Diogelwch Ffyrdd Cymru
23/12/08
Mae ymgyrch sy’n ceisio arbed pobl rhag yfed a gyrru dros gyfnod y Nadolig wedi arwain at gynnal bron i 5,000 o brofion anadl ar ochr y ffordd yng Ngogledd Cymru yn ystod pythefnos gyntaf yr ymgyrch.
Hyd yn hyn mae 4,800 o bobl wedi derbyn prawf anadl fel rhan o Ymgyrch Yfed a Gyrru Nadolig Cymru gyfan a ddechreuodd ar ddydd Llun, y 1af o Ragfyr.
Yn ystod pythefnos gyntaf yr ymgyrch mae 45 o bobl wedi cael eu harestio ar ôl i yrwyr fethu’r prawf anadl mewn profion ar ochr y ffordd. Mae hynny’n cymharu â 67 a arestiwyd dros yr un cyfnod y llynedd.
O’r rhai a arestiwyd hyd yn hyn, roedd un o bob tri (32%) yn yrwyr ifanc (17 - 25oed).
Meddai’r Prif Arolygydd Gary Ashton o’r Adran Gwasanaethau Gweithredol: “Er ei fod yn galonogol ein bod yn cael y canlyniadau hyn ac yn cael gwared ar yrwyr sydd wedi bod yn yfed o’n ffyrdd, mae hefyd yn bryder fod gyrwyr yn parhau i anwybyddu’r neges wrth yfed a gyrru. Unwaith eto, mae gyrwyr ifanc yn ganran uchel o’r ffigyrau arést. Mae ein gwaith wedi ei anelu at y grwp hwn er mwyn arbed gwrthdrawiadau sy’n lladd ac yn anafu’n ddifrifol.”
Yn ystod Ymgyrch Yfed a Gyrru Nadolig 2007 cafodd 19,554 o yrwyr eu profi ar ffyrdd Cymru gyda 587 o’r rheini yn cael eu canfod yn bositif.
Ychwanegodd Prif Arolygydd Ashton: “Rydym nawr yn nesáu at benwythnos prysuraf y flwyddyn gyda phawb yn dathlu’r Nadolig. Rydym eisiau i bobl fwynhau ond mae angen bod yn gyfrifol. Gwnewch benderfyniad a glynwch ato - peidiwch ag yfed a gyrru.”
Yn ystod penwythnos diwethaf, cafodd 11 person eu harestio yn ardal Orllewinol y llu (sy’n gyfrifol am Wynedd a Môn) ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad alcohol. Cafodd naw ohonynt eu cyhuddo ac mi fyddent yn ymddangos o flaen y llysoedd. Mae dau ohonynt wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Meddai’r Uwch-arolygydd Mark Jones o’r Rhanbarth Gorllewinol: “Dwi’n rhyfeddu ar y nifer o bobl sy’n parhau i beryglu bywydau drwy yrru ar ôl yfed, er eu bod yn gwybod am y peryglon.
“Rydym mewn cyfnod lle mae pobl eisiau dathlu a mwynhau ond mae angen iddynt fod yn gyfrifol. Dyw hi ddim yn anodd i bobl wneud trefniadau teithio o flaen llaw.”
Ychwanegodd: “Rydym eisiau i bawb allu teithio ar y ffyrdd yn ddiogel, felly mi fydd nifer fawr o ymgyrchoedd yn cael eu cynnal yn yr ardal er mwyn rhwystro ac atal y rhai sy’n parhau i yfed a gyrru. Mae hwn yn ymgais i sicrhau diogelwch y mwyafrif sy’n parchu’r gyfraith trwy ganolbwyntio ar y troseddwyr - rwy’n mawr obeithio y cewch chithau Nadolig llawen a diogel.”
Os ydych chi’n ymwybodol o rywun sy’n yfed a gyrru, neu os ydych yn amau rhywun sydd yn gyrru o dan ddylanwad alcohol, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 0845 607 1001 (llinell Gymraeg) neu 0845 607 1002 (llinell Saesneg).
• Os ydych yn gyrru dwywaith dros y lefel cyfreithiol rydych yn fwy tebygol o achosi damwain na’r gyrrwr sydd ddim o dan ddylanwad alcohol. Os ydych yn bwriadu gyrru - yr unig opsiwn diogel sydd ganddo’ch yw peidio ag yfed o gwbl.
• Mae amser adweithio a sgiliau modur gyrwyr yn gwaethygu ar ôl yfed dim ond dipyn bach o alcohol – ac mae’n mynd yn waeth wrth i chi yfed mwy.
• Mae’r peryg o fod mewn gwrthdrawiad yn cynyddu’n fawr unwaith mae eich lefel alcohol yn y gwaed fwy na 50mg i bob 100ml o waed.
• Lansiwyd ymgyrch eleni yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon ar ddydd Iau, y 27ain o Dachwedd, gyda’r Prif Gwnstabl Richard Brunstrom, Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad, a’r Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth; ac Angela a Derek Coulton, rhieni Amanda Coulton, 20 oed, a laddwyd ar yr A547 ger Rhuddlan ym mis Ionawr eleni gan yrrwr a oedd wedi bod yn yfed.
Os cewch eich dyfarnu’n euog o drosedd yfed a gyrru:
• Bydd gennych gofnod troseddol
• Byddwch yn colli eich trwydded am o leiaf blwyddyn
• Fe allech fynd i’r carchar am hyd at chwe mis
• Fe allech gael dirwy o hyd at £5,000
• Cewch drafferth llogi car am ddeng mlynedd ar ôl i chi gael eich dyfarnu’n euog
Os cewch eich dyfarnu’n euog o achosi marwolaeth drwy yrru esgeulus dan ddylanwad alcohol, rydych yn wynebu:
• Hyd at 14 mlynedd o garchar
• Dirwy ddigyfyngiad
• Cael eich gwahardd rhag gyrru am o leiaf dwy flynedd
• Costau yswiriant eithriadol o uchel unwaith y cewch eich trwydded yn ôl
• Fe allech golli eich swydd (mae hyn yn digwydd i 15% o bobl sy’n cael eu dyfarnu’n euog)
• Costau cyfreithiol
• Colli eich cludiant personol a chostau teithio uwch
• Gorfod byw gyda’ch cydwybod
Yn waeth na dim, gorfod byw gyda’r ffaith bod rhywun diniwed wedi marw, wedi cael ei anafu neu wedi dioddef loes oherwydd eich ymddygiad anghyfrifol chi.
Ydych chi’n gwybod beth ydi’r terfyn cyfreithiol ar gyfer alcohol pan fyddwch yn gyrru?
• 80 miligram o alcohol mewn 100 milimetr o waed, neu 35 micro gram o alcohol mewn 100 milimetr o anadl, os defnyddir prawf anadl.
Fodd bynnag, fedrwch chi ddim mesur hyn yn ôl faint o unedau mae rhywun wedi ei yfed oherwydd mae corff pawb yn delio ag alcohol ar raddau gwahanol. I fod yn saff, ni ddylai pobl sy’n bwriadu gyrru yfed unrhyw alcohol o gwbl.
23/12/08
Mae dau o bobl ifanc o Sir y Fflint wedi ennill gwobr ranbarthol Gogledd Cymru mewn cystadleuaeth ar yfed a gyrru.
Roedd Jack Cowley a Jordan O’Brien yn cynrychioli Clwb Ieuenctid Saltney yn y digwyddiad lansio cenedlaethol yng Nghaernarfon ar 27 Tachwedd, yn perfformio rap yn erbyn yfed a gyrru, a derbyn eu gwobrau oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn
Jones AC.
Byddant hefyd yn cael gwobrau ychwanegol oddi wrth Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Cynghorydd Quentin Dodd, yn Neuadd y Sir,Yr Wyddgrug ddydd Llun 8 Rhagfyr.
Cafodd Sir y Fflint hefyd wobr Canmoliaeth Uchel, i gyflwyniad wedi’i animeiddio oddi wrth ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Castell Alun - Matthew Jones, Toni Flackett a Matthew Edwards. Hefyd cafodd Rachel Edwards o Ysgol Alun yr Wyddgrug glod am ei
chynhyrchiad hi.
Roedd ysgolion, colegau a chymdeithasau ieuenctid wedi cael eu gwahodd i ddyfeisio, perfformio a recordio cyflwyniad amlgyfrwng byw i rybuddio pobl o beryglon a chanlyniadau yfed a gyrru.
Roedd y timau fu’n cystadlu yn cynnwys hyd at chwech o bobl rhwng 11 a 25 oed. Roedd rhaid i’r cyflwyniad fod o dan dri munud o hyd a gallai ddefnyddio amrediad o gyfryngau yn cynnwys perfformiad cerddorol; drama/sgets; barddoniaeth/anerchiad; animeiddiad; cyflwyniad dogfen; comedi a dawns. Wedyn cafodd y cyflwyniad ei ffilmio a’i gyflwyno ar DVD.
Dywedodd Cynghorydd Dodd: “Roedd yr holl rai fu’n ymgeisio o safon uchel, a llongyfarchiadau i bawb fu’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Mae’n hanfodol bod pob gyrrwr yn gwybod beth ydi peryglon a chanlyniadau yfed a gyrru. Gobeithio bydd
cystadlaethau fel hyn yn cyfleu’r neges nad ydi yfed a gyrru ddim yn cyd-fynd efo’i gilydd”.
16/12/08
Gyda ffyrdd llithrig yn nodwedd gyffredin y mis hwn, mae Heddlu Dyfed Powys yn atgoffa gyrwyr i arafu ac i gymryd mwy o ofal nag arfer ar y ffyrdd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Steve Matchett sy’n gyfrifol am Blismona’r Ffyrdd, “Os ydych wedi gorfod glanhau rhew oddi ar ffenestri’r car, yna mae’n debygol y bydd rhew ar y ffyrdd hefyd.
Cofiwch felly yrru’n ofalus ac yn araf gan adael digon o le rhyngoch chi a’r car o’ch blaen. Cofiwch hefyd gadw’r ffynnon ddwr ar gyfer y sgrin wynt yn llawn. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’r sgrin wynt yn dwyno’n gyflym iawn.”
Dyma ychydig o gynghorion ar gyfer gyrru ar ffyrdd llithrig:-
- Gyrru’n araf, llywio’n bwyllog ac osgoi brecio neu gyflymu sydyn.
- Gadewch fwy o le rhyngoch chi a’r car o’ch blaen
- Cadwch lygad ar y ffordd o’ch blaen ac ar gerbydau eraill, er mwyn ceisio rhagweld mannau llithrig
- Os bydd yr olwynion yn sbinio wrth i chi gychwyn, newidiwch fyny i’r ail gêr
- Os byddwch yn llithro, peidiwch â brecio, tynnwch eich troed oddi ar y sbardun a throi’r olwyn i mewn i’r sgid
- Os byddwch yn gyrru dros ia du a bod yr olwyn lywio’n teimlo’n ysgafn, peidiwch â brecio a thynnwch eich troed oddi ar y sbardun yn araf.
Adeg tywydd oer, archwiliwch eich batri a chyflwr y teiars gan sicrhau bod ganddynt wadn digonol a bod y pwysedd aer yn gywir.
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Matchett, “Mae nifer o ffyrdd cil a throellog yn ardal Dyfed Powys; pan fydd y ffyrdd yn llithrig, arafwch a chymryd gofal neu fe allech gael gwrthdrawiad.”
2/12/08
Nodwyd y bu’r ‘Ymgyrch Dewis’ yn llwyddiant mawr wedi i’r Gwasanaethau Tân ac Achub a’r Lluoedd Heddlu yn Ne Cymru ymgyrchu dros ddiogelwch ar y ffyrdd am wythnos gyfan.
Yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ataliwyd 171 o fodurwyr gan swyddogion yr heddlu y tu allan i saith Gorsaf Dân wahanol yn ystod yr Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd (10-14 Tachwedd). Roedd pawb a gafodd eu hatal naill ai ddim yn gwisgo gwregys diogelwch, yn defnyddio ffôn symudol â llaw wrth yrru neu â theithiwr nad oedd yn gwisgo gwregys (11).
Wedi cael dewis, dim ond tri o bobl a ddewisodd dderbyn dirwy/pwyntiau gyda’r 168 arall yn dewis mynd i’r Orsaf Dân i wylio cyflwyniad trawiadol am 10-15 munud.
Dywedodd 100% o’r bobl a fynychodd y cyflwyniadau y byddent yn dweud wrth eraill amdano. Dywedodd 98% ei fod wedi newid eu canfyddiad hwy o ran peryglon gyrru heb wisgo gwregys diogelwch neu yrru wrth ddefnyddio ffôn symudol â llaw.
Dyma’r Gorsafoedd Tân a dargedwyd:
Ardal Heddlu De Cymru - Merthyr Tudful, Tonypandy, Canol Caerdydd, Y Barri a Glynebwy. (90 o droseddwyr)
Heddlu Gwent - Caerffili, Aber-carn a Glynebwy. (78 o droseddwyr)
Rheolwr Grwp Rob Morris, Pennaeth Diogelwch ar y Ffyrdd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:
Profodd yr wythnos yn llwyddiant mawr o ran cyrraedd at fodurwyr a oedd yn wynebu perygl mawr wrth beidio â gwisgo eu gwregys diogelwch neu ddefnyddio ffôn symudol â llaw wrth yrru.
Mae’n galonogol iawn fod 100% o droseddwyr yn teimlo bod yr ymgyrch hon yn un werth chweil ac yn arf ataliol llawer gwell na’r dull gorfodaeth ac y byddai’n cael effaith hirdymor ar eu hymddygiad.
Oherwydd y llwyddiant, mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub a’r pedwar Awdurdod Heddlu yn ymgynghori ynghylch mentrau tebyg yn y dyfodol.
Roedd 75% o’r bobl a gymrodd ran yn y cyflwyniadau yn ddynion a 65% dros 25.
Dywedodd Wayne Tucker, Rheolwr Diogelwch ar y Ffyrdd ar gyfer Heddlu De Cymru:
Bu’r Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yn llwyddiant mawr yng Nghymru. Mae wedi dangos sut y gall addysgu fod yr un mor effeithiol, os nad yn fwy effeithiol, na gorfodaeth.
Gobeithiwn y bydd y gyrwyr a wyliodd y fideo drawiadol yn pasio’r neges ymlaen i’w ffrindiau a’u teulu, sef bod gwisgo gwregys diogelwch yn achub eich bywyd tra gallai defnyddio ffôn symudol â llaw wrth yrru ddod a’ch bywyd i ben.
Wrth stopio’r gyrwyr a oedd yn troseddu, nid oedd swyddogion yr heddlu yn synnu wrth glywed yr un hen esgusodion, yn amrywio o “Anghofiais i” i “Dwi’n cael diwrnod gwael” ! Wedi’r holl ymgyrchu a chyhoeddusrwydd, does dim esgusodion ar ôl.
Y gwir amdani yw pan fyddwch yn eistedd y tu ôl i olwyn car, rydych yn gyfrifol am arf angheuol posib. Peidiwch â rhoi eich diogelwch eich hun, diogelwch eich teithwyr a diogelwch defnyddwyr eraill y ffordd mewn perygl.
Dywedodd Sarsiant Martin Wilce, Uned Archwilio Gwrthdrawiadau Heddlu Gwent;
Mae’n galonogol fod bron pob un o’r modurwyr a gafodd eu stopio ac a ddewisodd wylio’r cyflwyniad wedi newid eu canfyddiad ynghylch pwysigrwydd mesurau diogelwch ar y ffordd syml, fel gwisgo gwregys diogelwch.
Er hynny, mae’n parhau yn bryder fod pobl yn dal i ddewis peryglu eu diogelwch eu hunain pan fyddant y tu ôl i’r olwyn yn ogystal â diogelwch eu teithwyr a diogelwch defnyddwyr eraill y ffordd.
Canlyniadau holiadur ardal Heddlu De Cymru
Ydych chi’n meddwl bod y cyflwyniad wedi bod yn fuddiol?
Ydw 97% Nac Ydw 2% Ddim yn siwr 1%
Ers pryd yr ydych wedi llwyddo yn eich prawf gyrru?
1-5 mlynedd 23% 5-10 mlynedd 11% 10-15 mlynedd 20%
15-20 mlynedd 20% 20 mlynedd + 18%
8% Teithwyr
Ydych yn meddwl fod y math hwn o addysgu yn hytrach na gorfodaeth yn werth chweil?
Ydw 98% Nac Ydw 1% Ddim yn siwr 1%
Ydy’r cyflwyniad hwn wedi newid eich canfyddiad o beryglon posib peidio â gwisgo gwregys diogelwch neu ddefnyddio ffôn symudol â llaw wrth yrru?
Ydy 98% Nac Ydy 1% Ddim yn siwr 1%
A fyddwch yn dweud wrth eraill am hyn?
Byddaf 100% Na fyddaf 0
Gwryw 72% Benyw 28%
Oedran: 17 – 25 31% 25+ 66% Dim ateb 3%
Canlyniadau holiadur ardal Heddlu Gwent
Ydych chi’n meddwl bod y cyflwyniad wedi bod yn fuddiol?
Ydw 98% Nac Ydw 1% Ddim yn siwr 1%
Ers pryd yr ydych wedi llwyddo yn eich prawf gyrru?
1-5 mlynedd 22% 5-10 mlynedd 10% 10-15 mlynedd 21% 15-20 mlynedd 21% 20 mlynedd 21%
5% Teithwyr
Ydych yn meddwl fod y math hwn o addysgu yn hytrach na gorfodaeth yn werth chweil?
Ydw 100% Nac Ydw 0 Ddim yn siwr 0
Ydy’r cyflwyniad hwn wedi newid eich canfyddiad o beryglon posib peidio â gwisgo gwregys diogelwch neu ddefnyddio ffôn symudol â llaw wrth yrru?
Ydy 99% Nac ydy 1% Ddim yn siwr 0
A fyddwch yn dweud wrth eraill am hyn?
Byddaf 100% Na fyddaf 0
Gwryw 76% Benyw 24%
Oedran: 17 – 25 36% 25+ 63% Dim ateb 1%
Rhesymau a roddwyd am beidio â gwisgo gwregys diogelwch neu ddefnyddio ffôn symudol â llaw:
- Rhuthro o amgylch
- Wedi anghofio
- Byth yn defnyddio fy ngwregys diogelwch
- Roeddwn ar frys
- Hen ffasiwn
- Ddim yn meddwl am y canlyniadau
- Wrthi’n gosod fy ‘hands free’
- Dim rheswm
- Ddim yn hoffi ei wisgo, mae’n gwneud i mi deimlo’n gyfyngedig
- Heb ffwdanu
- Rwy’n gwisgo gwregys bob tro, ni fyddaf byth eto yn dal fy ffôn symudol â Ilaw
- Heb sylweddoli ei fod mor bwysig
- Wedi anghofio gan mai fi yw gyrrwr y bws
- Diogi
- Rwy’n yrrwr fan, ddim yn meddwl bod rhaid i mi
- Yn teithio pellter byr
- Heb feddwl
- Gweithio i’r awdurdod lleol, i mewn ac allan o’r cerbyd
- Arfer gwael
- Siwrnai fer
- Meddwl ei bod hi’n iawn i beidio
- Ddim yn canolbwyntio
- Heb feddwl ei ddefnyddio
- Meddwl am bethau eraill
- Heb edrych ar wregys diogelwch sedd y plentyn
- Anghyfforddus
- Newydd adael gwaith
- Cael diwrnod gwael
- Mae’n fy nghosi
- Ddim yn meddwl bod rhaid ei wisgo mewn lori
1/12/08
Mae pedwar llu Heddlu Cymru, wedi eu harwain gan Heddlu Gogledd Cymru a Llywodraeth y Cynulliad, yn lansio eu hymgyrch gwrth yfed a gyrru cenedlaethol blynyddol gyda rhybudd clir i fodurwyr sydd allan ar y ffordd dros gyfnod y Nadolig: “Fe fyddem yn gweithredu’n llym os ydych yn cael eich dal yn yfed a gyrru.”
Mae’r rhybudd yn cael ei wneud ar ôl i 19,554 o yrwyr gael eu profi ar ffyrdd Cymru yn ystod ymgyrch y Nadolig 2007, gyda 587 o’r rheini yn cael eu canfod yn bositif.
Roedd y lansiad yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon heddiw (dydd Iau 27ain o Dachwedd) gyda’r Prif Gwnstabl Richard Brunstrom, Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad a’r Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, ac Angela a Derek Coulton, rhieni Amanda Coulton, 20 oed, a laddwyd ar yr A547 ger Rhuddlan ym mis Ionawr eleni gan yrrwr a oedd wedi bod yn yfed.
Dros y pedair wythnos nesaf bydd miloedd o fodurwyr yn wynebu cael eu hatal gan swyddogion o’r pedwar llu - Heddlu’r Gogledd, Dyfed-Powys, Gwent a Heddlu’r De - wrth iddynt gynnal profion ar ochr y ffordd mewn sawl lleoliad ar draws y wlad.
Bydd yr ymgyrch yn cael ei chynnal o 00:01 ddydd Llun, y 1af o Ragfyr hyd at 23:59 ar ddydd Iau, y 1af o Ionawr.
Meddai’r Prif Uwch-arolygydd John Turton o Adran Gwasanaethau Gweithredol Heddlu Gogledd Cymru: “Er gwaetha’r ymgyrchoedd blaenorol, mae yfed a gyrru yn parhau i fod yn un o’r prif themâu yn ein strategaeth i leihau’r nifer o anafiadau difrifol a marwolaethau ar ein ffyrdd.
“Ni fyddem yn goddef yfed a gyrru yn arwain at y Nadolig ac wedi hynny. Os ydych yn torri’r gyfraith ac yn gyrru ar ôl bod yn yfed, y perygl ydy y byddwch yn cael eich gwahardd ac y byddwch yn wynebu erlyniad troseddol. Rydych hefyd yn peryglu eich bywyd eich hun a bywyd pobl eraill ar y ffyrdd.”
Ychwanegodd: “Rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i wneud ffyrdd Gogledd Cymru’n fwy diogel, ond ni allwn wneud hyn ein hunain. Rydym angen cymorth y cyhoedd er mwyn cael effaith gwirioneddol. Dwi’n apelio ar bawb i chwarae eu rhan - ni all terfynau yfed a gyrru cael eu hamcangyfrif, felly'r unig ffordd ddiogel i’w dilyn yw peidio ag yfed a gyrru.”
Meddai Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Prif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad a’r Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth: “Dwi’n falch o fod yma yn fy lansiad Ymgyrch Gwrth Yfed a Gyrru cyntaf ers i mi ddod yn Weinidog Trafnidiaeth. Am dros 30 mlynedd mae’r Llywodraeth wedi bod yn ymgyrchu i newid agweddau er mwyn lleihau’r marwolaethau ffyrdd sy’n cael eu hachosi gan alcohol, ond mae gormod o deuluoedd ac unigolion o hyd yn cael eu heffeithio gan anafiadau a marwolaethau yn ymwneud ag yfed a gyrru.
“Er mai dim ond y lleiafrif o fodurwyr sy’n parhau i anwybyddu’r rheolau, mae’r lleiafrif o yrwyr anghyfrifol yn gyfrifol am un ymhob chwech o farwolaethau yn y wlad. Dwi’n gofyn i fodurwyr ystyried yr effaith ddinistriol y gall eu hymddygiad gael ar ddioddefwyr diniwed, ac i atal rhag ymddwyn yn gwbl ddifeddwl.
