Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru

Archif Newyddion - 2007

Gyrwyr

Gallai’r ddiod honno ddod rhyngot ti a’r Nadolig!

20/12/07

Gyda’r Nadolig yn nesáu, cofia, mae’n cymryd llai nag rwyt ti’n ei feddwl i gael dy ddal yn yfed a gyrru. Gallai dim ond un ddiod feddwol fod yn ormod!

Breath Test

Gallai gael cosb am yfed a gyrru ddifetha dy fywyd……………

Drwy yrru ar ôl cael diod neu ddwy, gallet gael:

  • Dy ddal gan yr heddlu a chael prawf anadl
  • Dy wahardd rhag gyrru am 12 mis
  • Cofnod troseddol
  • Dirwy sylweddol
  • Problemau oherwydd y newid mawr yn dy ffordd o fyw, ee methu gyrru dy hun o gwmpas, colli dy waith, neu hyd yn oed broblemau o ran perthynas

Felly beth rwyt ti’n mynd i’w wneud?  Cael diod arall?


Ymgyrch Peidio ag Yfed a Gyrru
12/12/2007

Winners of the competition pictured with the Mayor and Mayoress of Neath Port Talbot Council Mae pobl ifanc Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi'r ymgyrch a gynhelir ar draws Cymru i beidio ag yfed a gyrru a gostwng nifer y marwolaethau ar y ffyrdd.Bu mwy na 1000 o ddisgyblion yn cystadlu mewn cystadleuaeth i gynyddu ymwybyddiaeth am beryglon yfed a gyrru, yn enwedig dros yr tyl.

Wedi'i rhedeg gan dîm diogelwch ffyrdd y Cyngor, gofynnodd yr ymgyrch i ddisgyblion ddylunio posteri arbennig i berswadio pobl i adael eu ceir gartref yn ystod hwyl yr tyl.

Mae'r holl bosteri a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn cael eu harddangos yn adeiladau dinesig Castell-nedd Port Talbot.

Mewn seremoni gyflwyno arbennig yr wythnos hon gydag Anthony Taylor, Maer y Fwrdeistref Sirol, derbyniodd yr enillwyr a'r rhai a ddaeth yn ail eu gwobrau a llongyfarchiadau gan y Maer.

Mae diogelwch cymunedol yn uchel ar agenda'r Cyngor ac mae ymgyrch tîm diogelwch ffyrdd yn lledaenu'r neges mai po fwyaf o bobl sy'n gadael eu ceir gartref wrth fynd i bartïon Nadolig, mwyaf diogel fydd yr heolydd i bawb.

Meddai'r Cynghorydd Taylor, "Gall yfed a gyrru fod yn farwol. Mae'r ymgyrch hon yn ceisio dangos peryglon yfed a gyrru.

"Mae'r meddwl sydd wedi mynd i mewn i ddylunio'r posteri yn pwysleisio'n eglur beryglon yfed a gyrru ac yn atgyfnerthu'r neges nad yw hyn yn opsiwn o gwbl."


Colli Bywyd, Colli Gwaith?

5/12/07

Gyda’r Nadolig yn prysur nesáu, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn atgoffa pobl bod yfed a gyrru yn gallu difetha eu bywyd ac yn gallu lladd.

I adlewyrchu rhai o'r agweddau gwahanol ar yfed a gyrru, bydd Tîm Diogelwch ar Ffyrdd Llywodraeth y Cynulliad, yr Heddlu, swyddogion Diogelwch Ffyrdd Cymru a chynrychiolwyr o'r Awdurdodau Lleol, yn cydweithio i gynghori gyrwyr i fod yn wyliadwrus o'r demtasiwn i gael 'un ddiod gyflym', oherwydd gall un ddiod feddwol fod yn ormod.

Dylai gyrwyr ledled Cymru gofio ei re u amhosibl iddynt fesur faint o alcohol y gallant ei yfed cyn gyrru. Gall hyd yn oed un neu ddwy o ddiodydd effeithio re u gallu I yrru.
 
Dywedodd Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

Nid dim ond bywydau sy’n cael eu colli yn sgil yfed a gyrru, ac felly rwy’n annog gyrwyr I adael eu ceir gartref os ydynt yn mynd allan I gymdeithasu dros y Nadolig. Mae'n amhosibl I chi wybod faint o alcohol sy’n ormod I chi cyn gyrru, felly yr unig ddewis diogel yw peidio ag yfed a gyrru.

