Diogelwch Ffyrdd Cymru
28/8/09
Dathlodd Clwb Traffig Plant Sir Benfro ben-blwydd arbennig. Fe fu'r clwb yn cynorthwyo plant y sir i gadw'n ddiogel ers pum mlynedd. Dathlwyd ei ben-blwydd yn ystod Wythnos Diogelwch Plant (22 -28 Mehefin) pan ymwelodd aelodau o Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Penfro ag wyth ysgol er mwyn hyrwyddo llwyddiant y clwb.
Ymhlith yr ysgolion cynradd yr ymwelwyd â nhw roedd Grwp Meithrin Stepaside, Babanod Hakin, Gelli Aur, Llandudoch, Sant Oswald, Arberth a Fenton, ac fe ymunodd 259 o blant â'r clwb.
Yn y cyfamser cafodd disgyblion y Dosbarth Derbyn a Meithrin yn Ysgol y Frenni, Crymych, barti arbennig i ddathlu pen-blwydd y clwb.
Gwisgodd y plantos tair a phedair blwydd oed eu hunain ar lun cymeriadau balwn y clwb a chanwyd caneuon, chwaraewyd gemau a chafwyd digonedd i'w fwyta.
Mae'r pecyn Clwb Traffig Plant yn adnodd ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid er mwyn dysgu hanfodion diogelwch ffyrdd i blant ifanc iawn. Trwy lyfrau gweithgaredd y clwb cyflwynir cymeriadau megis Sammy Seatbelt, Larry Look a Lucy Listen fel modd o gyfleu'r neges ynghylch diogelwch ffyrdd.
Gellir ymuno â'r clwb am ddim (telir am gofrestru gan Gyngor Sir Penfro trwy gyllid a roddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru) ac ar ôl i rieni gofrestru bydd eu plentyn yn cael ei lyfr cyntaf ac yna pum llyfr arall fesul tri mis ar ôl hynny.
Dywedodd y Cynghorydd Huw George, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc, fod y clwb wedi profi'n ddull effeithiol o ddysgu diogelwch ffyrdd i blant sy heb ddechrau ysgol ac o oedran cynnar.
Atgyfnerthir neges y clwb yn unedau blynyddoedd cynnar yr ysgolion, y grwpiau chwarae a meithrin gan Becyn Meithrin Clwb Traffig Plant.
• Gellir benthyca'r pecynnau meithrin a'r gwisgoedd am ddim i bob uned blynyddoedd cynnar yr ysgolion, grwpiau chwarae a meithrin trwy gysylltu â Kirstie-Anne Donoghue, Addysg Diogelwch Ffyrdd ar 01437 775434.
29/6/09
Bydd nifer o heolydd yng nghymunedau Abertawe yn cael eu gwneud yn fwy diogel ar ôl i Gabinet Cyngor Abertawe gytuno ar fuddsoddi miloedd o bunnoedd i osod croesfannau pelican ar safleoedd allweddol.
Bydd heolydd prysur yn Nhreg?yr, y Glais a Dyfnant yn cael y driniaeth ddiogelu wedi'r penderfyniad i ariannu tair croesfan gan ddefnyddio arian Grant Diogelwch Ffyrdd.
Derbyniodd y cyngor gyfanswm o £646,000 gan y Cynulliad yn eu setliad Grant Diogelwch Ffyrdd blynyddol, ac mae'r Cabinet wedi cytuno ar sut y dylid gwario'r arian.
Bydd £68,000 yn cael ei wario i osod y croesfannau pelican ger Ysgol Gynradd Dyfnant, Ysgol Gynradd y Glais ac Ysgol Fabanod Treg?yr, a bydd yn gwella diogelwch llwybrau cerdded i'r ysgolion ac oddi yno.
Bydd digwyddiadau blynyddol, gan cynnwys y Criw Croch a theithiau ffyrdd profi seddi ceir plant, yn cael arian ychwanegol i ganiatáu iddynt barhau. Defnyddir arian hefyd i fynd i'r afael â safleoedd clwstwr damweiniau.
Meddai John Hague, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, "Mae'r arian hwn yn hanfodol i ganiatáu i'n Tîm Diogelwch Ffyrdd gynnal eu gwaith da mewn ysgolion lleol.
"Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod wedi gallu ariannu rhai cynlluniau na dderbyniodd unrhyw arian yn y setliad grant cludiant diweddar.
"Mae bob amser yn anodd cyflawni popeth yr hoffem ei wneud gyda chyfyngiadau ariannol. Fodd bynnag, bydd y setliad grant diweddaraf hwn yn rhoi'r cyfle i ni greu amgylcheddau mwy diogel mewn mwy o gymunedau."
1/5/09
Mae dros 100 o ddisgyblion a rhieni o Ffordun wedi cerdded a seiclo ar lwybr newydd sydd i’w rannu ar ddiwrnod yr agoriad swyddogol. Cafodd y llwybr gwerth £190,000, a ariannwyd trwy Gronfa Llwybrau Diogel yn y Gymuned Llywodraeth Cynulliad Cymru, ei agor yn gynharach yr wythnos hon (dydd Mercher 29). Aeth 40 o blant ar feic ac ymunodd rhieni gyda 35 o blant pellach i gerdded ar hyd y llwybr.
