Road Safety Wales

Croeso i Ddiogelwch Ffyrdd Cymru

Archif Newyddion

Y Newyddion Diweddaraf

Peilot Cyngor yn diddanu ar gludiant ysgol

8/3/10
Denbighshire logo Cymerwyd safiad creadigol i ddatrys problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a bwlio ar fysiau ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru. Mae Cyngor Sir Ddinbych, sy’n arwain gyda phrosiect Zoom ar ran awdurdodau lleol Gogledd Cymru, wedi gosod pedwar o systemau adloniant sydd â miwsig a DVDs sy’n addas i oedran, i ennyn diddordeb y myfyrwyr a’u cadw yn eu seddi.


Mae llwybrau bws dewisol yn Sir Ddinbych, Sir Fflint, Ynys Môn a Gwynedd yn difyrru myfyrwyr ar eu ffordd adref fel arbrawf i weld os gall ymyriad positif cynnar leihau bwlio a thynnu sylw’r gyrrwr, gyda chanlyniadau addawol hyd yma.


Yn Sir Ddinbych, mae Zoom wedi ymuno ag Ysgol Dinas Brân, Llangollen a bysiau GHA, ac wedi darparu’r daith o’r ysgol â chyngherddau miwsig, ffilmiau poblogaidd a rhaglenni dogfen natur. Yr amcan yw gwneud y trip yn brofiad pleserus a lleihau bwlio sy’n gallu arwain at driwantiaeth.


Meddai Berwyn Davies, Swyddog Gweithrediadau GHA Coaches: “Mae’n gweithio!, Mae gyrrwr yn troi’i gefn ar 70 o blant ac yn gyrru. Os gallwn eu cadw’n ddiwyd ac ennyn eu diddordeb ar y trip adref maen nhw’n fwy tebygol o ymddwyn yn dda ac yn llai tebygol o achosi fandaliaeth neu dynnu sylw’r gyrrwr”.


Mae nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a adroddwyd yn y blynyddoedd diwethaf wedi cynyddu. Mae’r arbrawf yn ddull radical o leihau tynnu sylw’r gyrrwr, bwlio, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y daith adref. Mae prosiect Zoom, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn awr yn gweithredu ym mhob un o chwe sir Gogledd Cymru.


Meddai Stuart Davies, Cyd-bennaeth Priffyrdd a Seilwaith Conwy a Sir Ddinbych ‘Ar ddiwedd pob diwrnod ysgol bydd myfyrwyr yn dod ar y bws yn fywiog ac yn egnïol, a gall lefelau swn dynnu sylw gyrwyr bws. Efallai bod hyn yn ymagwedd radical tuag at gludiant ysgol ond os yw’n lleihau ymddygiad gwael ac yn stopio bwlio yna mae’n werth chweil. Defnyddir systemau adloniant yn barod yn yr Unol Daleithiau i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae hwythau hefyd yn adrodd canlyniadau positif.’


Mae’r arbrawf hwn i’w fonitro am flwyddyn, a’i asesu i weld a yw’n ffordd effeithiol o reoli ymddygiad. Y canlyniadau disgwyliedig yw lleihad mewn lefelau swn, bwlio, triwantiaeth a thynnu sylw’r gyrrwr.


Scarlets yn cefnogi Gari Gofal mewn ymgyrch newydd ar draws y sir

1/3/10
Dafydd Jones Mae'r ymgyrch i ddysgu plant ysgol am bwysigrwydd gofal ar yr hewl yn cael cefnogaeth gan y Scarlets.
Mae’r rhanbarth wedi ymuno gyda Chyngor Sir Gâr a’i mascot Gari Gofal i helpu godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch ac i addysgu disgyblion am bwysigrwydd gofal ar yr hewl – gan gynnwys croesi’r ffordd, bod yn weladwy, beicio’n ddiogel, cerdded i’r ysgol ac aros yn y car yn ddiogel.

Yn ddiweddar, fe ddaeth Gari Gofal i gyfarfod rhai o chwaraewyr y Scarlets a’u plant i lansio’r ymgyrch.

Fe fydd y Scarlets yn cynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau gofal ar yr hewl a phecynnau addysg ar y cyd â’r Cyngor a bydd yn cael eu dosbarthu wrth i’r Scarlets ymweld ag ysgolion lleol a sioeau yn ystod yr haf.
Fe fydd y Scarlets yn denu sylw i'r ymgyrch gyda amrywiaeth o nwyddau megis cardiau chwaraewyr, siart wal, posteri o'r tim, llyfrau sticeri, sticeri a llofnodion.

Ymunodd y chwaraewr rhyngwladol Dafydd Jones â Gari a’i blant ifanc i ddechrau’r ymgyrch.

Dywedodd Dafydd Jones: “Rydych chi lot yn fwy ymwybodol o ddiogelwch ar ôl cael plant, ac rwyf i nawr yn fwy ymwybodol o gadw’r plant yn ddiogel yn y car ac ati. Mae’n bwysig iawn i gadw’r neges yn fyw, ac wrth ddefnyddio cymeriad fel Gari Gofal mae’n ffordd hwylus ac ysgafn i wneud hynny, yn enwedig ymhlith plant ifanc.

“Fe fyddwn ni’n gwneud popeth y gallwn i ledu’r neges yn y misoedd nesa’.”

Dywedodd swyddog diogelwch y cyngor, Keith Griffiths: “Mae’r ymgyrch wedi ei anelu at blant sydd yn mynd i’r ysgol am y tro cynta’.

“Mae’n gyfnod pwysig yn eu bywydau ond mae’r rhyddid newydd yma’n cyflwyno peryglon newydd iddynt hefyd.

“Mae’n hanfodol bwysig i addysgu’r plant ac rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd i wneud hynny. Rydym yn falch iawn bod y Scarlets wedi cytuno i gefnogi’r ymgyrch ac i ledu’r neges!”

Dywedodd Julie David, Rheolwr Lletygarwch a Marchnata’r Scarlets: “Fe fyddwn yn lledu’r neges i gymaint o gymunedau a phosib.

“Mae gennym rhaglen hynod o brysur yn y gymuned ac mae’n bwysig i ni barhau â’n gwaith yn y gymuned i sicrhau bod pawb yn teimlo’n rhan o’r teulu. Rydym yn falch iawn o gefnogi ymgyrch fel hyn.

“Fe fydd ein ymgyrch gyda’r Cyngor yn tynnu sylw at nifer o bethau allweddol ynglyn â chadw plant yn ddiogel, croesi’r ffordd, cerdded o un lle i’r llall, beicio’n ddiogel, a sut i aros yn ddiogel yn y car.”


Lleoliad anafusion traffig ar y ffordd yng Nghymru

4/2/10

Welsh Assembly Government logo Mapiau yn dangos lleoliad anafusion traffig ar y ffordd ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae’r mapiau yma yn nodi lle mae anafusion wedi’u clystyru gyda’u gilydd a lle maent wedi’u gwasgaru’n fwy eang.

Mae’n bosib i’r nifer o marcwyr anafusion wahaniaethu i gyfanswm y nifer of anafusion a gofnodwyd am y rhesymau canlynol:

  • Mae damweiniau anafusion lluosog yn dangos un marciwr ar gyfer yr anafus mwyaf difrifol.
  • Gall anghywirdebau yn y cyfeirnodau grid cofnodedig arwain at fethiant i plotio’r lleoliad.

Mae’r mapiau yn cynnwys anafusion ceir, anafusion motorbeicwyr ac anafusion cerddwyr. Maent yn dangos marwolaethau, ac anafusion ag anafiadau difrifol ac anafiadau ysgafn; hefyd, maent yn dangos y brif ffyrdd a setliadau ym mhob ardal Awdurdod Lleol.

I gael gwybod rhagor...


Hwb ariannol i fesurau diogelwch ffyrdd

26/1/10
image depicting Road Safety Logo Bydd dros £50k yn cael ei wario ar gynlluniau diogelwch ffyrdd yn Abertawe mewn ymgais i wella diogelwch ffyrdd i gerddwyr. Llwyddodd cynnig Cyngor Abertawe am yr arian fel rhan o ariannu cyffredinol a fydd ar gael gan Bartneriaeth Lleihau Damweiniau Cymru Gyfan.

Os ceir cymeradwyaeth gan y Cabinet, defnyddir yr arian i osod arwyddion arddangos cyflymder mewn mannau allweddol yn y ddinas.

Bydd yr arwyddion yn dangos gwybodaeth i fodurwyr i geisio addysgu gyrrwyr am gyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd y mae cerbydau'n aml yn teithio'n gynt na'r cyfyngiad lleol arnynt.

Bydd arwyddion parhaol yn cael eu gosod ar Heol Abertawe Llewitha a Heol Gorseinon. Bydd y rhain yn ategu arwyddion a osodwyd eisoes ar ffyrdd eraill yn Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd arwyddion symudol ychwanegol hefyd yn cael eu prynu, y gellir eu defnyddio i gefnogi rhaglenni gorfodi cyflymder ar draws Abertawe.

Mae rhywfaint o'r arian eisoes wedi cael ei ddefnyddio i leihau'r cyfyngiad cyflymder ar Heol Cwmbach, sy'n cysylltu'r Cocyd â Waunarlwydd.

Defnyddiwyd arian ychwanegol i osod camera cyflymder digidol uwch-dechnolegol ar gyffordd Lôn Sgeti a Heol y Mwmbwls. Mae'r camera yn un o ddau yn unig yng Nghymru sy'n gallu monitro modurwyr sy'n anwybyddu goleuadau coch yn ogystal â monitro cyflymder modurwyr drwy'r gyffordd.

Meddai John Hague, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd, "Mae'r arian yn hanfodol i Abertawe, a bydd yn gymorth i ni fynd i'r afael â rhai pryderon sydd gan gymunedau ynghylch cyflymder amhriodol.