Stori Lawn: Colli Bywyd, Colli Gwaith?


Yfed a gyrru: 'Difetha bywydau'

4/12/07
Breath Test

Fe fydd mwy o yrwyr yn cael prawf anadl a cherbydau'n cael eu harchwilio 24 awr y dydd wrth i'r heddlu gychwyn ymgyrch i leihau'r nifer sy'n yfed a gyrru. Dywedodd y pedwar llu yng Nghymru mai lleiafrif o yrwyr sy'n credu bod modd iddyn nhw dorri'r gyfraith. Yn ystod cyfnod Nadolig 2006 cafodd 14,000 o bobl brawf anadl ac fe gafodd 600 o yrwyr eu gwahardd.

"Rydych mewn peryg o ladd eich hun, eich teithwyr a defnyddwyr ffordd diniwed eraill," meddai'r Arolygydd Carwyn Evans o Heddlu De Cymru. Rydym wedi ymrwymo i addysgu gyrwyr ond peidiwch â chamgymryd, rydym hefyd yn ymroi i gadw at y ddeddf yfed a gyrru."

Gadael y car

Caiff cyfres o hysbysebion eu dangos ar y teledu eleni yn rhybuddio bod yfed a gyrru yn gallu arwain at golli trwydded, swydd a dirwy sylweddol.

"Mae yfed a gyrru yn arwain at golli mwy na dim ond bywydau a dwi'n annog pawb i gadw eu ceir adref os ydyn nhw wedi bod yn cymdeithasu ac yn dathlu dros y Nadolig," meddai dirprwy Brif Weinidog Cymru a Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, Ieuan Wyn Jones.

"Mae'r gyrwyr sy'n yfed yn peryglu eu hunain ac eraill a does 'na ddim lle iddyn nhw ar ffyrdd Cymru."

Dywedodd Giles York, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru: "Y llynedd cafodd dros 14,000 o yrwyr brawf anadl. Ein neges, felly, i yrwyr yw: 'Peidiwch yfed a gyrru neu fe gewch eich dal'."


Y Gweilch yn Cefnogi Ymgyrch y Cyngor yn erbyn Yfed a Gyrru

4/12/07

OspreysWrth i’r Nadolig nesáu, mae sêr rygbi’r Gweilch yn cefnogi’r ymgyrch y mae Cyngor Abertawe wedi’i lansio yn erbyn yfed a gyrru. Mae’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd sydd gan y Cyngor wedi lansio’r ymgyrch mewn ymgais i annog modurwyr i osgoi yfed alcohol os byddan nhw’n gyrru.

Mae swyddogion diogelwch ar y ffyrdd wedi ymweld â channoedd o dafarnau a chlybiau yn y ddinas i ddosbarthu eitemau arbennig sy’n cyfleu’r neges bwysig am ‘beidio ag yfed a gyrru’.

Meddai Ashleigh Walters, Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Abertawe, “Gan fod y Nadolig bob amser yn amser prysur i dafarnau cylch Abertawe, ein nod ni yw cael perswâd ar bobl i beidio ag yfed alcohol os bydd y car gyda nhw. Gobeithio y bydd gweld y neges o’u blaen pan ddôn nhw at y bar yn gwneud iddyn nhw feddwl ddwywaith.”

Mae Clwb Nos Play yn Salubrious Passage yn cefnogi’r ymgyrch. Meddai Harry Holliday, Rheolwr Play, “Rydyn ni eisoes yn gweithredu cynllun y gyrrwr dynodedig ac yn rhoi diodydd meddal am ddim i yrwyr pan ddôn nhw i’r clwb. Rydyn ni gant y cant o blaid yr ymgyrch newydd yma ac yn gobeithio y bydd pobl yn gweithredu’n gyfrifol wrth yrru cerbyd.”

