Hebryngwyr Croesfannau Ysgol : Newyddion
25/11/09
Mae gyrwyr yn cael eu hannog i barchu croeswyr plant ysgol neu bydd rhaid iddynt wynebu cosb.
Dyma'r neges gan Dim Diogelwch Ffyrdd y Cyngor Sir ar ôl i yrrwr gael ei erlyn am beidio â stopio ar gyfer 'gwraig lolipop' y tu allan i ysgol.
Gyrrodd y dyn heibio'r croeswr wrth iddi helpu criw o blant ar draws y ffordd. Bu iddo bledio'n euog i yrru yn ddiofal, yn ddiweddar.
Cafodd gosb o dri phwynt ar ei drwydded gan Ynadon Caergybi, yn ogystal â dirwy o £65 a gorchymyn i dalu £65 mewn costau.
Pwysleisiodd Swyddog Diogelwch Ffyrdd Môn, William Hughes, "Mae gyrwyr yn cyflawni trosedd os ydynt yn gwrthod stopio pan mae croeswr plant ysgol yn y ffordd gydag arwydd STOP."
"Cafodd y croeswr ei dychryn gan y digwyddiad ac rydym yn croesawu'r erlyniad gan Heddlu Gogledd Cymru. Yn anffodus, mae'r math yma o ddigwyddiad yn fwy cyffredin na fasa rhywun yn meddwl, gyda rhai gyrwyr yn gwylltio a'n troi'n ymosodol os oes rhaid iddyn nhw stopio."
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cyflogi 19 o groeswyr plant ysgol sydd yn gwneud gwaith pwysig dros ben wrth ddiogelu plant. Mae Croeswyr Plant Ysgol, gyda'u harwyddion 'lolipop' adnabyddus, yn helpu plant groesi rhai o ffyrdd prysuraf yr Ynys ar eu ffordd i'r ysgol ac adref.
Mae'r deilydd portffolio Priffyrdd, y Cynghorydd Eurfryn Davies, yn annog gyrwyr i ddangos ystyriaeth a pharch bob amser, ac yn enwedig wrth nesáu at ysgol.
Ychwanegodd, "Mae achosion fel hyn yn creu pryder. Fe all gwrthod stopio pan mae croeswr yng nghanol y ffordd arwain at ddamwain ffordd ddifrifol a niwed i blant ifanc. Gobeithiaf y bydd yr erlyniad llwyddiannus yma'n danfon neges glir i bob gyrwyr na fydd y math yma yn cael ei dderbyn ym Môn."
29/10/09
Mae un o brif wobrau diogelwch y ffyrdd wedi cael ei chyflwyno i hebryngwraig croesfan ysgol yn Sir Benfro. Bu Sandra Howells yn cadw llygad barcud ar yr heol y tu fas i Ysgol Gynradd Yr Enw Sanctaidd Abergwaun ers 28 mlynedd!
Mewn cynhadledd a gynhaliwyd yng Nghaernarfon yn ddiweddar fe gyflwynwyd Gwobr Diogelwch y Ffyrdd Cymru i Sandrea er mwyn cydnabod y gwasanaeth hir y mae hi wedi'i roi . Cwmni Chevron yw noddwyr y wobr.
Mae hi'n fam-gu sy'n byw yng Ngwdig a chafodd ei henwebu am y wobr gan Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir Penfro a gan ddisgyblion Ysgol Yr Enw Sanctaidd.
Yn ogystal â chynorthwyo'r disgyblion i groesi'r heol bydd Sandra hefyd yn mynd i mewn i'r ystafell ddosbarth ac i'r gymuned drwyddi draw er mwyn sôn am ddiogelwch y ffyrdd.
Y Cynghorydd Huw George, yw'r Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc a dywedodd ef fod cael person cysurlon fel, Sandra y tu fas i'r ysgol wedi bod o fudd aruthrol i genedlaethau o ddisgyblion Ysgol yr Enw Sanctaidd.
