cymru sydd â thrwydded beicio modur llawn.
Mae BikeSafe yn strategaeth reoledig sefydledig sydd wedi datblygu o'r ymarfer gorau o gyfathrebu â'r gymuned beicwyr modur er mwyn annog sgiliau rheolaeth ffordd dda. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi buddsoddi llawer mewn BikeSafe, ac mae'n cael ei gydnabod fel arloeswr yn y maes trwy'r wlad. Ei nod yw datblygu ymwybyddiaeth y beicwyr o'r sefyllfa, pam y dylent gymryd cyfrifoldeb am yr agweddau ac ymddygiad addas, yr angen i gynyddu lefel eu sgiliau a sut allent wneud hynny.
Yn bwysig iawn, mae BikeSafe yn bodoli er mwyn pontio, ac i annog beicwyr i fanteisio ar adnoddau hyfforddi cymeradwy.
Meddai Dafydd Edwards, Cadeirydd Grwp Diogelwch Ffyrdd Gogledd Cymru, "Mae Cynllun Beiciwr Modur Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn arddangos ymarfer da trwy ddarparu gweithdai BikeSafe i nifer cyfyngedig o drigolion Gogledd Cymru."
Ychwanegodd, "Mae ymrwymiad Grwp Diogelwch Ffyrdd Gogledd Cymru i gynnig cymorth i'r gymuned feicio yn glir. Y rhai eraill a ddylai dderbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith yn y maes yw'r sylwedyddion gwirfoddol sy'n cynorthwyo i drosglwyddo'r addysg hwn, y Gwasanaeth Tân ac Achub sy'n cynnig cefnogaeth werthfawr gyda'r Fire Bike, ac FBoS sy'n rhoi adnoddau gwerthfawr i ddarparu cymorth cyntaf hanfodol."
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.bikesafe.co.uk neu cysylltwch â Paul Cheshire, Cydlynydd BikeSafe ac FBoS Gogledd Cymru ar 07990 634234, neu paul.cheshire@nthwales.pnn.police.uk
7/1/08
Bydd BikeSafe – Pontio’r Bwlch, sef menter gan bedwar Heddlu Cymru gyda chefnogaeth y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Leol, yn helpu i asesu a chynghori beicwyr modur ynghylch mwynhau teithio a chadw’n ddiogel.
Gan fod beicwyr modur 40 gwaith yn fwy tebyg o gael eu lladd na gyrwyr ceir, mae’n hanfodol iddyn nhw fanteisio ar y cyfle i gael hyfforddiant ychwanegol a sicrhau y gallan nhw deithio’n ddiogel ar y ffordd. Ewch i wefan BikeSafe

Gwefan am feicio modur yn ddiogel yng Nghymru, wedi'i hysgrifennu a'i rheoli gan feicwyr proffesiynol i feicwyr.
Ewch i wefan Cymru Ar Y Beic
Dyma Weithdai BikeSafe ar gyfer gweddill 2008:
Cwmbrân
19/20 Ebrill
17/18 Mai
7/8 Mehefin
28/29 Mehefin
5/6 Gorffennaf (Merched)
19/20 Gorffennaf
6/7 Medi
27/28 Medi
Caerdydd
17/18 Mai
12/13 Gorffennaf (Merched)
20/21 Medi
Abertawe
26/27 Ebrill
14/15 Mehefin
16/17 Awst
Caerfyrddin
17/18 Mai
14/15 Mehefin (Merched)
21/22 Mehefin
20/21 Medi |
Bae Colwyn
Free 2 Day Bikesafe Workshop to residents of Denbighshire, Flintshire and Wrexham
19/20 Mawrth (Mercher/Iau)
15/16 Mawrth
5/6 Ebrill
28/29 Ebrill (Llun/Mawrth)
19/20 Ebrill
17/18 Mai
12/13 Mehefin (Iau/Gwener)
21/22 Mehefin
5/6 Gorffennaf
19/20 Gorffennaf
16 /17 Awst
23/24 Awst
13/14 Medi
27/28 Medi
11/12 Hydref
|