Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru

Hebryngwyr Croesfannau Ysgol


RCT School Crossing Patrol Boed cenllysg, glaw neu eira, bydd y dynion a’r menywod ymrwymedig hyn yn helpu’n plant i groesi yn ôl ac ymlaen o’r ysgol yn ddiogel bob dydd. Ar ffyrdd prysur y byd sydd ohoni, rhaid wrth nodweddion cymeriad arbennig i gamu allan i stopio’r traffig a chadw sylw plant tan iddyn nhw fod wedi croesi’n ddiogel.

Yr hebryngwr(aig) yw un o’r wynebau cyhoeddus mwyaf cyfeillgar sydd wrth galon y gymuned yma, a hynny i raddau helaeth oherwydd eu hymrwymiad a’u hewyllys da.

Caiff Hebryngwyr Croesfannau Ysgol eu cyflogi’n bennaf i helpu plant i groesi’r ffordd yn ddiogel yn ôl ac ymlaen i’r ysgol. Ond fe allan nhw stopio’r traffig i unrhyw un gael help i groesi’r ffordd cyhyd â’u bod nhw wrth eu safle dynodedig yn ystod eu horiau ar ddyletswydd.

Pan fydd Hebryngwr(aig) Croesfan Ysgol yn dangos arwydd ‘Stop’, rhaid i fodurwyr stopio. Os bydd gyrrwr yn methu â gwneud hynny, gallai fod yn destun adroddiad a chael dirwy neu bwyntiau cosb ar ei drwydded/ei thrwydded.

I gael gwybod rhagor am Hebryngwyr Croesfannau Ysgol, cysylltwch â’ch goruchwyliwr lleol.

Goruchwylwyr Hebryngwyr Croesfannau Ysgol

Awdurdod Cydlynydd E-bost
Abertawe Joanne Davies Joanne.davies@swansea.gov.uk
Blaenau Gwent Melinda Powell Melinda.powell @blaenau-gwent.gov.uk
Bro Morgannwg Karen Stokes kstokes@valeofglamorgan.gov.uk
Caerdydd Sallyanne Dangerfield sdangerfield@cardiff.gov.uk
Caerffili Sandra Bennett bennes@caerphilly.gov.uk
Casnewydd Paul Jenkins Paul.Jenkins@newport.gov.uk
Castell-nedd Port Talbot Alison Long a.long@npt.gov.uk
Ceredigion Terry Jones terryj@ceredigion.gov.uk
Conwy Julie Birchall julie.birchall@conwy.gov.uk
Gwynedd Heather Jones HeatherLynneJones@gwynedd.gov.uk
Merthyr Tudful Jill Harper jill.harper@merthyr.gov.uk
Môn Wil Hughes twhht@anglesey.gov.uk
Pen-y-bont ar Ogwr Simon Ladbrooke Simon.ladbrooke@bridgend.gov.uk
Powys Steve Cadwallader Jones steve.cadwallader-jones @powys.gov.uk
Rhondda Cynon Taf Peter Cobley d.peter.cobley@rhondda-cynon-taff.gov.uk
Sir Benfro Jeanette John jeanette.john@pembrokeshire.gov.uk
Sir Ddinbych Alan Hinchliffe Alan.Hinchliffe@denbighshire.gov.uk
Sir Gaerfyrddin Rhys John RWJohn@sirgar.gov.uk
Sir Fynwy Naomi Hughes Naomi.Hughes@capita.co.uk
Sir y Fflint Lee Shone Lee_Shone@flintshire.gov.uk
Torfaen Sally Day sally.day@torfaen.gov.uk
Wrecsam Veronica Jones veronica.jones@wrexham.gov.uk



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.