"Yn aml iawn bydd ein menywod a'n dynion Lolipop yn cael eu cymryd yn ganiataol. Eto i gyd maent yn chwarae rhan allweddol bwysig mewn cadw ein plant yn ddiogel wrth iddynt fynd i'r ysgol ac oddi yno," meddai.
"Mae Sandra yn cael ei hystyried yn aelod mawr ei pharch o'r staff gan yr ysgol a gan y Cyngor. Mae hi'n llwyr haeddu ei gwobr."
Geiriad
Yn y llun dyma Sandra gyda Swyddogion Iau Diogelwch y Ffyrdd Ysgol Yr Enw Sanctaidd, yn ogystal â Jeanette John o Uned Diogelwch y Ffyrdd a'r Cynghorydd Huw George.
1/6/09
Mae patrolau croesi ysgol yn Abertawe wedi cael gwisg newydd ar ôl i'r gwasanaeth gael nawdd newydd.
Mae Partneriaeth Priffyrdd Abertawe, sy'n cynnwys Cyngor Abertawe, Hansons Contracting ac Alun Griffiths Contractors (Ltd), wedi prynu'r dillad pob tywydd arbenigol.
Bydd y rhodd garedig yn helpu i gadw tîm o batrolau croesi ysgol yn Abertawe, sy'n gweithio'n galed, yn dwym ac yn sych trwy'r flwyddyn wrth iddynt helpu miloedd o blant ysgol i groesi heolydd i'r ysgol ac yn ôl adref yn ddiogel.Mae 95 o gotiau pob tywydd newydd wedi'u prynu i batrolau'r ddinas.
Meddai Jamie Bowen, Rheolwr Gwella Busnesau, gyda Phartneriaeth Priffyrdd Abertawe, "Rydym wrth ein boddau yn helpu patrolau croesi ysgol Abertawe i aros yn ddiogel a gwneud eu gwaith, sef cadw plant yn ddiogel, yn enwedig ar ein heolydd.
"Maen nhw'n gwneud gwaith gwych ac mae pobl yn anghofio'n rhy hawdd bwysigrwydd eu rôl wrth wneud ein heolydd yn fwy diogel i bobl eu croesi.
"Rwy'n si?r bod eu rôl yn wobrwyol tra'n eithriadol o straenus ar adegau, ond does dim amheuaeth ei bod yn werthfawr iawn.
"Wrth i ni weithio i helpu gwella priffyrdd a diogelwch ffyrdd yn Abertawe trwy ein contractau ein hunain, bydd yn braf gweld y patrolau croesi'n chwarae eu rôl mewn gwisg a ddyluniwyd i'w manylebau eu hunain ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cyfrannu yn y ffordd hon."
Meddai Joanne Davies, Swyddog Patrolau Croesi Ysgolion Cyngor Abertawe, "Rwyf wrth fy modd bod y bartneriaeth wedi cyfrannu at gostau cyllido'r gwasanaeth gwerthfawr hwn.
"Mae ein Patrolau Croesi Ysgolion yn gwneud gwaith ardderchog, ym mhob math o dywydd er diogelwch y plant. Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth a roddwyd i ni ac rydym yn ddiolchgar iawn."
Partneriaeth pedair blynedd yw Partneriaeth Priffyrdd Abertawe sy'n werth hyd at £20m. Bydd yn cyflawni effeithlonrwydd gwell a chynllunio gwelliannau priffyrdd mwy effeithiol trwy integreiddio agosach a gweithio fel tîm.
16/3/09
Mae modurwyr yn peryglu bywydau plant ifanc trwy beidio â stopio ar gyfer patrolau croesfannau ysgolion.
Mae rhai o'r patrolau wedi cwyno sawl gwaith am yrru diofal a pheryglus yng nghyffiniau ysgolion lleol.
Mae'r patrolau, sy'n cael eu hadnabod yn well fel dynion a menywod lolipop, yn cael eu cyflogi gan Gyngor Abertawe ac maent yn helpu cannoedd o blant ysgol i groesi heolydd prysur i ysgolion lleol ac yn ôl.
