Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru

Archif Newyddion

Beicwyr Modur

Beicio diogel yng Ngwynedd - lansio cynllun blaengar

17/6/09
BikeSafe Gwynedd Mae cynllun diogelwch y ffordd blaengar sy'n ceisio addysgu gyrwyr beiciau modur am y peryglon ar y ffordd wedi ei lansio yn swyddogol yng Ngwynedd.


Mae cynllun beicio diogel 'BikeSafe', sy'n cael ei gynnal gan gydlynydd o heddlu Gogledd Cymru gyda chymorth gan Gyngor Gwynedd a chynghorau eraill gogledd Cymru, Llywodraeth y Cynulliad, Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) a chyrff beicio modur amrywiol, wedi ei lansio yn swyddogol mewn digwyddiad yng Ngorsaf Dân Porthmadog.


Mae 'BikeSafe' yn cynnig amrediad o gyfleon hyfforddiant ar gyfer gyrwyr beiciau modur o ba bynnag allu, ac maent wedi bod yn boblogaidd gyda gyrwyr sydd newydd gymhwyso a gyrwyr mwy profiadol. Yn ystod y lansiad a gefnogwyd gan amrywiaeth o asiantaethau, cafwyd cyfle i weld y beic modur sydd wedi ei brynu i hyrwyddo'r cynllun yma yng Ngwynedd.


Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
"Rydw i'n falch fod Cyngor Gwynedd yn cymryd rhan flaenllaw yn y prosiect arloesol hwn - mae darparu cyngor diogelwch mewn ffordd newydd ac ymarferol yn allweddol ar gyfer diogelwch ein ffyrdd.
"Mae'n ffaith drist a dychrynllyd fod gyrrwr beic modur yn marw ar y ffyrdd yn y DU bob 14 awr ar gyfartaledd. Yn wir, yma yng Ngwynedd, cofnodwyd 36 gwrthdrawiad beic modur y llynedd, gyda dau o'r rheini yn arwain at farwolaeth, ynghyd ag 20 damwain ddifrifol a 14 a arweiniodd at fân-anafiadau.
"Dyna pam fod prosiect Beicio Diogel Gwynedd a'r cymorth a'r cyngor ymarferol y mae Tîm Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd yn ei ddarparu yn allweddol i helpu osgoi gwrthdrawiadau ar y ffordd ac i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel ar gyfer holl ddefnyddwyr y ffordd. Byddwch yn gweld Colin Jones, Rheolwr Diogelwch y Ffyrdd y Cyngor sy'n gyfrifol am hyrwyddo'r cynllun ar ran Gwynedd yn mynd o gwmpas ei waith ledled y Sir ar y beic - gwyliwch allan amdano,"


Ychwanegodd Dafydd Wyn Williams, Prif Beiriannydd Trafnidiaeth a Gofal Stryd Cyngor Gwynedd:
"Ein nod wrth gyflwyno'r cynllun beicio diogel yma yng Ngwynedd yw ymestyn allan i'r gymuned beicio modur er mwyn lleihau'r nifer o wrthdrawiadau ffordd sy'n ymwneud â beiciau modur.
"Mae cyrsiau eisoes ar gael i feicwyr modur gan gynnig cyngor ymarferol am ddiogelwch y ffordd, a bydd Tîm Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd yn gweithio gyda'r gymuned feicio modur lleol ac yn trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau er mwyn ceisio helpu gyrwyr i ddod yn feicwyr mwy diogel a chymwys."


Ymgyrch Darwen yn Targedu Beicwyr Modur

28/5/09

MotorcycleMae dros 170 o feicwyr modur wedi eu stopio fel rhan o Ymgyrch Darwen. Mae’r ymgyrch yn cael ei rhedeg dros nifer o benwythnosau ac yn targedu beicwyr modur ar adeg o’r flwyddyn pan mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweld cynnydd yn nifer y damweiniau beic modur angheuol.

Mae ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin a Phowys wedi eu monitro gan yr unedau plismona’r ffyrdd. Recordiwyd cyfanswm o 88 o droseddau hyd yn hyn gan gynnwys 15 trosedd goryrru a 15 trosedd yn ymwneud â chyflwr y beic modur a’r modd y defnyddir ef.

Meddai Swyddog Diogelwch y Ffyrdd, Sue Storch: “Rydym yn cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth diogelwch ymysg beicwyr modur yn rheolaidd oherwydd, yn anffodus, rydym yn gweld cynnydd yn nifer y marwolaethau dros fisoedd yr haf.

“Bwriad yr ymgyrch hon yw sicrhau bod cyfreithiau’r ffordd yn cael eu gorfodi, ond y mae hefyd yn rhoi cyfle arall i ni siarad â beicwyr modur ynghylch eu hymddygiad sydd yn aml yn achosi pryder i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd.”

Bydd Ymgyrch Darwen yn parhau drwy gydol yr haf.


Cyngor i yrwyr beics gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

22/5/09

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cychwyn cyfres o sesiynau 'galw heibio' mewn gweithdai yng Ngorsaf Dân Porthmadog y mis yma ar y cyd gyda Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd Cenedlaethol a Chyngor Sir Gwynedd.

