Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru: Addysg

Uwchradd


Llwybrau Diogel i’r Ysgol
Gan fod llai a llai o blant yn cerdded i’r ysgol, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi neilltuo mwy na £27 miliwn i brosiectau Llwybrau Diogel i’r Ysgol ers 1999. Yn ogystal â thaclo’r tagfeydd sy’n cael eu hachosi wrth i rieni fynd â phlant i’r ysgol, nod y fenter hon yw gwneud plant yn fwy annibynnol ac iach drwy ddangos iddyn nhw fod dewisiadau eraill ar gael yn lle mynd mewn car.


Theatr mewn Addysg
Mae Theatr mewn Addysg yn fwy o lawer na pherfformio drama. Gall y rhaglen gynnwys perfformiad sy’n gofyn i’r gynulleidfa gyfranogi’n weithgar ynddo a hynny, yn aml, ar ffurf gweithdai rhyngweithiol. Bydd y perfformwyr neu athrawon yn hwyluso’r rheiny ac yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau. Yn aml, caiff rhaglenni Theatr mewn Addysg eu hategu â deunyddiau dysgu sydd wedi’u cynllunio i hybu gwneud rhagor o waith ar ôl yr ymweliad, neu i hybu gwneud gwaith paratoi cyn i’r ymweliad ddigwydd. Ddylai ymweliad Theatr mewn Addysg ddim bod yn rhywbeth sy’n digwydd ac yn darfod. Dylai fod yn ysgogiad neu’n fodd i gyfnerthu gwaith arall. Gall eich Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd roi rhagor o wybodaeth i chi am y rhaglenni sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ym 1995 aeth y Swyddfa Gymreig, fel yr oedd hi ar y pryd, ati ar y cyd ag Ymgyrch yr Alban ar Ddiogelwch ar y Ffyrdd i ariannu ymchwil i weld pa mor effeithiol yw theatr-mewn-addysg wrth addysgu diogelwch ar y ffyrdd. Cliciwch i weld crynodeb o’r darganfyddion


Cynyrchiadau Cyfredol
Too Much Punch for Judy
– Nid yw cynhyrchiad APE Theatre o raglen ddogfen Mark Wheeler am yfed a gyrru yn arbed dim ar deimladau ei gynulleidfa wrth adrodd hanes dirdynnol menyw ifanc sydd wedi bod yn yfed ac yna, wrth yrru, wedi lladd ei chwaer mewn damwain ar y ffordd. Wedi’r perfformiad cynhelir gweithdai, a’r grwp targed yw’r rhai 15 oed a throsodd.


Pills Thrills @ Automobiles – Drama am yrru ar ôl cymryd cyffuriau. Fe’i hanelir at y rhai 16-21 oed. Rhaglen ddogfen yw’r ddrama ac mae hi wedi’i seilio ar gyfweliadau sy’n adrodd hanes gwir pedwar o bobl ifanc 18 oed. Fe dreulion nhw benwythnos ar gyffuriau mewn gwyl gerddorol ym 1997. Chawson nhw fawr o gwsg ac, ar y ffordd adre, fe fuon nhw mewn damwain erchyll ar y draffordd. Bu farw dau ohonyn nhw, y naill yn y fan a’r lle a’r llall ar ôl cael ei hedfan i’r ysbyty. Y ddrama hon yw’r gyntaf gan APE lle mae fideo ac animeiddio yn rhan o’r perfformiad.


Legal Weapon – Cyflwyniad rhannol ffeithiol a rhannol ddychmygol yw Legal Weapon. Mae’n adrodd hanes dau ddisgybl chweched dosbarth, Andy a Jazz. Caiff bywyd Andy ei droi â’i ben i waered am iddo ladd gyrrwr moped wrth yrru’n gyflym. Caiff ei anfon i’r carchar am wneud hynny. Mae’r cynhyrchiad yn mynd i’r afael â goryrru, pwysau cyfoedion ac agweddau gyrwyr ifanc. www.apetheatrecompany.co.uk

