Diogelwch Ffyrdd Cymru
30/10/08
Mae Uned Diogelwch Ffyrdd Sir Gaerfyrddin yn cylchredeg posteri newydd i geisio cynyddu’r ymwybyddiaeth o’r angen i fod yn Ddiogel a Chael eich Gweld yn ystod nos Galan Gaeaf.
“Y gamp wrth sicrhau Nos Galan Gaeaf ddiogel yw gweld a chael eich gweld,” meddai Keith Griffiths, y rheolwr diogelwch ar y ffyrdd. “Gan fod y clociau newydd fynd yn ôl, bydd llai o oriau o olau dydd i chwarae cast-neu-geiniog ac mae angen i bob un sicrhau y gall pobl eraill ei weld neu ei gweld tra bydd ef neu hi allan yn y tywyllwch.”
Bydd gwisgoedd tywyll – fel y rhai y bydd gwrachod yn hoff o’u gwisgo – yn ei gwneud hi’n anodd i yrwyr eu gweld, a bydd masgiau sy’n cwtogi ar yr hyn y gallwch ei weld hefyd yn berygl i ddiogelwch. Yn lle masgiau, dylid defnyddio colur, a gorau oll os yw’n cynnwys cyfansoddion sy’n disgleirio yn y tywyllwch fel bod plant ac oedolion yn gallu cael eu gweld yn glir.
I gael Nos Galan Gaeaf ddiogel a hwyliog, dyma ambell air i gall:
- Gwisgwch wisg fflwrolau neu lachar
- Osgowch ddefnyddio gwallt ffug a all eich rhwystro rhag gweld
- Os gwisgwch chi wisg hir, piniwch ei gwaelod i fyny i osgoi baglu drosti
- Cadwch at y palmant. Os nad oes palmant, cerddwch tuag at y traffig
- Ewch â thortsh gyda chi
- Chwaraewch gast-neu-geiniog mewn grwp
- Cynlluniwch eich taith a dewiswch fannau sydd wedi’u goleuo’n dda
- Croeswch y ffyrdd mewn mannau diogel
- Os plant ifanc sy’n chwarae cast-neu-geiniog, dylai rhiant neu warcheidwad fynd gyda nhw
22/10/08
'Byddwch yn ddiogel yn y tywyllwch' - dyna neges glir Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth iddi ddechrau nosi'n gynt.
Wrth droi'r clociau nôl y penwythnos hwn, atgoffir rhieni fod y boreau a'r nosweithiau tywyll yn golygu bod plant yn fwy diamddiffyn ar ein ffyrdd gan nad ydynt mor hawdd eu gweld gan fodurwyr. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn gwisgo dillad llachar ac yn cymryd mwy o ofal pan fyddant yn mynd o gwmpas y lle.
Dylai beicwyr hefyd fod yn ymwybodol o'r ffaith fod mynd ar feic heb olau yn drosedd a dylent sicrhau bod y goleuadau cywir ar eu beic - a'i bod yn hawdd i ddefnyddwyr eraill y ffordd eu gweld yn glir.
Mae dillad llachar fflworoleuol i'w gweld orau yn ystod y dydd, yn enwedig mewn tywydd mwll a niwlog ond nid ydynt mor amlwg ar ôl iddi dywyllu. Fin nos dillad llachar sydd orau am fod modd eu gweld yn lampau'r ceir, a gellir rhoi tâp llachar ar ddillad a bagiau ysgol.
Anogir gyrwyr i gynllunio eu siwrneiau'n ofalus i ystyried y gwahaniaeth yn yr amser gan ei bod yn tywyllu'n gynharach ac yn hwyrach yn y bore a fin nos, ac mae angen iddynt fod yn ymwybodol y gall gymryd ychydig yn fwy o amser i deithio.
14/7/08
 |
Disgyblion ardal Dysynni gyda
Meinir Gwilym yn dysgu am reolau’r ffordd fawr |
Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnal sioe deithiol o amgylch ysgolion ardal Meirionnydd lle cafodd disgyblion cynradd Cyfnod Allweddol 1 gyfle i ddysgu mwy am ddiogelwch ar y ffyrdd.