Mae'r sesiynau yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn beiciau modur alw heibio i drafod sgiliau diogelwch ar y ffyrdd gyda darparwyr gwasanaeth cymwys.

Bydd y digwyddiad yn rhoi'r cyfle i bartneriaid diogelwch ar y ffyrdd eraill, y tîm Diogelwch Beics yn enwedig, i gynnig cyngor ar sgiliau ar y ffyrdd, cyfeiriadau at gyrsiau datblygu a chynnig cyngor am ddim ar ddillad a helmedau priodol hyd yn oed.

Dywed Mike Owen, Rheolwr Gweithrediadau'r Sir ar gyfer De Gwynedd: "Yr hyn rydym ni'n ceisio ei gyflawni yn y fenter hon yw codi ymwybyddiaeth holl ddefnyddwyr ffyrdd fod y gymuned feiciau modur yn defnyddio ffyrdd Gwynedd a Sur Feirionydd er mwyn dilyn eu hobi.

"Mae fforio ein hamgylchoedd prydferth ar eu dwy olwyn yn weithgaredd sy'n cael ei gamddeall yn aml gan arwain at ganfyddiadau negyddol am y wefr o fod ar gefn beic.

"Tra'r ydym ni'n annog y cymunedau beics modur i 'alw heibio' pan fyddan nhw allan o gwmpas yr ardal, mae gan ddefnyddwyr ffyrdd cyffredin rôl hanfodol i chwarae yn eu diogelwch. Bydd y nifer o feicwyr modur yn Ne Gwynedd yn codi'n aruthrol dros y misoedd nesaf, gyda grwpiau o yrwyr yn targedu ein ffyrdd fel llefydd i ymweld ar eu beics.

"Yn anffodus, mae'r nifer o wrthdrawiadau traffig sydd wedi ymwneud â beics modur wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym ni'n edrych i ostwng yr ystadegau hynny gyda menter ragweithiol.

"Mae'n ymddangos fod gan ein rhanddeiliaid lawer o ddiddordeb ymgysylltu gyda ni ar y prosiect hwn ac rwy'n hydrus os fyddwn ni'n cynllunio ein gweithgareddau'n ofalus y gallwn ni'n cyfrannu'n effeithiol at gyfres o fentrau diogelwch ar y ffyrdd fydd yn gostwng y nifer o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig gyda beics modur ar ein ffyrdd."

Dyma'r dyddiadau ar gyfer y sesiynau sydd i ddod;
- 31ain Mai
- 14eg Mehefin
- 28ain Mehefin
- 4ydd Gorffennaf


Cynllun Asesu i Feicwyr Modur Powys

20/5/09

Arwydd diogelwch ar y ffyrdd

Mae Beicwyr Modur Powys yn cael eu hannog i gael eu sgiliau wedi’u hasesu er mwyn iddynt reidio’n fwy diogel o amgylch y sir. Mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys wedi datblygu cynllun asesu ‘Ride On’, sy’n rhoi cyfle i feicwyr modur Powys gael eu sgiliau wedi’u hasesu. Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru diolch i arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r cwrs, sy’n dechrau fis yma, yn cynnwys sesiwn theori 1.5 awr ac yna taith feiciau modur 1.5 awr gyda swyddogion Heddlu Dyfed Powys.

Dywedodd y Cyng. Gwilym Evans, Aelod o’r Bwrdd sydd â chyfrifoldeb dros Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Beicwyr Modur yw’r defnyddwyr ffordd mwyaf diamddiffyn ym Mhowys. Ni sydd â’r nifer uchaf o ddamweiniau angheuol ymhlith beicwyr modur o’i gymharu â siroedd eraill Cymru.

“Rydym am hyrwyddo reidio mwy diogel i ostwng nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Powys, a bydd yr asesiad hwn, ynghyd â mentrau eraill, yn ein helpu i wneud hyn.”

Mae’r cyrsiau ar gael ar y dyddiau canlynol, yn y bore a’r prynhawn:

Dydd Sadwrn 23 Mai, Dydd Sadwrn 6 Mehefin, Dydd Sadwrn 4 a 18 Gorffennaf, Dydd Sadwrn 15 Awst, Dydd Sadwrn 26 Medi.

Dywedodd Sarah Morris, Uwch swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd y cyngor: “Fe lwyddom i asesu dros 50 o feicwyr modur mewn cynllun peilot yn 2008 ac roedd yr adborth a gafwyd gan y rhai fu’n cymryd rhan yn gadarnhaol iawn. Byddwn yn annog unrhyw feicwyr modur i gymryd rhan yn y cynllun; y cyntaf o’i fath yng Nghymru.”

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, neu gadw lle ar gwrs, cysylltwch â Peter Wright ar 01597 826979 neu ar e-bost peter.wright@powys.gov.uk


Archif Newyddion - Beicwyr Modur - 2008

Archif Newyddion- Beicwyr Modur - 2007



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.