Wedi’i adeiladu gan Gyngor Sir Powys o fewn ffin y briffordd, mae’r llwybr dau gilomedr yn gwella rhan o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.
Mae’r llwybr newydd, sydd wedi bod yn ddyhead tymor hir i’r gymuned ac yn rhan allweddol o ddigwyddiad Sylw ar Ddyfodol Ffordun a gynhaliwyd y llynedd, wedi creu cysylltiadau gwell rhwng pob rhan o Ffordun a bydd yn galluogi trigolion, yn enwedig plant, i gerdded a seiclo yn ddiogel.
Dywedodd y Cyng Gwilym Evans, Aelod o’r Bwrdd gyda chyfrifoldeb dros Seiclo a Diogelwch ar y Ffyrdd: “Mae’r gymuned wedi bod angen y llwybr hwn ers amser hir. Dyma gyfleuster gwych sy’n rhoi’r cyfle i bobl leol gerdded a seiclo gan fod yn weithgar. Mae cynnydd gyda llwybrau seiclo ym mhob cwr o’r sir yn addawol iawn gyda nifer o lwybrau newydd yn cael eu hadeiladu.”
Dywedodd Mr Simon Newson, Pennaeth Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Ffordun: “Bydd y llwybr newydd hwn yn rhoi cyfle i blant ac oedolion i gerdded neu seiclo o un pen o’r pentref i’r llall yn ddiogel. Nid yn unig y bydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion gerdded i’r ysgol, a fydd yn eu helpu i gadw’n heini a gweithgar, ond bydd hefyd yn help mawr i’r amgylchedd o amgylch yr ysgol gyda llai o draffig.”
27/4/09
Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Caersws yn cymryd cam ymlaen ac yn dechrau ‘bws cerdded’ newydd. O’r wythnos hon ymlaen, bydd y plant lleol yn cerdded i Ysgol Caersws ar ‘Ddydd Mercher Cerdded'. Bydd y plant yn cerdded, dan oruchwyliaeth oedolion fydd yn gwirfoddoli, yn dilyn llwybr penodol ac yn codi plant eraill mewn ‘arosfannau bws’ penodol ar hyd y ffordd.
Mae’r fenter wedi cael ei chyflwyno gan Delma Thomas a Roy Gardner o Ysgol Gynradd Caersws, a Bridget Farrington, Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd Ardal Cyngor Sir Powys.
"Mae Bysiau Cerdded yn ffordd wych i wella ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd, lleihau’r traffig wrth giât yr ysgol ac yn helpu’r amgylchedd, ynghyd â gwella iechyd a ffitrwydd," esboniodd Bridget.
"Rydym yn gwybod fod plant sy’n cerdded i’r ysgol yn canolbwyntio’n well yn y gwersi ac yn mwynhau’r cyswllt cymdeithasol wrth gerdded gyda’u ffrindiau.
"Mae Caersws yn bentref delfrydol i ddefnyddio bws cerdded, a hoffwn longyfarch Miss Thomas a’r staff a’r rhieni sy’n gwirfoddoli am ddechrau’r prosiect."
4/3/09
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i annog mwy o bobl i gerdded a beicio'n fwy diogel ac yn fwy aml; p’un a ydynt yn mynd ar daith arferol i’r siopau, yn mynd i’r gwaith neu'n hamddena.
Ein prif amcanion yw:
- Gwella iechyd a lles y boblogaeth trwy gynyddu gweithgarwch corfforol;
- Gwella’r amgylchedd lleol i gerddwyr a beicwyr;
- Annog teithio cynaliadwy fel cam ymarferol i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd;
- Hyrwyddo cyfleusterau er mwyn annog pobl i gerdded a beicio mwy;
- Sicrhau bod polisïau, cyfarwyddyd a chyllid trawsbynciol yn rhoi blaenoriaeth i gerdded a beicio;
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn cefnogi nifer o fentrau a chyrff gan gynnwys:
- Llwybrau Diogel mewn Cymunedau: Helpu awdurdodau lleol i ddatblygu llwybrau cerdded a beicio diogel a gwella hygyrchedd i bawb;
- Cynllun grant i wella cefnffyrdd a thrafnidiaeth i gynnig seilwaith newydd ar gyfer cerdded a beicio;
- Cyllid craidd i Sustrans Cymru, elusen trafnidiaeth gynaliadwy;
Ewch i: wefan Sustrans (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)
- Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Beicio: Cyflwyno’r Safonau Cenedlaethol trwy gynyddu nifer yr hyfforddwyr cymwysedig yng Nghymru, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Elusennol CTC.
Ewch i: wefan CTC (Clwb Teithio Beicwyr) (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)
- Dewch i Gerdded Cymru: menter Cymru gyfan a ddatblygwyd trwy bartneriaeth rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru - ei diben yw cynyddu nifer y bobl sy’n cerdded yn rheolaidd.