Mae’r Gweilch yn cefnogi’r ymgyrch i’r carn. Yn ôl Huw Bennett, seren rygbi Cymru a’r Gweilch, “Mae hon yn neges bwysig y mae angen i ni ei chyfleu i bobl. Nid yn unig y mae yfed a gyrru’n anghyfreithlon ond mae’n rhoi bywydau pobl mewn perygl. Nid adeg y Nadolig yw’r unig amser y mae angen i fodurwyr weithredu’n gyfrifol. Mae angen iddyn nhw wneud hynny ar hyd y flwyddyn.”

Meddai John Hague, yr Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd, “Mae hon yn ymgyrch ragorol. Gobeithio y bydd holl dafarnau a chlybiau Abertawe yn ei chefnogi ac yn ein helpu ni i gael pobl i beidio ag yfed a gyrru.”


Bandiau ysgol yn disgleirio mewn Her Cerddoriaeth Wrth-Yfed a Gyrru

30/11/07

Angels of Chaos 1
Cynhaliwyd ail Her Cerddoriaeth Diogelwch Ffyrdd Gwent nos Lun 26ain Tachwedd yn Theatr y Congress, Cwmbrân. Bu’n noson gyffrous ac yn llawn o hwyl y cystadlu. Ond uwchlaw’r holl hwyl fe drosglwyddwyd neges ddifrifol am beryglon yfed a gyrru.

Aeth un band ar ddeg o ysgolion ledled Gwent i’r afael â’r Her. Roedd pob band wedi cyfansoddi darn o gerddoriaeth ar thema wrth-yfed a gyrru, a hynny’n aml fel rhan o’u gwaith ysgol. Perfformiwyd eu caneuon gerbron panel o bedwar beirniad, a phob beirniad yn arbenigwr ar gerddoriaeth neu ar ddiogelwch ar y ffyrdd.

Cafwyd amrywiaeth mawr o fathau o gerddoriaeth, a pherfformiwyd pob un ohonyn nhw mewn ffordd arbennig o ddawnus a brwd. Tasg anodd i’r beirniaid oedd penderfynu ar y buddugwyr, ond dyma’r canlyniadau a gafwyd yn y pen draw:-

1af, Angel of Chaos o Ysgol Gyfun Glynebwy gyda ‘Just Stop’
Ail, Band Ysgol Abersychan gyda ‘Please Stop This’
3ydd, Diminuendo o Ysgol Gyfun Tredegar gyda ‘Crisis’

Cyflwynodd y Prif Arolygydd John Pavett o Heddlu Gwent y gwobrau, sef £250 yr un i’r band buddugol a’u hysgol. Cafodd y band a ddaeth yn ail, a’u hysgol, £150 a chafodd y band a ddaeth yn drydydd, a’u hysgol, £100. Cafodd rhoddion a chofroddion ychwanegol eu rhoi gan siopau ASDA ym Mryn-mawr, Dyffryn, Coed-duon a Chaerffili.

Gwnaeth y neges gref ac amlwg argraff ar bawb yn y Theatr. Roedd hi’n amlwg bod y myfyrwyr wedi meddwl yn ddwfn am y pwnc ac am y chwalfa emosiynol sy’n digwydd pan fydd gwrthdrawiad ar ôl i bobl fod yn yfed. Wrth grynhoi, fe ddywedodd Dave Powell o Gwent Music (un o’r beirniaid), “Roedd cymaint o ôl meddwl ar y geiriau. Roedden nhw’n cyffwrdd i’r byw, yn enwedig llinell band Ysgol Gorllewin Mynwy, ‘...how can one drink crush 20 people’s lives?’ Gobeithio y bydd ergyd y neges heno’n para am amser hir.”

Angels of Chaos 2

Roedd y band merched ‘Angel of Chaos’ wrth eu bodd â’u buddugoliaeth ac maen nhw wedi cael gwahoddiad i chwarae yn lansiad Ymgyrch Nadolig Cymru yn erbyn Yfed a Gyrru yng Nghaerdydd ddydd Llun 3ydd Rhagfyr.


