Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru

Archif Newyddion - 2007

Cerddwyr

Cerdded Amdani gyda Henson y Draenog

2/11//07
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, cerddodd dros 2000 o ddisgyblion i’r ysgol gyda Henson y Draenog ym mis Hydref i gefnogi Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol. I’w hysgogi, rhedodd y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd gystadleuaeth i ddod o hyd i’r ysgol sydd â’r ganran fwyaf o ddisgyblion a oedd yn cymryd rhan. Eleni, dyfarnwyd y wobr i Ysgol Gynradd Pont-rhyd-y-fen gan i gynifer ag 87% o’r disgyblion ymuno â’r daith gerdded.

pontrhydyfen

Wrth siarad ar ran Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, meddai’r Cynghorydd Woolcock, Llefarydd Bwrdd y Cabinet dros Ofal Strydoedd a Gwasanaethau Priffyrdd, “Rwyf wrth fy modd â’r gefnogaeth mae ysgolion ledled y fwrdeistref wedi’i dangos. Mae’n beth braf iawn bod dros 2000 o ddisgyblion wedi cymryd rhan mewn digwyddiad mor fuddiol. Fe hoffwn i, yn arbennig, longyfarch disgyblion, rhieni a staff Ysgol Gynradd Pont-rhyd-y-fen ar wneud ymdrech mor aruthrol ac am gipio’r wobr yn haeddiannol iawn eleni.”


Lliwgar a llacher ddydd a nos

24/10/07

Lliwgar a llacher ddydd a nos'Byddwch yn ddiogel yn y tywyllwch' - dyna neges glir Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth iddi ddechrau nosi'n gynt.

Wrth droi'r clociau nôl y penwythnos hwn, atgoffir rhieni fod y boreau a'r nosweithiau tywyll yn golygu bod plant yn fwy diamddiffyn ar ein ffyrdd gan nad ydynt mor hawdd eu gweld gan fodurwyr. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn gwisgo dillad llachar ac yn cymryd mwy o ofal pan fyddant yn mynd o gwmpas y lle.

Dylai beicwyr hefyd fod yn ymwybodol o'r ffaith fod mynd ar feic heb olau yn drosedd a dylent sicrhau bod y goleuadau cywir ar eu beic - a'i bod yn hawdd i ddefnyddwyr eraill y ffordd eu gweld yn glir.

Mae dillad llachar fflworoleuol i'w gweld orau yn ystod y dydd, yn enwedig mewn tywydd mwll a niwlog ond nid ydynt mor amlwg ar ôl iddi dywyllu. Fin nos dillad llachar sydd orau am fod modd eu gweld yn lampau'r ceir, a gellir rhoi tâp llachar ar ddillad a bagiau ysgol.

Anogir gyrwyr i gynllunio eu siwrneiau'n ofalus i ystyried y gwahaniaeth yn yr amser gan ei bod yn tywyllu'n gynharach ac yn hwyrach yn y bore a fin nos, ac mae angen iddynt fod yn ymwybodol y gall gymryd ychydig yn fwy o amser i deithio.

Mae gan Draffig Cymru, gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cynulliad Cymru, rif ffôn brys 0845 lle gall gyrwyr siarad â gweithredwr ystafell reoli ynghylch y sefyllfa ar y ffyrdd a'r traffig sydd ar y rhwydwaith ar y pryd.

Mae eu gwefan www.traffic-wales.com hefyd yn cynnig gwasanaeth rhybuddion e-bost ac SMS am ddim os cofrestrwch eich siwrneiau a'u hamseroedd.

Poster pdf


Wythnos Ryngwladol Cerdded i'r Ysgol

9/10/07

leafletMae'r daith i'r ysgol yn rhan fawr o'r traffic oriau brig. Mae'n achosi tagfeydd, llygredd a pherygl y tu allan i'r rhan fwyaf o ysgolion.


Cynhelir Wythnos Ryngwladol Cerdded i'r Ysgol bob mis Hydref ac mae'n rhoi'r cyfle i blant, rhieni, athrawon ac arweinwyr y gymuned fod yn rhan o ddigwyddiad byd eang wrth iddynt ddathlu holl fanteision cerdded. Yn 2006, cerddodd tua 3 miliwn o gerddwyr o 36 gwlad i'r ysgol gyda'i gilydd am amryw o resymau - oll yn gobeithio creu cymunedau sy'n ddiogel i gerdded ynddynt.

Gobeithir y bydd mwynhau cymryd rhan yn y digwyddiadau hyrwyddol hyn yn annog rhieni a disgyblion i ystyried defnyddio cerdded fel ffordd fwy dymunol o deithio i'r ysgol.

Gwefan Wythnos Ryngwladol Cerdded i'r Ysgol


Olion Traed i'r Sêr

31/8/07

Olion Traed i'r Sêr'Olion Traed i'r Sêr' yw'r cynllun newydd sydd wedi'i sefydlu drwy bartneriaeth rhwng yr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd a Sinema'r Apollo yn Aberfan, Port Talbot. Fe'i sefydlwyd i annog rhagor o blant i gerdded i'r ysgol a rhoi ysgogiad iddynt i wneud hynny.

Mae rhyw 5000 o blant yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael cerdyn â 30 o olion traed arno. Os bydd plentyn yn cerdded i'r ysgol, bydd yr athro neu'r athrawes yn llofnodi un o'r olion traed ar y cerdyn. Ar ôl i bob un o'r 30 o olion traed gael ei lofnodi i ddangos bod y plentyn wedi cerdded 30 o droeon, caiff y cerdyn ei ddychwelyd i'r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd a chaiff y plentyn brawf iddo neu iddi gyflawni'r gamp. Caiff felly fynediad am ddim i Glwb Dydd Sul y sinema.