“Yn ddiweddar, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi ymgynghori ar fesurau newydd yn ymwneud ag yfed a gyrru gan gynnwys awgrymiadau am orfodaeth fwy effeithiol a fydd, rwy’n gobeithio, yn cynorthwyo i ddarganfod ac i ymdrin â’r gyrwyr peryglus hyn.”
Mae Angela a Derek Coulton a gollodd eu merch, Amanda, mewn gwrthdrawiad ar y ffordd yn gynharach yn y flwyddyn yn cefnogi’r ymgyrch eleni. Meddai Angela Coulton: “Does gen i ddim geiriau i ddisgrifio’r difrod i’n teulu ni. Mae llawer iawn gormod o bobl ddiniwed yn cael eu lladd gan fodurwyr sydd ddim yn ffit i yrru, gan adael teuluoedd a ffrindiau mewn galar.
“Roedd Amanda yn caru pob dim yr oedd yn ei wneud ac roedd hi’n disgwyl gymaint o fywyd. Ei geiriau olaf ar ei thudalen Bebo oedd ‘Mae gen i fywyd perffaith’ - mor greulon bod rhywun a oedd mor hapus gyda’i bywyd wedi colli’r bywyd hwnnw yn y fath fodd.
“Mae fy mab yn awr yn unig blentyn. Buasai fy ngwr wedi bod y tad mwyaf balch yn y byd wrth dywys Amanda i’w phriodas. Chai byth mo’r profiad o fod yn fam i’r briodferch. Ni chawn y cyfle i weld Amanda yn cael plant a ninnau yn eu gwarchod iddi hi.
“Plentyn yw’r peth mwyaf gwerthfawr y gall person ei gael. Hyd nes y mae rhywbeth fel hyn yn digwydd i chi, ni allwch amgyffred y boen a ddaw yn sgil colli plentyn.”
Y Gyfraith
Os cewch eich dyfarnu’n euog o drosedd yfed a gyrru:
• Bydd gennych gofnod troseddol
• Byddwch yn colli eich trwydded am o leiaf blwyddyn
• Fe allech fynd i’r carchar am hyd at chwe mis
• Fe allech gael dirwy o hyd at £5,000
• Cewch drafferth llogi car am ddeng mlynedd ar ôl i chi gael eich dyfarnu’n euog
Os cewch eich dyfarnu’n euog o achosi marwolaeth drwy yrru esgeulus dan ddylanwad alcohol, rydych yn wynebu:
• Hyd at 14 mlynedd o garchar
• Dirwy ddigyfyngiad
• Cael eich gwahardd rhag gyrru am o leiaf dwy flynedd
Canlyniadau eraill:
• Costau yswiriant eithriadol o uchel unwaith y cewch eich trwydded yn ôl
• Fe allech golli eich swydd (mae hyn yn digwydd i 15% o bobl sy’n cael eu dyfarnu’n euog)
• Costau cyfreithiol
• Colli eich cludiant personol a chostau teithio uwch
• Gorfod byw gyda’ch cydwybod
Yn waeth na dim, gorfod byw gyda’r ffaith bod rhywun diniwed wedi marw, wedi cael ei anafu neu wedi dioddef loes oherwydd eich ymddygiad anghyfrifol chi.
Ydych chi’n gwybod beth ydi’r terfyn cyfreithiol ar gyfer alcohol pan fyddwch yn gyrru?
• 80 miligram o alcohol mewn 100 milimetr o waed, neu 35 microgram o alcohol mewn 100 milimetr o anadl, os defnyddir prawf anadl.
Fodd bynnag, fedrwch chi ddim mesur hyn yn ôl faint o unedau mae rhywun wedi ei yfed oherwydd mae corff pawb yn delio ag alcohol ar raddau gwahanol. I fod yn saff, ni ddylai pobl sy’n bwriadu gyrru yfed unrhyw alcohol o gwbl.
10/11/08
Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn Galw Am ´Stop Brys´ Ar Arferion Gyrru Gwael.
Bydd y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn gweithredu o ddifrif i addysgu´r cyhoedd am ddiogelwch ar y ffordd yn ystod Wythnos Diogelwch ar y Ffordd Brake o´r 10fed - 14eg o Dachwedd 2008.
Trwy weithio gyda Lluoedd yr Heddlu yng Nghymru, bydd pobl sy´n defnyddio ffonau symudol wrth yrru, neu sy´n gyrru heb wregysau diogelwch, yn cael eu stopio tu allan i nifer o Orsafoedd Tân, mewn gweithred i addysgu troseddwyr am y peryglon maen nhw, eu teithwyr a defnyddwyr eraill y ffordd, yn agored iddynt.
Yn y Fframwaith cenedlaethol diweddaraf i Wasanaethau Tân ac Achub, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae´n datgan fod yn rhaid i bob Gwasanaeth i weithio mewn partneriaeth gyda´r asiantaethau perthnasol, i leihau´r nifer o farwolaethau ac anafiadau ar y ffordd. Yn gynharach yn 2008, gwnaethpwyd yr addewid swyddogol a chenedlaethol cyntaf i gymunedau Cymru i wneud hyn, pan lansiodd y Gwasanaethau Tân ac Achub y strategaeth Lleihau Traffig Ffordd cenedlaethol.
Yn ystod Wythnos Diogelwch ar y Ffordd, a hyrwyddir gan "Brake" yr elusen diogelwch ar y ffordd, mae´r Heddlu a´r Gwasanaethau Tân ac Achub wedi uno gyda Swyddogion Diogelwch ar y Ffordd lleol, mewn gweithred sy´n rhoi ´dewisiadau´ i addysgu´r cyhoedd am sut mae newid eu harferion gyrru´n medru eu cadw nhw ac eraill yn fyw. Bydd Swyddogion yr Heddlu´n cael eu lleoli tu allan i Orsafoedd Tân mewn lleoliadau strategol.
Yna bydd Swyddogion yr Heddlu yn stopio unrhyw yrwyr sy´n defnyddio ffonau symudol neu nad sy´n gwisgo gwregysau diogelwch, ac yn rhoi dewis iddynt.
Dewis 1:
Gall y troseddwr gytuno i gymryd y pwyntiau cosb ar ei drwydded a thalu´r ddirwy.
Dewis 2:
Gall y troseddwr fynychu´r Orsaf Dân, a fydd o fewn 100 medr, a gwylio cyflwyniad o ddeng munud ar ganlyniadau difrodus gwrthdynnu sylw wrth y llyw (ffonau symudol) a pheidio â gwisgo gwregys diogelwch.
Esboniodd Wyn Cornelius o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:
"Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru mae Diffoddwyr Tân yn gweld canlyniadau miloedd o wrthdrawiadau ar y ffordd bob blwyddyn, ac maent yn gweld rhai golygfeydd erchyll, sy´n digwydd o ganlyniad i gamgymeriadau a wneir bob dydd gan bobl tu ôl i´r llyw. Mae´n rhaid i yrwyr i weithredu os ydym ni eisiau lleihau´r nifer annerbyniol o uchel o farwolaethau ar ffyrdd Cymru".
Dywedodd Mary Williams OBE, prif weithredwraig Brake:
"Mae´r mwyafrif ohonom yn poeni y bydd un o´n hanwyliaid yn cael eu lladd ar y ffordd, ond rydym ni hefyd yn meddwl y bydd yn digwydd i rywun arall ac nid i´n teuluoedd ni. Mae Wythnos Diogelwch Ar Y Ffordd 08 yn rhybudd bod un ym mhob 252 o bobl yn marw ar ein ffyrdd; plant, oedolion ifanc sy´n cychwyn ar eu bywydau, mamau a thadau, neiniau a theidiau annwyl - ac mae pob marwolaeth yn ysgytiad efryddol i gymunedau. Mae angen i bob un ohonom gymryd munud pob dydd i feddwl am realiti marwolaethau ac anafiadau ar y ffordd, a chymryd cip olwg galed, ac oer ar ein hymddygiad ar y ffordd, a´i wella, er lles ein hanwyliaid ac eraill, boed hynny trwy arafu, peidio â mynd heibio i geir eraill, diffodd ein ffonau symudol, gosod ein plant mewn seddau plant gyda gwregysau, neu ddal eu dwylo. Arhoswch, Dychmygwch. Newidiwch."
Dywedodd Prif Arolygydd Plismona´r Ffyrdd Heddlu Dyfed Powys, Steve Matchett:
"Mae gwisgo gwregys diogelwch yn beth syml a hawdd i´w wneud. Fel swyddogion yr heddlu, rydym ni´n gweld canlyniadau gyrru heb wregys diogelwch llawer yn rhy aml yn lleoliad damweiniau. Tra byddwch chi´n wynebu dirwy os cewch eich dal heb wregys diogelwch, y neges allweddol rydym ni´n ceisio´i chyfleu yw bod gwisgo gwregys diogelwch yn gallu golygu´r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth - ac mae hynny´n gymwys i deithwyr yn ogystal â gyrwyr."
4/11/08
Cafodd cyfanswm o 2,866 o bobl nad oedd yn gwisgo gwregys eu dal a’u cosbi fel rhan o’r Ymgyrch Gwisgo Gwregys Cymru gyfan. O’r 8fed hyd at yr 21ain o Fedi, arweiniodd Heddlu De Cymru yr Ymgyrch Gwisgo Gwregys Cymru gyfan, drwy rybuddio gyrwyr eu bod yn peryglu eu bywydau drwy beidio â gwisgo gwregys a chosbi’r gyrwyr a theithwyr sy’n anwybyddu’r gyfraith.
Roedd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar yrwyr ifanc rhwng 17 a 25-oed. Allan o’r 2,866 a gafodd eu dal heb wregys, roedd 808 ohonynt yn perthyn i’r grwp hwn.
Meddai’r Uwch Arolygydd John Turton o’r Adran Gwasanaethau Gweithredol: “Mae peidio â gwisgo gwregys wrth yrru neu deithio yn parhau i fod yn amlwg ar ffyrdd Cymru.
“Mae’n bryder bod gyrwyr a theithwyr yn parhau i fod yn fyrbwyll a pheryglu eu bywydau drwy beidio â gwisgo gwregys.
“Mae hefyd yn siomedig gweld, yma yng ngogledd Cymru, fod 674 o bobl, gyda 229 ohonynt o dan 25-oed, wedi anwybyddu’r gyfraith ac yn parhau i roi eu hunain mewn perygl mewn achos o wrthdrawiad.”
Yn ystod yr ymgyrch yng ngogledd Cymru derbyniodd 674 o bobl cosb benodedig.
Yn ardal Heddlu De Cymru cafodd 893 o yrwyr a theithwyr cosb benodedig.
Yn ardal Heddlu Dyfed Powys cafodd 199 o yrwyr a theithwyr cosb benodedig.
A derbyniodd 1,100 o bobl cosb benodedig gan Heddlu Gwent.
Pobl dan 25-oed
Y nifer o bobl yn cael eu dal heb wregys yn ardaloedd yr heddlu yng Nghymru:
Gogledd Cymru – 229
De Cymru – 200
Dyfed Powys – 38
Gwent – 341
Ychwanegodd Prif Uwch-arolygydd Turton: “Bydd Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â’n cydweithwyr drwy Gymru, yn parhau i orfodi’r neges gan fod yn llym ar y rhai sy’n anwybyddu’r gyfraith er mwyn arbed bywydau ar ein ffyrdd.”
3/1//08
Dywedodd cwmni Network Rail bod gyrwyr yng Nghymru yn peryglu eu bywydau drwy anwybyddu rhybuddion ar groesfannau rheilffordd.