CSI yn bwrw iddi yn Abertawe

29/11/07


CSI Logo CSI Logo Efallai bod yr enw wedi cyrraedd mwy o benawdau yn Las Vegas ac Efrog Newydd, ond mae CSI Cymru yn Abertawe yn bwriadu bwrw iddi i'r byd go iawn o ddechrau mis Hydref. Menter Cymru gyfan yw Crash Scene Incident sy'n cael ei rhoi ar waith gan dimau diogelwch ffyrdd Cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth gyda'r gwasanaethau brys. Y nod yw lleihau nifer y gwrthdrawiadau sy'n cynnwys gyrwyr ifanc ar ein ffyrdd. Rhan o'r fenter yw ymweld ag ysgolion a cholegau ledled yr ardal i rybuddio pobl ifanc am beryglon gyrru'n beryglus. Yn ystod y digwyddiadau, bydd swyddogion hefyd yn hyrwyddo cynllun hyfforddi Pass Plus Cymru ar gyfer gyrwyr ifanc sydd newydd basio'u prawf.

Yn ystod y sesiynau bydd swyddogion diogelwch ffyrdd Cyngor Abertawe a chynrychiolwyr yr heddlu'n trafod materion megis yfed a gyrru, cyflymder amhriodol a phwysau cyfoedion gyda'r bobl ifanc, tra bod y gwasanaeth tân wrth law i ddangos effaith gwrthdrawiad traffig ffordd drwy ddefnyddio car sydd wedi bod mewn gwrthdrawiad o dan amgylchiadau rheoledig. Bydd y bobl ifanc hefyd yn cael gwybod beth yw canlyniadau gwrthdrawiadau traffig ffordd a'r anawsterau sy'n wynebu'r gwasanaethau argyfwng wrth geisio tynnu teithwyr o'u ceir.

Mae ffigurau 2001 i 2005 yn dangos bod nifer yr anafiadau i blant yn disgyn (hyd at 15 oed) ond mae cynnydd yn y ffigurau ar gyfer y rheiny rhwng 16 i 25 oed sydd wedi bod mewn damweiniau traffig.

Meddai Jeff Green, swyddog diogelwch ffyrdd Abertawe: "Mae menter CSI Cymru Abertawe'n dangos sut mae Cyngor Abertawe'n gweithio gyda sefydliadau partner i ostwng nifer y gwrthdrawiadau ar y ffordd y mae gyrwyr ifanc wedi bod yn rhan ohonynt. Bydd yr ymweliadau ag ysgolion a cholegau'n rhoi cyfle i bobl ifanc wybod am beryglon bywyd go iawn wrth yrru'n ddiofal neu o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Bydd hefyd yn dangos iddynt pa mor ddinistriol yw canlyniadau gwrthdrawiadau fel hyn."

CSI Cymru - calendr


Lledu’r Neges Wrth-Yfed a Gyrru

21/11/07

Caiff ymgyrchoedd a mentrau gorfodi gwrth-yfed a gyrru eu rhedeg ar hyd y flwyddyn mewn ymdrech barhaus i sicrhau bod yfed a gyrru’n annerbyniol. Trefnir cystadleuaeth i ysgolion lunio poster gwrth-yfed a gyrru i ategu’r neges adeg y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Gan i filoedd o blant gystadlu, daw 16 o enillwyr rhanbarthol i seremoni gyflwyno adeg Lansio Ymgyrch Wrth-Yfed a Gyrru y Nadolig ar 3 Rhagfyr yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd. Poster gan Toby Williams o Ysgol Uwchradd Tywyn, Gwynedd, sydd wedi’i ddewis i’w ddosbarthu ledled Cymru. 2007 poster

Llwytho’r poster i lawr 2007 Click here to download this document in PDF format.(fformat PDF 305kb)

Cewch weld y posteri buddugol yma


De Cymru
Yr Enillydd Hyn - Aimée Hesketh, Castell-nedd Port Talbot
Yr Ail Orau Hyn - Gareth Burton, Merthyr Tudful
Yr Enillydd Iau - Abigail Mock, Bro Morgannwg
Yr Ail Orau Iau - Chloe Thomas, Bro Morgannwg

Gogledd Cymru
Yr Enillydd Hyn - Thomas Wright, Sir y Fflint
Yr Ail Orau Hyn - Toby Williams, Gwynedd
Yr Enillydd Iau - Ffion Giddings, Conwy
Yr Ail Orau Iau - Juelles Marriott, Gwynedd

Gwent
Yr Enillydd Hyn - Becky Preece, Blaenau Gwent
Yr Ail Orau Hyn - Sarah Haynes, Torfaen
Yr Enillydd Iau - Lauren Price, Torfaen
Yr Ail Orau Iau - Shanie Hollister, Torfaen

Dyfed Powys
Yr Enillydd Hyn - James Price, Carmarthenshire
Yr Ail Orau Hyn - Carwen Richards, Ceredigion
Yr Enillydd Iau - Seren Childs, Powys
Yr Ail Orau Iau - Joe Whitehead, Powys

Enillydd y Slogan - Catrin Scourfield, Ceredigion
Drink and Drive - Think you’re clever. Do it now - Regret forever.


