Diogelwch Ffyrdd Cymru: Addysg
Un o brif flaenoriaethau partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru wrth hyrwyddo addysg diogelwch ar y ffyrdd i blant yw cynghori rhieni, gofalwyr, staff cyn-ysgol ac athrawon ynglyn â’r arferion a’r adnoddau gorau sydd ar gael iddyn nhw, a’u helpu i’w defnyddio. Byddwn ni, felly, yn annog staff cyn-ysgol ac athrawon i gynnwys addysg diogelwch yn eu gwaith arferol yn y dosbarth.
Bydd y cymorth yn cynnwys darparu adnoddau a hyfforddi staff i’w defnyddio. Gall yr adnoddau fod yn ffrwyth gwaith gan yr awdurdod neu gan sefydliadau eraill. Gall Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd hefyd gynnig arweiniad i athrawon wrth iddyn nhw ddewis y dangosyddion a wnaiff roi prawf ar ba mor effeithiol yw gwahanol fewnbynnau gyda grwpiau penodol o ddisgyblion.
Os bydd hi’n bosibl, bydd Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd yn cysylltu â cholegau hyfforddi athrawon i roi sesiynau hyfforddi i ddarpar athrawon ar bwysigrwydd diogelwch ar y ffyrdd a sut mae plethu hynny i’r cwricwlwm.
Bydd Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd yn lledaenu syniadau da i ysgolion, i golegau ac i sefydliadau eraill a all fod yn ymwneud â phlant neu oedolion. Er mai hyfforddi athrawon a llywodraethwyr yw un o’r ffyrdd gorau o ddarparu gwasanaeth effeithiol, fe all na fydd y rheiny’n barod i gyflawni’r rôl honno. Gall fod angen i Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd, felly, wneud y gwaith hwnnw eu hunain yn yr ysgolion.
Gall y swyddog diogelwch ar y ffyrdd hefyd roi cryn dipyn o gymorth a chyngor o ran addysgu gyrwyr ac addysgu oedolion. Gall weithio gyda chyflogwyr i sicrhau diogelwch eu staff wrth iddyn nhw ddefnyddio’r ffyrdd, a rheoli’r risg wrth iddyn nhw yrru ar ffyrdd fel rhan o’u gwaith.