Ewch i: wefan Dewch i Gerdded Cymru (cyswllt allanol)
- Bike It – menter beilot Sustrans Cymru sy’n anelu at gynyddu nifer y bobl sy’n beicio i’r ysgol trwy hyrwyddo’r manteision; dysgu sgiliau beicio a chynnal digwyddiadau beicio i’r ysgol a theithiau beicio.
Ewch i: wefan Bike It (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)
Dolenni defnyddiol i sefydliadau eraill
Ewch i: wefan Cymdeithas y Cerddwyr (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)
Lawrlwytho Dogfen
Cynllun Gweithredu Cymru ar Gerdded a Beicio 2009 - 2013
2/6/09
Yn ystod yr Hydref a’r Gaeaf mae damweiniau traffig yn cynyddu, yn enwedig i blant a phobl ifanc.Y rheswm am hyn yw ein bod yn troi’r clociau yn ôl, ac mae’n tywyllu yn gynharach. Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn weledol i yrwyr ceir wrth groesi’r ffyrdd ar droed neu yn teithio ar feic.
I gyd fynd a hyn cynhaliwyd cystadleuaeth Bod yn Amlwg, Bod yn Weledol ar safle gwefan www.carysofalus.net
Cafwyd hwyl ar y cystadlu.Roedd rhaid i blant y Cyfnod Sylfaen liwio llun, gan wneud yn siwr fod Carys Ofalus, Cari a Rhun mewn dillad llachar ac adlewyrchol.
Datrys Chwilair oedd tasg yr Adran Iau gyda'r geiriau i gyd yn ymwneud a bod yn weledol. Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran.
Derbyniodd pob plentyn ysgol Gynradd yng Ngwynedd strap arddwrn adlewyrchol a fflwroleuol i gyd fynd ar gystadleuaeth.
Cynhaliwyd y Gwobrwyo yn Y Ganolfan ym Mhorthmadog, lle daeth y plant i gasglu ei gwobrwyon gan y Cynghorydd Stephen Churchman (Ward Dolbenmaen).Cyrhaeddodd Carys Ofalus mewn amser i roi tystysgrif arbennig i’r plant i gofio yr achlysur a rhannu diod oren a bisged gyda’r plant!
30/10/08
Mae Uned Diogelwch Ffyrdd Sir Gaerfyrddin yn cylchredeg posteri newydd i geisio cynyddu’r ymwybyddiaeth o’r angen i fod yn Ddiogel a Chael eich Gweld yn ystod nos Galan Gaeaf.
“Y gamp wrth sicrhau Nos Galan Gaeaf ddiogel yw gweld a chael eich gweld,” meddai Keith Griffiths, y rheolwr diogelwch ar y ffyrdd. “Gan fod y clociau newydd fynd yn ôl, bydd llai o oriau o olau dydd i chwarae cast-neu-geiniog ac mae angen i bob un sicrhau y gall pobl eraill ei weld neu ei gweld tra bydd ef neu hi allan yn y tywyllwch.”
Bydd gwisgoedd tywyll – fel y rhai y bydd gwrachod yn hoff o’u gwisgo – yn ei gwneud hi’n anodd i yrwyr eu gweld, a bydd masgiau sy’n cwtogi ar yr hyn y gallwch ei weld hefyd yn berygl i ddiogelwch. Yn lle masgiau, dylid defnyddio colur, a gorau oll os yw’n cynnwys cyfansoddion sy’n disgleirio yn y tywyllwch fel bod plant ac oedolion yn gallu cael eu gweld yn glir.
I gael Nos Galan Gaeaf ddiogel a hwyliog, dyma ambell air i gall:
- Gwisgwch wisg fflwrolau neu lachar
- Osgowch ddefnyddio gwallt ffug a all eich rhwystro rhag gweld
- Os gwisgwch chi wisg hir, piniwch ei gwaelod i fyny i osgoi baglu drosti
- Cadwch at y palmant. Os nad oes palmant, cerddwch tuag at y traffig
- Ewch â thortsh gyda chi
- Chwaraewch gast-neu-geiniog mewn grwp
- Cynlluniwch eich taith a dewiswch fannau sydd wedi’u goleuo’n dda
- Croeswch y ffyrdd mewn mannau diogel
- Os plant ifanc sy’n chwarae cast-neu-geiniog, dylai rhiant neu warcheidwad fynd gyda nhw
22/10/08
'Byddwch yn ddiogel yn y tywyllwch' - dyna neges glir Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth iddi ddechrau nosi'n gynt.
Wrth droi'r clociau nôl y penwythnos hwn, atgoffir rhieni fod y boreau a'r nosweithiau tywyll yn golygu bod plant yn fwy diamddiffyn ar ein ffyrdd gan nad ydynt mor hawdd eu gweld gan fodurwyr. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn gwisgo dillad llachar ac yn cymryd mwy o ofal pan fyddant yn mynd o gwmpas y lle.
Dylai beicwyr hefyd fod yn ymwybodol o'r ffaith fod mynd ar feic heb olau yn drosedd a dylent sicrhau bod y goleuadau cywir ar eu beic - a'i bod yn hawdd i ddefnyddwyr eraill y ffordd eu gweld yn glir.