"Byddwn yn annog pob gyrrwr i yrru'n gyfrifol ac i gadw at gyfyngiadau cyflymder priodol, yn enwedig yn agos at ysgolion lleol lle gall plant fod yn croesi heolydd."

Meddai Jim Moore, Rheolwr Partneriaeth Lleihau Damweiniau Ffyrdd Cymru, "Ein blaenoriaeth fel partneriaeth bob amser yw ceisio lleihau damweiniau, addysgu modurwyr a dylanwadu ar ymddygiad gyrrwyr, ac mae'r arwyddion arddangos cyflymder yn gwneud hynny. Mae'r adborth gan yrrwyr yn gadarnhaol, gyda nifer yn nodi nad oeddent yn sylweddoli eu bod yn torri'r cyfyngiad cyflymder nes i'r arwydd fflachio. Byddwn yn parhau i ystyried ac ariannu mentrau peirianneg er mwyn ceisio lleihau cyflymder ar ein heolydd."


Cadw Ffyrdd Sir Benfro’n Ddiogel

19/1/10
dyfed powys logo Treuliodd Uned Plismona Ffyrdd Sir Benfro 2009 yn cadw ffyrdd y sir yn ddiogel. Daliodd yr Uned 141 yn fwy o bobl yn gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol nag yn y flwyddyn flaenorol, rhoddwyd 30 yn fwy o ddirwyon goryrru a chymerwyd 385 o gerbydau oddi ar y ffordd gan nad oedd ganddynt y ddogfennaeth gywir.

Cynyddodd rhanbarth Sir Benfro hefyd y nifer o brofion anadl a gyflawnwyd gan dros 3,000 ond daliwyd 65 yn llai o yrwyr yn gyrru pan dros y terfyn alcohol cyfreithiol.

Meddai’r Arolygydd Andy Phillips: “Gyda gobaith, mae’r neges ynghylch yfed a gyrru o’r diwedd yn cael ei chlywed.

“Fodd bynnag, rydym wedi gweld cynnydd mewn troseddau eraill fel gyrru heb y ddogfennaeth gywir. Gall hyn arwain at atafaelu eich car, felly rydym yn annog pobl i ufuddhau i gyfreithiau’r ffordd neu fod yn barod am ganlyniadau drud.”

Gwnaeth yr Uned, ynghyd â’r Uned Ymateb Arfog, ddatgelu 181 o droseddau, arestion 165 o bobl am droseddau cyffuriau a rhoi 58 o rybuddion canabis.

Ychwanegodd yr Arolygydd Phillips: “Mae’r Uned Diogelwch y Ffyrdd a’r Uned Ymateb Arfog yn rhagweithiol yn eu hagwedd ac yn bwriadu atal troseddwyr rhag defnyddio’r ffyrdd a chadw ffyrdd y sir yn ddiogel.

"Yn 2010 byddwn yn parhau i dargedu’r rhai hynny sy’n diystyru’r gyfraith.”


Plant yn troi gyda Cochyn ar yr iâ

11/1/10

Mae grwp o blant ysgol wedi mentro ar yr iâ yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau yn Abertawe, a hynny er mwyn diogelwch ffyrdd. image depicting Waterfront Winterland Logo

Enillwyr lwcus cystadleuaeth liwio diogelwch ffyrdd a drefnwyd gan Dîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe oedd y plant ysgol hyn o Flwyddyn 1 yn Ysgol Gynradd Llangyfelach.

Trefnwyd y gystadleuaeth fel rhan o'r fenter Kerbcraft a ariennir gan y Cynulliad ac sy'n darparu addysg diogelwch ffyrdd ymarferol i blant rhwng 5 a 7 oed.

Y wobr ar gyfer enillwyr y gystadleuaeth oedd cael eu trin fel VIPs ar Gylch Iâ Cochyn yng nghwmni Cochyn y Ceiliog Diogelwch Ffyrdd.

Meddai Mike Flynn, Pennaeth Ysgol Gynradd Llangyfelach, "Cafodd y plant ddiwrnod bendigedig a gwnaethant fwynhau eu hunain yn fawr gyda Cochyn.

"Mae cydlynydd Kerbcraft wedi bod yn gweithio yn ein hysgol am bum mlynedd yn helpu i drosglwyddo negeseuon diogelwch ffyrdd hollbwysig i'r plant.

"Mae'n gynllun gwerthfawr iawn a fydd yn helpu i roi'r sgiliau angenrheidiol i'r plant i'w galluogi i gadw'n ddiogel ar ffyrdd."

Mae'r cyngor yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn gwirfoddoli i helpu i gyflwyno Kerbcraft mewn ysgolion ar draws Abertawe.

Meddai Carys Price, Cydlynydd Hyfforddi Cerddwyr sy'n Blant dros Gyngor Abertawe, "Menter bwysig iawn yw Kerbcraft a hoffem ei chynnig i bob ysgol yn y ddinas.

"Mae'r cynllun yn dibynnu ar gymorth gwirfoddolwyr a heb eu cymorth hwy, ni fyddem yn gallu darparu hyfforddiant Kerbcraft i'n holl blant ifanc."

Os ydych yn credu y gallwch helpu, ffoniwch Carys Price neu Lindsey Hill ar (01792) 636142.


Cyngor Gyrru yn ystod y Gaeaf

7/1/10

Winter drivingMae Heddlu Gogledd Cymru yn atgoffa gyrwyr i gymryd gofal wrth yrru ar ffyrdd sydd wedi rhewi neu sydd wedi eu gorchuddio ag eira.

Gyda’r tymheredd isel yn parhau, mae modurwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus ac i yrru mewn ffordd briodol ar gyfer yr amgylchiadau gaeafol ar y ffyrdd.

Dilynwch y canllawiau syml isod er mwyn eich cadw chi a phobl eraill yn ddiogel ar y ffyrdd:

• Sicrhewch fod eich car yn addas ar gyfer y siwrne, fod y teiars yn llawn aer ac mewn cyflwr da, a bod y goleuadau yn lân ac yn gweithio’n iawn. Byddwch yn weladwy a diogel

• Sicrhewch fod sylwedd i atal rhewi wedi cael ei roi yn y rheiddiadur a bod ganddo’ch digon o hylif glanhau’r sgrin flaen

• Dywedwch wrth ffrind neu aelod o’ch teulu ble rydych yn mynd

• Ewch â rhaw, fflasg o ddiod poeth, torch, ffôn symudol sydd wedi ei tshiarjo, blanced a dillad addas gyda chi

• Arafwch ar ffyrdd sydd wedi eu gorchuddio â rhew neu eira a gadewch digon o le rhwng eich car a’r car o’ch blaen

• Gadewch mwy o amser nag arfer ar gyfer eich siwrne

• Sicrhewch fod digon o betrol a disel yn eich tanc

• Gwnewch ymholiadau gyda’r RAC neu AA am y ffyrdd rydych am ei ddefnyddio neu gwrandewch ar eich gwasanaeth radio lleol

• Defnyddiwch eich ffôn symudol os ydych angen cysylltu â’r gwasanaethau brys am gymorth


Gwirfoddolwyr diogelwch ffyrdd yn derbyn diolch y Nadolig

18/12/09

Mae hyrwyddwyr diogelwch ffyrdd yn Abertawe wedi derbyn diolch Nadoligaidd arbennig gan Gyngor Abertawe. image depicting Rocky The Rooster

Mae'r gwirfoddolwyr lleol sy'n rhedeg menter diogelwch ffyrdd Kerbcraft y Cynulliad yn cael eu hanrhydeddu â chinio Nadolig fel gwobr am eu gwaith caled a'u hymroddiad yn ystod y flwyddyn.

Tîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor sy'n cydlynu'r cynllun ac mae'n dibynnu ar wirfoddolwyr i fynd i ysgolion cynradd i helpu plant rhwng 5 a 7 oed ddysgu am ddiogelwch ffyrdd.

Mae Kingsley McCarthy o Drefansel wedi bod yn helpu, gan ddysgu diogelwch ffyrdd mewn tair ysgol gynradd am y chwe blynedd diwethaf.

Meddai Kingsley, sy'n 73 oed, "Mae Kerbcraft yn gynllun mor hanfodol a gwerth chweil. Dyma un o'r ffyrdd y gallwn help i leihau nifer y damweiniau sy'n digwydd i blant ar ein ffyrdd.

"Fe gynigiodd James, fy ?yr, fy enw ychydig flynyddoedd yn ôl, a dw i ddim wedi 'difaru.

"Rydym ni'n cael amser pleserus a llawer o hwyl gyda'r plant ac mae pawb i weld yn mwynhau eu hunain. Mae gennym hefyd gân diogelwch ffyrdd arbennig rydyn ni'n dysgu i'r plant ar ddiwedd y wers.

"Rwy'n wir obeithio y bydd mwy o bobl yn gwirfoddoli oherwydd mae'n rhaid i ni barhau i gynnal y cynllun."

Dywedodd John Hague, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd, "Rwyf am ddiolch yn bersonol i'r gwirfoddolwyr am eu cymorth, yn ein helpu i gyflwyno addysg diogelwch ffyrdd i blant ledled Abertawe. Heb eu hymdrechion, fydden ni ddim yn gallu cynnal y cynllun.

"Rydym yn gwbl ymroddedig i greu amgylchedd diogel yn ein cymunedau yn enwedig ger ysgolion. Mae hyfforddiant Kerbcraft yn ategu'r camau ffisegol hyn ac yn sicrhau y bydd ein plant yn ddiogel ar y ffyrdd."

I wirfoddolir ar gyfer Kerbcraft a helpu plant i fod yn ddiogel ar ein ffyrdd, cysylltwch â Carys Price neu Lindsey Hill ar (01792) 636142.


