Diogelwch Ffyrdd Cymru: Cyhoeddusrwydd
Gall cyhoeddusrwydd gael ei ddefnyddio mewn amryw o ffyrdd i gael effaith ar y grwpiau sydd ‘mewn perygl’ neu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol rhai gyrwyr. Y broses a gaiff yr effaith fwyaf yw bwydo a thargedu gwybodaeth yn dda ac yn gyson at y grwp targed. Mae angen i gyhoeddusrwydd hefyd gymryd materion cenedlaethol a lleol i ystyriaeth.
Gall fod ar ffurf:
- Helpu ymgyrchoedd ‘PWYLLWCH!’ yr Adran Drafnidiaeth drwy ddosbarthu deunyddiau’n rhad ac am ddim – a’r rheiny wedi’u cynhyrchu’n allanol – gan roi blas lleol i’r ymarfer a’i gysylltu â phroblem leol, neu
- Cynnal ymgyrchoedd lleol lle caiff deunyddiau eu cynhyrchu i drin mater sy’n codi mewn ardal benodol
- Cynhyrchu deunydd cyn i ymgyrch orfodi leol gael ei rhoi ar waith.
Mae modd targedu gwybodaeth benodol at gyrff penodol, e.e. targedu negeseuon ynghylch Yfed a Gyrru at y mannau sy’n gwerthu alcohol.
Gall cyfryngau lleol hefyd fod yn barod i helpu neu redeg ymgyrchoedd, yn enwedig os yw’r ymgyrchoedd wedi’u targedu at eu grwp nhw o ddefnyddwyr.
Bydd Diogelwch Ffyrdd Cymru yn cynorthwyo pedair ymgyrch orfodi gan yr heddlu ar hyd y flwyddyn. Cewch y manylion yn y Calendr Diogelwch ar y Ffyrdd. Bydd deunyddiau cyhoeddusrwydd dwyieithog i ategu’r ymgyrchoedd yn fodd i unedau diogelwch ar y ffyrdd eu hybu ar y lefel leol.
6/3/09
I hyrwyddo’r neges wrth-yfed a gyrru, gwahoddir ysgolion a mudiadau ieuenctid i ddyfeisio, perfformio a recordio cyflwyniad amlgyfrwng byw i rybuddio pobl o beryglon a/neu ganlyniadau yfed a gyrru.
1. Gellir cynnwys hyd at 6 o berfformwyr.
2. Rhaid i aelodau’r tîm fod rhwng 11 a 25 oed.
3. Dylai’r cyflwyniad bara llai na 3 munud, a cheir defnyddio amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys unrhyw rai o’r rhain:
· Perfformiad cerddorol
· Drama/Sgets
· Barddoniaeth/Araith
· Animeiddiad
· Rhaglen ddogfen
· Comedi
· Dawns
4. Rhaid i’r cyflwyniad gael ei ffilmio a’i gyflwyno ar fideo neu DVD a rhaid darparu manylion cysylltu.
5. Caiff y cyflwyniad ei farnu ar sail y meini prawf hyn (nad ydynt yn nhrefn eu blaenoriaeth):
a. Gwreiddioldeb
b. Neges
c. Perfformiad
d. Effaith
Caiff yr ymgais fuddugol ym mhob Sir wobrau gan eu hawdurdod lleol. Yna, cyflwynir yr ymgais fuddugol i’r Gystadleuaeth Ranbarthol. Caiff enillwyr y Gystadleuaeth Ranbarthol £500 i’r ysgol/mudiad y maent yn ei chynrychioli/ei gynrychioli, a chyflwynir gwobrau i aelodau unigol y tîm. Yn genedlaethol, gwahoddir y pedair ymgais Ranbarthol fuddugol i gael eu gwobr a rhoi’r cyflwyniad adeg lansio ymgyrch Wrth -Yfed a Gyrru Cymru-Gyfan yng Nghaernarfon ddydd Iau 3 Rhagfyr (telir yr holl dreuliau).
Cynhelir y beirniadu ar y gystadleuaeth genedlaethol ddydd
Gall grwpiau sydd â diddordeb gysylltu â’u Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd cliciwch yma
I weld cynigion cystadleuaeth 2008 cliciwch yma

Caiff ymgyrchoedd gwrth-yfed a gyrru, ac ymgyrchoedd gorfodi, eu rhedeg ar hyd y flwyddyn mewn ymdrech barhaus i sicrhau bod yfed a gyrru yn annerbyniol. Trefnir Cystadleuaeth y Poster Yfed a Gyrru i ysgolion i ategu’r neges honno yn ystod cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Cliciwch i weld manylion y gystadleuaeth
Llwytho’r poster i lawr 2006
(fformat PDF 524kb)
Poster gan Toby Williams o Ysgol Uwchradd Tywyn, Gwynedd, sydd wedi’i ddewis i’w ddosbarthu ledled Cymru.
Llwytho’r poster i lawr 2007
(fformat PDF 305kb)
Cewch weld y posteri buddugol yma
Bob blwyddyn bydd Awdurdodau Lleol ledled Cymru’n hyrwyddo wythnosau a digwyddiadau cenedlaethol Cerdded i’r Ysgol. Mae amrywiaeth o lenyddiaeth, gan gynnwys sticeri, taflenni a deunyddiau hyrwyddo eraill, wedi’u cynllunio i hybu’r fenter. Cysylltwch â’ch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol i gael gwybod rhagor.
Dyddiadau Wythnos Cerdded i’r Ysgol yn 2008:
- 19-23 Mai
- Hydref – Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol
Adnoddau

Bydd BikeSafe – Pontio’r Bwlch, sef menter gan bedwar Heddlu Cymru gyda chefnogaeth y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Leol, yn helpu i asesu a chynghori beicwyr modur ynghylch mwynhau teithio a chadw’n ddiogel. Ewch i wefan BikeSafe.