Mae dillad llachar fflworoleuol i'w gweld orau yn ystod y dydd, yn enwedig mewn tywydd mwll a niwlog ond nid ydynt mor amlwg ar ôl iddi dywyllu. Fin nos dillad llachar sydd orau am fod modd eu gweld yn lampau'r ceir, a gellir rhoi tâp llachar ar ddillad a bagiau ysgol.
Anogir gyrwyr i gynllunio eu siwrneiau'n ofalus i ystyried y gwahaniaeth yn yr amser gan ei bod yn tywyllu'n gynharach ac yn hwyrach yn y bore a fin nos, ac mae angen iddynt fod yn ymwybodol y gall gymryd ychydig yn fwy o amser i deithio.
14/7/08
 |
Disgyblion ardal Dysynni gyda
Meinir Gwilym yn dysgu am reolau’r ffordd fawr |
Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnal sioe deithiol o amgylch ysgolion ardal Meirionnydd lle cafodd disgyblion cynradd Cyfnod Allweddol 1 gyfle i ddysgu mwy am ddiogelwch ar y ffyrdd.
Fel rhan o'r daith, cafodd y disgyblion gyfle i gyd-ganu gyda'r gantores boblogaidd Meinir Gwilym, gan ddysgu am ddiogelwch ar y ffordd. Cafodd y plant hefyd gyfle i gwrdd Carys Ofalus, cymeriad diogelwch ffyrdd Cyngor Gwynedd, a bu Carys y gath yn dysgu'r plant sut i groesi'r ffordd yn ddiogel.
Dywedodd Claire Evans, Swyddog Diogelwch y Ffordd Cyngor Gwynedd:
"Mae sicrhau fod disgyblion ieuengaf Gwynedd yn dysgu am reolau'r ffordd fawr yn allweddol bwysig, ac rydym yn gobeithio fod dysgu mewn ffordd hwyliog a gwahanol fel y sioeau teithiol yma yn golygu fod y plant yn cofio'r rheolau pwysig.
"Rydym yn falch iawn fod Meinir Gwilym wedi ymuno gyda'r daith ac fod cyfle i'r disgyblion ganu am reolau sy'n atgoffa'r disgyblion am bwysigrwydd gwisgo gwregys yn y car ac i feicio'n ofalys ar y ffordd. Mae dysgu rheolau syml fel hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ddiogelwch y plant ar y ffordd."
2/7/08
 |
Yr actores Manon Ellis gyda disgyblion
Ysgol Glan Cegin, Bangor yn dysgu am reolau’r ffordd fawr |
Cadw at reolau syml ond pwysig - dyna oedd y neges i ddisgyblion iau Ysgol Glan Cegin, Bangor yn ddiweddar wrth iddyn nhw dderbyn tystysgrifau diogelwch y ffordd fel rhan o gynllun Kerbcraft.
Wrth iddynt gwblhau rhan o gwrs cynllun diogelwch y ffyrdd Kerbcraft gyda chymorth Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd, cafodd disgyblion Ysgol Glan Cegin ymweliad gan yr actores Manon Ellis sy'n chwarae rhan Michelle yn rhaglen deledu boblogaidd "Rownd a Rownd".
Ar ôl bod allan gyda'r disgyblion yn dysgu am y rheolau, cyflwynodd Manon Ellis y tystysgrifau i'r plant. Fel rhan o'r cynllun Kerbcraft, cafodd y disgyblion fudd o fynd allan o gwmpas yr ardal i ddysgu sut i gadw yn ddiogel ar ochr y ffordd, ac mae'r tystysgrifau yn cydnabod eu gwaith da.
Mae cynllun Kerbcraft yn dysgu plant 5-7 oed i gerdded yn ymyl ffordd yn fwy diogel drwy fynd â nhw ar ffyrdd go iawn a dangos iddyn nhw fod gwneud y penderfyniadau cywir, ac ymddwyn yn gywir, yn gallu eu helpu i fod yn ddiogel. Caiff y plant eu cymryd allan o'r ysgol, mewn grwpiau o ddim mwy na thri, gan wirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddiant.
Fel rhan o'r gwersi cynllun Kerbcraft, mae'r plant yn:
Dewis Lleoedd a Llwybrau Diogel i Groesi'r Ffordd
Caiff y plant eu helpu i adnabod peryglon a dod o hyd i leoedd eraill i groesi.
Croesi'n Ddiogel lle mae Ceir wedi'u Parcio
Caiff y plant eu dysgu i ddefnyddio strategaeth ddiogel i groesi yn ymyl ceir sydd wedi'u parcio - os bydd hi'n amhosibl eu hosgoi.
Croesi'n Ddiogel yn ymyl Cyffyrdd
Caiff y plant eu cyflwyno i broblemau cyffyrdd syml a chymhleth ac fe ddysgan nhw strategaeth i edrych yn systematig i bob cyfeiriad.
I gael gwybod rhagor...