Fel rhan o'r daith, cafodd y disgyblion gyfle i gyd-ganu gyda'r gantores boblogaidd Meinir Gwilym, gan ddysgu am ddiogelwch ar y ffordd. Cafodd y plant hefyd gyfle i gwrdd Carys Ofalus, cymeriad diogelwch ffyrdd Cyngor Gwynedd, a bu Carys y gath yn dysgu'r plant sut i groesi'r ffordd yn ddiogel.
Dywedodd Claire Evans, Swyddog Diogelwch y Ffordd Cyngor Gwynedd:
"Mae sicrhau fod disgyblion ieuengaf Gwynedd yn dysgu am reolau'r ffordd fawr yn allweddol bwysig, ac rydym yn gobeithio fod dysgu mewn ffordd hwyliog a gwahanol fel y sioeau teithiol yma yn golygu fod y plant yn cofio'r rheolau pwysig.
"Rydym yn falch iawn fod Meinir Gwilym wedi ymuno gyda'r daith ac fod cyfle i'r disgyblion ganu am reolau sy'n atgoffa'r disgyblion am bwysigrwydd gwisgo gwregys yn y car ac i feicio'n ofalys ar y ffordd. Mae dysgu rheolau syml fel hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ddiogelwch y plant ar y ffordd."
2/7/08
 |
Yr actores Manon Ellis gyda disgyblion
Ysgol Glan Cegin, Bangor yn dysgu am reolau’r ffordd fawr |
Cadw at reolau syml ond pwysig - dyna oedd y neges i ddisgyblion iau Ysgol Glan Cegin, Bangor yn ddiweddar wrth iddyn nhw dderbyn tystysgrifau diogelwch y ffordd fel rhan o gynllun Kerbcraft.
Wrth iddynt gwblhau rhan o gwrs cynllun diogelwch y ffyrdd Kerbcraft gyda chymorth Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd, cafodd disgyblion Ysgol Glan Cegin ymweliad gan yr actores Manon Ellis sy'n chwarae rhan Michelle yn rhaglen deledu boblogaidd "Rownd a Rownd".
Ar ôl bod allan gyda'r disgyblion yn dysgu am y rheolau, cyflwynodd Manon Ellis y tystysgrifau i'r plant. Fel rhan o'r cynllun Kerbcraft, cafodd y disgyblion fudd o fynd allan o gwmpas yr ardal i ddysgu sut i gadw yn ddiogel ar ochr y ffordd, ac mae'r tystysgrifau yn cydnabod eu gwaith da.
Mae cynllun Kerbcraft yn dysgu plant 5-7 oed i gerdded yn ymyl ffordd yn fwy diogel drwy fynd â nhw ar ffyrdd go iawn a dangos iddyn nhw fod gwneud y penderfyniadau cywir, ac ymddwyn yn gywir, yn gallu eu helpu i fod yn ddiogel. Caiff y plant eu cymryd allan o'r ysgol, mewn grwpiau o ddim mwy na thri, gan wirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddiant.
Fel rhan o'r gwersi cynllun Kerbcraft, mae'r plant yn:
Dewis Lleoedd a Llwybrau Diogel i Groesi'r Ffordd
Caiff y plant eu helpu i adnabod peryglon a dod o hyd i leoedd eraill i groesi.
Croesi'n Ddiogel lle mae Ceir wedi'u Parcio
Caiff y plant eu dysgu i ddefnyddio strategaeth ddiogel i groesi yn ymyl ceir sydd wedi'u parcio - os bydd hi'n amhosibl eu hosgoi.
Croesi'n Ddiogel yn ymyl Cyffyrdd
Caiff y plant eu cyflwyno i broblemau cyffyrdd syml a chymhleth ac fe ddysgan nhw strategaeth i edrych yn systematig i bob cyfeiriad.
I gael gwybod rhagor...
12/6/08

Bu tua 60 o ddisgyblion o Ysgol GS Tafarnspeit yn cymryd rhan mewn achlysur Cerdded i’r Ysgol yn ystod Wythnos Genedlaethol Cerdded i’r Ysgol. Trefnwyd y daith gan Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau'r ysgol gyda chefnogaeth swyddogion o Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Penfro.