Megan yn dylunio’r poster buddugol ar gyfer ymgyrch yn erbyn yfed a gyrru

18/12/09

Poster

Mae merch ysgol o Borthcawl wedi ennill cystadleuaeth i greu poster yn erbyn yfed a gyrru ar gyfer tymor y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Bydd y poster gan Megan Perrin, sy’n ddeng mlwydd oed, yn ymddangos ar fysiau lleol First Cymru wedi iddi ennill cystadleuaeth a drefnwyd gan dîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r poster, sy’n cynnwys y neges ‘Be full of Christmas cheer, not full of Christmas beer!’, yn amlygu peryglon yfed a gyrru, yn enwedig dros gyfnod yr Wyl, a bydd i’w weld ledled y fwrdeistref sirol.

Gwahoddwyd ysgolion lleol i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, a drefnwyd gan y tîm Diogelwch ar y Ffyrdd fel un o’r llu o fentrau sydd wedi’u bwriadu i hybu gwell diogelwch ar y ffyrdd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae ystadegau wedi dangos bod 10,749 o yrwyr wedi cael prawf anadl gan yr heddlu ledled Cymru yn ystod yr ymgyrch ganddynt a barodd am fis dros gyfnod y Nadolig y llynedd.


Canmoliaeth i ddisgyblion yn cerdded i'r ysgol

14/12/09

Pupils from Glyncorrwg Primary School celebrate their win Mae Ysgol Gynradd Glyncorrwg yng Nghwm Afan wedi ennill tlws mewn cystadleuaeth ar gyfer y nifer uchaf o ddisgyblion a gerddodd i'r ysgol yn ystod Mis Rhyngwladol Cerdded i'r Ysgol ym mis Hydref. Cyrhaeddon nhw ganran uchel iawn sef 83%

Roedd enillwyr y llynedd, Ysgol Gynradd Coed Hirwaun ym Margam, yn ail agos iddynt, gan gyrraedd ffigur parchus o 82%.

TÎm Diogelwch Ffyrdd Castell-nedd Port Talbot oedd yn trefnu'r  gystadleuaeth flynyddol, ac roedd dros 200 o ddisgyblion wedi ymuno yn yr ymgyrch i annog cynifer o ddisgyblion  phosib i gerdded i'r ysgol a cheisio cipio'r brif wobr.

Cofnodwyd y nifer oedd yn cerdded bob dydd, a'i newid yn ganran o'r nifer ar y gofrestr, gyda'r ysgol fuddugol yn derbyn tlws ar gyfer eu hysgol.

Yn y seremoni, cyflwynwyd gwobrau i'r enillwyr a'r rhai a ddaeth yn ail.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Ali Thomas, wrth ganmol ymdrech y disgyblion, "Rwyf wrth fy modd Â'r gefnogaeth a ddangosir gan ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol. Roedd llawer iawn o ddisgyblion wedi cymryd rhan yn y digwyddiad a oedd mor werth chweil. Hoffwn longyfarch pawb a ymunodd yn yr ymgyrch am wneud ymdrech mor wych."


Ymgyrch Yfed a Gyrru Nadolig Cymru Gyfan

14/12/09

“Mae popeth wedi ei ddifetha – ni all yr oll roeddwn wedi ei obeithio amdano ddigwydd yn awr.”

Dyma eiriau Stacey Williams, 17-oed, a oroesodd gwrthdrawiad erchyll ar ffordd yr A5 ym Mhorthaethwy yn ystod oriau mân ddydd Sadwrn, yr 28ain o Chwefror, eleni.

Mae ei geiriau’n dod wrth i’r pedwar llu heddlu yng Nghymru, gyda Heddlu Gogledd Cymru a Llywodraeth y Cynulliad yn arwain, lansio eu hymgyrch yfed a gyrru Nadolig blynyddol - sy’n cael ei chynnal o’r 1af o Ragfyr hyd at 1af o Ionawr 2010.

Mae Stacey wedi cael ei gadael gydag anafiadau sydd wedi newid ei bywyd yn dilyn y gwrthdrawiad a laddodd tri arall, sef Elin Rowlands 15-oed, Clifford Jones a oedd yn 17 a Rebecca Lee a oedd yn 18-oed.

Mae’r gyrrwr, Richard Brown, a oedd yn 24-oed, wedi cael ei garcharu am 10 mlynedd ar ôl pledio’n euog i dri achos o ladd drwy yrru’n beryglus a gyrru o dan ddylanwad alcohol.

Mae fideo arbennig wedi cael ei gynhyrchu, gyda chyfweliad â Stacey a’i thad, Kevin Williams - sy’n siarad am effaith y gwrthdrawiad ar eu bywydau.

Meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro, Ian Shannon: “Eleni, bydd Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru Nadolig Cymru Gyfan unwaith eto’n rhybuddio gyrwyr na fyddem yn goddef yfed a gyrru.

“Ni fyddem yn goddef yfed a gyrru yn arwain at y Nadolig ac wedi hynny. Os ydych yn torri’r gyfraith ac yn gyrru ar ôl bod yn yfed, y perygl ydy y byddwch yn cael eich gwahardd ac y byddwch yn wynebu erlyniad troseddol. Rydych hefyd yn peryglu eich bywyd eich hun a bywyd pobl eraill ar y ffyrdd.

“Mae swyddogion ar draws Cymru wedi eu hymrwymo i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel a byddem ar batrôl er mwyn lleihau’r nifer o yrwyr sy’n mynd y tu ôl i’r llyw ar ôl yfed neu gymryd cyffuriau.”

Ychwanegodd: “Rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i wneud ffyrdd Gogledd Cymru’n fwy diogel, ond ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Rydym angen cefnogaeth y cyhoedd er mwyn cael effaith gwirioneddol. Dwi’n apelio ar bawb i chwarae eu rhan - ni all terfynau yfed a gyrru cael eu hamcangyfrif, felly'r unig ffordd ddiogel i’w dilyn yw peidio ag yfed a gyrru.”

Meddai Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Prif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad a’r Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth: “Hwn fydd y drydedd ymgyrch i mi gymryd rhan ynddi, a thra dwi’n credu ein bod yn newid agweddau, sy’n cynorthwyo i leihau’r nifer sy’n cael eu lladd oherwydd yfed a gyrru, mae gormod o unigolion a theuluoedd o hyd sydd â’u bywydau yn cael eu chwalu gan farwolaethau ac anafiadau yn ymwneud ag yfed a gyrru.

“Er mai dim ond canran bychan o fodurwyr sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith, mae’r canran yma o yrwyr anghyfrifol yn gyfrifol am un ym mhob chwech o farwolaethau yn y wlad hon. Dwi’n annog y gyrwyr hyn i gysidro’r effaith mae eu hymddygiad yn ei gael ar bobl ddiniwed ac i beidio â bod mor ddifeddwl.”

Dros y pedair wythnos nesaf bydd miloedd o fodurwyr yn wynebu cael eu stopio gan y bydd timau o’r pedwar llu - Gogledd Cymru, Dyfed Powys, Heddlu’r De a Gwent - yn cynnal archwiliadau mewn lleoliadau amrywiol ar draws y wlad.

Os ydych chi’n ymwybodol o rywun sy’n yfed a gyrru, neu os ydych yn amau rhywun o yrru tra o dan ddylanwad alcohol, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 0845 607 1001 (llinell Gymraeg) neu 0845 607 1002 (llinell Saesneg).

Gallwch hefyd anfon neges testun at 66767 neu e-bostio – northwalespolice@north-wales.police.uk


Gallai’r ddiod honno ddod rhyngot ti a’r Nadolig

10/12/09
Gallai’r ddiod honno ddod rhyngot ti a’r Nadolig!

Gall hyd yn oed ddiod neu ddwy amharu ar dy allu i yrru - cofia nad oes rhaid i ti fod yn feddw i gael dy ddal am yfed a gyrru.


Mae'r ymgyrch yn erbyn yfed a gyrru yn cael ei chynnal ledled Cymru gyda chefnogaeth yr Heddlu. Bydd nifer mawr o swyddogion yr heddlu o gwmpas yn ystod yr ?yl i atal pobl yr amheuir eu bod yn yfed a gyrru. Os wyt ti'n gyrru, paid ag yfed a gyrru dros y Nadolig eleni, neu fe allet ti wynebu'r canlyniadau o gael dy ddal.

Os bydd llys yn dy gael yn euog o yfed a gyrru gallai hynny ddifetha dy fywyd.

Os byddi'n gyrru ar ôl cael diod neu ddwy, fe allet ti wynebu'r canlyniadau canlynol:

  • Methu â gyrru am flwyddyn neu golli dy drwydded yrru hyd yn oed
  • Dirwy sylweddol
  • Record droseddol neu fynd i'r carchar
  • Byw gyda'r stigma o gael dy adnabod fel un sy'n yfed a gyrru
  • Straen ar dy ffordd o fyw, er enghraifft methu â defnyddio dy gar, colli dy swydd a chael anawsterau mewn perthynas.
  • Y gwaethaf a allai ddigwydd - gallet ti gael dy ladd neu gallet ti dy anafu dy hun, dy deithwyr ac eraill.


Felly, pan fyddi'n cael cynnig diod arall, pwyll piau hi. Os wyt ti am barhau i yfed gad dy gar a chymer dacsi, bws, trên neu trefna fynd gyda gyrrwr arall.

I gael cymorth wrth wneud cynlluniau teithio ewch i wefan Traveline Cymru

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Ymgyrch Pwyllwch!


Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd – ‘Ymgyrch Dewis’

24/11/09


Police Traffic Officer Yn dilyn llwyddiant ysgubol y llynedd, bydd y tri Gwasanaeth Tân ac Achub a’r Heddluoedd yng Nghymru yn cydweithio unwaith eto eleni er mwyn gweithredu i addysgu’r cyhoedd ynghylch diogelwch ar y ffyrdd drwy’r ‘Ymgyrch Dewis’ – ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd wythnos o hyd sy’n digwydd rhwng 23 a 27 o fis Tachwedd.

Yn ystod Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd, sy’n cael ei gynnal gan yr elusen diogelwch ar y ffyrdd Brake, bydd ‘Ymgyrch Dewis’ yn cael ei defnyddio i addysgu’r cyhoedd ar sut y gallai man newidiadau i’r ffordd maent yn gyrru achub eu bywyd hwy a bywydau pobl eraill.