12/6/08

Bu tua 60 o ddisgyblion o Ysgol GS Tafarnspeit yn cymryd rhan mewn achlysur Cerdded i’r Ysgol yn ystod Wythnos Genedlaethol Cerdded i’r Ysgol. Trefnwyd y daith gan Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau'r ysgol gyda chefnogaeth swyddogion o Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Penfro.
Trefnwyd yr achlysur blynyddol gan yr ysgol i annog y plant i beidio â bod mor ddibynnol ar gerbydau ac i leihau’r dagfa drafnidiaeth tu fas i glwydi’r ysgol.
Mae’r daith Cerdded i’r Ysgol yn un o nifer o weithgareddau y mae disgyblion yn Nhafarnspeit yn eu trefnu yn rhan o’u cynllun teithio i’r ysgol er mwyn cynorthwyo i gefnogi rhagor o gludiant cynaliadwy a gwella’r amgylchedd diogelwch ffyrdd o amgylch yr ysgol.
Bu Canolfan Arddio Tafarnspeit yn ddigon caredig i ganiatáu’r plant i gyfarfod yn eu maes parcio cyn cerdded gyda’i gilydd i’r ysgol.
Ar ôl yr achlysur dywedodd y Cynghorydd Sir Jamie Adams, yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Chynllunio, nad oedd yn medru bod yn bresennol: "Dwi wedi fy nghalonogi gan ymdrech yr holl gymuned ysgol ac yn arbennig gan eu brwdfrydedd yn taclo’r broblem gynyddol o dagfeydd a wynebir gan lawer o’r ysgolion yn Sir Benfro heddiw.”
4/6/08
Mae nifer y plant sy'n cael damwain ffordd wrth gerdded i'r ysgol ac oddi yno wedi gostwng mwy na hanner ers 1998.
Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi ystadegau damweiniau newydd sy'n amlygu'r gostyngiad mewn damweiniau, gan ddweud mai mentrau arafu traffig a gwell addysg i blant o dan bymtheg mlwydd oed sy'n gyfrifol.
Nifer y plant ysgol ar gyfartaledd a fu mewn damweiniau ffyrdd rhwng 1994 a 1998 oedd 53. Dengys y ffigurau diweddaraf fod y ffigur hwn wedi gostwng i 22.
Dengys gwelliannau pellach y bu gostyngiad yn nifer y plant o dan bymtheg mlwydd oed sy'n cael damweiniau, gan gynnwys y rheiny sy'n teithio mewn cerbyd. Y nifer cyfartalog rhwng 1994 a 1998 oedd 165. Mae'r ffigur hwnnw wedi gostwng i 109 bellach.
Mae arian a dderbyniwyd gan y Cyngor fel rhan o Grant Diogelwch Ffyrdd a mentrau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau'n cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau arafu traffig ledled Abertawe. Rhoddwyd parthau 20mya a chroesfannau cerddwyr ar waith y tu allan i lawer o ysgolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Cyngor wedi pwysleisio'i fwriad i greu parthau 20mya diogel ger pob ysgol os oes arian ar gael.
Dywedodd Jeff Green, Swyddog Lleihau Damweiniau Cyngor Abertawe: "Mae'r ymdrechion i gyflwyno mesurau arafu traffig a lledaenu neges diogelwch ffyrdd mewn ysgolion yn cael effaith gadarnhaol yn bendant.
"Mae creu llwybrau cerdded diogel i ysgolion lleol ac oddi yno yn hanfodol wrth helpu i annog mwy o blant a'u rhieni i gerdded i'r ysgol. Rydym yn credu bod y gostyngiad mewn damweiniau ymhlith plant ysgol yn profi ein bod yn darparu amgylcheddau mwy diogel.
Mae'n hanfodol ein bod yn parhau â'r gwaith er lles pawb yn y gymuned".
Mae Ysgol Gynradd Ystumllwynarth yn un o'r ysgolion diweddaraf i elwa o'r gwaith i greu llwybrau cerdded gwell. Mae croesfannau newydd i gerddwyr wrth ymyl cyffordd brysur ger yr ysgol, yn ogystal â chyfyngiad cyflymder 20 mya wedi helpu i annog plant i gerdded i'r ysgol. I ddathlu cwblhau'r cynllun, trefnodd yr ysgol fws cerdded a oedd yn cynnwys dwsinau o ddisgyblion yn cerdded gyda'i gilydd i'r ysgol.
Dywedodd Alison Gough, Swyddog Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, "Mae'r ysgol wedi bod yn hynod ragweithiol yn ei hymagwedd tuag at ddiogelwch ffyrdd."
Roedd cyfanswm o naw ysgol wedi llwyddo i gael arian Llwybrau Diogel mewn Cymunedau eleni fel rhan o'r setliad Grant Trafnidiaeth blynyddol. Yr ysgolion cynradd sy'n rhan o'r fenter yw Pentrepoeth, y Crwys, yr Hafod, Knelston, Mayals, Plasmarl, Llandeilo Ferwallt, Trefansel a Phenyrheol.
3/6/08
Mae Henson y Draenog wedi bod yn arwain y ffordd yn y frwydr yn erbyn y llygredd a geir ar y daith i'r ysgol.Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Cerdded i'r Ysgol, mae masgot TÎm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn ymuno  disgyblion pum ysgol gynradd ar eu bysus cerdded.