Trefnwyd yr achlysur blynyddol gan yr ysgol i annog y plant i beidio â bod mor ddibynnol ar gerbydau ac i leihau’r dagfa drafnidiaeth tu fas i glwydi’r ysgol.
Mae’r daith Cerdded i’r Ysgol yn un o nifer o weithgareddau y mae disgyblion yn Nhafarnspeit yn eu trefnu yn rhan o’u cynllun teithio i’r ysgol er mwyn cynorthwyo i gefnogi rhagor o gludiant cynaliadwy a gwella’r amgylchedd diogelwch ffyrdd o amgylch yr ysgol.
Bu Canolfan Arddio Tafarnspeit yn ddigon caredig i ganiatáu’r plant i gyfarfod yn eu maes parcio cyn cerdded gyda’i gilydd i’r ysgol.
Ar ôl yr achlysur dywedodd y Cynghorydd Sir Jamie Adams, yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Chynllunio, nad oedd yn medru bod yn bresennol: "Dwi wedi fy nghalonogi gan ymdrech yr holl gymuned ysgol ac yn arbennig gan eu brwdfrydedd yn taclo’r broblem gynyddol o dagfeydd a wynebir gan lawer o’r ysgolion yn Sir Benfro heddiw.”
4/6/08
Mae nifer y plant sy'n cael damwain ffordd wrth gerdded i'r ysgol ac oddi yno wedi gostwng mwy na hanner ers 1998.
Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi ystadegau damweiniau newydd sy'n amlygu'r gostyngiad mewn damweiniau, gan ddweud mai mentrau arafu traffig a gwell addysg i blant o dan bymtheg mlwydd oed sy'n gyfrifol.
Nifer y plant ysgol ar gyfartaledd a fu mewn damweiniau ffyrdd rhwng 1994 a 1998 oedd 53. Dengys y ffigurau diweddaraf fod y ffigur hwn wedi gostwng i 22.
Dengys gwelliannau pellach y bu gostyngiad yn nifer y plant o dan bymtheg mlwydd oed sy'n cael damweiniau, gan gynnwys y rheiny sy'n teithio mewn cerbyd. Y nifer cyfartalog rhwng 1994 a 1998 oedd 165. Mae'r ffigur hwnnw wedi gostwng i 109 bellach.
Mae arian a dderbyniwyd gan y Cyngor fel rhan o Grant Diogelwch Ffyrdd a mentrau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau'n cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau arafu traffig ledled Abertawe. Rhoddwyd parthau 20mya a chroesfannau cerddwyr ar waith y tu allan i lawer o ysgolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Cyngor wedi pwysleisio'i fwriad i greu parthau 20mya diogel ger pob ysgol os oes arian ar gael.
Dywedodd Jeff Green, Swyddog Lleihau Damweiniau Cyngor Abertawe: "Mae'r ymdrechion i gyflwyno mesurau arafu traffig a lledaenu neges diogelwch ffyrdd mewn ysgolion yn cael effaith gadarnhaol yn bendant.
"Mae creu llwybrau cerdded diogel i ysgolion lleol ac oddi yno yn hanfodol wrth helpu i annog mwy o blant a'u rhieni i gerdded i'r ysgol. Rydym yn credu bod y gostyngiad mewn damweiniau ymhlith plant ysgol yn profi ein bod yn darparu amgylcheddau mwy diogel.
Mae'n hanfodol ein bod yn parhau â'r gwaith er lles pawb yn y gymuned".
Mae Ysgol Gynradd Ystumllwynarth yn un o'r ysgolion diweddaraf i elwa o'r gwaith i greu llwybrau cerdded gwell. Mae croesfannau newydd i gerddwyr wrth ymyl cyffordd brysur ger yr ysgol, yn ogystal â chyfyngiad cyflymder 20 mya wedi helpu i annog plant i gerdded i'r ysgol. I ddathlu cwblhau'r cynllun, trefnodd yr ysgol fws cerdded a oedd yn cynnwys dwsinau o ddisgyblion yn cerdded gyda'i gilydd i'r ysgol.