Bydd Swyddogion Heddlu yn eu lle tu allan i Orsafoedd Tân yn y trefi a’r dinasoedd sydd â rhai o’r lefelau uchaf, yn ystadegol, o ran Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd yng Nghymru. Bydd swyddogion yr heddlu yn atal unrhyw yrwyr nad ydynt yn gwisgo gwregys diogelwch ac yn rhoi dewis iddynt:

Dewis 1: Gall y troseddwr gytuno i dalu’r ddirwy cosb benodedig, neu

Dewis 2: Gall y troseddwr fynd i’r Orsaf Dân a gwylio cyflwyniad ddeng munud o hyd am ganlyniadau erchyll peidio â gwisgo gwregys diogelwch.

Ystadegau
Yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, cafodd 171 o fodurwyr eu hatal gan swyddogion yr heddlu tu allan i saith Gorsaf Dân gwahanol yn ystod Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd (2008).

Cafodd pob un eu hatal am nad oeddent yn gwisgo gwregys diogelwch wrth yrru, neu am deithio mewn cerbyd heb wisgo gwregys.

Wedi cael y dewis, dim ond tri pherson ddewisodd y ddirwy. Roedd yn well gan 168 o bobl fynd mewn i’r Gorsafoedd Tân a gwylio cyflwyniad difrifol iawn, 10-15 munud o hyd.

Roedd 100% o’r bobl a welodd y cyflwyniad yn dweud y byddent yn sôn wrth bobl eraill amdano a dywedodd 98% ei fod wedi newid eu canfyddiad hwy ynghylch peryglon gyrru heb wisgo gwregys diogelwch.

Cafodd y Gorsafoedd Tân canlynol eu targedu yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

Merthyr Tudful, Tonypandy, Caerdydd Canolog a’r Barri (ardal Heddlu De Cymru) – cafodd 90 o droseddwyr eu hatal gan yr heddlu.
Caerffili, Aber-carn a Glynebwy (ardal Heddlu Gwent) – cafodd 78 o droseddwyr eu hatal gan yr heddlu.
Dywedodd y Rheolwr Grwp Rob Morris, Pennaeth Diogelwch ar y Ffyrdd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;

Profodd yr wythnos yn llwyddiant mawr o ran cyrraedd modurwyr a oedd yn wynebu perygl mawr wrth beidio â gwisgo eu gwregys diogelwch wrth yrru.

Mae’n galonogol iawn fod 100% o droseddwyr yn teimlo bod yr ymgyrch hon yn un gwerth chweil ac yn arf ataliol llawer gwell na’r dull gorfodaeth ac y byddai’n cael effaith hirdymor ar eu hymddygiad.

Oherwydd llwyddiant y llynedd, mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub a’r pedwar Gwasanaeth Heddlu yn cydweithio eleni eto i addysgu’r cyhoedd ynghylch diogelwch ar y ffyrdd drwy’r ‘Ymgyrch Dewis’.”

Roedd 75% o’r bobl a gymrodd ran yn y cyflwyniadau yn ddynion, ac roedd 65% dros 25 mlwydd oed.

Dywedodd Wayne Tucker, Rheolwr Diogelwch ar y Ffyrdd ar gyfer Heddlu De Cymru;

Bu’r Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yn llwyddiant mawr yng Nghymru y llynedd. Mae wedi dangos sut y gall addysgu fod yr un mor effeithiol, os nad yn fwy effeithiol, na gorfodaeth.

Gobeithiwn y bydd y gyrwyr a wyliodd y fideo trawiadol yn pasio’r neges ymlaen i’w ffrindiau a’u teulu, sef bod gwisgo gwregys diogelwch yn achub eich bywyd.

Wrth atal y gyrwyr a oedd yn troseddu, nid oedd swyddogion yr heddlu yn synnu wrth glywed yr un hen esgusodion, yn amrywio o “Anghofiais i” i “Dwi’n cael diwrnod gwael!” Wedi’r holl ymgyrchu a chyhoeddusrwydd, does dim esgusodion ar ôl.

Y gwir amdani yw pan fyddwch yn eistedd y tu ôl i olwyn car, rydych yn gyfrifol am arf sy’n gallu lladd. Peidiwch â pheryglu eich diogelwch eich hun, diogelwch eich teithwyr na diogelwch defnyddwyr eraill y ffyrdd.

Dywedodd Sarsiant Martin Wilce, Uned Archwilio Gwrthdrawiadau Heddlu Gwent;

Y llynedd, roedd hi’n galonogol gweld fod bron pob un o’r modurwyr a gafodd eu hatal ac a ddewisodd gwylio’r cyflwyniad wedi newid eu canfyddiad ynghylch pwysigrwydd mesurau diogelwch ar y ffordd syml, fel gwisgo gwregys diogelwch.

Er hynny, mae’n dal yn bryderus fod pobl yn dal i ddewis peryglu eu diogelwch eu hunain pan fyddant y tu ôl i’r olwyn yn ogystal â diogelwch eu teithwyr a diogelwch defnyddwyr eraill y ffyrdd.


Galw ar rieni i yrru'n fwy diogel mewn ymgyrch 'Er eu lles hwy' yn Abertawe

23/11/09

Mae modurwyr yn cael eu targedu mewn ymgyrch gyrru diogel sy'n ceisio annog rhieni i yrru'n fwy diogel a dangos esiampl dda i'w plant.

image depicting Fortheirsafe

Mae'r ymgyrch 'Er eu lles hwy' yn cynnwys posteri ar gefn bysus yn Abertawe ac mewn cysgodfannau bysus ar draws y ddinas sy'n amlygu'r arferion gwael y mae miloedd o yrwyr yn eu defnyddio bob dydd.

Mae gweithredoedd megis goryrru, anfon negeseuon testun wrth yrru a pheidio â gwisgo gwregys diogelwch yn ffactorau cyffredin o hyd ymysg gyrwyr, er eu bod yn anghyfreithlon.

Mae Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe yn gobeithio atgyfnerthu'r negeseuon diogelwch i fodurwyr trwy amlygu'r ffaith bod plant yn aml yn eistedd mewn cerbydau'n gwylio'r hyn y mae eu rhieni'n ei wneud a'u bod yn debygol o'u copïo yn y dyfodol.

Meddai Jeff Green, Swyddog Diogelwch Ffyrdd y Sir, "Gall plant sy'n eistedd yng nghefn cerbydau weld yn hawdd yr hyn sy'n digwydd pan fo rhieni wrth y llyw. Os gallant weld bod eu rhieni'n goryrru, yn anfon negeseuon testun neu nid ydynt yn gwisgo gwregys diogelwch, efallai y byddant yn credu fod hynny'n iawn.

"Rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch 'Er eu lles hwy' yn taro deuddeg gyda rhieni a'u gwneud yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae eu plant yn sylwi arno a'r hyn y mae'n rhaid iddynt ei wneud i ddangos esiampl dda y tu ôl i'r llyw."

Meddai Wayne Tucker, Rheolwr Diogelwch Ffyrdd Heddlu De Cymru, sy'n cefnogi'r ymgyrch, "Mae'n glir bod rhai pobl yn dal i anwybyddu'r ffaith y gall peidio â gwisgo gwregys diogelwch, defnyddio ffôn symudol wrth yrru neu oryrru eich lladd.

"Rydym yn ymroddedig i leihau marwolaethau ar ein ffyrdd a hoffwn annog pawb i yrru mewn modd cyfrifol a dangos ei bod hi'n hanfodol i rieni ddangos esiampl dda."


Cod ymddygiad teithio i ddisgyblion

3/11/09
Ysgol Mae plant sy'n defnyddio bysiau i fynd a dod i'r ysgol yn cael cod ymddygiad sy'n caniatáu i brifathrawon gael yr hawl i gosbi plant sy'n camymddwyn. Cafodd disgyblion rybudd y gallen nhw gael eu gwahardd o'r ysgol os nad ydyn nhw'n dilyn y cod fydd yn cychwyn ym mis Ionawr. Y bwriad ydi i wella ymddygiad a gwella diogelwch pobl ifanc sy'n teithio i ysgolion a cholegau.


Mae tad bachgen gafodd ei ladd mewn damwain bws ysgol yn 2002 yn dweud bod hyn yn gam yn y cyfeiriad cywir.


Y Cod Ymddygiad wrth Deithio yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.


Mae'r cynllun gan Lywodraeth y Cynulliad yn cwmpasu pob dull o deithio, bws, trên, cerdded a beicio sy'n cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion 5-19 oed.


Dywedodd y llywodraeth y bydd gan ysgolion ac awdurdodau lleol y grym i gymryd camau yn erbyn pobl ifanc sy'n camymddwyn ar y ffordd i neu o'r ysgol neu goleg.

Fe fydd y cod yn rhan o bolisi ymddygiad presennol pob ysgol gyda phrifathrawon yn gallu cymryd camau yn erbyn disgyblion sydd ddim ar dir yr ysgol.
Bydd ymgyrch yn cychwyn ym mis Ionawr sy'n ceisio annog disgyblion i ymddwyn yn gyfrifol ac i helpu prifathrawon, athrawon, rhieni a chwmnïau teithio i ddeall eu cyfrifoldebau.

"Mae'r pwerau newydd wedi rhoi cyfle i ni lunio cod cynhwysfawr sy'n cwmpasu pob dull o deithio - gan gynnwys y bws, y trên, cerdded a beicio - sy'n cael ei ddefnyddio i fynd i'r ysgol bob wythnos ledled Cymru," meddai Dirprwy Brif Weinidog Cymru a Gweinidog Trafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones.
"Rydym wedi llunio'r Cod ar ôl trafod â phlant a phobl ifanc a gwrando ar eu sylwadau, ac mae'r Cod yn adlewyrchu hynny.
"Mae'r Cod yn canolbwyntio ar negeseuon positif ynghylch hawliau, cyfrifoldebau a diogelwch plant a phobl ifanc wrth iddyn nhw deithio rhwng y coleg a'r ysgol a'u cartrefi."
Cafodd Stuart Cunningham-Jones ei ladd mewn damwain bws ysgol pan oedd yn 12 oed ym Mro Morgannwg.
Dywedodd ei dad, David, sydd wedi bod yn ymgyrchu am well diogelwch ers marwolaeth ei fab, ei fod yn croesawu'r cod ond bod angen gwneud llawer iawn mwy o waith.