Mae 'na ddamwain bron a digwydd bob yn ail wythnos pan mae gyrwyr yn anwybyddu arwyddion a golau neu hyd yn oed yn gwyro heibio'r bariau ar groesfan yn ôl honiadau.
Mae Network Rail yn lansio ymgyrch hysbysebion sy'n dangos canlyniadau trasig camddefnyddio'r croesfannau.
Cafodd yr hysbyseb ei ffilmio'n rhannol yn Llanboidy yn Sir Gaerfyrddin.
Fe fydd yr hysbyseb yn cael ei ddarlledu ar draws y Deyrnas Unedig.
Cerddwyr
Rhwng mis Ionawr a mis Medi 2008 bu born i 20 o ddamweiniau ar groesfannau yng Nghymru.
Yn yr un cyfnod roedd 'na bron i 300 o adroddiadau o achosion camddefnyddio croesfannau rheilffordd ar draws Cymru ond mae'n bosib bod y ffigwr cywir llawer uwch.
Mae cerddwyr yn peryglu eu bywydau ar groesfannau hefyd.
Yn ystod 2008 bu bron i 15 o ddamweiniau gyda cherddwyr.
Dywedodd Mark Langman, rheolwr cyffredinol gyda Networkl Rail, bod pobl yn peryglu eu bywydau yn wythnosol.
"Mae tri gyrrwr bob wythnos yn peryglu eu bywydau a bywydau eraill drwy gam-ddefnyddio'r croesfannau.
"Neges syml sydd ganddo ni i bawb, peidiwch â chymryd y siawns."
View the commercial here
20/10/08
Datgelwyd bod 86% o seddi plant mewn ceir a archwiliwyd gan Gyngor Sir Powys wedi eu gosod yn anghywir.
Bellach mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd y Cyngor a fydd yn gwneud archwiliadau i seddi ceir am ddim yn Nhref-y-clawdd ac Ystradgynlais yn ddiweddarach y mis hwn, yn pwyso ar rieni i sicrhau bod eu seddi plant mewn ceir yn cael eu harchwilio.
Dim ond 14% o seddi ceir a archwiliwyd gan yr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd yn Aberhonddu a’r Drenewydd a oedd wedi eu ffitio yn gywir. Roedd gan 32% o’r seddi ddiffygion mawr, a oedd yn cynnwys gosod y gwregys diogelwch yn y lle anghywir.
Roedd gan 34% o’r seddi broblem fach oedd angen ei hunioni, oedd yn cynnwys tynhau’r gwregys. Roedd 6% o’r seddi hefyd yn rhai anaddas ar gyfer y cerbyd ac ni ddylent fod wedi eu defnyddio. Roedd y seddi oedd yn weddill a gafodd eu harchwilio naill ai wedi eu condemnio, yn anaddas i’r plentyn neu roedd angen addasu rhywfaint ar yr harnais.
Meddai Sarah Morris, Uwch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd y Cyngor: “Bob blwyddyn mae oddeutu 100,000 o blant yn y DU mewn gwrthdrawiadau a gall y modd y mae’r sedd yn y car wedi ei gosod gael effaith ddifrifol ar p’run a ydynt yn cael eu hanafu ai peidio.
“Rydym yn archwilio sedd y car i weld a yw’n addas i’ch plentyn chi ac a yw’n addas i’ch cerbyd. Mae arbenigwr yn bresennol yn y dyddiau diogelwch a all ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon a all fod gennych.”
Meddai’r Cyng. Gwilym Evans, Aelod y Bwrdd sy’n gyfrifol am Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Byddwn yn annog unrhyw un sy’n defnyddio sedd plentyn mewn car i wneud defnydd o’r archwiliadau am ddim hyn na fydd yn cymryd mwy nag ychydig funudau. Ni fydd yr archwiliadau hyn yn costio unrhyw beth i chi a gallent arbed bywyd eich plentyn.”
Gwneir yr archwiliadau am ddim i’r seddi ceir ym maes parcio’r Cyngor Sir ger y Ganolfan Gymunedol yn Nhref-y-clawdd, ddydd Mercher 29 Hydref ac ym maes parcio archfarchnad y Co-op yn Ystradgynlais, ddydd Iau 30 Hydref. Bydd y swyddogion ar gael rhwng 9.00am a 4.00pm.
I gael gwybodaeth bellach am y dyddiau archwilio neu unrhyw agwedd ar ddiogelwch mewn ceir yna galwch yr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd ar 0845 607 6060.
13/10/08
Mynychodd dros 30 o ddisgyblion blwyddyn 10/11 o Ysgolion yr Esgob Gore a Chefn Hengoed, Ddigwyddiad Golygfa Damwain yng nghyfleuster Hyfforddi Gyrwyr Cymru yn Llansamlet yn ddiweddar. Roedd cyfranogwyr yn y digwyddiad yn cynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu De Cymru, Tîm Diogelwch ar y Ffordd Abertawe, Hyfforddi Gyrwyr Cymru a nifer o hyfforddwyr gyrru o ardal Abertawe.
Dywedodd Gareth Rice, Swyddog Diogelwch Rhag Tân yn y Gymuned yn Abertawe:
"Dyma´r diweddaraf mewn nifer o ddigwyddiadau tebyg a gynhaliwyd ar draws ardal Abertawe, sy´n targedu pobl ifanc sydd ar fin, neu sydd newydd ddechrau, dysgu gyrru. Mae´n rhoi cyfle delfrydol i´r bartneriaeth i addysgu gyrwyr newydd ac amhrofiadol am y peryglon real a´r canlyniadau pan eu bod yn mentro allan ar ein ffyrdd."
Derbyniodd y disgyblion fewnbwn yn y dosbarth am beryglon goryrru, canlyniadau peidio â gwisgo gwregysau diogelwch a gyrru tra o dan ddylanwad alcohol/cyffuriau, yn ogystal â chyflwyniadau ar fod yn yrwyr diogel ym mhob agwedd. Rhoddwyd gwybodaeth am y Cwrs Pass Plus Cymru tra llwyddiannus, a ddilynwyd gan daith dywysedig o amgylch car a oedd wedi cael damwain, sy´n dangos y difrod a ddioddefir pan fod car yn cael damwain ar gyflymder o 40 m.y.a..
Rhoddwyd gwers yrru o hanner awr gyda hyfforddwr gyrru cwbl gymwys i bob disgybl (a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru), ac fe wnaeth hyn eu galluogi i roi ar waith yr holl gyngor ar ddiogelwch a roddwyd iddynt yn ystod y dydd.
Dywedodd Amanda Howarth, o Dîm Diogelwch ar y Ffordd Abertawe:
"Mae´r digwyddiad wedi cael ei ddatgan yn llwyddiant, gyda llawer o negeseuon diogelwch ar y ffordd allweddol yn cael eu trafod yn ystod y dydd ? roedd cyfranogiad y disgyblion yn wych."
Ychwanegodd Dave Perry, Cydlynydd Gyrfau Ysgol yr Esgob Gore:
"Roedd hwn yn ddiwrnod ardderchog i´r disgyblion. Roedd yn brofiad i´r disgyblion i weld canlyniadau peidio â gwisgo gwregysau diogelwch a gyrru ar gyflymder amhriodol. Yn sicr, fe wnaeth eu hatgoffa o realaeth".
9/10/08

Jessica Wright, sy’n 22 mlwydd oed yw’r ail i dderbyn gwobr chwarterol Pass Plus Cymru. Cafodd enw Jessica ei dynnu oddi ar restr pob un o’r ymgeiswyr a ddychwelodd ei ffurflen werthuso ar ôl cwblhau’r cwrs. Ei huwch hyfforddwr Pass Plus Cymru oedd Mr Ron Ingall o Ron Ingall School of Motoring a leolir yn yr Eglwys Wen.
Dywedodd Prif Weithredwr GEM Motoring Assist’s, David Williams ‘Rydym yn falch iawn o gael noddi gwobrau’r fenter Gymreig gyffrous hon. Rydw i’n sicr y bydd Pass Plus Cymru yn helpu i wneud gyrwyr Cymreig yfory yn llawer mwy diogel, ymwybodol, ac ystyriol.
Wrth dderbyn ei gwobr dywedodd Jessica, “Mi fwynheais yr hyfforddiant ychwanegol a roddodd Pass Plus Cymru i mi, ac fel gyrrwr newydd mi gefais lawer o gyngor a dysgais lawer o bethau defnyddiol. Rydw i’n argymell y cwrs i bawb sydd newydd basio’u prawf.”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae Pass Plus Cymru yn fenter dda i helpu gyrwyr ifanc i ddysgu mwy o sgiliau gyrru a datblygu i fod yn yrwyr mwy diogel.”
Datblygwyd Pass Plus Cymru ar gyfer gyrwyr amhrofiadol rhwng 17 a 25 i gynnig mwy na’r cynllun Pass Plus sylfaenol. Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Cyngor Wrecsam yn gallu cynnig y cwrs hyfforddi i yrwyr newydd. Cyfanswm cost y cwrs yw £20 yn unig, gostyngiad sylweddol ar y gost arferol sydd rhwng £120 a £150. Cynhelir y cyrsiau hyfforddi ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam drwy’r flwyddyn.
Gellir cael manylion pellach am y cwrs ar y wefan ganlynol www.dragondriver.com
8/10/08
Mae cwmni o Aberhonddu wedi cael ei ganmol am lansio’r bws mini mwyaf diogel yn y DU. Mae gan yr Iovan, sydd wedi cael ei enwi ar ôl Amddiffynnydd Ieuenctid y Celtiaid, ystod eang o nodweddion diogelwch mewnol ac allanol. Ar hyn o bryd, dyma’r unig fodel sy’n bodloni safonau diogelwch llym BUSK, sef sefydliad diogelwch trafnidiaeth ysgol.
Mae’r bws mini yn ffrwyth llafur partneriaeth fasnachol gyda Phrifysgol Abertawe ac Irisbus Iveco (UK). Mae’r cydweithio hwn yn cael ei ariannu gan y cynllun Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Heddiw, cafodd y bws mini ei lansio gan Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn Aberhonddu wedi i’r model cyntaf ddod oddi ar y llinell gynhyrchu.
Meddai:
Fel Gweinidog, rwy’n hynod o awyddus i ddatblygu’r cydweithio sy’n digwydd rhwng ein prifysgolion, ein colegau a byd busnes.
Mae’r bartneriaeth hon wedi creu a chyflenwi cynnyrch mawr ei angen – dyma’r unig fws mini i gael ei ardystio gan BUSK, felly mae’n gallu cyfiawnhau’r honiad mai dyma’r cynllun bws mini mwyaf diogel yn y DU.
Mae clywed am yr ystod o welliannau diogelwch, gan gynnwys strwythur cryfach a thechnoleg gwydr sydd wedi’i wella er mwyn osgoi anafiadau, wedi cael cryn argraff arnaf i.
Mae’r datblygiad hwn yn amserol iawn. Ar hyn o bryd, mae’r Cynulliad Cenedlaethol ar fin mabwysiadu’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr – un o’r cyfreithiau cyntaf i gael ei chreu yng Nghymru, a fydd yn gwella diogelwch ar fysiau ysgol.
Ymhlith y nodweddion arbennig eraill yn cynnwys mae:
- gwelliannau i weithdrefnau ymuno â’r bws a dod oddi arno;
- llwybrau diogel ar gyfer teithwyr mewn cadeiriau olwyn;
- CCTV;
- breciau, goleuadau a gwregysau diogelwch gwell;
- gwaith graffeg gwell ar y tu allan;
- nodweddion diogelwch newydd ar gyfer y gyrrwr.
24/9/08
Canfuwyd 78 o droseddau moduro mewn dim ond un diwrnod fel rhan o weithredu ar y cyd rhwng Safonau Masnach Sir Ddinbych a Heddlu Gogledd Cymru.