Newid Ger

13/11/2007

Roedd 500 o fyfyrwyr yn bresennol mewn menter diogelwch ffordd yn ddiweddar a fwriadwyd i wneud pobol ifanc yn fwy ymwybodol o beryglon ar y ffyrdd. Cynhaliwyd yr achlysur `Top Drive` blynyddol dros bedwar diwrnod ar faes y sioe yn Llwynhelyg, Hwlffordd, fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelwch Ffordd. Eleni roedd y fenter, sy’n ceisio lleihau’r nifer o wrthdrawiadau ar y ffyrdd, yn newid gêr er mwyn canolbwyntio ar yrwyr ifanc a’r modd y medran nhw fod yn fwy cyfrifol.


Daw hyn ar ôl pryder ynghylch y nifer o ddamweiniau’n ymwneud â gyrwyr ifanc – roedd tua thraean o’r holl wrthdrawiadau’n ymwneud â gyrwyr o dan 25 oed.
Roedd y mwyafrif o’r 500 o fyfyrwyr o Goleg Sir Benfro a fynychodd yr achlysur eleni yn adnabod rhywun a laddwyd ar ffyrdd lleol.


Dywedodd y Cynghorydd Jamie Adams, aelod Cabinet dros Briffyrdd a Chludiant, bod y Cyngor wedi ymrwymo i leihau’r nifer o wrthdrawiadau ar y ffyrdd yn Sir Benfro ac roedd achlysur `Top Drive` yn rhan o’r Strategaeth Diogelwch Ffordd. “Mae’n hanfodol bod pobol ifanc yn ymwybodol o beryglon y briffordd boed yn gerddwyr, seiclwyr, gyrwyr neu deithwyr,” meddai. “Achosir y rhan fwyaf o ddamweiniau gan un o’r ffactorau canlynol - cyflymdra, alcohol, cyffuriau, defnyddio ffons mudol neu hepgor gwisgo gwregys diogelwch – a thanlinellwyd y peryglon hyn ger bron y myfyrwyr yn yr achlysur.”


Roedd y canlynol yn rhan o’r rhaglen `Top Drive`: Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Teiars ATS, SUDDS, hyfforddwyr gyrru lleol, Moduron Sinclair, Uned Diogelwch Ffordd Sir Benfro a Beiciau Modur Honda MPH.


Yn y prynhawn roedd Cwmni Theatr Epa’n cyflwyno stori wir o’r enw ‘Pills Thrills@ Automobiles’ yn tynnu sylw at y peryglon o yfed alcohol a chymryd cyffuriau ac yna gyrru.


Cyllidir yr achlysur gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i chydlynu gan Uned Diogelwch Ffordd Sir Benfro. Os ydych am fwy o wybodaeth, yna, cysylltwch â John Gobbi, Swyddog Addysg Diogelwch Ffordd y Sir, yn Neuadd y Sir, ar 01437 775144

Top Drive

 

Paramedic Bryn Hazelden o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn trafod canlyniadau gyrru’n anghyfrifol a sut i ddelio â phobol wedi’u hanafu mewn damweiniau ffordd. Hefyd yn y llun mae Cadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Bill Roberts; Uchel Siryf Dyfed, Cyrnol Dai Davies; Dr Ian Robertson Steele, Bwrdd Iechyd Lleol; Glyn Jones Prifathro Coleg Sir Benfro; John Gobbi, Swyddog Addysg Ffordd, a myfyrwyr o Goleg Sir Benfro. Julie Watts o’r Uned Diogelwch Ffordd oedd yn portreadu gyrrwr beic modur wedi’i anafu.


Ymgyrch Gwregysau Diogelwch Cymru Gyfan

7/9/07

Paid Ymddwyn Fel Dymi

Paid ymddwyn fel dymi. Gwisga’r Gwregys!

