Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru

 

7 Medi 2007

YMGYRCH GWREGYSAU DIOGELWCH CYMRU GYFAN

Paid Ymddwyn Fel DymiPaid ymddwyn fel dymi. Gwisga’r Gwregys!

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn arwain Ymgyrch Gwregysau Diogelwch Cymru Gyfan sy’n cael ei lansio ddydd Llun Medi 10fed 2007 yn Llandrindod ar y cyd â Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys, i atgoffa gyrwyr a theithwyr am y peryglon o beidio â gwisgo gwregys.

Ers i’r gyfraith ynglyn â gwisgo gwregysau seddi ffrynt ddod i rym yn 1983, amcangyfrifir bod 50,000 o fywydau wedi cael eu harbed (yn ôl y Gymdeithas Frenhinol Atal Damweiniau (ROSPA)). Mae’r mwyafrif o bobl sy’n defnyddio’r ffyrdd yn gwybod yn iawn beth yw’r peryglon o beidio â gwisgo gwregys, a bydd heddweision ledled Cymru yn gweithredu’n llym yn erbyn y rheiny sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith, gan beryglu eraill sy’n defnyddio’r ffyrdd.

Dywedodd y Prif Arolygydd Phil Davies o Heddlu Dyfed-Powys : “Mae gwisgo gwregys yn beth mor hawdd i’w wneud. Yn rhinwedd ein swydd fel heddweision, rydym yn gweld canlyniadau gyrru heb wregys yn llawer rhy aml pan gelwir ni i ddamweiniau ffyrdd. Os cewch eich dal heb wregys, fe allech gael dirwy, ond ein prif neges yw hyn - mae gwisgo gwregys yn gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw - ac mae hynny mor wir yn achos teithwyr ag ydyw yn achos gyrwyr.”

Trwy wisgo gwregys, gall gyrwyr a theithwyr gynyddu eu siawns o oroesi gan gymaint â 60%.

Yn ystod yr Ymgyrch Cymru Gyfan diwethaf yn 2006, cafodd dros 3,000 o bobl eu dal heb wregys diogelwch a gyrwyr oedd y mwyafrif o’r rheiny. Os byddwch yn teithio mewn cerbyd heb wregys, rydych yn peryglu eich bywyd chi eich hun, a hefyd, bywydau eich cyd-deithwyr.

Ychwanegodd y Prif Arolygydd Phil Davies, “O fis Medi 2006 tan fis Mehefin eleni (pan ddaeth y rheolau newydd ar gyfer seddi plant i rym) cafwyd 372 o achosion yng Nghymru lle nad oedd plant wedi cael eu diogelu’n briodol wrth deithio mewn cerbyd. Rwy’n annog rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid i ddod i’r lansiad ar y 10fed o Fedi ym maes parcio ALDI Llandrindod – fe fydd cyngor ymarferol ar gael trwy’r dydd gan arbenigwr seddi plant (diolch i Gyngor Sir Powys). ”

Bydd yr ymgyrch gorfodi yn rhedeg ar draws Cymru am bythefnos o’r 10fed tan y 24ain o fis Medi 2007.

Nodiadau i’r Golygyddion

Caiff yr Ymgyrch ei lansio ym maes parcio ALDI Llandrindod am 11am ar ddydd Llun 10fed Medi 2007.

GWREGYSAU DIOGELWCH – Y FFEITHIAU
· Rhaid i yrwyr ceir a theithwyr sedd ffrynt wisgo gwregysau onid oes ganddynt dystysgrif feddygol yn eu heithrio. Rhaid i oedolion sy’n teithio yng nghefn car hefyd wisgo gwregys, os oes rhai wedi eu gosod. Yn achos oedolion, eu cyfrifoldeb hwy, yn hytrach na’r gyrrwr yw sicrhau eu bod yn gwisgo gwregys.

· Amcangyfrifir bod 590,000 o anafiadau difrifol a 1.5miliwn o anafiadau llai difrifol wedi eu harbed ers i’r gyfraith gwregysau diogelwch ddod i rym yn 1983.

· Mae canran y bobl sy’n gwisgo gwregysau yn uwch yng nghefn gwlad (93%) nag mewn ardaloedd trefol (89%).

· Mae menywod yn fwy cydwybodol (94%) na dynion (86%) o ran gwisgo gwregysau.

Ffynhonnell: Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (ROSPA)

LLINELL AMSER GWREGYSAU DIOGELWCH
1967: Rhaid o dan y gyfraith i geir newydd yn y DU gael gwregysau sedd ffrynt.

1968: Daeth yn ofynnol yn y DU i ôl-ffitio gwregysau 3-phwynt yn seddi ffrynt cerbydau a gofrestrwyd o 1965 ymlaen.

1970s: Hysbysebion teledu “Clunk Click” gyda Jimmy Saville yn dangos y perygl o gael eich taflu trwy sgrin ffrynt car adeg gwrthdrawiad.

1983: Fe’i gwnaed yn orfodol am gyfnod arbrofol o dair blynedd i yrwyr a theithwyr wisgo gwregysau.

1986: Pleidleisiodd y ddau Dy yn y Senedd i gadw’r rheol newydd yn barhaol.

1987: Rhaid ffitio gwregysau yn seddi cefn ceir newydd.

1989: Daeth yn orfodol i blant 14 oed wisgo gwregysau yn y sedd gefn.

1991: Daeth yn orfodol i oedolion wisgo gwregys yn y sedd gefn.

1993: Hysbyseb “Eliffant” ar y teledu yn dangos y perygl o deithio yn y sedd gefn heb wregys – mewn damwain, mae teithiwr cefn yn cael ei daflu ymlaen gyda nerth tair tunnell a hanner.

1996: Gosod gwregysau mewn mini bysys a choetsis fyddai'n cario plant ar deithiau trefnedig.

1998: Hysbyseb “Julie” ar y teledu yn ein hatgoffa fod teithwyr sedd gefn nad ydynt yn gwisgo gwregys nid yn unig yn peryglu eu hunain – fe allant ladd person arall yn y cerbyd hefyd!

2001: Rhaid ffitio gwregysau ym mhob minibws a choets.

2003: Gwregysau yn dathlu eu pen-blwydd yn 20 oed - 50,000 o fywydau wedi’u hachub.

2006: Cyflwyno rheoliadau newydd ar gyfer seddi plant.
Ffynhonnell: Cymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (ROSPA)



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.