Fe stopiodd swyddogion y cyngor a oedd yn gweithio gyda'u cydweithwyr yn yr heddlu, geir ar ffordd yr A525 Llanelwy i Ruddlan fel rhan o ddiwrnod gorfodi i edrych ar wahanol droseddau.
Y troseddau a nodwyd oedd:
•Cafodd 6 o gerbydau gordrwm hysbysiadau gwahardd
•Rhoddwyd 1 gosb benodol i fodurwr am gario llwyth peryglus
•Fe atafaelwyd un cerbyd am fod â Thrwydded Ecseis Cerbyd a oedd wedi dod i ben
•Gwaharddwyd un tacsi am nad oedd ganddo Drwydded Ecseis Cerbyd
•Roedd dau aelod o’r cyhoedd heb drwydded yrru
•Roedd 1 gyrrwr dros dro’n torri amodau gyrru
•Roedd 3 o yrwyr heb dystysgrif MOT
•Nid oedd 4 o yrwyr yn gwisgo eu gwregys diogelwch
•Rhoddwyd 1 hysbysiad cosb benodol am smygu mewn cerbyd di-fwg
•Rhoddwyd 58 o rybuddion am beidio arddangos arwydd mewn cerbydau di-fwg.
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Amgylchedd: 'Roeddem yn siomedig o nodi cymaint o wahanol droseddau mewn un diwrnod. Mae gweithgaredd gorfodi fel hyn wedi ei ddylunio i wneud ein ffyrdd yn ddiogelach drwy nodi unrhyw broblemau gyda cherbydau, a ydynt yn ufuddhau i’r gyfraith ac a ddylent fod ar y ffordd yn y lle cyntaf.
“Mae’r gorfodi hwn yn anfon neges glir i’r cyhoedd fod y troseddau hyn yn cael eu hystyried yn ddifrifol iawn ac ni chânt eu goddef ar ffyrdd Sir Ddinbych.'
2/9/08
Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnig bargen arbennig i yrwyr anghyfreithlon, sef mynd â’u car i ffwrdd a’u wasgu – am ddim!
Mae’r heddlu am dynnu sylw at adran 165 o Ddeddf Traffig y Ffyrdd sy’n rhoi’r hawl i’r heddlu atafaelu unrhyw gerbyd os nad yw wedi cael yswirio neu os nad oes gan y gyrrwr drwydded yrru ddilys.
Ar hyn y bryd, mae Heddlu Dyfed Powys yn atafaelu oddeutu 120 o gerbydau’r mis.
Fel rhybudd i bobl am y gyfraith hon, fe fydd cerbyd sydd wedi cael ei wasgu yn cael ei gludo o amgylch ardal yr heddlu yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae’r cerbyd hwn yn rhoi neges glir - os nad oes gennych y dogfennau cywir, bydd yr heddlu yn mynd â’ch cerbyd.
Dywedodd Steve Matchett, Prif Arolygydd Plismona’r Ffyrdd: “Mae rhai gyrwyr yn penderfynu osgoi’r gost o gael yswiriant.
“Fodd bynnag, os ydych yn gyrru eich cerbyd ar y ffordd, mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau fod y cerbyd - a chi - yn gyfreithiol. Rhaid cael trwydded yrru ddilys ac yswiriant dilys.
“Mae gennym offer Darllen Rhifau Ceir yn Awtomatig (ANPR) ym mhob rhanbarth, ac mae ein heddweision yn gallu gwirio cyfreithlondeb cerbyd mewn eiliadau.
“Os nad oes gennych y dogfennau cywir, fe allai eich car gael ei gymryd oddi arnoch a’i wasgu.
“Fe fyddwch hefyd yn cael eich erlyn am unrhyw droseddau a gyflawnwyd gennych, ac fe allech gael dirwy sylweddol a phwyntiau ar eich trwydded.
“Pwrpas y gyfraith yw diogelu gyrwyr eraill trwy sicrhau fod cerbydau’n ddiogel a bod y rhai sy’n eu gyrru yn gymwys i wneud hynny ac, os digwydd gwrthdrawiad, bod yswiriant gan bobl ar gyfer hynny.
“Peidiwch â chymryd y risg – mynnwch y dogfennau cywir. Sicrhewch eich bod yn gyrru’n gyfreithlon, neu efallai y byddwch chi yn gwneud defnydd o’n cynnig arbennig”.
Mae’r Heddlu hefyd am rybuddio pobl sy’n caniatáu i eraill yrru eu cerbydau - os na fydd gan y gyrrwr arall y dogfennau cywir, fe all y perchennog a’r gyrrwr gael eu herlyn am droseddau.
21/8/08
Daeth pobl ifanc ar draws Sir y Fflint at ei gilydd yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug yr wythnos diwethaf ar gyfer 'Diwrnod Gwybodaeth Cynllun Addysg Moduron'. Hwyluswyd y diwrnod gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint ac roeddynt wedi addysgu grwp o 26 o bobl yn eu harddegau am beryglon dwyn ceir a gyrru gwrth gymdeithasol. Ariannwyd y diwrnod gan Bartneriaeth Lleihau Anffodusion ar y Ffyrdd Gogledd Cymru, Siwrnai Saff.
Roedd gweithgareddau'n cynnwys cyflwyniad gan Dîm Sioe Deithiol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, sy'n arddangos sut mae diffoddwyr tân yn gweithio i ryddhau anffodusion a marwolaethau o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd ac ymweld â bws cyffuriau ac alcohol pobl ifanc.
Roedd y bobl ifanc wedi derbyn sgyrsiau gan y gwasanaethau brys ar oblygiadau potensial o bod mewn damwain car neu drosedd yn ymwneud â cherbydau.
Dywed Danny Patton, Aelod o'r Tîm Diogelwch Cymunedol ac un o drefnwyr y diwrnod: "Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wrth eu boddau'n cymryd rhan yn y cynllun arloesol yma.
"Rydym ni'n gobeithio bydd heddiw'n helpu'r bobl ifanc yma i ddeall ein negeseuon achub bywyd, ac i helpu i ostwng y nifer uchel o bobl ifanc sy'n colli eu bywydau mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd."
Ychwanegodd Lesley Bayley, Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint: "Mae gwerthusiad y dyddiau yma wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ostwng troseddau sy'n ymwneud â cheir a gyrru mewn ffordd gwrth gymdeithasol. Rydym ni'n falch iawn o gael cymryd rhan ac addysgu pobl ifanc am oblygiadau eu gweithredoedd."
Dywed un o'r bobl ifanc: "Mae heddiw wedi cael effaith fawr arnaf i ac yn bendant, ni fyddaf yn gyrru ac yfed byth. Mae wedi dysgu imi beidio â mynd i mewn i gar gydag unrhyw un nad wyf yn ymddiried ynddo."
13/8/08
Mae Uned Diogelwch y Ffordd Conwy yn annog pawb gyda phlant ifanc i brofi eu seddi ceir babanod a chadw'n ddiogel ar y ffyrdd yn ystod yr haf.
Mae'r Tîm Diogelwch y Ffordd yn ymweld ag archfarchnadoedd a sioeau amaethyddol lleol ac yn annog pobl i ddefnyddio eu gwregys diogelwch a gwneud yn siwr bod seddi ceir babanod wedi'u gosod yn gywir gyda chymorth cyd-weithwyr o Halfords.
Dywedodd Julie Birchall, Uned Ddiogelwch y Ffordd Conwy, "Rydym wedi darganfod nad yw nifer o seddi ceir babanod yn cael eu gosod yn gywir, sy'n fater o bryder mawr. Byddwn yn annog pawb i ddod draw i brofi eu seddi ceir babanod i fod yn dawelach eich meddwl."
Bydd y sesiwn profi seddi ceir nesaf yn cael ei chynnal ym Maes Parcio Tesco, Cyffordd Llandudno ar 19 ac 20 Awst.
6/8/08
Cafodd myfyrwraig o Ysgol Gyfun St Cyres ym Mhenarth ei henwi’n enghraifft go iawn i bobl ifanc eraill wedi iddi ennill cystadleuaeth a osodwyd gan Ymladdwyr Tân Penarth yn ymwneud â chanlyniadau gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.
Disgleiriodd Emily Gronow, 17 oed, mewn cystadleuaeth diogelwch ar y ffyrdd gyda’i ffilm ddidrugaredd sy’n seiliedig ar gerdd yn sôn am brofiad go iawn o golli anwylyd mewn gwrthdrawiad ar y ffordd. Trefnodd Ymladdwyr Tân o Wylfa Goch, Gorsaf Dân Penarth y gystadleuaeth ynghynt yn y flwyddyn, gan osod yr her i bobl ifanc gynhyrchu darn o waith a fyddai’n adlewyrchu realiti creulon gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd ac yn anfon neges a fyddai’n helpu i leihau gwrthdrawiadau yn y dyfodol.
Mae’r fideo’n dilyn hanes colled bersonol hynod drist yn ystod gwrthdrawiad car a defnyddiodd Emily ei mam a ffrindiau fel prif sêr y ffilm. Nawr, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n trefnu y bydd y fideo ar gael i’w holl orsafoedd tân er mwyn pwysleisio neges diogelwch ar y ffyrdd trwy lygaid person yn ei arddegau.
Dywedodd John Davies, Rheolwr Gorsaf Penarth, “Pan welson ni’r fideo hwn, roeddem ni’n gwybod yn syth y gallai’r ffilm roi’r neges i bobl eraill yn eu harddegau ac y byddai’n ddefnyddiol ledled y Gwasanaeth. Gall Gorsafoedd Tân eraill defnyddio hwn er mwyn pwysleisio diogelwch ar y ffyrdd i bobl yn eu harddegau. Mae’r prosiect hwn yn ffrwyth ymdrech anferthol gan Emily ac rydym yn gwerthfawrogi’i hymdrechion.”
Mae Ymladdwyr Tân yn cael eu galw i filoedd o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd bob blwyddyn yn ne Cymru. Yn aml, nhw yw’r cyntaf i gyrraedd ac maen nhw’n hollol ymwybodol o’r canlyniadau dychrynllyd. Bydd y fideo a gynhyrchwyd gan Emily yn dod yn rhan o ymgyrch barhaus i leihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd trwy wneud pobl ifanc yn ymwybodol o’r peryglon a mesurau diogelwch syml y dylent eu cymryd.
www.southwales-fire.gov.uk
2/7/08
Mae bywydau gyrwyr ifainc yn cael eu rhoi mewn perygl gan ddelwyr sy’n gwerthu ceir ail law nad ydynt yn weddus i fod ar y ffordd, rhybuddiodd Cyngor Sir Powys.
Mae Gwasanaeth Safonau Masnach y Cyngor yn tynnu sylw at waith a wnaed gan eu cydweithwyr cenedlaethol ac ymarferiad a wnaed yn ddiweddar i brofi ceir ail law a brynwyd. Datgelodd y prawf fod 5 allan o 8 o geir ail law a brynwyd yn ystod ymgyrch gudd ddiweddar yn rhai nad oeddent yn ddiogel i gael eu gyrru.
Meddai Clive Jones, Prif Swyddog Safonau Masnach y Cyngor: “Roedd y diffygion a ganfuwyd gan y gwaith hwn yn arswydus – roedd y ceir yn anniogel i’w defnyddio ac ni ddylent fod ar y ffordd, felly ni ddylent fod yn cael eu gwerthu ar gwrt blaen unrhyw fasnachwr.
“Mae’n drosedd ddifrifol i werthu neu gynnig cerbyd i’w werthu nad yw’n cydymffurfio â’r deddfau sy’n llywio’r gwaith o adeiladu a defnyddio cerbydau modur. Nid oes unrhyw elfen o rybuddio’r prynwr ac nid yw unrhyw achos o beidio â bod yn ymwybodol o’r ddeddf yn esgus ar unrhyw gyfrif.