Dywedodd Alison Gough, Swyddog Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, "Mae'r ysgol wedi bod yn hynod ragweithiol yn ei hymagwedd tuag at ddiogelwch ffyrdd."
Roedd cyfanswm o naw ysgol wedi llwyddo i gael arian Llwybrau Diogel mewn Cymunedau eleni fel rhan o'r setliad Grant Trafnidiaeth blynyddol. Yr ysgolion cynradd sy'n rhan o'r fenter yw Pentrepoeth, y Crwys, yr Hafod, Knelston, Mayals, Plasmarl, Llandeilo Ferwallt, Trefansel a Phenyrheol.
3/6/08
Mae Henson y Draenog wedi bod yn arwain y ffordd yn y frwydr yn erbyn y llygredd a geir ar y daith i'r ysgol.Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Cerdded i'r Ysgol, mae masgot TÎm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn ymuno  disgyblion pum ysgol gynradd ar eu bysus cerdded.
Ysgol Gynradd Blaengwrach

Dywedodd aelod y cabinet dros y gwasanaethau gofal stryd a phriffyrdd, y Cynghorydd Arwyn Woolcock, bod y daith i'r ysgol yn y bore yn un o'r teithiau mwyaf llygredig a wneir gan yrwyr.
Meddai: "Achosir llawer o'r problemau amgylcheddol gan bobl sy'n teithio am gyfnodau byr yn y car.
"Mae ymgyrch genedlaethol Cerdded i'r Ysgol yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio cludiant arall i gyrraedd yr ysgol er mwyn gwneud ein bwrdeistref sirol yn lle mwy diogel ac iach i fyw ynddi."
Mae ceir yn cynhyrchu mwy o lygredd ar deithiau byr oherwydd bod yr injan yn oer a'r angen am ddechrau a stopio oherwydd tagfeydd.
Awgryma ymchwil bod lefelau llygredd ceir o leiaf dair gwaith yn uwch nag ar y palmant ar ochr y ffordd.
"Mae tagfeydd a phroblemau parcio ger ysgolion wedi dyfod yn faterion o bwys dros y blynyddoedd diwethaf ac roedd hi'n dda cael cymaint o gefnogaeth tuag at yr ymgyrch," ychwanegodd y cynghorydd Woolcock.
"Mae cyfanswm o ddeg ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnal bysus cerdded rheolaidd i annog mwy o rieni i beidio  defnyddio'u ceir.
"Mae cerdded yn well i bawb ac rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o ysgolion yn mabwysiadu'r arfer o fysus cerdded a defnyddio cynlluniau cludiant eraill yn y dyfodol."
9/5/08
Bydd cerddwyr yn ei chael hi'n haws croesi heol brysur yng nghanol y ddinas diolch i waith gwella gan Gyngor Abertawe.
Gosodwyd saith croesfan modern i gerddwyr fel rhan o'r gwaith gwella mawr ar hyd Ffordd y Gorllewin a Heol Ystumllwynarth.
Bydd y croesfannau newydd yn rhoi gwell mynediad i gerddwyr i Orsaf Fysus y Cwadrant ac arosfannau newydd y Metro ar Ffordd y Gorllewin, yn ogystal â gwell mynediad rhwng Ffordd y Brenin a Heol San Helen.
Mae'r cyngor wedi buddsoddi miliynau mewn arian grant trafnidiaeth mewn ymdrech i wella cludiant cyhoeddus a goresgyn problemau tagfeydd traffig yng nghanol y ddinas.
Mae'r gwaith yn cynnwys adeiladu lôn fysus bwrpasol ar hyd Ffordd y Brenin ac allan ar hyd Heol Ystumllwynarth. Mae gwaith pellach yn awr yn cynnwys cau'r danffordd ar Ffordd y Gorllewin.
Dywedodd Geoff Sheel, Pennaeth Cludiant dros Dro Cyngor Abertawe, "Ffocws y gwaith hwn oedd canolbwyntio ar wella cludiant cyhoeddus yng nghanol y ddinas a darparu gwell mynediad i gerddwyr.
