Diogelwch Ffyrdd Cymru: Datganiad i’r Wasg
Mae Heddlu Gwent wrthi’n cydlynu lansio BikeSafe Cymru ar y cyd â Diogelwch Ffyrdd Cymru a Chanolfan Adnoddau Ffyrdd Gwent.
Cynhelir y lansio yng ngorsaf fysiau’r Fenni ddydd Sul, Ebrill 15, 2007 rhwng 10am a 3pm (am 1pm y bydd y lansiad swyddogol), a bydd y Prif Gwnstabl Mike Tonge a’r ASau David Davies a Lembit Opik yn bresennol.
Prif nod BikeSafe Cymru yw cwtogi ar wrthdrawiadau beiciau modur ar ffyrdd Cymru. I helpu i wneud hynny, mae cyfres o weithdai deuddydd ar sgiliau beicwyr modur wedi’u trefnu ar gyfer 2007.
Uwch-Feicwyr yr Heddlu sy’n rhedeg y gweithdai. Ceir cymysgedd o sesiynau theori a sesiynau ymarferol ynddyn nhw. Byddant yn cynnwys teithiau asesu ar y ffyrdd, fideos gwybodaeth, cymorth cyntaf mewn perthynas â beiciau modur, a materion perthnasol eraill. Diben y gweithdai yw gwella sgiliau pob beiciwr modur sydd eisoes wedi llwyddo yn y prawf gyrru. Maen nhw’n arbennig o addas i’r rhai a all fod yn dychwelyd i feicio, ac i’r rhai sydd â beiciau chwaraeon.
Mae’r ffi o £80 yn cynnwys pob elfen o’r uchod ynghyd â darparu adnoddau (llawlyfr Roadcraft ac ati).