Prawf ar Gof Disgyblion Ysgol Rhaglan

14/6/07

Yn ddiweddar, gofynnwyd i ddisgyblion Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd Rhaglan alw i gof yr egwyddorion roedden nhw wedi’u dysgu bron i bum mlynedd yn ôl.kerbcraft_ rhaglan

Pan sefydlwyd Cynllun Kerbcraft yn Sir Fynwy, nhw oedd rhai o’r plant cyntaf i gael yr hyfforddiant. A hwythau’n 5 a 6 oed, gofynnwyd iddyn nhw ble oedd dod o hyd i leoedd mwy diogel i groesi’r ffordd. Os nad oedd lleoedd felly ar gael, fe ddangoswyd iddyn nhw’r ffordd gywir i groesi’n fwy diogel wrth geir a oedd wedi’u parcio ac wrth gyffyrdd.

Y cwestiwn oedd a fydden nhw’n dal i gofio hynny i gyd ar ôl pum mlynedd? Rhoddwyd prawf ar aelodau o’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd, Gwirfoddolwyr Kerbcraft ac, wrth gwrs, y plant eu hunain.

Y dasg a gawson nhw oedd dod o hyd i lwybr diogel drwy’r pentref ac yn ôl i’r ysgol ac arwain yr oedolion yn ddiogel ar hyd y llwybr hwnnw. Yn ogystal â mynd heibio i geir a oedd wedi’u parcio a chadw llygad ar y traffig, fe lwyddon nhw hefyd i achub ci bach a oedd wedi rhedeg allan o ardd ac ar fin rhedeg i’r ffordd. Drwy blymio’n ddwfn i gilfachau’r cof, fe gofion nhw’r holl egwyddorion roedden nhw wedi’u dysgu flynyddoedd ynghynt: fe lwyddon nhw i ddatrys problemau, asesu risgiau, cynllunio’u llwybr, a thywys yr oedolion yn ddiogel yn ôl i’r ysgol.

Camp a hanner!


Plant yng Nghastell-nedd Port Talbot yn Dathlu eu Llwyddiant yn Kerbcraft

4/6/07

kerbcraft ym mharc margamI ddathlu pum mlynedd lwyddiannus o roi hyfforddiant Kerbcraft i blant sy’n cerdded, bu rhyw 1500 o blant o ysgolion Castell-nedd Port Talbot ar daith gerdded 2.5km o hyd o amgylch Parc Gwlad Margam. Arweiniwyd y daith noddedig gan Henson Hedgehog, masgot diogelwch ar y ffyrdd Castell-nedd Port Talbot.

Mae bron 2,000 o blant lleol wedi cymryd rhan yn y cynllun hyd yn hyn, ac mewn digwyddiad cyflwyno yn Orenfa Margam cafodd pob un o’r 29 o ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun blaciau i’w hanrhydeddu. Ewch i Kerbcraft i gael gwybod rhagor amdano.


Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu’n Gweithredu’n Fyd-eang i wella Diogelwch y Ffyrdd

21/5/07

kercraft_gan_ swyddog_ cymorth_ cymunedol_ yr_ heddluYmunodd tri o swyddogion Cymorth Cymunedol Heddlu Gwent â Catherine Levy, Cydlynydd Kerbcraft Casnewydd, yn Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant i helpu ymgyrch y Cenhedloedd Unedig i hyrwyddo Wythnos Fyd-eang Diogelwch ar y Ffyrdd.

Helpodd y tri swyddog, sef Lowri James, Jamie Cooper a Si Khan, i hyfforddi plant o ddosbarth Blwyddyn 1 drwy ddangos iddyn nhw sut mae dod o hyd i le diogel i groesi’r ffordd, sut mae croesi’n ddiogel wrth gyffordd, a sut mae croesi rhwng ceir sydd wedi’u parcio os nad oes lle diogel arall i groesi.

Meddai Catherine Levy, sy’n rheoli’r Cynllun Kerbcraft yng Nghasnewydd: “Roedd hi’n beth braf iawn cael cymorth y tri swyddog yn Ysgol Gynradd Dewi Sant, a gobeithio y gallan nhw fy helpu i fynd â’r cynllun gwerthfawr hwn ymlaen i ysgolion eraill yn ardal Casnewydd. Am fod Kerbcraft yn gosod sylfeini arferion da o ran diogelwch ar y ffyrdd, gall plant ddilyn yr arferion hynny weddill eu hoes.”


Gwobr Ymgyrchu

11/5/07

ymgyrch igam-ogam AbertaweTîm diogelwch ar y ffyrdd Abertawe sydd wedi ennill gwobr LARSOA am ymgyrch y chwarter o fis Ionawr tan fis Mawrth 2007, a hynny am ei ymgyrch ‘igam-ogam dynol’.

Yn ystod yr ymgyrch, fe safodd rhai o ddisgyblion Ysgol Gynradd Sain Helen ac aelodau o dîm diogelwch ar y ffyrdd Abertawe ar y marciau ffyrdd i dynnu sylw at beryglon y bydd rhieni’n eu creu wrth barcio wrth glwyd yr ysgol. Defnyddiwyd y llun ar boster ac arno’r slogan ‘Would you park on these Zig Zags?' Cafodd pob ysgol yn Abertawe gyflenwad o gopïau o’r poster, a baner i’w harddangos ar ei rheiliau gwarchod.

Meddai Jeff Green, Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd: "Gobeithio y bydd yr ymgyrch bosteri’n tynnu sylw at y broblem ac yn gwneud i fodurwyr feddwl ddwywaith cyn parcio wrth glwydi ysgolion."

 


Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.