Never Saw the Day – Cyflwyniad i’r rhai 16+ oed. Grwp o gyfeillion sy’n mwynhau popeth y gall bywyd ei gynnig yw James, Kaz, Lee, Steph a Vince. Mae rhamant yn y gwynt a gyrfaoedd ar y gweill tan i ddamwain ddychrynllyd ddifetha bywyd pob un ohonyn nhw. Seiliwyd y ddrama ar stori wir ac mae’n astudio holl ganlyniadau damwain ar y ffordd ac yn tynnu sylw at wahanol gyfrifoldebau’r teithwyr a’r gyrwyr. www.walkingforward.co.uk

New Wheels – Dyma ddrama sy’n annog gyrwyr ifanc i feddwl. Dau nod perfformiad Tiny Giants Theatre ohoni yw rhoi sylw i’r problemau sy’n codi oherwydd gyrru’n ddiofal, a thanlinellu pa mor bwysig yw hi i wisgo gwregys diogelwch. Bydd hi hefyd yn ceisio cynyddu’r ymwybyddiaeth o’r peryglon sy’n wynebu defnyddwyr ifanc y ffyrdd.

www.tinygiants.ltd.uk


Second Chance – Diwrnodau cyntaf bod mynychu ysgol uwchradd yw pwnc y cynhyrchiad rhyngweithiol hwn. Fe aiff â’r disgyblion yn ôl i hanes disgybl (Peter) ym mlwyddyn saith wrth iddo ddod wyneb yn wyneb â bywyd mewn ysgol uwchradd am y tro cyntaf – yr uchafbwyntiau, yr isafbwyntiau, y pethau sy’n mynd â’i sylw, a’r peryglon. Wrth i’r stori gael ei hadrodd, bydd y gynulleidfa’n trafod ac yn effeithio ar ganlyniad gweithredoedd Peter gan wybod y cân nhw ‘Ail Gyfle’. Y drasiedi i Peter yw iddo fethu â chanolbwyntio am eiliad fer wrth groesi’r ffordd ac iddo gael ei daro g an fws. Does dim ail gyfle iddo ef.

www.tinygiants.ltd.uk



Hyfforddiant cyn gyrru
Yn wreiddiol, fe sefydlwyd cynllun Mega Drive yng Ngwent ym 1995 oherwydd problem ddifrifol iawn, sef bod nifer anghymesur o yrwyr ifanc mewn damweiniau ar y ffordd, yn bennaf oherwydd eu diffyg profiad. Caiff Mega Drive ei gyflwyno i fyfyrwyr coleg sy’n bwriadu cymryd eu prawf gyrru ymarferol cyn bo hir iawn heb iddyn nhw wybod, efallai, am yr holl beryglon a all godi wrth yrru ar ffyrdd Prydain.


Bydd y myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn Mega Drive yn ymweld â’r “gweithfannau rhyngweithiol” mewn grwpiau o dri i gael gwybodaeth hanfodol am faterion gyrru, gan gynnwys:


· ymwybyddiaeth o beryglon
· dogfennau hanfodol
· achosion damweiniau
· effeithiau a chanlyniadau yfed a chymryd cyffuriau
· prynu car newydd neu ail-law
· beth i’w wneud yn y fan a’r lle os bydd damwain


O flwyddyn i flwyddyn, y weithfan fwyaf poblogaidd yw honno lle caiff y myfyrwyr gyfle i fentro i sedd y gyrrwr. Fe gân nhw gyfle hefyd i yrru o gwmpas cwrs arbennig yng nghwmni hyfforddwr gyrru sydd wedi’i gymeradwyo. Dyma, i lawer o’r myfyrwyr, eu profiad cyntaf o fod y tu ôl i’r llyw.


Cynhelir Mega Drive hefyd yn ardaloedd:
Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, Ceredigion, Caerfyrddin. I holi a yw Mega Drive ar gael, cysylltwch â’ch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol.