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn arwain Ymgyrch Gwregysau Diogelwch Cymru Gyfan sy’n cael ei lansio ddydd Llun Medi 10fed 2007 yn Llandrindod ar y cyd â Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys, i atgoffa gyrwyr a theithwyr am y peryglon o beidio â gwisgo gwregys.

Ers i’r gyfraith ynglyn â gwisgo gwregysau seddi ffrynt ddod i rym yn 1983, amcangyfrifir bod 50,000 o fywydau wedi cael eu harbed (yn ôl y Gymdeithas Frenhinol Atal Damweiniau (ROSPA)). Mae’r mwyafrif o bobl sy’n defnyddio’r ffyrdd yn gwybod yn iawn beth yw’r peryglon o beidio â gwisgo gwregys, a bydd heddweision ledled Cymru yn gweithredu’n llym yn erbyn y rheiny sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith, gan beryglu eraill sy’n defnyddio’r ffyrdd.

Dywedodd y Prif Arolygydd Phil Davies o Heddlu Dyfed-Powys : “Mae gwisgo gwregys yn beth mor hawdd i’w wneud. Yn rhinwedd ein swydd fel heddweision, rydym yn gweld canlyniadau gyrru heb wregys yn llawer rhy aml pan gelwir ni i ddamweiniau ffyrdd. Os cewch eich dal heb wregys, fe allech gael dirwy, ond ein prif neges yw hyn - mae gwisgo gwregys yn gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw - ac mae hynny mor wir yn achos teithwyr ag ydyw yn achos gyrwyr.”

Trwy wisgo gwregys, gall gyrwyr a theithwyr gynyddu eu siawns o oroesi gan gymaint â 60%.

Yn ystod yr Ymgyrch Cymru Gyfan diwethaf yn 2006, cafodd dros 3,000 o bobl eu dal heb wregys diogelwch a gyrwyr oedd y mwyafrif o’r rheiny. Os byddwch yn teithio mewn cerbyd heb wregys, rydych yn peryglu eich bywyd chi eich hun, a hefyd, bywydau eich cyd-deithwyr.

Ychwanegodd y Prif Arolygydd Phil Davies, “O fis Medi 2006 tan fis Mehefin eleni (pan ddaeth y rheolau newydd ar gyfer seddi plant i rym) cafwyd 372 o achosion yng Nghymru lle nad oedd plant wedi cael eu diogelu’n briodol wrth deithio mewn cerbyd. Rwy’n annog rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid i ddod i’r lansiad ar y 10fed o Fedi ym maes parcio ALDI Llandrindod – fe fydd cyngor ymarferol ar gael trwy’r dydd gan arbenigwr seddi plant (diolch i Gyngor Sir Powys). ”

Bydd yr ymgyrch gorfodi yn rhedeg ar draws Cymru am bythefnos o’r 10fed tan y 24ain o fis Medi 2007.


Gwedd newydd i Pass Plus Cymru

16/8/07

Mae cannoedd o ymwelwyr â’r Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cael gwybodaeth am Pass Plus Cymru, sef fersiwn helaethach o Gwrs Pass Plus safonol y DSA yw’r cynllun hwn. Trwyddo, caiff gyrwyr ifanc (sydd rhwng 17 a 25 oed ac yn byw yng Nghymru) wybod am ragor o dechnegau gyrru, ynghyd â llawer ‘gair i gall’, am ddim ond £20.

Hyrwyddwyr Pass Plus Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Hyrwyddwyr Pass Plus Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae cyfres newydd o ddeunyddiau cyhoeddusrwydd wedi’i chynllunio i hybu’r cynllun cenedlaethol cynyddol hwn ac mae’r adnoddau dwyieithog hynny’n cynnwys taflenni, posteri a gwybodaeth ar gardiau o faint cerdyn credyd. Cânt eu dosbarthu gan Hyfforddwyr Gyrru a Gymeradwywyd.

Caiff gwefan www.dragondriver.com sy’n ategu’r cynllun newydd hwn, ei hailwampio cyn hir i gyd-fynd ag ef.


