Road Safety Wales

Hebryngwyr Croesfannau Ysgol : Digwyddiadau

School Crossing Patrol staff model the new eye-catching uniforms

Golwg newydd ar batrôl croesfannau ysgol

4/3/05

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw’r cyntaf o awdurdodau lleol Cymru i gyflwyno gwisg drawiadol i batrôl croesfannau ysgol fel rhan o ymgyrch fawr i gadw plant yn ddiogel y tu allan i giatiau’r ysgol.

Dadorchuddiwyd y wisg newydd mewn seminar diogelwch y ffordd arbennig a gynhaliwyd ym Maenordy Llancaeach Fawr yn ddiweddar. Mae’r patrol yn chwarae rhan hanfodol mewn sicrhau fod plant ysgol yn croesi’r ffordd yn ddiogel a bydd modurwyr yn gweld y staff yn eu gwisg liwgar newydd yn glir ym mhob tywydd.

Yn ystod y digwyddiad cyflwynwyd gwobr gwasanaeth hir arbennig i Mrs Margaret Horton o Benpedairheol a Mrs Jane Dowell o Ystrad Mynach am eu 25 mlynedd o wasanaeth poblogaidd fel gwardeiniaid croesfannau ysgol.

“Mae ein staff croesfannau yn gwneud gwaith gwych yn y gymuned a hoffwn ddiolch yn bersonol iddyn nhw i gyd am eu hymroddiad a’u brwdfrydedd parhaus. Mae ychydig o leoedd gwag yn y fwrdeistref sirol i wardeiniaid newydd, felly os oes rhywun â diddordeb mewn ysgwyddo’r swydd werth chweil hon, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych” meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng Harry Andrews.

Ac ychwanegodd “Mae diogelwch plant lleol o’r pwysigrwydd pennaf a bydd y mesurau newydd hyn, gobeithio, yn lleihau damweiniau traffig yn ogystal â lleihau problemau gyda thagfeydd wrth ddanfon plant i, ac o’r, ysgol. Yn anffodus, mae’n dal leiafrif o fodurwyr sy’n peryglu bywydau drwy barcio mewn mannau anaddas y tu allan i giatiau’r ysgol neu drwy deithio’n gyflym yn y mannau hynny. Dyma’r bobl y bwriadwn eu targedu drwy’r ymgyrch newydd hon.”

Mae mentrau diogelwch fel hyn, gyda chynlluniau effeithiol megis Kerbcraft, Megadrive, Sioe Ffordd 'Mrs Tufty, Bysiau Cerdded a Chynlluniau Cludiant Ysgol yn cael effaith wirioneddol ar wella diogelwch y ffordd ym mwrdeistref sirol Caerffili.

Mae tîm diogelwch y ffordd yr awdurdod hefyd wedi cyflwyno nifer o fentrau i helpu i leihau damweiniau a llacio tagfeydd ar ffyrdd o amgylch ysgolion. Cyflwynir gorchmynion ‘dim aros’ ger ysgolion ledled y fwrdeistref sirol a chodir baneri hefyd i rybuddio modurwyr i gadw’n glir o’r marciau ‘Cadwch yn Glir.

Am ragor o wybodaeth ynghylch materion diogelwch y ffordd cysylltwch â 01495 235250.


Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.