"Wrth edrych yn ôl i gyfnod y ddamwain, roedd y cyfrifoldeb yn aneglur - doedd neb yn gwybod pwy oedd yn gyfrifol," meddai.
"Fe fydd plant yn fwy ymwybodol o be ddylen nhw wneud, bydd athrawon yn fwy ymwybodol o'u cyfrifoldebau ac felly hefyd y gyrwyr."


Fe wnaeth rheithgor yng nghwest Stuart gofnodi rheithfarn o farwolaeth drwy ddamwain gan gredu bod y ddamwain wedi ei hachosi oherwydd bod rhywun wedi ymyrryd gyda'r llyw.
Roedd y gyrrwr wedi dweud bod plentyn wedi gafael yn yr olwyn eiliadau cyn y ddamwain.
"Hoffwn weld San Steffan yn rhoi'r pwerau i newid y Ddeddf Drafnidiaeth a fydd yn caniatáu'r llywodraeth i osod rheolau fel oed bysiau, gorfodi gwregysau a diddymu'r rheol tri phlentyn i bob sedd ar gyfer dau o bobl," ychwanegodd Mr Cunningham-Jones.
Dywed y cod mai cwmnïau a gyrwyr fydd â'r cyfrifoldeb i ddweud wrth awdurdodau lleol a neu ysgolion am unrhyw achosion o gamymddwyn neu ymddygiad anniogel.


"Rydym yn derbyn y problemau y bydd ymddygiad gwael yn ei gael ar yrwyr bysiau," ychwanegodd Mr Jones.
"Rydym yn credu y bydd y cod, ochr yn ochr â'r hyfforddiant priodol i yrwyr yn cael effaith bositif ar ymddygiad disgyblion, gan wneud teithio yn fwy diogel i bawb."


Canmol I myfyrwyr am eu neges yn erbyn yfed a gyrru
28/10/09

Mae pedwar disgybl wedi cael eu canmol am helpu i sbarduno Ymgyrch Yn Erbyn Yfed a Gyrru.Mayor Cllr Mrs Pam Thomas and winning students

Mae myfyrwyr o bedair ysgol Castell-nedd Port Talbot wedi cwrdd  Maer Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ddangos eu dyluniadau matiau cwrw sy'n cynnwys negeseuon Ymgyrch Yn Erbyn Yfed a Gyrru yr haf.

Cafodd y dyluniadau buddugol eu troi'n fwy na thri deg mil o fatiau cwrw yn cynnwys negeseuon y pedwar myfyriwr, ac fe'u dosbarthwyd i westai a thafarndai ledled y fwrdeistref sirol gan arddangos y neges amlwg nad yw yfed alcohol a gyrru yn cymysgu, a'i fod yn aml yn arwain at ddamweiniau difrifol.

Cyrhaeddodd Branwen Lewis o Ysgol Gyfun Cwmtawe, Chloe Morgan o Ysgol Gyfun Glan Afan, Hannah Clarke o Ysgol Gyfun Dyffryn, a Mollie Morgan o Ysgol Gyfun Glan Afan y brig, wedi trechu cystadleuaeth gan fwy na 200 o ymgeiswyr.

Dywedodd y Maer Pam Thomas fod y bartneriaeth rhwng TÎm Diogelwch Ffyrdd y sir a myfyrwyr yr ysgolion lleol wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

"Roedd safon y ceisiadau yn hynod uchel, a chafodd y beirniaid cryn drafferth wrth ddewis y dyluniadau i'w cynhyrchu," dywedodd. "Rydym yn ddiolchgar iawn i'r disgyblion am eu cymorth yn y fenter a redodd drwy fisoedd yr haf.

"Roedd y dyluniadau yn eithriadol, ond roeddent hefyd yn cario neges bwysig."

Y disgyblion yn y llun o'r chwith i'r dde:

Mollie Marron, Ysgol Gyfun Glan Afan

Chloe Morgan, Ysgol Gyfun Glan Afan

Hannah Clarke, Ysgol Gyfun Dyffryn

Yn methu cwrdd Â'r Maer roedd Branwen Lewis o Ysgol Gyfun Cwmtawe.


Corus a'r cyngor ar y ffordd iawn i yrru'n ddiogel
28.10.2009

Mae staff Corus wedi bod yn helpu TÎm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gyflwyno neges gyrru'n gyfrifol ac yn ddiogel.

Richard James, Uday Chaturvedi y Rheolwr Gyfarwyddwr, a Roger Maher.
Richard James, Uday Chaturvedi y Rheolwr Gyfarwyddwr, a Roger Maher

Mae'r cwmni dur wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r tÎm i danlinellu pwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch yn y gweithle a'r briffordd gyhoeddus, ac wedi bod yn helpu i bwysleisio'r neges gwrth-yfed a gyrru.

Mae'r berthynas hon wedi helpu'r cwmni ar ei ffordd i ennill Dyfarniad Diogelwch Ffyrdd Cymru am ei fentrau arloesol i wella diogelwch ffyrdd yn y gweithle a'r gymuned.

Gyda thros hanner can mil o gerbydau'n symud ar ei safleoedd bob wythnos, roedd gwrthdrawiadau ac ymddygiad gyrru gwael yn dod yn bryder i'r cwmni sy'n eiddo i Tata, a aeth ati i gysylltu  staff, teuluoedd a ffrindiau'r gwaith i gynyddu ymwybyddiaeth o faterion gyrru.

O ganlyniad i weithio gyda mentrau Pass Plus Cymru a Bikesafe, sy'n cael eu cydlynu gan yr Awdurdod, mae'r nifer o ddigwyddiadau gyrru gwael wedi syrthio, ac mae'r neges yn cyrraedd y gymuned ehangach.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Ali Thomas, "Mae'r ymdrech a wneir gan ein diwydiant dur lleol i wella safonau gyrru ar y safle wedi bod yn eithriadol.

"Nid yn unig mae neges diogelwch ffyrdd wedi cyrraedd yr holl staff a chontractwyr, mae wedi lledu ymhellach drwy gynnwys teuluoedd yn Pass Plus Cymru a Bikesafe i feiciau modur, sydd wedi'i adlewyrchu yn y cynnydd mewn safonau gyrru ar heolydd yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r awdurdod lleol.

"Mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen mewn buddsoddi mewn diogelwch ffyrdd ac mae angen canmol Corus am ei flaengaredd ac am ennill gwobr yn haeddiannol gan Gyngor Diogelwch Ffyrdd Cymru"


Sioeau Teithiol Diogelwch ar y Ffyrdd

20/10/09
Mae gan drigolion ym Mhowys y cyfle yn ddiweddarach y mis hwn i gwrdd â thîm sy’n gweithio’n ddiwyd i sicrhau fod ffyrdd y sir yn ddiogel i bawb.

Bydd Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys mewn archfarchnadoedd yn Aberhonddu, Llandrindod ac Ystradgynlais i ddarparu cyngor diogelwch ar y ffyrdd neu i ateb unrhyw ymholiadau sydd gan drigolion.

Mae’r Uned yn gweithio’n gyson i gyflawni targedau lleol a chenedlaethol er mwyn gostwng damweiniau a marwolaethau ar ffyrdd Powys trwy addysg, hyfforddiant a chyhoeddusrwydd.

Dywedodd y Cyng Gwilym Evans, Aelod o’r Bwrdd gyda chyfrifoldeb dros Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Mae sicrhau fod ein ffyrdd yn ddiogel i bawb yn nod bwysig ac mae ein Huned Diogelwch ar y Ffyrdd yn flaengar gyda nifer o fentrau llwyddiannus na fydd trigolion efallai yn gwybod amdanynt.

“Mae ein sioeau teithiol yn gyfle gwych i gwrdd ag aelodau’r Uned ac arddangos y gwaith hanfodol y byddwn yn ei wneud i leihau nifer y damweiniau a marwolaethau sy’n digwydd ar ein ffyrdd.”

Fel rhan o’u gwaith, mae’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn darparu addysg a/neu hyfforddiant i ddefnyddwyr y ffyrdd, gan gynnwys:

- Diogelwch yn y car – gan gynnwys seddi ceir i blant - Hyfforddiant i gerddwyr sy’n blant - Hyfforddiant seiclo - Cerdded a seiclo i’r ysgol - Addysg ysgol gynradd ac uwchradd - Hyfforddiant cyn bod yn yrrwr - Hyfforddiant i yrwyr ifanc - Hyfforddiant i yrwyr hyn - Asesiadau gyrwyr beic modur

Dywedodd Sarah Morris, Uwch Reolwr Diogelwch ar y Ffyrdd y cyngor: “Nid yn unig y byddwn yn gallu trafod rhai o’r mentrau yr ydym yn cymryd rhan ynddynt, byddwn wrth law i roi cyngor diogelwch i drigolion ar beidio yfed a chymryd cyffuriau wrth yrru, ffonau symudol, gyrru yn ystod y gaeaf, gyrru yn ystod y nos, gwregysau diogelwch, gyrru ar gyfer gwaith, blinder, sylwi ar beryglon, ac unrhyw ymholiadau diogelwch ar y ffyrdd y bydd ganddynt.”

