Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru: Addysg

Addysg Gynradd


Crucial Crew

Mae’r fenter hon wedi’i hyrwyddo mewn llawer Awdurdod Addysg ledled Cymru ac yn cyfuno sawl disgyblaeth diogelwch yn un prosiect. Bydd disgyblion Blwyddyn 6 yn treulio hyd at 20 munud wrth bob gweithfan ryngweithiol, a bydd pob gweithfan unigol yn rhoi sylw i agwedd benodol ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Mae pynciau diogelwch ar y ffyrdd yn cynnwys cael eich gweld, teithio mewn ceir a beicio’n ddiogel.

Os hoffech chi wybod a yw’r fenter ar gael yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol.


Cynllun Swyddogion Iau Diogelwch ar y Ffyrdd Cynllun Swyddogion Iau Diogelwch ar y Ffyrdd
Dyma gynllun sy’n rhoi’r hawl i blant fynd ati yn eu hysgol i dynnu sylw at faterion diogelwch ar y ffyrdd. Fe allan nhw wneud hynny drwy gynyddu ymwybyddiaeth y disgyblion eraill, yr athrawon a’r gymuned o’r maes hwn a chadw mewn cysylltiad â’u Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd. Mae’r cynllun yn cysylltu â phwnc Dinasyddiaeth sy’n annog y disgyblion i gymryd y cyfrifoldeb dros eu haddysg a’u penderfyniadau eu hunain. Bydd hefyd yn ysgogi’r disgyblion i sylweddoli bod diogelwch ar y ffyrdd yn fater pwysig, ac yn cysylltu hynny â’r Cwricwlwm Cenedlaethol a chanllawiau Cyfnod Allweddol 2. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.jrsocymru.org.uk




Theatr mewn Addysg

Mae Theatr mewn Addysg yn fwy o lawer na pherfformio drama. Gall y rhaglen gynnwys perfformiad sy’n gofyn i’r gynulleidfa gyfranogi’n weithgar ynddo a hynny, yn aml, ar ffurf gweithdai rhyngweithiol. Bydd y perfformwyr neu athrawon yn hwyluso’r rheiny ac yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau ynddyn nhw. Yn aml, caiff rhaglenni Theatr mewn Addysg eu hategu â deunyddiau dysgu sydd wedi’u cynllunio i hybu gwneud rhagor o waith ar ôl yr ymweliad, neu i hybu gwneud gwaith paratoi cyn i’r ymweliad ddigwydd. Ddylai ymweliad Theatr mewn Addysg ddim bod yn rhywbeth sy’n digwydd ac yn darfod. Dylai fod yn ysgogiad neu’n fodd i gyfnerthu gwaith arall. Gall eich Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd roi rhagor o wybodaeth i chi am y rhaglenni sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ym 1995 aeth y Swyddfa Gymreig, fel yr oedd hi ar y pryd, ati ar y cyd ag Ymgyrch yr Alban ar Ddiogelwch ar y Ffyrdd i ariannu ymchwil i weld pa mor effeithiol yw theatr-mewn-addysg wrth addysgu diogelwch ar y ffyrdd. Cliciwch i weld crynodeb o’r darganfyddion


Y Cynyrchiadau Cyfredol
The Courtroom

Perfformiad hynod ryngweithiol ym myd cyfraith a threfn yw ‘The Courtroom’. Fe aiff â’r gynulleidfa i ‘Lys’ hynod ddifyr lle caiff y gynulleidfa fod yn aelodau o’r rheithgor ac yn bobl yn y llys.


Mae’r ddrama’n dilyn stori bachgen ifanc a gerddodd allan i’r ffordd rhwng ceir a oedd wedi parcio. Am ei fod wrthi am fywyd yn tecstio ar ei ffôn symudol, bu’n rhaid i gar droi’n sydyn i’w osgoi ac fe darodd y car hwnnw yn erbyn car a oedd yn dod tuag ato.


Y drasiedi oedd nad oedd y ferch ifanc yn sedd gefn y car yn gwisgo gwregys diogelwch. Cafodd hi ei thaflu’n glewt drwy’r ffenestr flaen.


Mae’r stori gyffrous yn cadw sylw’r plant ac yn mynd i’r afael â materion fel gwregysau diogelwch, croesfannau i gerddwyr, a chroesi rhwng ceir sydd wedi’u parcio. Stori i blant 7-11 oed yw hi.


Baron Chance and the Invicibles
Y Barwn Siawns yw’r arglwydd cas sy’n tra-arglwyddiaethu ar y gêm bwysig o siawns sy’n cael ei galw’n ‘fywyd’. Os byddwch chi’n ei mentro hi, y Barwn fydd yn taflu’r dis. A chofiwch nad peth call yw rhoi’ch bywyd eich hun yn y fantol. Ond fydd y cyfan ddim ar ben am fod gan y Barwn cas wrthwynebwyr – y Tynghedau – wnaiff achub eich bywyd.


