Hebryngwyr Croesfannau Ysgol : Gwobrau
29/10/09
Mae un o brif wobrau diogelwch y ffyrdd wedi cael ei chyflwyno i hebryngwraig croesfan ysgol yn Sir Benfro. Bu Sandra Howells yn cadw llygad barcud ar yr heol y tu fas i Ysgol Gynradd Yr Enw Sanctaidd Abergwaun ers 28 mlynedd!
Mewn cynhadledd a gynhaliwyd yng Nghaernarfon yn ddiweddar fe gyflwynwyd Gwobr Diogelwch y Ffyrdd Cymru i Sandrea er mwyn cydnabod y gwasanaeth hir y mae hi wedi'i roi . Cwmni Chevron yw noddwyr y wobr.
Mae hi'n fam-gu sy'n byw yng Ngwdig a chafodd ei henwebu am y wobr gan Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir Penfro a gan ddisgyblion Ysgol Yr Enw Sanctaidd.
Yn ogystal â chynorthwyo'r disgyblion i groesi'r heol bydd Sandra hefyd yn mynd i mewn i'r ystafell ddosbarth ac i'r gymuned drwyddi draw er mwyn sôn am ddiogelwch y ffyrdd.
Y Cynghorydd Huw George, yw'r Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc a dywedodd ef fod cael person cysurlon fel, Sandra y tu fas i'r ysgol wedi bod o fudd aruthrol i genedlaethau o ddisgyblion Ysgol yr Enw Sanctaidd.
"Yn aml iawn bydd ein menywod a'n dynion Lolipop yn cael eu cymryd yn ganiataol. Eto i gyd maent yn chwarae rhan allweddol bwysig mewn cadw ein plant yn ddiogel wrth iddynt fynd i'r ysgol ac oddi yno," meddai.
"Mae Sandra yn cael ei hystyried yn aelod mawr ei pharch o'r staff gan yr ysgol a gan y Cyngor. Mae hi'n llwyr haeddu ei gwobr."
Geiriad
Yn y llun dyma Sandra gyda Swyddogion Iau Diogelwch y Ffyrdd Ysgol Yr Enw Sanctaidd, yn ogystal â Jeanette John o Uned Diogelwch y Ffyrdd a'r Cynghorydd Huw George.
12/2/07
Mae'r patrolau croesfannau ysgolion wedi cael eu llongyfarch am eu gwaith caled yn helpu miloedd o blant ysgol yn Abertawe i groesi ffyrdd prysur. 
Mae'r dynion a'r menywod, sy'n fwy adnabyddus fel y dynion a'r menywod 'lolipop', wedi cael cydnabyddiaeth am eu hymdrechion mewn seremoni arbennig a drefnwyd gan Dîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor. Yn ystod y digwyddiad, derbyniodd sawl patrol wobrau am eu hymroddiad a'u gwaith caled.
Enillodd Frank Quin, sydd wedi bod ar batrol yn Ysgol Gynradd Ystumllwynarth am yr un mlynedd ar ddeg diwethaf, Wobr 'Patrol y Flwyddyn'. Meddai Mr Quin, "Rwy wedi mwynhau gofalu am blant erioed. Mae derbyn y wobr yma'n beth cyffrous iawn. Rwy wedi fy synnu mewn gwirionedd. Mae gennym rôl bwysig yn helpu plant ifanc i groesi'r ffordd yn ddiogel. Mae gwybod fy mod i'n helpu'r gymuned leol yn rhoi boddhad mawr i mi yn fy ngwaith."
Mae rhieni a chynrychiolwyr lleol yn canmol Mr Quin yn aml am ei ymdrechion i helpu plant ysgol ifanc i groesi'r ffordd yn ddiogel. Mae ei ymdrechion i helpu'r gymuned wedi arwain at ganmoliaeth hefyd gan swyddog uchaf yr heddlu, sef y Prif Arolygydd Mel Jehu.
Llongyfarchodd Mr Jehu, sydd bellach wedi ymddeol, Frank am ei waith yn y gymuned. Meddai, "Mae eich ymdrechion yn y gymuned yn werthfawr iawn ac yn cyflawni llawer wrth geisio gwneud Abertawe'n lle mwy diogel i bawb fyw yma a mwynhau."
Dywedodd John Hague, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ar Gyngor Abertawe, "Mae swyddogion patrolau croesfannau ysgolion yn darparu gwasanaeth gwerthfawr a phwysig iawn yn y gymuned wrth helpu plant i groesi'r ffordd yn ôl ac ymlaen o'r ysgol.
"Mae'r gwobrau yma'n cydnabod yn syml y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud a diolch iddynt ar ran rhieni a phlant Abertawe."
Os yw rhywun yn dymuno helpu eu cymuned a gweithio fel Swyddog Patrol Croesfannau Ysgolion, ffoniwch Cyngor Abertawe ar 01792 636633.
25/1/08
Mae menyw sy’n defnyddio dwy rôl weithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i hyrwyddo neges diogelwch ar y ffyrdd i blant ifanc wedi ennill Gwobr Hebryngwr Croesfan Ysgol y Flwyddyn gan yr awdurdod.
Yn ei ffordd dawel a dirodres, mae Alex Daw wedi helpu plant i groesi ffordd brysur Ham Lane East y tu allan i Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr ac Ysgol Gynradd Llanilltud Fawr am bron i bum mlynedd. Ac mae hi hefyd yn gweithio fel goruchwylwraig cinio.
“Enillydd haeddiannol,” meddai’r Cynghorydd Chris Williams, yr aelod o gabinet y Fro dros gynllunio a chludiant a chyflwynydd y seremoni wobrau flynyddol sy’n cydnabod parhad safonau uchel “menywod a dynion lolipop”. Wrth ddiolch i’r “aelodau ymroddedig o’r gwasanaeth” am eu gwaith, dywedodd y Cynghorydd Williams: “Rwy’n sicr ein bod ni gyd yn sylweddoli pa mor bwysig ac, yn wir, pa mor anodd, yw eu dyletswyddau beunyddiol wrth sicrhau diogelwch y miloedd o gerddwyr sy’n croesi ffyrdd ledled y Fro.
“Er eu bod nhw’n gorfod wynebu tywydd dychrynllyd ar adegau, ac ymddygiad annisgwyl gan fodurwyr, byddan nhw’n cyflawni’r rôl honno’n eithriadol o broffesiynol ac â gwên bob amser.”