Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru: Datganiad i'r Wasg

13 Mawrth 2007

Lansio Ymgyrch Cymru Gyfan i Orfodi’r Ddeddf ar Ffonau Symudol wrth Yrru


Yng Ngwasanaethau Magwyr fore Mawrth, Mawrth 13, 2007 am 11.00 o’r gloch ac ar ran pedwar Heddlu Cymru, bydd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Bill Horne, yn lansio Ymgyrch Cymru-Gyfan i Atal Defnyddio Ffonau Symudol. Mewn partneriaeth â Capita Symonds, nod y pedwar heddlu yw atgoffa gyrwyr a theithwyr o beryglon a chanlyniadau dal ffôn symudol yn eich llaw wrth yrru.


O Chwefror 27, 2007 ymlaen gwnaed defnyddio ffôn symudol wrth yrru yn drosedd ardystiadwy. Y gosb yw dirwy o £60 a 3 phwynt cosb.


Meddai’r Prif Arolygydd John Pavett o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gwent:
"Mae gwneud a derbyn galwadau a thecstio SMS wrth yrru yn dal i ddigwydd ar ffyrdd Cymru. Rydyn ni’n trin y broblem o ddifrif ac yn targedu cerbydau bob awr o’r dydd a’r nos ar hyd y flwyddyn.


Bydd gyrwyr cyfrifol yn diffodd eu ffonau cyn dechrau gyrru. Os oes rhaid i chi gadw’ch ffôn heb ei ddiffodd, ein hargymhelliad ni yw eich bod chi’n stopio mewn man cyfleus a diogel ar fin y ffordd i wneud galwad neu i dderbyn galwad. Mewn sefyllfaoedd argyfyngus yn unig y dylai hynny ddigwydd. Os defnyddiwch chi’ch ffôn symudol wrth yrru, rhaid i chi ddefnyddio teclyn nad oes angen defnyddio’ch dwylo i’w weithio. Hynny yw, dylai’r ffôn fod mewn daliwr pwrpasol, neu rywbeth tebyg i hynny, i osgoi’r angen i chi ei ddal.


Er bod y mwyafrif o ddefnyddwyr y ffyrdd yn gwbl ymwybodol o ganlyniadau posibl defnyddio’u dwylo i ddal ffôn symudol wrth yrru, bydd swyddogion yr heddlu ledled Cymru’n mynd ar ôl y rhai sy’n dal i anwybyddu’r gyfraith a pheryglu holl ddefnyddwyr y ffyrdd. Bydd yr ymgyrch orfodi yn para pythefnos, sef o Fawrth 13 tan Fawrth 27, ac yn rhedeg ledled Cymru. Chaiff dim un troseddwr faddeuant yn ystod yr ymgyrch a chaiff pob un ohonyn nhw ei erlyn."


Yno i gefnogi’r lansiad bydd ymladdwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Meddai Swyddog Cwtogi ar Wrthdrawiadau Traffig Ffyrdd ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Dave Ansell:
"Byddwn ni’n cydweithio’n agos â’n cymunedau ar hyd y flwyddyn ac yn eu cynghori ynghylch amryw o faterion diogelwch ar y ffyrdd sy’n berthnasol iddyn nhw. Bydd diogelwch ar y ffyrdd bob amser yn rhan allweddol o’n sgyrsiau, yn enwedig i bobl ifanc am eu bod nhw, yn ystadegol, mewn mwy o berygl. Yn ystod ein cyflwyniadau, byddwn ni’n cynyddu’r ymwybyddiaeth o’r cosbau newydd, ac os na fydd hynny’n ddigon i gael perswâd ar yrwyr i beidio â defnyddio ffonau symudol, gallwn ni sôn am y difrod dychrynllyd gewch chi yn y digwyddiadau y cawn ni’n galw i fynd atyn nhw bob dydd.
Gan ein bod ni’n croesawu’r datblygiad cyfreithiol newydd ’ma, gobeithio y bydd e’n darbwyllo pobl i beidio â defnyddio’u ffonau llaw wrth yrru. Dyw hynny’n ddim help iddyn nhw ganolbwyntio."




Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.