Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru

kerbcraft logo

Kerbcraft yng Nghymru

Kerbcraft - Strategaeth Genedlaethol i Hybu Diogelwch Plant wrth Gerdded. Fe’i hariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Kerbcraft: mae’n dysgu plant 5-7 oed i gerdded yn ymyl ffordd yn fwy diogel drwy fynd â nhw ar ffyrdd go iawn a dangos iddyn nhw fod gwneud y penderfyniadau cywir, ac ymddwyn yn gywir, yn gallu eu helpu i fod yn ddiogel. Caiff y plant eu cymryd allan o’r ysgol, mewn grwpiau o ddim mwy na thri, gan wirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddiant. Byddan nhw’n dysgu tri sgìl:

The kerbcraft team at Blackwood Primary School 1. Dewis Lleoedd a Llwybrau Diogel i Groesi’r Ffordd
Caiff y plant eu helpu i adnabod peryglon a dod o hyd i leoedd eraill i groesi.

2. Croesi’n Ddiogel lle mae Ceir wedi’u Parcio
Caiff y plant eu dysgu i ddefnyddio strategaeth ddiogel i groesi yn ymyl ceir sydd wedi’u parcio – os bydd hi’n amhosibl eu hosgoi.

3. Croesi’n Ddiogel yn ymyl Cyffyrdd
Caiff y plant eu cyflwyno i broblemau cyffyrdd syml a chymhleth ac fe ddysgan nhw strategaeth i edrych yn systematig i bob cyfeiriad.

Caiff pob sgìl ei ymarfer mewn sawl lle gwahanol dros gyfnod o 4-6 wythnos. Trefnir hynny mewn cysylltiad â’r ysgol a’i hamserlen.


Llawlyfr Hyfforddiant Kerbcraft
Mae A Handbook for Road Safety Professionals gan yr Athro James Thomson, Prifysgol Strathclyde, yn llawlyfr ymarferol i helpu i weithredu cynllun Kerbcraft.

PDF 3.8mbClick here to download this document in PDF format.


 

Kerbcraft Margam Park



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Go to the English version of this web site.