Ysgol Gynradd Blaengwrach

Dywedodd aelod y cabinet dros y gwasanaethau gofal stryd a phriffyrdd, y Cynghorydd Arwyn Woolcock, bod y daith i'r ysgol yn y bore yn un o'r teithiau mwyaf llygredig a wneir gan yrwyr.
Meddai: "Achosir llawer o'r problemau amgylcheddol gan bobl sy'n teithio am gyfnodau byr yn y car.
"Mae ymgyrch genedlaethol Cerdded i'r Ysgol yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio cludiant arall i gyrraedd yr ysgol er mwyn gwneud ein bwrdeistref sirol yn lle mwy diogel ac iach i fyw ynddi."
Mae ceir yn cynhyrchu mwy o lygredd ar deithiau byr oherwydd bod yr injan yn oer a'r angen am ddechrau a stopio oherwydd tagfeydd.
Awgryma ymchwil bod lefelau llygredd ceir o leiaf dair gwaith yn uwch nag ar y palmant ar ochr y ffordd.
"Mae tagfeydd a phroblemau parcio ger ysgolion wedi dyfod yn faterion o bwys dros y blynyddoedd diwethaf ac roedd hi'n dda cael cymaint o gefnogaeth tuag at yr ymgyrch," ychwanegodd y cynghorydd Woolcock.
"Mae cyfanswm o ddeg ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnal bysus cerdded rheolaidd i annog mwy o rieni i beidio  defnyddio'u ceir.
"Mae cerdded yn well i bawb ac rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o ysgolion yn mabwysiadu'r arfer o fysus cerdded a defnyddio cynlluniau cludiant eraill yn y dyfodol."
9/5/08
Bydd cerddwyr yn ei chael hi'n haws croesi heol brysur yng nghanol y ddinas diolch i waith gwella gan Gyngor Abertawe.
Gosodwyd saith croesfan modern i gerddwyr fel rhan o'r gwaith gwella mawr ar hyd Ffordd y Gorllewin a Heol Ystumllwynarth.
Bydd y croesfannau newydd yn rhoi gwell mynediad i gerddwyr i Orsaf Fysus y Cwadrant ac arosfannau newydd y Metro ar Ffordd y Gorllewin, yn ogystal â gwell mynediad rhwng Ffordd y Brenin a Heol San Helen.
Mae'r cyngor wedi buddsoddi miliynau mewn arian grant trafnidiaeth mewn ymdrech i wella cludiant cyhoeddus a goresgyn problemau tagfeydd traffig yng nghanol y ddinas.
Mae'r gwaith yn cynnwys adeiladu lôn fysus bwrpasol ar hyd Ffordd y Brenin ac allan ar hyd Heol Ystumllwynarth. Mae gwaith pellach yn awr yn cynnwys cau'r danffordd ar Ffordd y Gorllewin.
Dywedodd Geoff Sheel, Pennaeth Cludiant dros Dro Cyngor Abertawe, "Ffocws y gwaith hwn oedd canolbwyntio ar wella cludiant cyhoeddus yng nghanol y ddinas a darparu gwell mynediad i gerddwyr.
"Bydd y croesfannau newydd yn darparu mynediad diogel i'r holl gerddwr ar hyd Ffordd y Gorllewin.
Mae cwmnïau cludiant yn Abertawe eisoes wedi canmol y cyngor am y gwaith sydd, yn eu t?b hwy, wedi'u galluogi i redeg gwasanaethau cyflymach a mwy effeithlon.
22/4/08
Bydd disgyblion sy'n cerdded i dair ysgol ym Monymaen ac oddi yno yn fwy diogel ar ôl cwblhau cynllun arafu traffig gerllaw. 
Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau bod y cynllun, sy'n cynnwys parth 20mya newydd ar hyd Heol Jersey, wedi'i gwblhau.
Mae'r ysgolion a fydd yn elwa o'r mesurau diogelwch yn cynnwys Ysgol Gynradd Pentrechwyth, Ysgol Gynradd Cwm ac Ysgol Eglwys Babyddol St Illtud.
Dywedodd Amanda Taylor, Pennaeth Ysgol Gynradd Cwm, "Rydym eisoes wedi nodi'r perygl o yrwyr yn mynd yn gyflym ar hyd y ffordd hon.
"Mae'r cynllun arafu traffig a ddyfeisiodd y Cyngor wedi bod o gymorth mawr o ran diogelwch y plant yn y gymuned. Rwyf wrth fy modd bod y cynllun wedi llwyddo i arafu gyrwyr."
Dywedodd Geoff Sheel, Pennaeth Cludiant Dros Dro Cyngor Abertawe "Rydym wedi cyflwyno rhai cyfyngiadau cyflymder 20mya ar hyd rhai ffyrdd yn yr ardal yn y gorffennol.
"Bydd gorffen y gwaith diweddaraf hwn ar hyd Heol Jersey yn gwella diogelwch disgyblion sy'n dymuno cerdded i'r ysgol ac oddi yno ar hyd y llwybr hwn yn sylweddol."