"Bydd y croesfannau newydd yn darparu mynediad diogel i'r holl gerddwr ar hyd Ffordd y Gorllewin.
Mae cwmnïau cludiant yn Abertawe eisoes wedi canmol y cyngor am y gwaith sydd, yn eu t?b hwy, wedi'u galluogi i redeg gwasanaethau cyflymach a mwy effeithlon.
22/4/08
Bydd disgyblion sy'n cerdded i dair ysgol ym Monymaen ac oddi yno yn fwy diogel ar ôl cwblhau cynllun arafu traffig gerllaw. 
Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau bod y cynllun, sy'n cynnwys parth 20mya newydd ar hyd Heol Jersey, wedi'i gwblhau.
Mae'r ysgolion a fydd yn elwa o'r mesurau diogelwch yn cynnwys Ysgol Gynradd Pentrechwyth, Ysgol Gynradd Cwm ac Ysgol Eglwys Babyddol St Illtud.
Dywedodd Amanda Taylor, Pennaeth Ysgol Gynradd Cwm, "Rydym eisoes wedi nodi'r perygl o yrwyr yn mynd yn gyflym ar hyd y ffordd hon.
"Mae'r cynllun arafu traffig a ddyfeisiodd y Cyngor wedi bod o gymorth mawr o ran diogelwch y plant yn y gymuned. Rwyf wrth fy modd bod y cynllun wedi llwyddo i arafu gyrwyr."
Dywedodd Geoff Sheel, Pennaeth Cludiant Dros Dro Cyngor Abertawe "Rydym wedi cyflwyno rhai cyfyngiadau cyflymder 20mya ar hyd rhai ffyrdd yn yr ardal yn y gorffennol.
"Bydd gorffen y gwaith diweddaraf hwn ar hyd Heol Jersey yn gwella diogelwch disgyblion sy'n dymuno cerdded i'r ysgol ac oddi yno ar hyd y llwybr hwn yn sylweddol."
Mae'r strydoedd yn yr ardal gerllaw sydd eisoes yn elwa o'r cyfyngiadau cyflymder is yn cynnwys Heol Bonymaen, Heol Cwm Chapel, Heol Mansel, Gerddi Carreg Cennen a Heol Pentrechwyth.
Ychwanegodd Mr Sheel, "Mae ein gwaith parhaus i greu parthau 20 milltir yr awr a chyfyngiadau cyflymder o gwmpas ysgolion yn rhan bwysig o'n hymdrechion i greu amgylcheddau diogel i blant a allai fod yn cerdded i'r ysgol.
"Mae'r mesurau hyn, ynghyd ag addysg dda am ddiogelwch ffyrdd yn ein hysgolion, wedi helpu i ostwng damweiniau plant yn Abertawe gan 30 y cant dros y deng mlynedd ddiwethaf."
Mae'r ysgolion a'r cymunedau blaenorol sydd wedi elwa o'r gweithfeydd hyn yn cynnwys Ysgol Gynradd Dyfnant, Ysgol Gynradd Trefansel ac Ysgol Gymunedol St Thomas, sydd newydd gael ei adeiladau.
17/3/08
Mae drama wreiddiol newydd sydd yn hyrwyddo neges diogelwch ffyrdd yn teithio o amgylch ysgolion cynradd Môn.
Yn targedu plant rhwng 7-9 oed, bydd "Cofia" yn cael ei weld gan gannoedd o ddisgyblion wrth i'r cynhyrchiad ymweld â dros 20 o ysgolion. Mae'r ddrama interactif yn canolbwyntio meddyliau'r plant ar bwysigrwydd diogelwch ffyrdd, a'r camau sydd raid eu "cofio" wrth groesi.
Mae Tîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor Sir wedi defnyddio drama fel modd o gyfleu ei neges i bobl ifanc yn y gorffennol, gan weld ei fod yn llwyddiant. Mae'r Cofia wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Siwan Llynor, ac mae'r cast yn cynnwys Manon Dewi, Mared Huws a Gwion Williams.