Gall trigolion ymweld ag aelodau’r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd yn y lleoliadau canlynol rhwng 10am – 4pm:

Archfarchnad Morrisons, Aberhonddu – Dydd Mercher 28 Hydref

Archfarchnad Somerfield, Llandrindod – Dydd Gwener 30 Hydref

Co-Op, Ystradgynlais – Dydd Mercher 4 Tachwedd


Targedu myfyrwyr mewn ymgyrch gyrru'n ddiogel

19/10/09

Mae swyddogion diogelwch ffyrdd wedi bod yn targedu myfyrwyr newydd gofrestru mewn colegau yn Abertawe i'w helpu i fod yn yrwyr gwell.

Pass Plus Cymru Logo

Bu Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe yn dosbarthu copïau o Rheolau'r Ffordd Fawr ac yn cynnig cyngor ar yrru'n ddiogel i gannoedd o yrwyr ifanc yn nigwyddiadau Wythnos y Glas ar draws Abertawe.

Mae'r tîm yn gobeithio y bydd y gwaith yn arwain at leihau nifer y damweiniau ffyrdd yn Abertawe ymhlith pobl ifanc 16 i 25 oed.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiad cyson yn nifer y damweiniau ffyrdd sy'n cynnwys pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Y ffigur yn 2006 oedd 410. Mae hyn wedi gostwng i 300 bellach.

Meddai Jeff Green, Swyddog Lleihau Anafiadau Cyngor Abertawe, "Mae digwyddiadau fel Wythnos y Glas yn ddelfrydol ar gyfer cwrdd â gyrwyr ifanc a chynnig cyngor iddynt ynghylch gyrru'n ofalus.

"Rydym ni'n gweld gostyngiad yn nifer y bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd wedi bod yn rhan o ddamweiniau ffyrdd. Ein nod yw lleihau'r niferoedd yma ymhellach."

Llwyddodd un myfyriwr ffodus, Tom Bennett o Goleg Gorseinon, i ennill gwerth £100 o dalebau Top Man mewn cystadleuaeth a drefnodd y tîm yn ystod y digwyddiad.

Yn ogystal â myfyrwyr yn cofrestru ar gyrsiau coleg yn ystod yr wythnos, fe'u hanogwyd i gychwyn ar gwrs gyrru diogel Pass Plus Cymru, sy'n rhoi arweiniad pellach i yrwyr ifanc newydd pan fyddant wedi pasio'u prawf gyrru.

Yn Abertawe, mae mwy na 500 o yrwyr ifanc rhwng 17 a 25 oed wedi cwblhau'r cwrs yn y tair blynedd diwethaf.

Bwriad y cwrs, sydd wedi'i gynnal yng Ngorsaf Dân Treforys mewn partneriaeth â swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru ers mis Medi 2006, yw hyrwyddo diogelwch ffyrdd i yrwyr ifanc rhwng dwy ar bymtheg a phump ar hugain oed sydd newydd basio'u prawf, drwy wella gwybodaeth, sgiliau, agwedd a dealltwriaeth wrth ddarparu hyfforddiant ar theori gyrru a gyrru ymarferol. Gall pasio'r cwrs hefyd alluogi gyrwyr ifanc i gael yswiriant rhatach.


Ymgyrch y Cyngor ar gyfer Diogelwch Seddau Ceir
13.10.2009

Child Car Seats

Bydd arbenigwyr yn y cyngor yn cynnig cyngor arbenigol yr wythnos nesaf (20 Hydref) i unrhyw un  sedd plentyn yn y car.

Yn ogystal  chyngor, bydd profion diogelwch arbennig ar gael hefyd mewn lleoliadau ledled y fwrdeistref sirol.
Meddai'r Cyng. Ali Thomas, Arweinydd y Cyngor, "Mae'n bwysig bod pobl yn archwilio eu seddau ceir i weld a ydynt wedi'u gosod a'u defnyddio'n gywir."
Ychwanegodd, "Gall seddau plant mewn ceir wella diogelwch plant yn y car yn sylweddol. Ond yn anffodus, mae tua 80% o'r seddau ceir yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi'u gosod yn anghywir. Gallai rhieni yn eu hanwybodaeth fod yn peryglu bywyd eu plant.
Byddwn yn annog unrhyw un  diddordeb i ddod i siop Morrisons yng Nghastell-nedd a Phort Talbot a Tesco Pontardawe yr wythnos hon i gael archwiliad am ddim ar eu seddau ceir."
Bydd y profion seddau ceir ar gael o 9am tan 3pm ddydd Mawrth 20 Hydref ym Morrisons Castell-nedd ac ar yr un amserau ddydd Mercher 21 Hydref ym Morrisons Port Talbot a dydd Iau 22 Hydref yn Tesco Pontardawe.


Cystadleuaeth Amlgyfrwng Wrth-Yfed a Gyrru 2009

13/10/09
Road Safety Wales logo

I hyrwyddo’r neges wrth-yfed a gyrru, gwahoddir ysgolion a mudiadau ieuenctid i ddyfeisio, perfformio a recordio cyflwyniad amlgyfrwng byw i rybuddio pobl o beryglon a/neu ganlyniadau yfed a gyrru.

Canllawiau’r gystadleuaeth:
1. Gellir cynnwys hyd at 6 o berfformwyr.
2. Rhaid i aelodau’r tîm fod rhwng 11 a 25 oed.
3. Dylai’r cyflwyniad bara llai na 3 munud, a cheir defnyddio amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys unrhyw rai o’r rhain:
· Perfformiad cerddorol
· Drama/Sgets
· Barddoniaeth/Araith
· Animeiddiad
· Rhaglen ddogfen
· Comedi
· Dawns

4. Rhaid i’r cyflwyniad gael ei ffilmio a’i gyflwyno ar fideo neu DVD a rhaid darparu manylion cysylltu.
5. Caiff y cyflwyniad ei farnu ar sail y meini prawf hyn (nad ydynt yn nhrefn eu blaenoriaeth):
a. Gwreiddioldeb
b. Neges
c. Perfformiad
d. Effaith

Caiff yr ymgais fuddugol ym mhob Sir wobrau gan eu hawdurdod lleol. Yna, cyflwynir yr ymgais fuddugol i’r Gystadleuaeth Ranbarthol. Caiff enillwyr y Gystadleuaeth Ranbarthol £500 i’r ysgol/mudiad y maent yn ei chynrychioli/ei gynrychioli, a chyflwynir gwobrau i aelodau unigol y tîm. Yn genedlaethol, gwahoddir y pedair ymgais Ranbarthol fuddugol i gael eu gwobr a rhoi’r cyflwyniad adeg lansio ymgyrch Wrth -Yfed a Gyrru Cymru-Gyfan yng Nghaernarfon ddydd Iau 3 Rhagfyr (telir yr holl dreuliau).

Cynhelir y beirniadu ar y gystadleuaeth genedlaethol ddydd Llun 9 Tachwedd

Gall grwpiau sydd â diddordeb gysylltu â’u Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd cliciwch yma

I weld cynigion cystadleuaeth 2008 cliciwch yma


Chevron

Enillwyr Gwobrau Diogelwch ar y Ffyrdd 2009

18/9/09

Mae gwobrau blynyddol Diogelwch Ffyrdd Cymru, gyda chefnogaeth Purfa Chevron ym Mhenfro, yn cydnabod arferion da, prosiectau arloesol a chyfraniadau personol i ddiogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru.

Caiff Coleg Sir Gâr eu cydnabod am eu rhaglen fodiwlaidd arloesol i yrwyr ifanc, sef rhaglen sy’n fodd i’r rhai sy’n ei dilyn wneud penderfyniadau gwybodus a datblygu’n gyrwyr cymwys a hyderus.

Mae Sandra Howells, Hebryngwraig Croesfan Ysgol yr Enw Sanctaidd yn Abergwaun, wedi cyflawni ei rôl yn ddygn am wyth mlynedd ar hugain. I’r ysgol, ac i Dîm Diogelwch ar y Ffyrdd Sir Benfro, mae hi’n aelod hynod werthfawr o’r staff. Bydd Sandra’n manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo’i rôl fel Hebryngwraig Croesfan Ysgol yn y gymuned ac mae’n enghraifft tan gamp o hebryngwraig.

Bydd y Cwnstabl Phil Westbury yn arddangos brwdfrydedd ac ymroddiad heintus mewn mentrau diogelwch ar y ffyrdd sydd wedi’u hanelu at yrwyr ifanc yn rhanbarth Dyfed Powys. Gan ddefnyddio’i wybodaeth leol o’r gronfa ddata am yrwyr ifanc, bydd yn llwyddo i gychwyn a chynorthwyo rhaglenni ymwybyddiaeth i yrwyr ifanc, serch eu bod nhw’n grwp sydd mor anodd eu cyrraedd.

Enwebwyd Katie Benbow gan Dîm Diogelwch ar y Ffyrdd Sir Ddinbych. Yr oedd Katie Benbow’n gyfaill i David Wares, gyrrwr ifanc a laddwyd yn 2008 pan gollodd reolaeth ar y car yr oedd yn ei yrru’n gyflym ac fe’i hysgogwyd i gyfansoddi cân er cof amdano. Erbyn hyn, caiff DVD o’r gân ‘To Day’ ei defnyddio ochr yn ochr â chyflwyniad i ddisgyblion i gynyddu eu hymwybyddiaeth o ganlyniadau gyrru’n rhy gyflym.

Mae Eileen Evans a Tony Armstrong ymhlith gwirfoddolwyr mawr eu parch Kerbcraft yn ardal Wrecsam. Gwnânt lawer mwy na’u dyletswydd ac maent yn glod i’r cynllun. Caiff eu gwaith ei barchu a’i werthfawrogi’n fawr gan ysgolion, a rhoesant gymorth amhrisiadwy i Dîm Diogelwch ar y Ffyrdd Wrecsam.

Mae Corus Strip Products UK wedi cymryd cam effeithiol drwy gyflwyno trefn gaeth sydd wedi’i chynllunio i daclo’r lleiafrif o’u gweithwyr a ddangosai sgiliau ac agweddau gwael wrth yrru. Mae’r cynllun wedi cwtogi cryn dipyn ar ddigwyddiadau anffodus ar eu safleoedd ac yn enghraifft benigamp o gymryd camau i gynyddu diogelwch ar y ffyrdd mewn sefyllfa fasnachol.