Ffonau Symudol Yn Destun Cerddi Darluniedig

27/6/07

Erbyn hyn dylai pob un ohonon ni wybod am y deddfau newydd sy’n gwahardd defnyddio ffôn symudol wrth yrru. I bwysleisio pa mor ddifrifol yw gwneud hynny, aeth Capita Symonds Road Safety, sy’n cynrychioli pump o Awdurdodau Lleol, ati ar y cyd â Heddlu Gwent i hyrwyddo’r gystadleuaeth flynyddol i lunio Cerdd Ddarluniedig.

Gwahoddwyd ysgolion babanod, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ledled Gwent i gyflwyno cerddi, a oedd wedi’u llunio a’u darlunio gan eu disgyblion, ar y thema ‘defnyddio ffôn symudol wrth yrru’. Mae’n amlwg bod y pwnc hwnnw’n agos at galonnau plant Gwent gan iddo ysgogi rhyw 850-900 o gerddi. Gan fod y safon yn uchel dros ben, bu’n rhaid i’r beirniaid dafoli’r cerddi am amser maith cyn dewis y buddugwyr.

Cynhaliwyd y cyflwyniad i’r buddugwyr yn Neuadd y Sir yng Nghwmbrân nos Lun 18 Mehefin. Cyflwynwyd y gwobrau gan y Prif Gwnstabl, Mike Tonge, a ganmolodd ymdrechion yr holl ddisgyblion, p’un a oedden nhw wedi ennill neu beidio. Tanlinellodd ef bwysigrwydd ymgyrchoedd fel hyn wrth sicrhau bod plant ac oedolion fel ei gilydd yn deall y neges.

y bardd buddugolCyflwynwyd tystysgrif a siec i bob un o’r buddugwyr ac i’r rhai ail-orau. Yn achos yr ysgolion buddugol, derbyniwyd tystysgrif a siec gan Mrs Kelly ar ran Ysgol Gynradd Eveswell a Tina Samual ar ran Ysgol Abersychan.

Llongyfarchiadau i bob un o’r buddugwyr.

 

Yr Uwch-Fuddugwraig, Xenia Deeks, gyda’r Prif Gwnstabl Mike Tonge

 

 


Yr heddlu ar drywydd gyrwyr sydd wedi yfed neu wedi cymryd cyffuriau

8/6/07

lansio ymgyrch gwrth-yfed-a-gyrruMae’r heddlu wedi lansio ymgyrch haf yn erbyn gyrwyr sydd wedi bod yn yfed neu wedi cymryd cyffuriau. Ledled Cymru, mae heddluoedd yn ymgyrchu’n ddwysach mewn ymdrech i gael pobl i beidio â gyrru tra byddan nhw dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Ers dechrau’r ymgyrch ddydd Llun 4 Mehefin, mae mwy o siawns y caiff gyrwyr eu stopio gan yr heddlu.

Gall unrhyw faint o alcohol neu gyffuriau yn y corff effeithio ar allu person i yrru ac ar farn y person hwnnw.O gyfuno hynny â gormod o ffydd yn ei allu fel gyrrwr, gall y canlyniad fod yn angheuol.

Meddai’r Prif Arolygydd Geraint Anwyl, Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Weithredol yn Heddlu’r Gogledd, sy’n arwain yr ymgyrch eleni: “Mae’n destun pryder mawr i ni fod 416 o bobl wedi profi'n bositif am alcohol neu gyffuriau yn ystod ymgyrch 2006. Roedd bron i hanner y rheiny’n yrwyr ifanc rhwng 17 a 25. Er y byddwn ni’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc, byddwn ni’n edrych ar bawb sy’n yfed a gyrru. Bydd 500 o bobl yn colli eu bywydau ym Mhrydain bob blwyddyn oherwydd gyrwyr meddw. Mae effaith hynny ar y teuluoedd yn dorcalonnus ac yn para byth.” I gael gwybod rhagor...



Protectagroup
10/1/07

Protectagroup
Mewn cynllun mawr i gydweithio â’r Royal & SunAlliance, mae Protectagroup wedi lansio polisi i yrwyr ifanc i helpu i ostwng llawer iawn ar nifer y damweiniau a sicrhau, yr un pryd, ewyllys da y genhedlaeth nesaf o yrwyr. I gael gwybod rhagor...


 


Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.