“Faint bynnag a dalwch am gerbyd, mae gennych hawl i ddisgwyl ei fod yn ddiogel, yn addas i fod ar y ffordd ac yn cydymffurfio â’r gyfraith. Mae ymarferion prynu fel hyn yn hanfodol i warchod y cwsmer rhag prynu cerbydau peryglus.
“Mae cyflwr gwael cerbydau yn ffactor gyffredin sydd wedi cyfrannu at ddamweiniau traffig ar y ffyrdd ac mae’r arolwg hwn yn dangos bod llawer o gerbydau a allai arwain at farwolaeth y gyrrwr ar y farchnad. Gorau po fwyaf o ddamweiniau y gallwn eu hatal drwy annog gyrwyr i gael ceir wedi eu harchwilio cyn iddynt brynu. Rydym yn pwyso ar bob gyrrwr ifanc i gael car wedi ei archwilio gan beiriannydd annibynnol cyn ei brynu neu i fynnu cael MOT llawn cyn ei brynu.
“Dylai defnyddwyr brynu oddi wrth fusnesau dilys a fydd wedi archwilio’r cerbydau cyn eu rhoi ar werth – dylid dweud wrth bobl eu bod yn cymryd mwy o risg pan brynant geir o ochr y ffordd.
“Y cyngor gorau y gallwn ei roi yw mynnu cael tystysgrif MOT llawn, newydd bob amser, oherwydd bod hyn yn rhoi gwarchodaeth diogelwch sylfaenol ac arwydd o’r modd mae’r injan yn gweithio. Os bydd modurwyr yn cael unrhyw broblemau gyda cherbyd maent wedi ei brynu, dylent gysylltu â Consumer Direct”.
I alw Consumer Direct ffoniwch 08454 04 05 06 neu 08454 04 05 05 i gael eu gwasanaethau Cymraeg neu ymwelwch â www.consumerdirect.gov.uk
17/6/08
Fel rhan o ymgyrch Cymru gyfan, daeth cerddorion ifanc o ledled ardal Heddlu Dyfed Powys at ei gilydd ddoe i berfformio caneuon sy’n hyrwyddo’r neges dim yfed a gyrru.
Roedd tri band yn perfformio eu caneuon dim yfed a gyrru yn rownd derfynol yr Her Cerddoriaeth, a noddwyd gan Chevron (Purfa Olew Penfro).
Roedd y digwyddiad hwn a drefnwyd i godi ymwybyddiaeth am y pwnc yn rhan o ymgyrch atal yfed a gyrru Cymru gyfan.
Enillydd yr Her Cerddoriaeth oedd Tom van Hamer o Sir Gâr, gyda’i gân ‘On The Road’.
Derbyniodd wobr bersonol o £250 ynghyd â £250 a thlws ar gyfer ei ysgol, sef Dyffryn Aman, Rhydaman.
Yr ail orau oedd ‘200 Yards Ahead’ o Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod, a enillodd £150 ar gyfer y band a £150 i’r ysgol.
Ac yn y trydydd safle, enillodd band ‘Delayed Seed’, o Ysgol Uwchradd Llambed, £100.
Dywedodd Susan Storch, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd: “Hoffwn ddiolch i bob un o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn y gystadleuaeth ac i’w hysgolion hefyd . Roedd safon perfformiad y tri yn y rownd derfynol yn uchel iawn ac roedd gan y beirniaid dasg anodd i ddewis yr enillydd.
“Dechreuwyd yr Her Cerddoriaeth gan Capita Symonds yng Ngwent yn 2006 ac maent yn awr yn eu trydedd flwyddyn. Yn sgil eu llwyddiant hwy, lansiodd Grwp Diogelwch Ffyrdd Canolbarth a Gorllewin Cymru y gystadleuaeth hon yn ystod yr hydref y llynedd ac rydym yn gobeithio y bydd yn datblygu i fod yn fenter Cymru gyfan yn y dyfodol agos.
“Mae hon yn ffordd newydd o ymgysylltu â phobl ifanc a chyfleu neges ddifrifol yr ymgyrch atal yfed a gyrru, a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n holl bartneriaid wrth i ni ddechrau cynllunio ar gyfer ein hail flwyddyn!
16/6/08
Mae swyddogion Diogelwch Ffyrdd Sir Benfro yn annog gyrwyr i beidio ag yfed a gyrru oherwydd gallai’r gost o ganlyniad fod yn llawer gormod.
Maen nhw’n dweud y gallai yfed a gyrru arwain at ddedfryd llys, gwaharddiad gyrru am o leiaf 12 mis, arnodiad ar drwydded yrru am o leiaf 11 mlynedd a hyd yn oed record droseddol.
Unodd Fforwm Partneriaeth Diogelwch Ffyrdd Sir Benfro â Bragdy Brains i ddosbarthu posteri, taflenni a matiau cwrw yn lledaenu’r neges o beidio ag yfed a gyrru.
Bydd 40,000 o fatiau cwrw yn cael eu dosbarthu ar hyd tafarndai a chlybiau ar draws y sir.
Mae’r ymgyrch yn rhan o’r Ymgyrch Peidio Yfed a Gyrru cenedlaethol a lansir y mis hwn gan Heddlu Dyfed Powys.
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Adams, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Chynllunio, y byddai canlyniadau cael eich dal yn yfed a gyrru yn echrydus.
“Gallech gael eich dirwyo hyd at £5,000 a’ch dedfrydu i gymaint â chwe mis yng ngharchar,” meddai.
“Ond does dim sy’n eich paratoi ar gyfer canlyniadau byw o ddydd i ddydd ar ôl cael eich dal yn yfed a gyrru – gorfod dibynnu ar eich ffrindiau a’ch teulu i’ch gyrru o amgylch a gorfod gwerthu eich car er mwyn talu dirwy drom neu ei wylio’n rhydu dros y misoedd.
“Ac os bydd rhaid i chi ddod o hyd i swydd arall, heb drwydded ni fyddwch yn medru gyrru i’r gwaith na gyrru yn eich gwaith – hynny yw os dewch o hyd i gyflogwr fydd yn barod i gyflogi rhywun sydd â record droseddol.”
Yn hytrach nag yfed a gyrru mae’r Fforwm Partneriaeth Diogelwch Ffyrdd yn annog pobl i ystyried dewisiadau eraill.
“Trefnwch dacsi neu cytunwch ar gychwyn y noson pwy o blith eich criw na fydd yn yfed a gyrru,” meddai John Gobbi, Swyddog Addysg Diogelwch Ffyrdd Sir Benfro.
“Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus, os yn bosib, i fynd adref, neu arhoswch dros nos yng nghartref ffrind. Beth bynnag a wnewch, peidiwch â theithio mewn car sy’n cael ei yrru gan rywun sy wedi bod yn yfed,” meddai.
Os ydych am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch, yna, cysylltwch â: John Gobbi yn Neuadd y Sir, Hwlffordd. Tel: 01437 775144
2/6/08
Mae heddluoedd Cymru yn uno yr haf hwn mewn ymgyrch i dargedu gyrwyr sy’n yfed.
Fel rhan o’r ymgyrch, sy’n dechrau ar y 1af o fis Mehefin, bydd yr heddluoedd Cymreig yn stopio mwy o yrwyr.
Rydym yn annog pobl i feddwl cyn yfed ac i beidio â dringo i sedd y gyrrwr os ydynt wedi yfed alcohol.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Andy Edwards, o Heddlu Dyfed Powys, sy’n arwain yr ymgyrch: “Mae pobl yn manteisio ar yr haf er mwyn cynnal partïon a barbiciws, yn enwedig pan fydd yr haul yn disgleirio.
“Fodd bynnag, oherwydd bod yr achlysuron hyn yn dueddol o fynd ymlaen am oriau, mae pobl yn gallu colli cyfrif o faint o alcohol y maent wedi’i yfed.
“Hoffwn atgoffa pobl nad oes yna fesur penodol o alcohol y gellir yn gyfreithlon ei yfed cyn gyrru cerbyd.
“Mae pobl sy’n yfed a gyrru yn rhedeg y risg o ladd ei hunain, y bobl sy’n teithio gyda nhw a phobl ddiniwed eraill sy’n defnyddio’r ffordd.
“Os cewch eich stopio a chithau dros y terfyn cyfreithiol, gallech gael eich gwahardd rhag gyrru a chael eich collfarnu am drosedd – ac fe allai hynny gael effaith anferth ar eich bywyd.
“Mae’r cyngor gorau yn syml iawn – os yfed, dim gyrru.”
Yn ystod ymgyrch haf 2007, rhoddwyd 7,970 prawf anadl ledled Cymru ac roedd 400 (5 y cant) o’r rheiny yn bositif.
7/5/08
Mae’r Gwir Anrh. Ruth Kelly, AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, wedi cyhoeddi amryw o gynigion sy’n rhoi sylw i broblem y nifer o bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd.
25/4/2008
Dysgodd disgyblion blwyddyn 12 ac 13 Ysgol Dinas Bran, Llangollen ynglyn â gwir sefyllfa bod yn rhan o ddamwain ffordd yn ystod cyflwyniad hynod effeithiol yr wythnos hon gan ddiffoddwyr tân o orsaf dân Wrecsam.
Roedd y cyflwyniad yn cynnwys cyfres o hysbysebion arbenigol yn cynnwys dioddefwyr go iawn a'u teuluoedd, gwneud defnydd o luniau o ddamweiniau ar y ffyrdd yr oedd diffoddwyr tân wedi ymwneud â hwy, a char maint llawn a theithwyr dymi oedd wedi bod yn rhan o wrthdrawiad penben.
Cafodd y disgyblion weld y 'Beictân' hefyd, a ddefnyddir er mwyn dysgu gyrwyr beiciau modur ynglyn â phwysigrwydd beicio'n ddiogel.
Andy William, Rheolwr Criw, Gwylfa Wen, Wrecsam oedd yn arwain y cyflwyniad. Meddai:
"Mae'r grwp rhwng 17-21 oed yn darged allweddol gennym - bu farw 55 o bobl mewn damweiniau ffyrdd yng Ngogledd Cymru y llynedd, roedd 36 ohonynt yn perthyn i'r grwp oedran hwn.
"Rydym yn ceisio pwysleisio pwysigrwydd gyrru'n ddiogel - drwy berswadio'r bobl ifanc hyn i anwybyddu pwysau gan gyfoedion i yrru neu i yfed a gyrru, a sicrhau eu bod yn gwisgo gwregys diogelwch bob amser, gallem fod yn arbed nifer o fywydau.
"Yn y cyflwyniad hwn, rydym yn sôn am ein gwaith fel diffoddwyr tân yn mynychu damweiniau ffyrdd. Drwy ddefnyddio ein profiadau ni, a dangos hysbysebion sy'n creu argraff, credaf y bydd y delweddau hyn yn aros yng nghof y bobl ifanc ac yn cael cryn dipyn mwy o effaith na ffeithiau a ffigurau."
Dywedodd Suzanne Nantcurvis, Pennaeth chweched dosbarth Ysgol Dinas Bran:
"Rydym wedi gweld nifer o ddamweiniau ffyrdd difrifol yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf, gyda disgyblion yr ysgol yn cael eu lladd yn drasig neu eu hanafu.
"Roeddem ni'n teimlo ei bod hi'n bwysig i'r ysgol ymdrin â'r mater hwn - rydym yn canolbwyntio ar ddiogelwch ffyrdd yn ein gwersi addysg bersonol a chymdeithasol, ond mae'r ymweliad hwn wedi creu cyrn argraff ar ein disgyblion. Hoffwn ddiolch i staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am ddod i'n hysgol a dangos i'r disgyblion yn union pa mor ddifrifol yw'r canlyniadau pan fyddwch yn gyrru'n ddiofal."