Llongyfarchiadau i’r enillwyr, ac fe gyflwynir eu gwobrau iddynt yn ystod Cinio Cynhadledd Diogelwch Ffyrdd Cymru ddydd Llun Medi 28 yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon.


Cymuned yn dathlu agor Pont Calzaghe

14/9/09

Joe ac Enzo Calzaghe, Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Ieuan Wyn Jones, ac Idris McCarthy, Cadeirydd Partneriaeth Trecelyn. Mae pont droed drawiadol newydd werth £3.2 miliwn er mwyn rhoi cysylltiadau gwell i’r gymuned yng nghanol Trecelyn wedi cael ei hagor yn swyddogol a’i henwi i anrhydeddu dau o enwogion chwaraeon yr ardal. Agorwyd Pont Calzaghe, yng nghanol Trecelyn gan Joe ac Enzo Calzaghe ddoe Dydd Mercher, 9 Medi.
 
Bydd y bont yn gwella cysylltiadau i gerddwyr rhwng rhannau ynysig o'r gymuned a chanol y dref, gan ei gwneud yn haws cael swydd, mynd i siopa, a chael gwasanaethau a chyfleusterau hamdden, diwylliannol ac addysgol. 
 
Bydd cyn-bencampwr bocsio diguro y byd a'i dad, yr hyfforddwr sydd wedi ennill gwobrau lu, mewn seremoni agoriadol arbennig ynghyd â Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a gwesteion arbennig eraill.

"Mae'n anrhydedd i'r bont arbennig hon gael ei henwi ar ein hôl ni ac rwy'n gobeithio y bydd y gymuned yn mwynhau ei defnyddio a'r cysylltiadau newydd y bydd yn eu creu," meddai Joe.

"Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi helpu i drefnu'r diwrnod arbennig hwn," ychwanegodd Enzo.

Mae prosiect Pont Calzaghe wedi cael ei ariannu drwy grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru o £1.542 miliwn; £800,000 o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF); £707,340 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a £185,000 gan Bartneriaeth Gymunedol Trecelyn.

Bydd yn cynnig mynediad cynaliadwy i Drecelyn i gerddwyr, beicwyr a phobl ag anableddau.
 
Mae'r bont yn rhan allweddol o Raglen Adfywio Trecelyn, a ariennir gan ERDF, sy'n ceisio ailsefydlu canol y dref fel canolbwynt i weithgarwch economaidd a chymdeithasol, a gwella sylfaen cymdeithasol-economaidd a diwylliannol y dref.

Mae'r agoriad hefyd yn nodi cwblhau y cynllun £1.4 miliwn Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Trecelyn, gan gynnig gwell mynediad i feicwyr, cerddwyr a phobl ag anableddau i gyfleusterau lleol gan gynnwys yr ysgol, y ganolfan hamdden a'r gyfnewidfa rheilffordd/bws.

Mae'n cynnwys isadeiledd arall i ategu'r bont fel llwybrau beicio newydd, cyfleusterau storio beiciau a chroesfan i gerddwyr. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Phartneriaeth Trecelyn.
 
Meddai Mr Jones:

"Mae hyn yn rheswm dros ddathlu i Drecelyn a'r cyffiniau. Mae'r dref yn elwa ar gysylltiadau gwell yn y gymuned, ac mae'n cael y cyfle i anrhydeddu un o'r teuluoedd chwaraeon mawr sy'n wir gynrychiolwyr i'r ardal.
 
"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n falch o gael cefnogi'r gwaith o adeiladu'r bont newydd hon a phrosiect Llwybrau Diogel yn y Gymuned Trecelyn, a fydd yn cynnig cysylltiadau mwy diogel a hygyrch i'r gymuned gyfan.
 
"Dyma enghraifft arall o'n hymrwymiad, fel sydd yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, i wella cyfleusterau cerdded a beicio ledled Cymru er mwyn cynnig dewis iach, amgylcheddol yn hytrach na'r car."

Meddai Idris McCarthy, Cadeirydd Partneriaeth Trecelyn,

"Mae'r prosiect hwn wedi bod yn enghraifft ragorol o'r gwaith rhwng Partneriaeth Trecelyn, Ysgol Trecelyn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Capita Symonds a'r gymuned lleol. Mae'r bartneriaeth lwyddiannus hon wedi galluogi'r prosiect hwn i ddwyn ffrwyth a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed dros y blynyddoedd diwethaf i'w wneud yn llwyddiant."


Beicwyr yn cyfranogi mewn digwyddiad diogelwch ar y prom

10/9/09

Advanced driving Ymunodd beicwyr a ymwelodd â phromenâd Aberystwyth yn ystod penwythnos Gwyl y Banc mewn digwyddiad Beicio Diogel, a drefnwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Fe wnaeth Dai Evans-Pugh, Swyddog Diogelwch yn y Gymuned yng Ngorsaf Dân Aberystwyth, drefnu digwyddiad ar Ddydd Sadwrn y 29ain o Awst, mewn cydweithrediad â´r Heddlu, y grwp Beicio Diogel, Grwp Gweithredu Beiciau Modur (MAG) a Chanolfan Hyfforddi Beiciau Modur Aberystwyth.

Ochr yn ochr â cherbyd arddangos y gwasanaeth tân oedd neges iasol, rhwng 2006 a 2008 yn Nyfed-Powys, cafodd 43 o feicwyr modur eu lladd mewn damweiniau a dioddefodd 170 o feicwyr modur anafiadau difrifol, gyda 398 arall yn dioddef mân anafiadau.

Yng Ngheredigion, bu farw dau feiciwr modur a chafodd wyth eu hanafu´n ddifrifol yn 2008. Eleni´n barod mae un beiciwr modur wedi cael ei ladd ac mae wyth arall wedi dioddef anafiadau difrifol.

Soniodd MAG wrth aelodau o´r cyhoedd am bob agwedd o feicio modur. Bu rhai cyn feicwyr wrthi´n sgwrsio am y syniad o ailgydio mewn beicio modur.

Rhoddodd MTC Aberystwyth wybodaeth am hyfforddiant a´r prawf a gyflwynwyd yn ddiweddar. Aberystwyth yw´r unig dref yng Ngheredigion ble mae beicwyr yn cael sefyll y prawf Mwdwl II a sut i gaffael trwydded beic modur.

Cafodd Rory Wilson, cynrychiolydd rhanbarthol MAG a Kenneth Huntly o MTC Aberystwyth eu plesio gyda´r digwyddiad.

Wrth siarad ar ran y pâr, dywedodd Rory Wilson:
"Roedd yna wir deimlad fod hwn yn ddigwyddiad gwerth chweil, ai fod yn un o´r cyfleoedd prin hynny i feicwyr modur i ddod ynghyd a siarad â´r cyhoedd am feiciau a diogelwch beiciau. Efallai´r flwyddyn nesaf y medrwn wneud y digwyddiad yn fwy fyth a gosod Aberystwyth ar fap y beicwyr.

Rydym yn falch fod yr heddlu a´r gwasanaeth tân wedi cyflwyno cynlluniau fel hyn. Mae Beicio Diogel yn gynllun amhrisiadwy, nid yn unig oherwydd y profiad mae´n ei gynnig i feicwyr, ond hefyd oherwydd y cysylltiad mae wedi ei greu rhwng y gwasanaethau brys a´r beicwyr modur.

Yn anffodus, mae´r ffigyrau o ran y bobl sy´n cael eu hanafu ar feiciau modur wedi eu hystumio´r adeg hon o´r flwyddyn gan nifer fach o feicwyr modur sy´n ymweld â Chymru ac sydd, yn anffodus, yn cael damweiniau.
Fodd bynnag ac yn bwysig iawn, dylid cofio mai nifer fach o ddamweiniau beic modur sy´n digwydd o ganlyniad i gamgymeriadau neu gamfarnu gan ddefnyddwyr eraill y ffordd neu gyflwr gwael y ffyrdd.

Felly, buasem yn dymuno bod digwyddiadau yn y dyfodol yn cynnwys elfen o hyrwyddo hyfforddiant i yrwyr ceir a neges nad yw beiciau modur yn beryglus yn gynhenid, ond bod beicwyr modur yn ddefnyddwyr y ffordd sy´n agored i niwed, fel y mae beicwyr a cherddwyr.

Roedd MTC Aberystwyth yn bresennol i hyrwyddo ochr gadarnhaol defnyddio beic modur. Mae´r manteisio o ran rhwyddineb parcio a llai o dagfeydd traffig yn ddadleuon cryf o blaid cael sgwter neu feic modur, a hefyd bod hyfforddiant da ac ymwybyddiaeth yn hanfodol".

Mae digwyddiadau Ymwybyddiaeth Beiciau a Beicio Diogel wedi eu trefnu ar y 12fed o Fedi a´r 10fed o Hydref. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.bikesafe.co.uk

Dywedodd y Cynghorydd Paul James, sef Aelod lleol yr Awdurdod Tân:

"Rydym yn croesawu unrhyw gynllun a fydd yn cynorthwyo i ostwng y nifer o farwolaethau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd, nid yn unig yng Ngheredigion ond ar draws y Wlad. Mae´r Gwasanaethau Brys yn rhagweithiol iawn wrth geisio addysgu yn hytrach nag erlyn beicwyr modur, felly rwy´n gobeithio bydd y mathau yma o ddigwyddiadau´n cael eu cynnal llawer yn amlach ac yn cael cefnogaeth dda."

Ychwanegodd y Rheolwr Gwylfa Dai Evans-Pugh:

"Gan mai hwn oedd y digwyddiad Beicio Diogel cyntaf i ni drefnu, doeddwn ni ddim yn gwybod beth i´w ddisgwyl, fodd bynnag, ar y cyfan rydym yn falch iawn gyda´r diwrnod, ac rydym yn gobeithio bydd mwy yn dilyn dros y blynyddoedd nesaf."