Mae adrodd stori Beca a Rhys, sydd yn cychwyn am adref o'r ysgol oherwydd bod eu mam yn hwyr. Ar y daith maent yn mynd ar goll, ond yn cyfarfod merch ifanc ryfedd sydd yn eu tywys ar draws y ffordd ac adref yn ddiogel. Cant wybod yn hwyrach mai ysbryd oedd Ema, merch a gafodd ei tharo gan gar blynyddoedd yn ddiweddarach.
Dywedodd Bethan Parry o'r Tîm Diogelwch Ffyrdd fod ymateb y disgyblion i'r ddrama wedi bod yn wych. Eglurodd, "Mae Cofia yn cyfleu'r neges i'r plant diogelwch ffyrdd i'r plant mewn modd newydd a chyffrous. Mae'r perfformiad yn un interactif gyda'r disgyblion yn cael eu hannog i ofyn cwestiynau ac ymuno yn y ddrama wrth i'r stori fynd yn ei blaen. Caiff disgyblion o bob ysgol gynradd ar yr ynys gyfle i weld y sioe sydd yn dod i ben dydd Iau, wedi taith o bythefnos."
Ychwanegodd Bethan, "Mae'r neges yn un pwysig iawn, yn enwedig adeg yma o'r flwyddyn, gyda gwyliau'r Pasg yn agos nesáu a'r nosweithiau hir yn golygu hefyd y bydd plant yn chwarae allan yn hwyr i'r nos. Mae'n bwysig eu bod yn wyliadwrus tra o gwmpas ffyrdd a'n cofio'r geiriau pwysig yma gaiff eu crybwyll yn y ddrama - Aros. Edrych. Gwrando. Cerdded."
10/3/08
Cadw at rhai rheolau syml ond pwysig - dyna'r neges y mae cynllun diogelwch y ffyrdd, Kerbcraft yn ceisio ei rannu gyda disgyblion cynradd ar hyd a lled Gwynedd.
Dyna oedd prif neges mewn seminar arbennig a gynhaliwyd ym Mhorthmadog yn ddiweddar i ddathlu cydweithio rhwng Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru wrth iddynt weithio i ehangu cynllun diogelwch y ffyrdd, Kerbcraft i fwy o ysgolion cynradd y sir.
Dywedodd y Cynghorydd R H Wyn Williams, Uwch Arweinydd Portffolio Cyngor Gwynedd:
"Plant heddiw ydy gyrwyr y dyfodol, ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n rhoi'r cyngor gorau i'n pobl ifanc am y peryglon posib sydd ar y ffyrdd. Rydw i'n falch iawn fod tîm Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhannu'r neges bwysig yma gyda phlant ar hyd a lled y sir.
"Mae'r seminar yma wedi bod yn gyfle i ni ddod ynghyd i ddathlu'r hyn sydd eisoes wedi ei gyflawni fel rhan o'r cynllun, a chadarnhau ein hymrwymiad i weithio gyda'n partneriaid i addysgu plant Gwynedd am bwysigrwydd rheolau'r ffordd fawr."
Fel rhan o gynllun Kerbcraft mae plant yn dysgu am reolau'r ffordd fawr, megis dewis llefydd diogel i groesi'r ffordd a dysgu sut i groesi wrth gyffordd. Yn y seminar ym Mhorthmadog, cafodd ddisgyblion Ysgol y Gorlan, Tremadog gyfle i arddangos y sgiliau y maen nhw wedi eu dysgu fel rhan o'u gwersi ymarferol.
25/1/08
Mae menyw sy’n defnyddio dwy rôl weithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i hyrwyddo neges diogelwch ar y ffyrdd i blant ifanc wedi ennill Gwobr Hebryngwr Croesfan Ysgol y Flwyddyn gan yr awdurdod.
Yn ei ffordd dawel a dirodres, mae Alex Daw wedi helpu plant i groesi ffordd brysur Ham Lane East y tu allan i Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr ac Ysgol Gynradd Llanilltud Fawr am bron i bum mlynedd. Ac mae hi hefyd yn gweithio fel goruchwylwraig cinio.
