Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru

Archif Newyddion - 2007

Storïau Eraill

 

Tîm Diogelwch y Ffyrdd mewn Gorymdaith Nadolig

30/11/07

AbertaweWynebodd Tîm Diogelwch y Ffyrdd Dinas a Sir Abertawe, sydd â’i ganolfan yn Neuadd y Sir yn Abertawe, dywydd gaeafol adeg “Gorymdaith Nadolig Abertawe” ddydd Sul 18fed Tachwedd 2007.

Thema Diogelwch y Ffyrdd eleni oedd “Hawdd eich Gweld, Hawdd eich Osgoi”, a’r nod oedd tynnu sylw at beryglon peidio â chael eich gweld ar y ffordd, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn!

Gwisgodd y menywod yn y tîm wigiau a twtws fflwrolau a dosbarthu miloedd o dyrs Rocky bach. Gwisgodd y dynion hetiau Nadolig, festiau a menig lliwgar a chario baner “Hawdd eich Gweld, Hawdd eich Osgoi”. Ond seren y tîm, fel arfer, oedd “Rocky the Road Safety Rooster” a gafodd lifft ar yr hen injan dân.

Serch amodau gaeafol a gerwin iawn y noson honno, daeth miloedd o bobl i fwynhau’r achlysur hwyliog a - gobeithio - mynd â neges Diogelwch y Ffyrdd adre gyda nhw!


Codi arian wrth ddysgu am Ddiogelwch ar y Ffyrdd

28/11/07

Mae plant ysgol o Sir Gaerfyrddin wedi bod yn dysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd - gan godi arian i elusen yr un pryd. Mae disgyblion o bob rhan o’r sir wedi codi miloedd o bunnoedd i Blant mewn Angen. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae cwisiau diogelwch ar y ffyrdd a digwyddiadau noddedig wedi codi cymaint â £9,515 ac mae rhagor o arian yn dal i gael ei anfon i mewn at y swyddogion diogelwch y ffyrdd yng Nghyngor Sir Caerfyrddin.

Pudsey

Ymunodd masgot diogelwch ffyrdd y sir, Gari Gofal, â Pudsey Bear y BBC ar gyfer ymgyrch y cyngor.

Cymerodd ysgolion cynradd ledled Sir Gaerfyrddin ran mewn gweithgareddau codi-arian a oedd yn cyfleu neges am ddiogelwch ar y ffyrdd. Codwyd yr arian yn ystod taith gyflym i 62 o ysgolion cynradd yn ystod yr Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd. Meddai’r Rheolwr Diogelwch ar y Ffyrdd, Keith Griffiths: “Byddwn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o addysgu plant am faterion diogelwch ar y ffyrdd ac roedden ni ar ben ein digon o weld ymateb yr ysgolion. Wnaethon ni erioed ddisgwyl codi cymaint o arian ac rydyn ni’n gobeithio cael dros £10,000 i gyd. Mae hyn wedi bod yn ymarfer gwerthfawr iawn o ran addysgu plant a chodi arian i elusen yr un pryd.”

Gari Gofal yw wyneb rhaglen diogelwch ffyrdd y cyngor. Bydd y swyddogion yn defnyddio’r ddraig, sy’n saith troedfedd o daldra, i gynyddu ymwybyddiaeth plant ysgol a chwtogi ar nifer yr anafiadau ar y ffyrdd. Meddai’r cynghorydd Pam Palmer, sy’n aelod o Fwrdd Gweithredol Cludiant y Cyngor: “Mae’n hanfodol addysgu plant am ddiogelwch y ffordd yn gynnar iawn. Mae gwaith aruthrol yn cael ei wneud yn Sir Gaerfyrddin ac roedd yr ymgyrch hon yn ffordd wych o gynnwys pobl ifanc ynddo. Llongyfarchiadau i bawb ar eu hymdrechion.”


Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd

9/11/07

Lansiwyd Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd
Lansiwyd Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yng Nghymru ar 6 Tachwedd yn Ysgol Gynradd Gabalfa, Gogledd Llandaf, Caerdydd. Thema’r digwyddiad eleni yw diogelwch plant ar droed ac ar feic.