Ychwanegodd Tatem Jones, disgybl blwyddyn 12 yn yr ysgol:
"Roedd y cyflwyniad yn wirioneddol effeithiol ac yn creu darlun byw yn eich pen - rhywbeth na allwn gael gwared ohono y tro nesaf yn byddwn yn mynd yn y car. Roedd pawb yn ein grwp ni wedi gwrando ar hyn ac wedi eu heffeithio ganddo - rydw i'n siwr y bydd yn gwneud i ni i gyd wisgo gwregys a gyrru'n ddiogel pan fyddwn yn pasio ein prawf."
26/3/08
Mae trosedd cerbydol yn fater sy’n cael effaith niweidiol ar bob un o’n cymunedau. Mae’n cynnwys anhwylustod, difrod, anafu ac mewn rhai achosion truenus, mae’n golygu marwolaeth hyd yn oed.
Cyd-ymateb gan nifer o asiantaethau yw Diwrnod Ymwybyddiaeth o Drosedd Cerbydol – a bydd yn cynnwys yr Heddlu, Gwasanaeth Tân, Ambiwlans, y Timau Troseddau Ieuenctid, y Gwasanaeth Carcharau, Cymorth i Ddioddefwyr, y cyhoedd, dioddefwyr a phobl ifanc eu hunain.
Wedi pwyso a mesur y sefyllfa rydym wedi gweld taw nifer fach sy’n aildroseddu ym maes trosedd cerbydol, ac mae’r bobl ifanc eu hunain wedi rhoi ymateb ffafriol dros ben. Mae’r tîm amlasiantaeth sy’n gyfrifol am y canlyniadau rhagorol hyn yn hynod falch o’u
llwyddiannau ac maent wedi ymrwymo i ddal ati i gynnal y fenter werthfawr hon.
Darllenwch y bwletin llawn yma Fformat PDF format 4.9mb
17/3/08
|
Yn y llun yng nghwmni myfyrwyr y cwrs Pass Plus Cymru mae: Paula Rees, Hyfforddwr Gyrru; Jack Dudley Swyddog Lleihau Perygl yn y Gymuned Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru a John Gobbi Swyddog Addysg Diogelwch Ffordd Cyngor Sir Penfro. |
Cafodd bron i 100 o yrwyr ifanc Sir Benfro hyfforddiant gyrru ychwanegol yn ystod y flwyddyn. Roedd yr ieuenctid yn cymryd rhan yn y cwrs poblogaidd Pass Plus Cymru – sy wedi’i lunio i’w gwneud yn well gyrwyr.
Mae’r cwrs yn darparu hyfforddiant pellach i fodurwyr ifanc sy wedi pasio eu prawf gyrru’n ddiweddar. Does dim prawf ar y diwedd ond mae’n cynnig llawer o wybodaeth newydd sydd o gymorth i wella sgiliau gyrru ar y ffordd.
Mae’n canolbwyntio ar: gyrru ar y draffordd; technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o berygl; gyrru yn y nos; dygymod â threfi a dinasoedd prysur; gyrru ar hyd ffyrdd cefn gwlad a rhagweld beth all ddigwydd.
Ar ôl cwpla’r cwrs dylai fod gan y gyrrwr ifanc gwell sgiliau gyrru, gwell siawns o gael yswiriant is a llai o siawns o wrthdrawiad neu anafu’i hun, anafu ffrindiau neu ddefnyddwyr eraill ar y ffordd.
Cefnogir y cynllun Pass Plus Cymru gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru, sy wedi’i sybsideiddio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i gydlynu gan Uned Diogelwch Ffordd Sir Benfro. Mae’n costio £20 a gellir gwneud y gwaith ymarferol yng nghwmni hyfforddwr.
Fe’i cynhaliwyd yn Ysgol Tasker Milward, Hwlffordd, gyda’r nos.
Dyddiadau’r cyrsiau lleol nesaf eleni fydd: 17 Ebrill, 15 Mai a 12 Mehefin. Os ydych am gadw lle, yna, ffoniwch 0845 050 4255 neu’r Uned Diogelwch Ffordd 01437 775144
www.dragondriver.com
11/3/08
Mae Heddlu’r Gogledd yn defnyddio fan heddlu sydd wedi’i haddasu i daclo gyrwyr cyflym a gyrwyr sy’n creu niwsans.
Mae hen fan camera cyflymdra wedi’i haddasu yn null y sioe deledu Pimp My Ride, a hynny drwy roi stereo pwerus ynddi a’i pheintio mewn lliwiau trawiadol. Caiff y fan, a gafodd ei gweddnewid gyda chymorth cyflenwyr lleol, ei chymryd i ysgolion a cholegau. Dywedodd yr Heddlu fod hyn yn un o’r mentrau sydd wedi’u cynllunio i ddelio â pheryglon posibl, gan gynnwys goryrru.
Wrth ddadorchuddio’r fan ar ei flog, dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd, Clive Wolfendale, fod gormod o bobl ifanc yn trin eu ceir fel ychwanegiadau ffasiwn.
“Mae amryw o ganlyniadau anffodus wedi bod i’r ymddygiad hwn yn y Gogledd, gan gynnwys cryn gynnydd yn nifer y marwolaethau ar y ffyrdd ymhlith gyrwyr gwryw 17-25 oed yn ystod hanner cyntaf y degawd hwn,” meddai.
“Oherwydd cyfres o farwolaethau trasig, fe roeson ni lawer iawn iawn o sylw i gynlluniau gorfodi ac addysgu, a’r canlyniad yw i nifer y marwolaethau yn y categori hwn ostwng yn ystod 2007.”
Dywedodd Mr Wolfendale y byddai’r fan yn llawn dop o wybodaeth a chyngor i yrwyr ifanc a’i bod hi eisoes yn denu’r tyrfaoedd pan fydd hi’n ymddangos yn y gogledd.
Helpodd modurdai lleol yr heddlu i weddnewid y cerbyd. Arni, mae system gerddoriaeth drawiadol a sgrin deledu fawr. Mae ganddi hi hyd yn oed ei fideo ei hun ar YouTube.
6/3/08
Mae plant Ysgol Gynradd Monkton wedi dylunio posteri i atgoffa pobl i wisgo gwregysau diogelwch. Trefnwyd y gystadleuaeth gan Dîm Plismona Bro Penfro ar ôl i swyddog sylwi fod nifer o blant a’u rhieni ddim yn gwisgo gwregys ar y daith yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.
Dywedodd PCSO Kelly MacKay: “Aethon ni ati i ddangos i blant yr ysgol pa mor bwysig yw gwisgo gwregysau diogelwch trwy gyfrwng cyflwyniad byr. Yna, gofynnom i blant yr ysgol i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio poster A4 fyddai’n hybu gwisgo gwregys ac yn dangos eu pwysigrwydd”.
“Cafwyd amrywiaeth ardderchog o luniau ac roedd yn amlwg fod y plant wedi gweithio’n galed iawn.”
Prif enillydd y gystadleuaeth oedd Antonio Price, sy’n ddisgybl blwyddyn 3. Cafwyd nifer o enillwyr eraill hefyd, sef: Jake Watson, Autumn Golding, Leoni Beard, Kitty Tindall, Chole Dilworth, Katie Boyle, Jack John, Lucy Mottram, Lewys Gibby, Ellie Griffiths, a Lewis Worral. Derbyniodd yr enillwyr wobrau a oedd wedi cael eu cyfrannu gan fusnesau lleol.
Bydd y posteri yn cael eu harddangos yn yr ysgol ac mewn clybiau ieuenctid a siopau lleol.
5/3/08

Gall ychydig o eiriau fod mor beryglus ag ychydig o ddiodydd, yn ôl swyddog heddlu diogelwch ar y ffyrdd. Yn ystod mis Mawrth mae Heddlu’r De wedi lansio ymgyrch yn erbyn modurwyr sy’n defnyddio’u ffôn symudol wrth yrru.
Barn yr Arolygydd Diogelwch ar y Ffyrdd, Carwyn Evans, yw bod pobl sy’n defnyddio’u ffôn wrth yrru lawn mor ddi-hid â’r rhai sy’n yfed a gyrru.
“Os byddwch chi’n defnyddio ffôn symudol wrth yrru, bydd hynny’n tynnu’ch sylw ac yn effeithio ar gyflymder eich ymateb. Does dim ots a yw’r ffôn wrth eich clust neu a ydych chi’n tecstio ar eich arffed: allwch chi ddim canolbwyntio ar eich gyrru a bydd eich canfyddiad o beryglon a’ch adwaith i’r peryglon hynny dipyn yn arafach.”
“Gall defnyddio ffôn symudol achosi gwrthdrawiadau angheuol. Mewn gair, mae’n beryglus ac yn anghyfrifol. Rydyn ni am i ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru fod yr un mor annerbyniol i gymdeithas ag yfed a gyrru. Cael ei erlyn fydd hanes pawb sy’n cael ei ddal yn defnyddio’i ffôn symudol wrth yrru.”
Caiff gyrwyr sy’n cael eu dal yn siarad neu’n tecstio ar ffôn symudol wrth yrru eu stopio. Fe gân nhw gosb benodedig – dirwy o £60 – a thri phwynt ar eu trwydded.
Mewn rhai achosion, gall enw’r modurwr gael ei anfon ymlaen i lys ynadon er mwyn i’r modurwr gael ei wysio. Gallai wynebu dirwy o £1,000.
Ac mewn rhai achosion lle mae modurwyr yn defnyddio ffôn symudol ac yn gyrru’n beryglus, gallen nhw hyd yn oed gael eu carcharu am hyd at ddwy flynedd.
Meddai’r Arolygydd Evans: “Bydden ni hefyd yn annog modurwyr i ddilyn canllawiau Rheolau’r Ffordd Fawr a pheidio â gwneud pethau fel yfed, smygu a bwyta wrth y llyw.
“Er nad ydy’r un o’r pethau hynny’n benodol anghyfreithlon, byddan nhw’n tynnu’ch sylw ac fe allen nhw olygu na fyddwch chi’n cadw rheolaeth go iawn ar eich cerbyd. Gallech chi gael eich dirwyo am hynny.”
Llwytho taflen i lawr
3/3/08

| 26 Mawrth |
Sir Gaerfyrddin - Morrisons, Caerfyrddin |
| 27 Mawrth |
Sir Gaerfyrddin - Tesco, Trostre Llanelli |
| 28 Mawrth |
Sir Gaerfyrddin - Co-op, Rhydaman |
| 14 Mai |
Rhondda Cynon Taf |
| 14 Mehefin |
Rhondda Cynon Taf |
| 18 Mehefin |
Torfaen |
| 19 Mehefin |
Merthyr Tudful - Asda, Dowlais Top |
| 20 Mehefin |
Caerffili -Tesco, Ystrad Mynach |
| 25 Mehefin |
Caerdydd - Tesco, Culverhouse Cross |
| 26-27 Mehefin |
Pen-y-bont ar Ogwr |
| 2 Gorffennaf |
Rhondda Cynon Taf |
| 4 Gorffennaf |
Torfaen |
Cysylltwch â’ch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol i gael y manylion.
22/2/08
Mae pobl sy'n dymuno diweddaru neu wella'u sgiliau gyrru yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cwrs gloywi. Mae'r cwrs yn addas i yrwyr aeddfed sydd, o bosib, heb yrru ers tro, ac mae angen iddynt adennill eu hyder ar yr heol.
"Mae ymwybyddiaeth o ddiogelwch ffyrdd yn un o flaenoriaethau'r cwrs," meddai Arwyn Woolcock, Aelod y Cabinet dros Briffyrdd, "a bydd o fudd mawr i drigolion sy'n awyddus i wella'u sgiliau gyrru.
