Diogelwch Ffyrdd Cymru
23/11/07
Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru (y DSA) wedi agor Canolfan Amlbwrpas Profion Gyrru yng Ngwent, y gyntaf o’i bath yng Nghymru. Mae canolfan Casnewydd yn un o rwydwaith cenedlaethol ohonynt sy’n cael eu datblygu gan y DSA i gynyddu diogelwch ar y ffyrdd, a hynny drwy gynnwys gofod ynddi ar gyfer gofynion y Prawf newydd ar Feiciau Modur (a ddaw i rym yn 2008) a darparu gwell cyfleusterau i’r cwsmeriaid.
Yn Stephenson Street, Casnewydd, NP19 4XH, y mae’r Ganolfan newydd.
 |
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol dros Gludiant,
Jim Fitzpatrick AS, wrthi’n agor y ganolfan brofi newydd yng Nghasnewydd. |
7/11/07
Bu dwy ddamwain ar yr un rhan o'r ffordd ddydd Sul
Mae uwchswyddog Heddlu'r Gogledd yn dweud y dylid ystyried gwahardd beiciau modur o ardaloedd y Parciau Cenedlaethol wedi nifer o farwolaethau.
Daw sylwadau'r Prif Uwcharolygydd Geraint Anwyl Williams ar ôl i dri beiciwr gael eu lladd dros y Sul. Dywedodd fod "nifer sylweddol" o feicwyr yn anwybyddu rhybuddion cyflymder.
Dylid ystyried, meddai, wahardd beiciau modur ar adegau penodol.
Y Stori Lawn»
7/8/07
Mae nifer y damweiniau sy'n ymwneud â beicwyr modur yn goryrru wedi cynyddu 50% mewn dwy flynedd ym Mhowys.

Oherwydd hyn mae'r heddlu wedi ail lansio ymgyrch i leihau'r cyflymder.Caiff arwyddion diogelwch melyn eu gosod ar brif ffyrdd gan nodi nifer y damweiniau yn yr ardal.
Credir bod ymgyrch debyg yn 2004 wedi helpu lleihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig gyda beiciau modur.Y llynedd roedd 'na 82 damwain beic o'u cymharu â 68 yn 2005 a 54 yn 2004.
Mae'r heddlu, swyddogion y cyngor, y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth ambiwlans yn cydweithio gyda'i gilydd ym Mhartneriaeth Diogelwch Ffyrdd Powys.
Ffyrdd diogel
Yn aml ar benwythnosau ac yn ystod yr haf mae beicwyr yn heidio i Bowys o dde Cymru a chanolbarth Lloegr.Ond mae swyddogion yn bryderus bod nifer y marwolaethau yn cynyddu yn y sir.
"Mae Powys yn lle poblogaidd ymhlith beicwyr am fod 'na ffyrdd tawel a golygfeydd godidog," meddai'r Cynghorydd Gwilym Evans, sy'n gyfrifol am ddiogelwch ffyrdd ym Mhowys. Mae beicwyr yn dod yma o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Er ein bod yn croesawu pob ymwelydd, mae angen gwneud yn siwr bod ein ffyrdd mor ddiogel â phosib i bob defnyddiwr."
Hyd yma eleni mae 'na 10 person wedi marw o fewn ardal Heddlu Dyfed Powys oherwydd damwain beic modur, chwech ym Mhowys.