Fodd bynnag, mae gyrru peryglus gan rai yn peryglu bywydau plant a'r patrolau. Ar ben hyn, honnwyd mai rhieni sy'n mynd â'u plant i'r ysgol yw'r prif droseddwyr.
Mae Gladys Spencer wedi gofalu am groesfan brysur yng Ngorseinon am nifer o flynyddoedd ac mae'n dweud iddi ddod o fewn trwch blewyn o gael ei tharo gan geir ar yr heol sawl gwaith.
Meddai Gladys, "Dyw e ddim yn croesi meddwl llawer o yrrwyr i stopio pan fyddan nhw'n nesáu ataf. Mae'n digwydd yn eithaf rheolaidd ac mae'n tueddu i gynnwys rhieni sy'n mynd â'u plant i'r ysgol.
"Dw i wedi siarad â phatrolau eraill yn Abertawe ac maen nhw'n cael yr un problemau gyda gyrrwyr. Mae'r rhan fwyaf yn hapus i arafu os ydyn nhw'n gweld heddwas ond, yn anffodus, dydy nhw ddim yn meddwl amdanom ni yn yr un ffordd.
Mae Joanne Davies, Cydlynydd Patrolau Croesfannau Ysgolion Cyngor Abertawe, yn poeni y gallai agwedd hunanol modurwyr arwain at blentyn yn cael ei anafu neu hyd yn oed yn colli ei fywyd.
Meddai Mrs Davies, "Mae nifer y cwynion rwyf wedi eu cael gan Batrolau Croesfannau Ysgolion yn Abertawe yn fy nychryn. Mae'n patrolau yn gwneud gwaith amhrisiadwy trwy gadw plant ysgol yn ddiogel wrth iddynt groesi heolydd prysur yn Abertawe.
"Mae angen i fodurwyr ddangos parch tuag at y patrolau hyn a meddwl mwy am yr hyn maen nhw'n ei wneud wrth nesáu atynt yn eu cerbydau. Mae'n debygol iawn y bydd plant gerllaw hefyd ac mae hynny'n rheswm mwy byth i yrwyr ymddwyn yn gyfrifol.
"Bydd ein patrolau yn nodi rhifau cofrestru unrhyw yrrwyr sy'n methu â stopio neu sy'n gyrru'n beryglus a byddwn yn rhoi'r manylion i'r heddlu lleol.
"Efallai nad yw modurwyr yn sylweddoli eu bod yn torri'r gyfraith trwy fethu â stopio ac yn peryglu bywydau plant ifanc."
Mae Deddf Patrôl Croesfan Ysgol 1953 yn galluogi pobl ar wahân i'r heddlu i atal y traffig. Mae'r Ddeddf yn galluogi personél patrôl croesfannau ysgolion i gael eu hyfforddi gan yr Awdurdod Lleol ac iddynt gael yr awdurdod i atal traffig pan maent yn gwisgo gwisg gymeradwy ac yn cario'r arwydd 'STOP' cywir.
Mae'n drosedd o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1984 i yrrwr beidio â stopio pan fydd Patrôl Croesfan Ysgol yn dangos arwydd iddynt i stopio. Os ydych yn methu â stopio, bydd yr Heddlu yn cael eu hysbysu ac mae'r cosbau posib yn cynnwys:
· Dirwy o hyd at £1000
· Tri phwynt cosb ar eich trwydded
· Gwaharddiad
Cofiwch fod STOP yn golygu STOP
23/5/08
Mae dros 50 o swyddogion croesfan ysgol yn Sir Benfro, a’u hoedran yn amrywio o 24 i 72 a hyd eu gwasanaeth o ychydig fisoedd i 35 mlynedd. Byddan nhw’n gweithio ar groesfannau ysgol ledled y Sir, o Solfach i Saundersfoot ac o Aberdaugleddau i Abergwaun.
Beth bynnag fydd y tywydd, bydd y grŵp hwn o ddynion a menywod ymroddedig yn sicrhau bod plant Sir Benfro yn croesi’r ffordd yn ôl ac ymlaen i’w hysgol yn ddiogel.