Mae'r strydoedd yn yr ardal gerllaw sydd eisoes yn elwa o'r cyfyngiadau cyflymder is yn cynnwys Heol Bonymaen, Heol Cwm Chapel, Heol Mansel, Gerddi Carreg Cennen a Heol Pentrechwyth.
Ychwanegodd Mr Sheel, "Mae ein gwaith parhaus i greu parthau 20 milltir yr awr a chyfyngiadau cyflymder o gwmpas ysgolion yn rhan bwysig o'n hymdrechion i greu amgylcheddau diogel i blant a allai fod yn cerdded i'r ysgol.
"Mae'r mesurau hyn, ynghyd ag addysg dda am ddiogelwch ffyrdd yn ein hysgolion, wedi helpu i ostwng damweiniau plant yn Abertawe gan 30 y cant dros y deng mlynedd ddiwethaf."
Mae'r ysgolion a'r cymunedau blaenorol sydd wedi elwa o'r gweithfeydd hyn yn cynnwys Ysgol Gynradd Dyfnant, Ysgol Gynradd Trefansel ac Ysgol Gymunedol St Thomas, sydd newydd gael ei adeiladau.
17/3/08
Mae drama wreiddiol newydd sydd yn hyrwyddo neges diogelwch ffyrdd yn teithio o amgylch ysgolion cynradd Môn.
Yn targedu plant rhwng 7-9 oed, bydd "Cofia" yn cael ei weld gan gannoedd o ddisgyblion wrth i'r cynhyrchiad ymweld â dros 20 o ysgolion. Mae'r ddrama interactif yn canolbwyntio meddyliau'r plant ar bwysigrwydd diogelwch ffyrdd, a'r camau sydd raid eu "cofio" wrth groesi.
Mae Tîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor Sir wedi defnyddio drama fel modd o gyfleu ei neges i bobl ifanc yn y gorffennol, gan weld ei fod yn llwyddiant. Mae'r Cofia wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Siwan Llynor, ac mae'r cast yn cynnwys Manon Dewi, Mared Huws a Gwion Williams.
Mae adrodd stori Beca a Rhys, sydd yn cychwyn am adref o'r ysgol oherwydd bod eu mam yn hwyr. Ar y daith maent yn mynd ar goll, ond yn cyfarfod merch ifanc ryfedd sydd yn eu tywys ar draws y ffordd ac adref yn ddiogel. Cant wybod yn hwyrach mai ysbryd oedd Ema, merch a gafodd ei tharo gan gar blynyddoedd yn ddiweddarach.
Dywedodd Bethan Parry o'r Tîm Diogelwch Ffyrdd fod ymateb y disgyblion i'r ddrama wedi bod yn wych. Eglurodd, "Mae Cofia yn cyfleu'r neges i'r plant diogelwch ffyrdd i'r plant mewn modd newydd a chyffrous. Mae'r perfformiad yn un interactif gyda'r disgyblion yn cael eu hannog i ofyn cwestiynau ac ymuno yn y ddrama wrth i'r stori fynd yn ei blaen. Caiff disgyblion o bob ysgol gynradd ar yr ynys gyfle i weld y sioe sydd yn dod i ben dydd Iau, wedi taith o bythefnos."
Ychwanegodd Bethan, "Mae'r neges yn un pwysig iawn, yn enwedig adeg yma o'r flwyddyn, gyda gwyliau'r Pasg yn agos nesáu a'r nosweithiau hir yn golygu hefyd y bydd plant yn chwarae allan yn hwyr i'r nos. Mae'n bwysig eu bod yn wyliadwrus tra o gwmpas ffyrdd a'n cofio'r geiriau pwysig yma gaiff eu crybwyll yn y ddrama - Aros. Edrych. Gwrando. Cerdded."
10/3/08
Cadw at rhai rheolau syml ond pwysig - dyna'r neges y mae cynllun diogelwch y ffyrdd, Kerbcraft yn ceisio ei rannu gyda disgyblion cynradd ar hyd a lled Gwynedd.
Dyna oedd prif neges mewn seminar arbennig a gynhaliwyd ym Mhorthmadog yn ddiweddar i ddathlu cydweithio rhwng Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru wrth iddynt weithio i ehangu cynllun diogelwch y ffyrdd, Kerbcraft i fwy o ysgolion cynradd y sir.
Dywedodd y Cynghorydd R H Wyn Williams, Uwch Arweinydd Portffolio Cyngor Gwynedd:
"Plant heddiw ydy gyrwyr y dyfodol, ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n rhoi'r cyngor gorau i'n pobl ifanc am y peryglon posib sydd ar y ffyrdd. Rydw i'n falch iawn fod tîm Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhannu'r neges bwysig yma gyda phlant ar hyd a lled y sir.
"Mae'r seminar yma wedi bod yn gyfle i ni ddod ynghyd i ddathlu'r hyn sydd eisoes wedi ei gyflawni fel rhan o'r cynllun, a chadarnhau ein hymrwymiad i weithio gyda'n partneriaid i addysgu plant Gwynedd am bwysigrwydd rheolau'r ffordd fawr."