Ymweliad Carys Ofalus â Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009

9/9/09

Eisteddfod

Bydd rhaid i Carys Ofalus wisgo esgidiau glaw Dydd Mawrth yr eisteddfod. Roedd wrth ei bodd yn neidio yn y pyllau dwr a chael ei chynffon yn fudur!


Cafodd plant Cymru gyfan gyfle i ymuno yn y canu gyda Meinir Gwilym a phlant Ysgol Bro Tegid.
Canu caneuon arbennig Carys Ofalus oeddent, sydd yn atgoffa Carys a’r plant o sut i ymddwyn er mwyn cadw’n ddiogel ar y ffyrdd prysur.

Y Parti Pen-blwydd
Carys OfalusDydd Gwener roedd yr haul yn tywynnu, ac roedd yn ddiwrnod arbennig iawn i Carys Ofalus. Roedd yn dathlu ei phen blwydd yn 4 oed.


Galwodd plant heibio i Babell Gwynedd yn y bore i wneud cardiau pen blwydd i Carys Ofalus. Am 2 o’r gloch roedd parti mawr.Cafwyd gêm o geisio rhoi’r gynffon ar y gath,pasio parsel. Galwodd Manon heibio i ddarllen stori Carys Ofalus a Rheolau’r Groes Werdd i’r plant.


Canodd y plant pen blwydd hapus i Carys Ofalus a’i helpu i chwythu’r canhwyllau oedd ar y gacen anferth. Cafodd pawb ddiod oren a thamaid o’r gacen flasus i fwynhau.


Gostyngiad o fwy na hanner yn nifer y damweiniau ffyrdd sy'n cynnwys plant yn ystod y deng mlynedd diwethaf

8/9/09

Cafwyd gostyngiad o fwy na hanner yn nifer y damweiniau ffyrdd sy'n cynnwys plant yn Abertawe, yn ystod y deng mlynedd diwethaf, yn ôl yr ystadegau diweddaraf. image depicting Rocky The Rooster

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau bod damweiniau ffyrdd sy'n cynnwys plant rhwng 0 a 15 oed wedi gostwng i 82 yn unig yn 2008. Ar gyfartaledd, bu 165 o blant yn yr un categori oedran mewn damweiniau tebyg yn ystod y cyfnod 1994 i 1998.

Mae'r ffigurau diweddaraf hefyd yn dangos gostyngiad cyson yn nifer y damweiniau ffyrdd sy'n cynnwys pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Y ffigur yn 2006 oedd 410. Mae hyn wedi gostwng i 300 bellach.

Yn ôl swyddogion diogelwch ffyrdd Cyngor Abertawe, mae'r gostyngiadau yn rhannol oherwydd gwelliannau ffyrdd lle mae'r cyngor wedi cyflwyno mesurau tawelu traffig megis mannau croesi diogel ger ysgolion.

Mae ymagwedd fwy strwythuredig tuag at addysg diogelwch ffyrdd ar gyfer plant wedi helpu i leihau'r ffigur hefyd.

Mae arian a roddwyd i'r cyngor gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi helpu i ddarparu addysg megis y cynllun Kerbcraft mewn ysgolion. Mae'r cynllun yn dysgu sgiliau ymyl ffordd ymarferol i blant rhwng pump a saith oed ac mae wedi cael ei ddarparu yn Abertawe ers nifer o flynyddoedd.

Mae swyddogion diogelwch ffyrdd hefyd yn gweithio gydag ysgolion i gael hyd i arian o gronfa Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau, sy'n gallu helpu i ddarparu llwybrau cerdded a beicio diogel ger ysgolion lleol.

Meddai John Hague, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd Cyngor Abertawe, "Mae'r ffigurau hyn yn dangos yn glir ein llwyddiant wrth ddysgu gwybodaeth hollbwysig am ddiogelwch ffyrdd i gannoedd o blant ifanc yn Abertawe.

"Rydym hefyd wedi cyflwyno cyfyngiadau cyflymder is o 20 milltir yr awr ger ysgolion, sy'n helpu i arafu'r traffig a darparu amgylchedd mwy diogel ar gyfer plant a phobl leol."

Mae Abertawe hefyd wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth annog gyrwyr ifanc i gofrestru ar gwrs Pass Plus Cymru, sy'n gwella sgiliau gyrwyr newydd a chynyddu eu profiad y tu ôl i'r olwyn.

Meddai Jeff Green, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe, "Rydym yn falch iawn bod ein gwaith gyda phobl ifanc ac ysgolion yn cael effaith gadarnhaol.

"Mae'n hollbwysig dysgu gwybodaeth diogelwch ffyrdd effeithiol i blant pan fyddant yn ifanc iawn. Yr unig ffordd y gallwn wneud hyn yw gweithio gydag ysgolion, rhieni ac asiantaethau fel yr heddlu lleol."


Cynllun Hyfforddiant Beicio Safon Cenedlaethol yng Ngwynedd
8/9/09

GwyneddCafodd Blwyddyn 6 Ysgol Llanrug brofiad newydd o ddysgu sgiliau seiclo.
Yn gyntaf cawsant hyfforddiant o sut i gynnal a chadw eu beic.Doedd rhai beics ddim ffit i fynd ar y ffordd!


Yn lle'r gwersi arferol ar iard yr ysgol, roedd yr hyfforddiant ar y ffyrdd oddi amgylch yr ysgol.
Roedd hyn yn eu galluogi i ennyn hyder i reidio eu beics ar lonydd prysur heddiw.Nid yw’r hyfforddiant yn unig am ddysgu sut i reidio beic i safon genedlaethol, mae hefyd yn eu cyflwyno i’r ffaith fod beicio yn rhywbeth hwyliog y gallent wneud yn ddyddiol gyda’u ffrindiau a hefyd yn ffordd arall o deithio.


Y 3 prif gamau a ddysgwyd oedd
1. Arsylwi.
2. Safle diogel ar y ffyrdd.
3. Rhoi arwyddion.


Nawr yn Bum Mlwydd Wêd

28/8/09
Clwb Traffig PlantDathlodd Clwb Traffig Plant Sir Benfro ben-blwydd arbennig. Fe fu'r clwb yn cynorthwyo plant y sir i gadw'n ddiogel ers pum mlynedd. Dathlwyd ei ben-blwydd yn ystod Wythnos Diogelwch Plant (22 -28 Mehefin) pan ymwelodd aelodau o Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Penfro ag wyth ysgol er mwyn hyrwyddo llwyddiant y clwb.


Ymhlith yr ysgolion cynradd yr ymwelwyd â nhw roedd Grwp Meithrin Stepaside, Babanod Hakin, Gelli Aur, Llandudoch, Sant Oswald, Arberth a Fenton, ac fe ymunodd 259 o blant â'r clwb.
Yn y cyfamser cafodd disgyblion y Dosbarth Derbyn a Meithrin yn Ysgol y Frenni, Crymych, barti arbennig i ddathlu pen-blwydd y clwb.


Gwisgodd y plantos tair a phedair blwydd oed eu hunain ar lun cymeriadau balwn y clwb a chanwyd caneuon, chwaraewyd gemau a chafwyd digonedd i'w fwyta.


Mae'r pecyn Clwb Traffig Plant yn adnodd ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid er mwyn dysgu hanfodion diogelwch ffyrdd i blant ifanc iawn. Trwy lyfrau gweithgaredd y clwb cyflwynir cymeriadau megis Sammy Seatbelt, Larry Look a Lucy Listen fel modd o gyfleu'r neges ynghylch diogelwch ffyrdd.
Gellir ymuno â'r clwb am ddim (telir am gofrestru gan Gyngor Sir Penfro trwy gyllid a roddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru) ac ar ôl i rieni gofrestru bydd eu plentyn yn cael ei lyfr cyntaf ac yna pum llyfr arall fesul tri mis ar ôl hynny.


Dywedodd y Cynghorydd Huw George, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc, fod y clwb wedi profi'n ddull effeithiol o ddysgu diogelwch ffyrdd i blant sy heb ddechrau ysgol ac o oedran cynnar.
Atgyfnerthir neges y clwb yn unedau blynyddoedd cynnar yr ysgolion, y grwpiau chwarae a meithrin gan Becyn Meithrin Clwb Traffig Plant.


• Gellir benthyca'r pecynnau meithrin a'r gwisgoedd am ddim i bob uned blynyddoedd cynnar yr ysgolion, grwpiau chwarae a meithrin trwy gysylltu â Kirstie-Anne Donoghue, Addysg Diogelwch Ffyrdd ar 01437 775434.


Gwobrau Diogelwch Ffyrdd 2009

28/5/09

Cefnogir gan
Chevron Texaco

Mae Gwobrau blynyddol Diogelwch Ffyrdd Cymru yn cydnabod arferion da, prosiectau arloesol a chyfraniadau personol i ddiogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru. Mae Cynllun y Gwobrau’n rhoi cyhoeddusrwydd i’r cyfraniadau i’r targedau i ostwng nifer yr anafedigion ar y ffyrdd ac yn cynyddu’r ymwybyddiaeth ohonynt.

Dylid cyflwyno enwebiadau ar y ffurflen amgaeedig (ynghyd ag unrhyw ddeunydd ategol perthnasol) erbyn dydd Gwener 21 Awst 2009 fan bellaf. Gwahoddir enillwyr y Gwobrau i dderbyn eu Gwobr yng nghinio Cynhadledd Diogelwch Ffyrdd Cymru ddydd Llun 28 Medi yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon. Caiff enillwyr y gwobrau £100 a chofrodd.

Ffurflen Enwebu yma


Dychwelwch y ffurflen hon erbyn dydd Gwener 21 Awst 2009 i: Diogelwch Ffyrdd Cymru, RoSPA, 2 Cwrt-y-Parc, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GH Ffacs: 02920 250601 Ebost: jbibby@rospa.com


Archif Newyddion



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.