Bellach, mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd y Cyngor yn annog pawb i helpu eu swyddog croesfan lleol drwy fod yn arbennig o ofalus ar y ffyrdd o gwmpas ysgolion – yn enwedig lle mae hebryngwyr wrth eu gwaith.
“Bydd swyddogion croesfannau ysgol yn cyflawni gwasanaeth gwerthfawr ar ffyrdd sy’n fwyfwy prysur,” meddai Jeanette John o’r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd.
“Er eu bod nhw yno’n bennaf i helpu plant, gallan nhw helpu unrhyw un sy’n gofyn am eu help pan fyddan nhw ar ddyletswydd yn eu lleoliad dynodedig.”
“Pan fydd hebryngwr yn dangos ei arwydd ‘Stop’, rhaid i fodurwyr stopio yn unol â Deddf Traffig Ffyrdd 1988. Os methan nhw â gwneud hynny, gallen nhw gael dirwy a/neu bwyntiau cosb.”
Dywedodd hi y gallai rhieni, a oedd â’r cyfrifoldeb terfynol dros ddiogelwch eu plentyn, helpu hebryngwyr drwy wneud hyn:
- Dysgu eu plentyn i aros ar y palmant a dilyn y cyfarwyddiadau
- Eu dysgu i groesi o flaen yr hebryngwr(aig)
- Sicrhau eu bod yn parcio’n ddigon pell oddi wrth yr hebryngwr gan fod angen i’r swyddogion hynny weld, a chael eu gweld, gan y traffig sy’n dod tuag atyn nhw
- Arafu wrth yrru ar y ffordd, a bod yn barod i stopio
- Ac uwchlaw popeth, bod yn amyneddgar – gallai bywyd plentyn fod yn y fantol
5/3/08
Mae Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe yn galw ar bobl leol i geisio datrys y prinder dynion neu fenywod lolipop, neu swyddogion patrôl croesfannau i roi'r teitl swyddogol, mewn ysgolion ledled Cymru.
Mae Cyngor Abertawe wastad yn ceisio llenwi safleoedd gwag ac mae ymgyrch barhaus ar waith i wella lefelau recriwtio.
Yn ogystal â hysbysebu, mae sawl menter wedi'i sefydlu sy'n cynyddu lefelau recriwtio ond mae angen rhagor o bobl arnom o hyd i gynnig eu hunain.
Mae tîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor yn llunio cylchlythyr ar gyfer pob ysgol yn Abertawe sy'n rhoi gwybodaeth am bob safle gwag a sut i ofyn am becyn cais. Mae'r tîm yn ymweld â ffeiriau swyddi lleol hefyd ac yn cynnal seremonïau wobrwyo ar gyfer dynion/menywod lolipop cyfredol fel ffordd o ddiolch iddynt.
Mae aelodau'r Clwb Diogelwch Ffyrdd Iau yn dylunio posteri sydd wedi cael eu harddangos y tu mewn a'r tu allan i'r ysgolion lle ceir safleoedd gwag.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw eu bod wedi bod yn chwilio am ddyn/fenyw lolipop ers misoedd.
Mae Frank Quinn, sydd wedi bod yn ddyn lolipop yn Ysgol Gynradd Ystumllwynarth ers 11 mlynedd, eisoes wedi ennill gwobr 'Dyn Lolipop y Flwyddyn'.
Mae Mr Quinn yr hynaf o naw o blant a bu'n helpu i fagu ei frodyr a'i chwiorydd wedi i'w rhieni farw'n ifanc. Dywedodd ei fod wastad wedi mwynhau gofalu am blant.
"Rwyf wrth fy modd i fod yn onest, mae'r plant mor naturiol. Dydw i ddim yn deall pam mae prinder gan nad oes swydd mwy gwerth chweil na hyn. Mae gan ddynion/menywod lolipop rôl bwysig wrth helpu plant ifanc groesi'r ffordd yn ddiogel. Plant yw'r pethau pwysicaf yn y byd."