Fel rhan o gynllun Kerbcraft mae plant yn dysgu am reolau'r ffordd fawr, megis dewis llefydd diogel i groesi'r ffordd a dysgu sut i groesi wrth gyffordd. Yn y seminar ym Mhorthmadog, cafodd ddisgyblion Ysgol y Gorlan, Tremadog gyfle i arddangos y sgiliau y maen nhw wedi eu dysgu fel rhan o'u gwersi ymarferol.
25/1/08
Mae menyw sy’n defnyddio dwy rôl weithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i hyrwyddo neges diogelwch ar y ffyrdd i blant ifanc wedi ennill Gwobr Hebryngwr Croesfan Ysgol y Flwyddyn gan yr awdurdod.
Yn ei ffordd dawel a dirodres, mae Alex Daw wedi helpu plant i groesi ffordd brysur Ham Lane East y tu allan i Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr ac Ysgol Gynradd Llanilltud Fawr am bron i bum mlynedd. Ac mae hi hefyd yn gweithio fel goruchwylwraig cinio.
“Enillydd haeddiannol,” meddai’r Cynghorydd Chris Williams, yr aelod o gabinet y Fro dros gynllunio a chludiant a chyflwynydd y seremoni wobrau flynyddol sy’n cydnabod parhad safonau uchel “menywod a dynion lolipop”. Wrth ddiolch i’r “aelodau ymroddedig o’r gwasanaeth” am eu gwaith, dywedodd y Cynghorydd Williams: “Rwy’n sicr ein bod ni gyd yn sylweddoli pa mor bwysig ac, yn wir, pa mor anodd, yw eu dyletswyddau beunyddiol wrth sicrhau diogelwch y miloedd o gerddwyr sy’n croesi ffyrdd ledled y Fro.
“Er eu bod nhw’n gorfod wynebu tywydd dychrynllyd ar adegau, ac ymddygiad annisgwyl gan fodurwyr, byddan nhw’n cyflawni’r rôl honno’n eithriadol o broffesiynol ac â gwên bob amser.”
4/1/08
Mae croesfannau ffyrdd newydd ac amlwg iawn ym Mhenarth yn dangos y ffordd ymlaen i ddiogelwch ar y ffyrdd ym Mro Morgannwg. Mae’r croesfannau sebra’n cynnwys math newydd o bolion goleuadau Belisha ac mae’r un sydd wedi’i gosod gan Gyngor Bro Morgannwg ar Redlands Road ger y gyffordd â Cornerswell Road yn disodli’r hen groesfan ac yn cynyddu diogelwch plant ysgol a thrigolion lleol.
Ar ôl i ddisgyblion o Ysgol Gyfun St Cyres dynnu sylw at y peryglon a’u hwynebai wrth gerdded i’r ysgol, fe chwaraeon nhw ran allweddol adeg gosod y groesfan newydd yn ei lle. Roedd y cynllun teithio-i’r-ysgol y gwnaethon nhw ei lunio i roi sylw i rai o’u pryderon yn cyfeirio at amryw o fesurau, gan gynnwys gwella’r groesfan.
Meddai’r Cynghorydd Chris Williams, aelod o gabinet Cyngor y Fro dros gynllunio a chludiant: “Byddwn ni fel cyngor bob amser yn ymddiddori ym mhryderon trigolion lleol ac mae’n arbennig o braf gallu dangos ein bod ni’n gwrando ar farn pobl ifanc y Fro hefyd.” Fe ychwanegodd y Cynghorydd Williams, a agorodd y groesfan yn swyddogol (yn y llun): “Rwy’n siwr y bydd pawb sydd wedi gweld y groesfan hon, a pholion newydd Goleuadau Belisha sydd â goleuadau ynddyn nhw, yn cytuno’i bod hi’n llawer haws eu gweld na’r hen un. Mae’r goleuadau newydd yn arbennig o effeithiol ar yr adeg hon o’r flwyddyn am nad oes rhyw lawer o olau dydd rhwng amserau agor a chau’r ysgolion. Gan mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gael eu defnyddio yn y Fro, rydyn ni’n gobeithio’u defnyddio ar bob croesfan newydd yn y dyfodol.”
Bu Elaine Storey, swyddog patrôl croesfan yr ysgol, yn gweithio ar y safle am nifer o flynyddoedd ac mae hi, hefyd, wedi croesawu’r groesfan newydd. Meddai Elaine: “Rwy’n teimlo gymaint yn fwy diogel erbyn hyn. Mae’r groesfan sebra’n drysu llawer llai ar fodurwyr na’r ynys draffig oedd yn arfer bod yno”.
Mae’r gwaith wedi’i ariannu’n llawn gan fenter Llywodraeth y Cynulliad i greu Llwybrau Diogel i’r Ysgol. Mae’r grant o £147,000 hefyd wedi ariannu croesfan debyg ymhellach ymlaen ar hyd Redlands Road ger y fynedfa i ystâd Cowslip, ac mae croesfan newydd ar y gweill ar gyfer Windsor Road ger pont droed y Dingle.