Yno yn y lansiad yr oedd Rachel Jones, merch a oedd wedi gorfod ymladd am ei bywyd ar ôl cael ei tharo gan gar wrth iddi a’i ffrindiau groesi ffordd 60mya yn ymyl ty ei mam-gu yn Aberdâr ym mis Chwefror 2004. Fe ddioddefodd hi strôc, cafodd chwydd yn yr ymennydd, torrwyd ei hysgwydd a malwyd ei ffêr. Erbyn hyn, mae hi mewn cadair olwyn ac yn cael trafferth siarad. Cafwyd bod y gyrrwr di-drwydded, a oedd wedi bod yn yfed ac yn cymryd cyffuriau, yn gyrru ar 98mya. Gyrrodd i ffwrdd ar ôl taro Rachel. Cyfaddefodd iddo yrru’n beryglus gan achosi niwed corfforol difrifol, methu â stopio ar ôl damwain a gyrru heb drwydded ac yswiriant. Fe’i dedfrydwyd i bedair blynedd yn y carchar.

Meddai Sheri Ozdemir, mam Rachel Jones: “Rydyn ni’n ffodus bod Rachel yn dal gyda ni, ond bydd digwyddiadau’r diwrnod hwnnw’n aros gyda ni am byth. Mae’r bywyd y dylai Rachel fod wedi’i gael wedi’i gipio oddi arni am fod ei hanafiadau’n mynd i bara gweddill ei hoes. Byddan nhw’n newid ei bywyd. Rwy’n cefnogi’r Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd er mwyn plant eraill ac yn gofyn i yrwyr yng Nghymru bob amser i arafu i 20mya neu lai na hynny yn ymyl ysgolion a chartrefi. Da chi, gwnewch ein cymunedau’n lle mwy diogel i blant.”

I gael gwybod rhagor, ewch i wefan Brake


Lansio Tudful y Crwban ym Merthyr Tudful

25/10/07

Tudful y Crwban

Mae’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd ym Merthyr Tudful yn falch o gyhoeddi lansiad eu masgot diogelwch ar y ffyrdd eu hunain.

Fe’i lansiwyd yn sioe flynyddol Gwyl Banc Awst y Fwrdeistref Sirol ym Mharc Cyfarthfa. Yno, cyfarchodd Tudful y Crwban dros 450 o blant gan ddosbarthu crwbanod bach meddal a’r neges diogelwch ar y ffyrdd: STOP LOOK LISTEN THINK.

Y tro cyntaf i Tudful ymddangos mewn ysgol oedd yn Ysgol Gynradd Gellifaelog ddechrau mis Hydref. Am fod ganddo grwbanod bach i’w dosbarthu, cafodd groeso mawr, a phan ddychwelodd i’r ysgol wedyn, gwelwyd bod y plant yn cofio Tudful a’i neges yn dda. Bydd Tudful yn ymweld ag ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol yn ogystal â mynd i ffeiriau, sioe’r Sir a digwyddiadau diogelwch ar y ffyrdd.


Golwg Newydd i Swyddogion Iau Diogelwch y Ffyrdd yn Abertawe

16/10/07

jrso logo

Erbyn hyn, mae Clwb Swyddogion Iau Diogelwch y Ffyrdd yn Ninas a Sir Abertawe yn rhedeg ers 7 mlynedd. Mae dros 40 o ysgolion cynradd yn ardal Abertawe yn aelodau o’r cynllun ar hyn o bryd, a rhagor yn Ysgol Birchgrovedymuno ymaelodi ar gyfer 2007/8.

Mae golwg newydd i’r Clwb yn Abertawe yn sgil lansio gwisg swyddogol “cwl”. Caiff y Swyddogion Iau gap pêl-fas, sachell a chrys-t. Ar bob dilledyn bydd brand y Swyddogion Iau yn arddull Adran Heddlu Efrog Newydd (N.Y.P.D.)

Y Stori Lawn»

 

 

 


Carys Ofalus - Gwynedd

5/10/07Carys Ofalus

Mae Carys Ofalus wedi bod yn crwydro ysgolion y sir ers peth amser yn codi ymwybyddiaeth am beryglon y ffordd.

Erbyn hyn mae CDRom, cryno ddisg o gerddoriaeth a gwefan ar gael sy’n adrodd hynt a helynt Carys wrth iddi ddysgu plant sut i ddefnyddio’r ffordd yn ddiogel.

Gwefan Carys Ofalus

 


Arddangosfa Symudol Newydd

6/8/07
Arddangosfa Symudol NewyddMae Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Caerdydd wedi cael cerbyd arddangos symudol newydd sy’n pwyso 7.5 tunnell fetrig – y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Yn y cerbyd mae system awyru a chyfleusterau i bobl anabl, ac ar ei du allan mae lluniau o nodweddion lleol yng Nghaerdydd.