“Enillydd haeddiannol,” meddai’r Cynghorydd Chris Williams, yr aelod o gabinet y Fro dros gynllunio a chludiant a chyflwynydd y seremoni wobrau flynyddol sy’n cydnabod parhad safonau uchel “menywod a dynion lolipop”. Wrth ddiolch i’r “aelodau ymroddedig o’r gwasanaeth” am eu gwaith, dywedodd y Cynghorydd Williams: “Rwy’n sicr ein bod ni gyd yn sylweddoli pa mor bwysig ac, yn wir, pa mor anodd, yw eu dyletswyddau beunyddiol wrth sicrhau diogelwch y miloedd o gerddwyr sy’n croesi ffyrdd ledled y Fro.
“Er eu bod nhw’n gorfod wynebu tywydd dychrynllyd ar adegau, ac ymddygiad annisgwyl gan fodurwyr, byddan nhw’n cyflawni’r rôl honno’n eithriadol o broffesiynol ac â gwên bob amser.”
Croesfannau newydd yn cynyddu diogelwch ar y ffyrdd ym Mhenarth
4/1/08
Mae croesfannau ffyrdd newydd ac amlwg iawn ym Mhenarth yn dangos y ffordd ymlaen i ddiogelwch ar y ffyrdd ym Mro Morgannwg. Mae’r croesfannau sebra’n cynnwys math newydd o bolion goleuadau Belisha ac mae’r un sydd wedi’i gosod gan Gyngor Bro Morgannwg ar Redlands Road ger y gyffordd â Cornerswell Road yn disodli’r hen groesfan ac yn cynyddu diogelwch plant ysgol a thrigolion lleol.
Ar ôl i ddisgyblion o Ysgol Gyfun St Cyres dynnu sylw at y peryglon a’u hwynebai wrth gerdded i’r ysgol, fe chwaraeon nhw ran allweddol adeg gosod y groesfan newydd yn ei lle. Roedd y cynllun teithio-i’r-ysgol y gwnaethon nhw ei lunio i roi sylw i rai o’u pryderon yn cyfeirio at amryw o fesurau, gan gynnwys gwella’r groesfan.
Meddai’r Cynghorydd Chris Williams, aelod o gabinet Cyngor y Fro dros gynllunio a chludiant: “Byddwn ni fel cyngor bob amser yn ymddiddori ym mhryderon trigolion lleol ac mae’n arbennig o braf gallu dangos ein bod ni’n gwrando ar farn pobl ifanc y Fro hefyd.” Fe ychwanegodd y Cynghorydd Williams, a agorodd y groesfan yn swyddogol (yn y llun): “Rwy’n siwr y bydd pawb sydd wedi gweld y groesfan hon, a pholion newydd Goleuadau Belisha sydd â goleuadau ynddyn nhw, yn cytuno’i bod hi’n llawer haws eu gweld na’r hen un. Mae’r goleuadau newydd yn arbennig o effeithiol ar yr adeg hon o’r flwyddyn am nad oes rhyw lawer o olau dydd rhwng amserau agor a chau’r ysgolion. Gan mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gael eu defnyddio yn y Fro, rydyn ni’n gobeithio’u defnyddio ar bob croesfan newydd yn y dyfodol.”
Bu Elaine Storey, swyddog patrôl croesfan yr ysgol, yn gweithio ar y safle am nifer o flynyddoedd ac mae hi, hefyd, wedi croesawu’r groesfan newydd. Meddai Elaine: “Rwy’n teimlo gymaint yn fwy diogel erbyn hyn. Mae’r groesfan sebra’n drysu llawer llai ar fodurwyr na’r ynys draffig oedd yn arfer bod yno”.
Mae’r gwaith wedi’i ariannu’n llawn gan fenter Llywodraeth y Cynulliad i greu Llwybrau Diogel i’r Ysgol. Mae’r grant o £147,000 hefyd wedi ariannu croesfan debyg ymhellach ymlaen ar hyd Redlands Road ger y fynedfa i ystâd Cowslip, ac mae croesfan newydd ar y gweill ar gyfer Windsor Road ger pont droed y Dingle.