Crash Scene Incident (C.S.I Cymru)

Gorolwg
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys cyflwyniadau ar ddiogelwch ar y ffyrdd gan swyddogion lleol diogelwch ar y ffyrdd, yr Heddlu a staff y Gwasanaeth Tân ac Achub. Caiff ei gyfeirio at grwpiau bach a’i gyflwyno yn ôl trefn cylchdro o ryw 20 munud. Drwy ddefnyddio’r fformat hwnnw, mae modd rhoi sylw i ryw 200 a rhagor o ddisgyblion mewn diwrnod.

Pwyntiau allweddol
Mae’r rhaglen yn pwysleisio’r agweddau cadarnhaol ar yrru a’r manteision y gall oedolion ifanc eu cael ohono. Mae hi hefyd yn fodd i’r tîm hoelio sylw ar amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar yrwyr ifanc, fel goryrru, pwysau cyfoedion, gwregysau diogelwch, gyrru dan ddylanwad diod a chyffuriau, a defnyddio ffonau symudol yn anghyfreithlon.

Mae’r cyflwyniad yn un amlfformat ac amlgyfrwng. Y man cychwyn yw sesiwn cwestiwn-ac-ateb Gwir/Celwydd, a hwnnw wedi’i gynllunio i roi prawf ar ymwybyddiaeth y disgyblion o faterion diogelwch ar y ffyrdd ar hyn o bryd.

Crynodeb
Cyfeirir rhaglen CSI at y rhai 16-18 oed a chaiff hi ei chyflwyno i ysgolion a cholegau ar hyn o bryd. Er ei bod hi’n cyfleu negeseuon am ganlyniadau Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd yn ddiflewyn ar dafod, mae hi hefyd yn cynnig gwybodaeth a strategaethau i’r myfyrwyr i sicrhau eu bod nhw’n osgoi cael eu hanafu neu eu lladd. Caiff y themâu hynny eu datblygu drwy gyfrwng cyflwyniadau PowerPoint a fideo, a’r penllanw yw sesiwn rhyngweithiol sy’n para 20 munud ac yn hoelio sylw ar gerbyd sydd wedi bod mewn gwrthdrawiad. Syniad a ddatblygwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yw hwn ac mae’r cerbyd yn un a gyflwynwyd i’r Labordy Ymchwil Traffig yn Wokingham i’w brofi mewn gwrthdrawiadau. Mae’r modelau realistig o bobl ynddo yn fodd i’r swyddogion sôn yn gywir ac yn awdurdodol am ganlyniadau gwrthdrawiad ar y ffordd.
Mae’r sioe wedi ennyn ymateb cadarnhaol iawn ymhlith staff a disgyblion ysgolion a cholegau.


Skills 4 Life – Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a Gorllewin Cymru a Heddlu De Cymru.


Gorolwg
Cynhelir y prosiect tridiau hwn mewn cartref diogel i blant, sef Hillside yng Nghastell-nedd yn yr achos hwn. Ynddo, bydd y Gwasanaeth Tân ac Achub, yr Heddlu a staff y cartref yn ymwneud â throseddwyr ifanc sydd, gan mwyaf, wedi rhoi pethau ar dân neu wedi cyflawni troseddau sy’n ymwneud â cherbydau. Yn lle gwisgo’u gwisgoedd swyddogol, bydd yr Heddlu a staff y Gwasanaeth Tân ac Achub yn gwisgo crys-T ‘Skills for Life’ a jîns. Bydd hynny’n help i dorri’r garw yn gyflym rhwng yr hwyluswyr a’r myfyrwyr.