Ymhlith yr adnoddau mae efelychydd gyrrwr, tri chyfrifiadur ‘sgrin-gyffwrdd’, a DVD/fideo sy’n gysylltiedig â sgrin plasma 42-modfedd a seinyddion pwrpasol.

Ar lawr y cerbyd mae defnydd sydd wedi’i gynllunio i efelychu ffordd a phalmentydd ac mae’n fodd i arddangos diogelwch ymarferol i gerddwyr drwy ddefnyddio model o gyfleusterau croesi.

I gael gwybod rhagor, cysylltwch â Dave Evans neu John Goff ar 02920 619907, neu JGoff@caerdydd.gov.uk


Rhoi Prawf ar Wybodaeth am Ddiogelwch ar y FYsgol y Wern, Caerdydd, enillwyr y cwis.fyrdd

11/7/07

Yn ddiweddar, fe enillodd Ysgol y Wern Gwis Diogelwch ar y Ffyrdd i Ysgolion Caerdydd a nhw, erbyn hyn, yw pencampwyr Cwis Diogelwch ar y Ffyrdd i Ysgolion Cynradd y De. Cynhaliwyd y rownd derfynol ym modurdy beiciau modur Thunder Road ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Mawrth 19eg Mehefin ac fe guron nhw chwe ysgol arall a oedd yn cynrychioli awdurdodau lleol ledled y De. Caiff y gystadleuaeth flynyddol ei gweinyddu gan Heddlu’r De a’i noddi gan Lion Laboratories.


Mesur y Cynulliad i wneud bysiau ysgol yn fwy diogel

26/6/07


Mae’r cynigion ar gyfer Mesur Llywodraeth y Cynulliad ar gludiant i’r ysgol yn cael eu logo Llywodraeth Cynulliad Cymru cyhoeddi heddiw (Mehefin 26) at ddibenion ymgynghori. Bydd y Mesur arfaethedig yn cryfhau’r protocolau ar gyfer ymddygiad da a disgyblaeth briodol ar fysiau ysgol - a darparu cludiant i’r ysgol am ddim i ragor o blant ysgolion cynradd.

Wrth gyflwyno’r cynigion ar gyfer y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru), dywedodd Dr Brian Gibbons y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Bysiau ysgol yw’r ffordd fwyaf diogel o deithio i’r ysgol. Mae miloedd o blant yn eu defnyddio bob dydd ac ychydig iawn o ddigwyddiadau difrifol a welir arnynt, diolch i’r drefn. Eithriadau yw’r problemau hynny ond pan fyddant yn digwydd maent yn gallu bod yn ddifrifol iawn, ac ar adegau yn angheuol.

Mae ymddygiad da ar fysiau yn hanfodol ac mae gan ymddygiad a diogelwch gysylltiad agos iawn â’i gilydd.

Mynegwyd pryderon am ymddygiad nifer bach o ddisgyblion ar fysiau ysgol. Wrth gwrs, mae rhieni a phlant yn dymuno gweld trefniadau cludiant sy’n effeithiol, yn deg ac sy’n ennyn ffydd ac ymddiriedaeth ynddynt. Mae nifer o’r awdurdodau lleol eisoes wedi cyflwyno codau ymddygiad - ond mae amheuon o ran a ydyw’n bosibl gorfodi cosbau effeithiol o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

Yn ogystal â hynny, mae canran y plant sy’n teithio ar y bws wedi disgyn dros y degawd diwethaf. Mae hanner y plant mewn ysgolion cynradd yng Nghymru bellach yn teithio i’r ysgol mewn car - ac mae chwarter y traffig yn ystod oriau brig mewn ardaloedd trefol wedi’i greu gan bobl yn hebrwng plant i’r ysgol ac oddi yno.

Bydd y cynigion yn y Mesur drafft hwn yn helpu i greu amgylchedd teithio mwy diogel a hefyd yn cyfrannu at system drafnidiaeth gynaliadwy.www.wales.gov.uk


Cynhadledd Diogelwch Ffyrdd Cymru

18/5/07

logoCynhelir cynhadledd gyntaf Diogelwch Ffyrdd Cymru yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon ddydd Llun 17 a dydd Mawrth 18 Medi 2007.

Cliciwch yma i weld y rhaglen a’r ffurflen archebu

Gwobrau Diogelwch ar y Ffyrdd

Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau blynyddol Diogelwch Ffyrdd Cymru, gyda chefnogaeth Chevron Texaco, yn ystod Cinio’r Gynhadledd ar y nos Lun.