Drwy ddangos heddiw, ddoe ac yfory, bydd y Tynghedau’n dangos i’r gynulleidfa fod ganddyn nhw reolaeth dros eu tynged eu hunain. Fe allan nhw wneud y dewis iawn a pheidio â’i mentro hi.

Mae’r ddrama’n tanlinellu’r peryglon sy’n wynebu’r disgyblion ar y ffyrdd drwy roi sylw i faterion allweddol diogelwch ar y ffyrdd, fel rheolau’r groes werdd, croesi rhwng ceir sydd wedi’u parcio, a pha mor bwysig yw hi i bob teithiwr wisgo gwregys diogelwch.


jugglestruck

Jugglestruck

Mae Sioeau Jugglestruck ynghylch diogelwch ar y ffyrdd yn llawn cyffro, hwyl ac addysg. Byddan nhw’n defnyddio jyglo, hud a lledrith, pypedau a chomedi i ddarlunio materion diogelwch ar y ffyrdd. Mae gan Jugglestruck ddwy sioe wahanol, y naill i fabanod a’r llall i ddisgyblion iau.
www.jugglestruck.co.uk

 

Cat Ninelives in Deepest Trubble
Mae Cat wedi cael sgwter newydd sbon yn anrheg pen-blwydd. Ond mae problem. Doedd blwch y sgwter ddim yn cynnwys synnwyr cyffredin! Aiff agwedd ddidaro Cat â hi ar ei phen i’r Trafferthion Mwyaf, ac wrth i’r cloc dicio mae Cat, a’r gynulleidfa, yn mynd ar gyrch i ddod o hyd i’r atebion a wnaiff ei chadw hi’n fwy diogel ar y ffordd. Nod y cynhyrchiad hwyliog hwn yw hybu crefft diogelwch ar y ffyrdd, ac mae’n rhoi sylw i faterion fel diogelwch beiciau, cyfrifoldeb cerddwyr ac, uwchlaw popeth, synnwyr cyffredin.
www.walkingforward.co.uk
www.walkingforward.co.uk


Llwybrau Diogel i’r Ysgol
Gan fod llai a llai o blant yn cerdded i’r ysgol, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi neilltuo mwy na £27 miliwn i brosiectau Llwybrau Diogel i’r Ysgol ers 1999. Yn ogystal â thaclo’r tagfeydd sy’n cael eu hachosi wrth i rieni fynd â phlant i’r ysgol, nod y fenter hon yw gwneud plant yn fwy annibynnol ac iach drwy ddangos iddyn nhw fod dewisiadau eraill ar gael yn lle mynd mewn car.


Pentre Peryglon

Canolfan bwrpasol ydi Pentre Peryglon, sy'n cynnig addysg diogelwch ymarferol yn arbennig i blant a phobl ifanc, ond lle gall pob aelod o'r gymuned fwynhau yr hyn sydd ar gael.

Mae Pentre Peryglon yn ffordd hynod effeithiol o gynnig sgiliau fydd o gymorth i bobl osgoi peryglon bob dydd. Yn yr amgylchedd unigryw a diogel hwn, gall pobl weld a chlywed y peryglon fyddant efallai yn eu hwynebu yn y byd go iawn, ond heb wynebu'r gwir beryglon.

Mae cysylltiad rhwng y profiad addysgol a gweithgareddau'r cwricwlwm ABCh.

Gallwch brofi Pentre Peryglon mewn dwy ffordd.

  • Fel rhan o drip a drefnwyd gan yr ysgol: ysgolion cynradd ac uwchradd
  • Fel ymwelydd annibynnol: ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol

Diogelwch ar y Ffyrdd: Diogelwch cerddwr, beicwyr a gyrwyr ifanc. Pellteroedd brecio ayyb. Dillad diogelwch a llachar. Troseddau ceir, effaith alcohol a chyffuriau, camddefnyddio ffonau symudol. Diogelwch fel teithiwyr mewn car.

I gael gwybod rhagor...


Parth Diogelwch

Pentref ffug yw Parth Diogelwch Rhondda Cynon Taf yn Nhrefforest sy'n caniatáu i blant ac eraill yn y gymuned ddysgu am sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus mewn amgylchedd a reolir sy'n dynwared sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Mae'r ganolfan newydd ar Ystad Ddiwydiannol Trefforest yn disodli’r Parth Diogelwch gwreiddiol a oedd wedi'i gartrefu ar safle llai ar yr ystad. Mae'r safle newydd sy’n 10,000 troedfedd sgwâr yn cynnwys stryd sydd â siop, gorsaf heddlu, trac rheilffordd, coedwigaeth, buarth, is-orsaf drydan, safle adeiladu, damwain ffordd go iawn, ailgylchu, safle diogelwch bws ysgol a thy diogelwch rhag tân . Mae ffordd yn rhedeg drwy'r canol gyda chroesfan i gerddwyr a chornel stryd realistig i helpu gyda sesiynau ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd.

01443 844037

 



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Go to the English version of this web site.