Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru

Cystadleuaeth Poster Yfed-a-Gyrru 2007


Gwahoddir disgyblion i gynllunio a chynhyrchu poster diogelwch ar y ffyrdd, ynghyd â slogan neu heb slogan, i rybuddio pobl o beryglon a/neu ganlyniadau yfed a gyrru.
Caiff pob ymgais ei chloriannu ar sail ei rhanbarth, sef Gogledd Cymru, Dyfed Powys, De Cymru a Gwent, ac mewn dau gategori, sef Iau a Hyn. Caiff pob enillydd £75 a thystysgrif mewn ffrâm, a chaiff pob un sy’n dod yn ail £50 a thystysgrif mewn ffrâm. Gall gwobrau rhanbarthol hefyd gael eu cyflwyno, yn ôl ewyllys yr awdurdodau lleol unigol.

Fe ystyrir dewis yr ymgais â’r ‘slogan’ gorau os nad yw’r ymgais honno’n un o’r rhai buddugol. Os caiff ei dewis, caiff yr enillydd â’r slogan gorau £50.

O blith yr 16 ymgais fuddugol (8 gwobr gyntaf ac 8 ail-orau) fe ddewisir buddugwr cyffredinol a gaiff wobr ychwanegol. Fe ystyrir atgynhyrchu’r ymgais fuddugol a’i lledaenu drwy Gymru i gynorthwyo’r Ymgyrch.

Hefyd bydd gwobr o £250 i’r Adran Gelf neu Ysgol sy’n cyflwyno’r ymgais fuddugol.

Cyflwynir pob gwobr adeg lansio Ymgyrch -Yfed-a-Gyrru y Cynulliad yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd ddydd Llun 3ydd Rhagfyr (telir costau teithio)

Canllawiau’r gystadleuaeth:


1. Dylai’r poster fod o faint A3 ac enw, oedran a manylion ysgol yr artist (gan gynnwys y rhif ffôn) wedi’u hysgrifennu ar y cefn.
2. Gellir cynhyrchu’r poster mewn unrhyw gyfrwng. Dylai fod yn waith gwreiddiol (yn enwedig os caiff ei gynhyrchu ar gyfrifiadur).
3. Rhaid peidio â defnyddio unrhyw enw masnachu neu logo.
4. Os defnyddir geiriau, ni ddylai fod mwy na 12 ohonynt yn Gymraeg neu Saesneg.
5. Nid oes angen cynnwys thema Nadoligaidd.

 

Dylid anfon pob ymgais at eich Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd erbyn dydd Gwener 2 Tachwedd 2007.


Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.