Cliciwch yma i weld manylion y gwobrau a’r ffurflen enwebu


Caerdydd i Gynnal Cynhadledd ar Ddiogelwch ar y Ffyrdd

15/5/07

Digwyddiad blynyddol yw cynhadledd Cyrff Achub Prydain/Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân ac mae hi’n agored i’w miloedd o randdeiliaid. Ynddi, rhoir llwyfan ar gyfer lansio syniadau rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd am Ddiogelwch ar y Ffyrdd a Gwasanaethau Brys, a chyfle iddyn nhw gyfrannu o’u gwybodaeth benodol am eu sectorau.

Dylech ddod iddi:

  • Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt presennol y llywodraeth ynghylch Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd
  • Os hoffech chi wybod i ba gyfeiriad y mae strategaeth diogelwch ar y ffyrdd yn mynd o safbwynt Ewropeaidd
  • Os hoffech chi drin a thrafod ffyrdd o wella’r ymagwedd at ddiogelwch ar y ffyrdd sy’n cynnwys partneriaethau cynhwysol
  • Os hoffech chi ddeall y rôl y gall y Gwasanaethau Tân ac Achub eu chwarae wrth gyfrannu at ddiogelwch ar y ffyrdd
  • Os hoffech chi wybod pa ymagweddau at addasu ymddygiad sy’n effeithiol · Os hoffech chi wybod pa effaith y gall Canolfannau Rheoli Rhanbarthol ei chael ar ganlyniadau damweiniau traffig ffyrdd
  • Os hoffech chi ystyried dilysrwydd yr awr aur fel canllaw i ymyrraeth y gwasanaethau brys · Os hoffech chi ddeall rhagor am effaith tymor-hir ailsefydlu
  • Os hoffech chi gael cyfle i rwydweithio a thrafod materion diogelwch ar y ffyrdd gyda chynulleidfa ehangach o randdeiliaid

Cliciwch yma i weld Rhaglen y Gynhadledd



Cymunedau Mwy Diogel

30/4/07

logo Llywodraeth Cynulliad Cymru Mae Andrew Davies, y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithio, wedi manylu ar raglen newydd i wella diogelwch ar y ffyrdd a hybu cerdded a beicio mewn cymunedau.Cost y rhaglen fydd £10 miliwn.

Wrth ei lansio, fe ddywedodd Andrew Davies, “Mae’r rhaglen newydd hon, Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, yn adeiladu ar ein cynllun hynod lwyddiannus, Llwybrau Diogel i’r Ysgol. Bydd y rhaglen, a fydd yn costio £10m, yn gyfle i ragor o blant gerdded neu feicio’n ddiogel i’r ysgol, yn cynyddu hygyrchedd ac yn hybu cerdded a beicio yn fwy cyffredinol yn ein cymunedau.”

”O dan y rhaglen newydd, bydda i’n trefnu i awdurdodau lleol gael rhagor o gyllid i ddatblygu cynlluniau Llwybrau Diogel yn y Cymunedau. Er y bydd y mwyafrif o’r cynlluniau hyn yn dal i ganolbwyntio ar ysgolion am eu bod nhw wrth galon ein cymunedau, fe hoffwn i hefyd hybu datblygu llwybrau diogel ar gyfer cerdded a beicio, a chreu cysylltiadau rhyngddyn nhw a chanolfannau hamdden, parciau, ysbytai a chanolfannau gofalu i’r henoed. Rwy’n arbennig o awyddus i gefnogi cynlluniau arloesol sy’n canolbwyntio’n bendant iawn ar wella diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys cynlluniau sy’n cysylltu â datblygu llwybrau diogel i barthau 20mya.”


Her Cerddoriaeth Gwent

1/12/06
Her Cerddoriaeth Gwent
Bu deg Ysgol Gyfun o bob rhan o Went yn cystadlu yn rownd derfynol Her Cerddoriaeth Gwent ar 21 Tachwedd yn Theatr Gymunedol Abertyleri.
Ffurfiodd pob ysgol fand a chyfansoddi caneuon ac iddynt thema WrthYfedaGyrru.
Ymwelodd Helen Davidson, Rheolwraig Prosiect Diogelwch
y Ffyrdd yn Capita Symonds, â’r ysgolion yn gyson i gadw golwg ar eu cynnydd. “Roedd y disgyblion yn llawn cyffro, cymhelliant ac ymrwymiad i’r achos! Daeth hynny i gyd ynghyd yn y perfformiad terfynol.” Enillwyr yr Her Cerddoriaeth oedd Safety Queen o Ysgol Gyfun Tredegar. Cliciwch ar y cyswllt i weld y tri band gorau:



 


Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.