"Mae'r cwrs yn ystyried ffyrdd o wella gwybodaeth am beryglon ar yr heol ac agweddau at yrru, ac mae'n rhoi hyder mewn meysydd ansicrwydd."
Mae trigolion Castell-nedd Port Talbot yn gallu cymryd rhan am ddim ac mae'r cwrs yn cynnwys arweiniad gan gyn-yrrwr yr heddlu a chanddo lefel uchel o hyfforddiant, optegydd lleol a chyfle i gael sesiwn yrru un awr gyda hyfforddwr cymeradwy.
Un o brif nodau'r cwrs yw lleihau damweiniau ar y ffordd a sicrhau bod y ffyrdd yn fwy diogel i bawb.
Ychwanegodd y Cynghorydd Woolcock, " Mae'n esiampl wych o'r cyngor yn gofalu am les pob adran o'n cymuned.
"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd aelodau hwn y gymuned a'r angen i ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer.
"Mae'r cynllun hwn yn ffordd wych o wella sgiliau gyrru a hybu diogelwch ffyrdd."
30/1/08
Bum mlynedd ar hugain ar ôl ymgyrch lwyddiannus RoSPA o blaid cyflwyno’r ddeddf gyntaf ynghylch gwisgo gwregysau diogelwch, mae rhyw 370 o bobl y flwyddyn yn dal i gael eu lladd mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd am nad ydyn nhw’n gwisgo gwregys diogelwch.
Er i wregysau diogelwch arbed ymhell dros 50,000 o fywydau ers 1983, dywed Steve Baker, Pennaeth RoSPA Cymru, mai’r “ffaith syfrdanol amdani yw bod lleiafrif styfnig o bobl yn dal i beidio â gwisgo’u gwregys diogelwch pan fyddan nhw’n mynd i mewn i gerbyd. Mae’r ymchwil yn dangos nad yw rhyw draean o’r rhai sy’n cael anafiadau angheuol wrth deithio mewn ceir yn gwisgo gwregysau diogelwch.
“Mae angen i ni ddeall pam nad yw’r neges yn treiddio i’w meddwl, a sicrhau y caiff ymgyrchoedd eu targedu’n rheolaidd er mwyn i nifer y marwolaethau a’r anafiadau ddal i ostwng.
“Hwyrach mai’r hyn sy’n digwydd yw bod pobl yn anghofio gwisgo’u gwregysau diogelwch, a bod angen eu hannog i feithrin yr arfer. Gall eraill deimlo, efallai, nad oes angen eu gwisgo neu nad yw’n ‘cwl’ iddyn nhw wneud hynny. Efallai ei bod hi’n bryd ystyried rhoi tri phwynt cosb i yrwyr os byddan nhw’n methu â gwisgo’u gwregysau diogelwch.”
Daeth y ddeddf gyntaf ynghylch gwregysau diogelwch i rym 25 mlynedd yn ôl ar Ionawr 31 wedi i Lywydd RoSPA ar y pryd, yr Arglwydd Nugent o Guildford, gynnig gwelliant i’r Mesur Trafnidiaeth yn Nhy’r Arglwyddi ac ennill y ddadl o blaid gwneud gwisgo gwregys diogelwch ar y seddau blaen mewn ceir yn orfodol. Ym 1991 cafwyd deddf a’i gwnaeth hi’n orfodol gwisgo gwregysau diogelwch yng nghefn ceir.
“Diolch i ymdrechion RoSPA a’r Arglwydd Nugent, mae gwregysau diogelwch wedi arbed miloedd o fywydau,” meddai Steve Baker. “Yn anffodus, er bod rhyw 94 y cant o bobl yn nhu blaen ceir yn gwisgo’u gwregysau diogelwch – ac mae hynny’n dal i fod yn rhy isel – dim ond rhyw 70 y cant o oedolion sy’n eu gwisgo yn y cefn.
“Fel y mae hysbysebion teledu wedi dangos, gall teithiwr sydd heb fod yn gwisgo gwregys diogelwch ar sedd gefn gael ei daflu ymlaen a lladd rhywun sydd yn nhu blaen y car. Os na fyddwch chi’n gwisgo gwregys diogelwch, a chithau mewn gwrthdrawiad ar 30 milltir yr awr, cewch eich taflu ymlaen â grym o rhwng 30 a 60 gwaith pwysau’ch corff.
“Mae problem fawr hefyd gyda gyrwyr faniau (cyfradd wisgo o 69 y cant) a’u teithwyr (58 y cant) ac mae angen i gyflogwyr wneud rhagor i sicrhau bod eu gyrwyr a’u gweithwyr eraill yn gwisgo’u gwregysau diogelwch.
“Mae deddfau diweddar ynghylch seddau ceir wedi gwneud rhagor i ddiogelu plant, ond mae angen i oedolion osod esiampl drwy wisgo’u gwregysau diogelwch eu hunain er mwyn i blant ddeall gwir werth y gwregysau hynny pan fyddan nhw’n tyfu’n rhy fawr i eistedd ar sedd plentyn.”
www.thinkseatbelts.com
29/1/08
Sut fyddech chi’n hoffi cael eich wynebu gan un o’r rhain? Offer torri hydrolig yw hwn, a chaiff ei ddefnyddio gan ddiffoddwyr tân i ryddhau clwyfedigion o geir. Yn anffodus, mae’n olygfa sy’n llawer rhy gyfarwydd i’r diffoddwr tân heddiw. Lladdwyd 163 o bobl ar ffyrdd Cymru yn 2006, a thra bod y ffigwr hwn 17 (9.4 y cant) yn llai nag yn 2005; mae’r ffigyrau’n dal i fod yn ddychrynllyd. Mae diffoddwyr tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn rhoi rhybudd hollol i yrwyr dros y misoedd sydd i ddod.
Dywedodd Wyn Cornelius, gan siarad ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:
“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dal i weithio ar gynlluniau i leihau gwrthdrawiadau ar y ffordd, mewn partneriaeth gyda Swyddogion Diogelwch ar y Ffordd yr Awdurdod Lleol, yr Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans ac asiantaethau eraill. Rydym yn ymwneud â chynlluniau newydd ac arloesol mewn ysgolion a cholegau i leihau, trwy addysg, hyfforddiant a chyhoeddusrwydd, y lladdfeydd a welwn yn rheolaidd ar ein ffyrdd. Un o’r mwyaf blaenllaw yw Pass Plus Cymru - cynllun newydd cyffroes, a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i roi gwybodaeth ychwanegol a hyfforddiant i yrwyr sydd newydd basio’u prawf, sef grwp o ddefnyddwyr y ffordd sydd wrth risg yn arbennig ar ffyrdd ein cymunedau.
Llaw yn llaw gyda'n gwaith addysgol, mae’r gwelliannau a wnawn i ochr weithredol ein busnes, fel y gallwn ddarparu gwasanaeth uwch ar leoliad unrhyw wrthdrawiad ar y ffordd. Mae’r mesurau yma’n cynnwys gwell hyfforddiant mewn technegau rhyddhau ac uwchraddio ein fflyd bresennol gyda’r dechnoleg achub ddiweddaraf.
Gan ddwyn yr uchod i gof, rydym yn cydnabod bod gyrru yn y Gaeaf yn cyflwyno sialensiau ychwanegol i holl ddefnyddwyr y ffordd a gobeithir, trwy ddilyn y cynghorion synnwyr cyffredin yma, na fyddwch chi angen ein gwasanaethau na gwasanaethau ein partneriaid.”
Yrru yn y Gaeaf
25/1/08
Mae Cyngor Sir Penfro’n cynnig gwasanaeth sicrhau bod sedd car eich plentyn wedi’i gosod yn gywir i bob rhiant, tadcu, mamgu a gofalwr plant ym:
Maes Parcio Tesco Hwlffordd rhwng
9.00am - 4.00pm 6th Chwefror 2008
Maes Parcio Tesco Doc Penfro rhwng
9.00am - 4.00pm 7th Chwefror 2008
Maes Parcio West Street, Abergwaun rhwng
9.00am - 4.00pm 8th Chwefror 2008
Bydd swyddogion hyfforddedig wrth law i gynnig cyngor yn rhad ac am ddim.
Mae sedd car plentyn sydd wedi’i gosod yn anghywir yn cynnig ychydig os nad dim amddiffyniad i’ch plentyn.
Noddir y digwyddiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i drefnu gan Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Penfro. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Yr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Neuadd y Sir, Hwlffordd 01437 775144
17/1/08
Bu gostyngiad yng nghanran y bobl gafodd eu dal yn yfed a gyrru dros gyfnod y Nadolig o'i gymharu â'r llynedd. Yn ôl ffigyrau'r heddlu fe wnaeth 3% o'r rhai gafodd eu stopio, fethu eu prawf anadl. Mae hynny'n cymharu â 5.2% ar gyfer yr un cyfnod y llynedd (2006-7)
Cafodd 19,554 o yrwyr eu stopio ym mis Rhagfyr a mis Ionawr, gyda 587 yn methu'r prawf anadl. Dywed yr heddlu fod y ffigyrau yn galonogol ond ei bod yn annerbyniol fod bron i 600 o yrwyr wedi anwybyddu'r peryglon.
Dywedodd yr Arolygydd Carwyn Evans o Heddlu De Cymru nad oes yna le i lesu dwylo.
"Mae'n annerbyniol fod 600 o yrwyr wedi penderfynu anwybyddu rhybuddion a heb ystyried diogelwch eu hunain a phobl eraill."
Ardal Heddlu Gwent oedd yr ardal gyda'r canlyniadau gwaethaf, yno fe fethodd 4.7% brawf anadl. Heddlu'r Gogledd oedd â'r canran isa, 2.1%.
Dywed yr heddlu eu bod yn poeni am y nifer o yrwyr ifanc oedd wedi bod yn yfed.
"Ar gyfartaledd roedd 35% o'r rhai fethodd dan 25 oed," meddai'r Arolygydd Evans.
"Mae diffyg profiad wrth yr olwyn ag alcohol yn gyfuniad peryglus sy'n arwain at farwolaethau ar y ffyrdd."
Yn ystod yr un cyfnod cafodd 23 o bobl eu harestio am yrru dan ddylanwad cyffuriau.
YMGYRCH YFED A GYRRU 2007
Gogledd Cymru: 6,986 wedi eu profi, 145 yn bositif (2.1%)
De Cymru: 5,901 wedi eu profi, 209 yn bositif (3.5%)
Gwent: 3,136 wedi eu profi, 147 yn bositif (4.7%)
Dyfed-Powys: 3,531 wedi eu profi , 86 yn bositif (2.4%)
Ffynhonnell: Heddluoedd Cymru
3/1/08
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio'n glos hefo Heddlu Gogledd Cymru mewn ymdrech i leihau damweiniau ar hyd 1400km o ffyrdd o fewn y Sir.
Caiff pob damwain eu cyfrif a'u hymchwilio i ganfod yr achos a nodi unrhyw dueddiad. Pan yn bosibl, caiff trefniadau peirianyddol eu rhoi mewn lle i leihau risg o unrhyw ddamweiniau yn y dyfodol.
Mae saith cynllun mewn lle o fewn Sir Ddinbych i godi ymwybyddiaeth o yrwyr, beicwyr modur a cherddwyr a hyrwyddo diogelwch y ffordd. Y cynlluniau cyfredol yw : Asesiad am ddim i bobl dros 55 oed
Gall dynion a merched 55 a throsodd gael asesiad gyrru am ddim gan y gwasanaeth Wales Mobility and Driving Assesment Service.
Cliciwch ar y linc ar waelod y dudalen hon i gael mwy o wybodaeth a ffurflen gais.