Pwyntiau allweddol
* Cymerodd chwech o droseddwyr ifanc ran yn y rhaglen.
* Roedden nhw yno am iddyn nhw gyflawni troseddau a oedd yn ymwneud â thân neu geir.
* Caiff pedwar sgìl allweddol eu datblygu ar y cwrs, sef Diogelwch, Cyfathrebu, Gwaith Tîm, ac Ystyried Canlyniadau eu Gweithredoedd.
* Daw’r hwyluswyr a’r myfyrwyr ynghyd i gwblhau cyfres o dasgau neu sgiliau fel driliau ysgol a phwmp, rhedeg peipiau, chwilio ac achub, a chymorth cyntaf.
* Cafwyd bod hyn yn ffordd ragorol o ddatblygu’r pedwar sgìl allweddol ac, o reidrwydd, fe ysgogodd ef awyrgylch ymlaciol a chysylltu llafar da rhwng y myfyrwyr a’r hwyluswyr.
* Ar drydydd diwrnod y cwrs, bydd Cyngor Dinas Abertawe yn caniatáu defnyddio’u hôl-gert gwrthdrawiad a bydd dau swyddog arbenigol o’r Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn cyflwyno sesiwn digyfaddawd ar ganlyniadau corfforol, moesol a chymdeithasol Gwrthdrawiad Traffig Ffordd. Bydd y sesiwn yn trafod y themâu arferol, fel gyrru dan ddylanwad diod a chyffuriau, methu â gwisgo gwregys diogelwch, a phwysau cyfoedion.
* Diwedd y sesiwn ar Wrthdrawiadau Traffig Ffordd yw cyfnod o sesiwn 20 munud lle caiff y myfyrwyr weld canlyniadau diflas damwain a ddigwyddodd pan oedd car a’r teithwyr ynddo’n teithio 40 milltir yr awr.


Crynodeb
Mae’r fenter hon yn sicrhau ymglymiad ar lawer lefel ac mae’r gwerthuso sydd wedi bod arni’n dangos bod agweddau’r troseddwyr ifanc at yr Heddlu, y Gwasanaethau Tân ac Achub a materion Diogelwch ar y Ffyrdd yn newid. Byddan nhw hefyd yn deall mwy ar ganlyniadau eu hymddygiad i’r Gwasanaethau Tân ac Achub, i’w cymunedau ac iddyn nhw’u hunain.


Pentre Peryglon

Canolfan bwrpasol ydi Pentre Peryglon, sy'n cynnig addysg diogelwch ymarferol yn arbennig i blant a phobl ifanc, ond lle gall pob aelod o'r gymuned fwynhau yr hyn sydd ar gael.

Mae Pentre Peryglon yn ffordd hynod effeithiol o gynnig sgiliau fydd o gymorth i bobl osgoi peryglon bob dydd. Yn yr amgylchedd unigryw a diogel hwn, gall pobl weld a chlywed y peryglon fyddant efallai yn eu hwynebu yn y byd go iawn, ond heb wynebu'r gwir beryglon.

Mae cysylltiad rhwng y profiad addysgol a gweithgareddau'r cwricwlwm ABCh.

Gallwch brofi Pentre Peryglon mewn dwy ffordd.

  • Fel rhan o drip a drefnwyd gan yr ysgol: ysgolion cynradd ac uwchradd
  • Fel ymwelydd annibynnol: ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol

Diogelwch ar y Ffyrdd: Diogelwch cerddwr, beicwyr a gyrwyr ifanc. Pellteroedd brecio ayyb. Dillad diogelwch a llachar. Troseddau ceir, effaith alcohol a chyffuriau, camddefnyddio ffonau symudol. Diogelwch fel teithiwyr mewn car.

I gael gwybod rhagor...


Parth Diogelwch

Pentref ffug yw Parth Diogelwch Rhondda Cynon Taf yn Nhrefforest sy'n caniatáu i blant ac eraill yn y gymuned ddysgu am sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus mewn amgylchedd a reolir sy'n dynwared sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Mae'r ganolfan newydd ar Ystad Ddiwydiannol Trefforest yn disodli’r Parth Diogelwch gwreiddiol a oedd wedi'i gartrefu ar safle llai ar yr ystad. Mae'r safle newydd sy’n 10,000 troedfedd sgwâr yn cynnwys stryd sydd â siop, gorsaf heddlu, trac rheilffordd, coedwigaeth, buarth, is-orsaf drydan, safle adeiladu, damwain ffordd go iawn, ailgylchu, safle diogelwch bws ysgol a thy diogelwch rhag tân . Mae ffordd yn rhedeg drwy'r canol gyda chroesfan i gerddwyr a chornel stryd realistig i helpu gyda sesiynau ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd.

01443 844037



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Go to the English version of this web site.