Diogelwch Ffyrdd Cymru: Strategaethau
4/3/09
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i annog mwy o bobl i gerdded a beicio'n fwy diogel ac yn fwy aml; p’un a ydynt yn mynd ar daith arferol i’r siopau, yn mynd i’r gwaith neu'n hamddena.
Ein prif amcanion yw:
- Gwella iechyd a lles y boblogaeth trwy gynyddu gweithgarwch corfforol;
- Gwella’r amgylchedd lleol i gerddwyr a beicwyr;
- Annog teithio cynaliadwy fel cam ymarferol i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd;
- Hyrwyddo cyfleusterau er mwyn annog pobl i gerdded a beicio mwy;
- Sicrhau bod polisïau, cyfarwyddyd a chyllid trawsbynciol yn rhoi blaenoriaeth i gerdded a beicio;
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn cefnogi nifer o fentrau a chyrff gan gynnwys:
- Llwybrau Diogel mewn Cymunedau: Helpu awdurdodau lleol i ddatblygu llwybrau cerdded a beicio diogel a gwella hygyrchedd i bawb;
- Cynllun grant i wella cefnffyrdd a thrafnidiaeth i gynnig seilwaith newydd ar gyfer cerdded a beicio;
- Cyllid craidd i Sustrans Cymru, elusen trafnidiaeth gynaliadwy;
Ewch i: wefan Sustrans (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)
- Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Beicio: Cyflwyno’r Safonau Cenedlaethol trwy gynyddu nifer yr hyfforddwyr cymwysedig yng Nghymru, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Elusennol CTC.
Ewch i: wefan CTC (Clwb Teithio Beicwyr) (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)
- Dewch i Gerdded Cymru: menter Cymru gyfan a ddatblygwyd trwy bartneriaeth rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru - ei diben yw cynyddu nifer y bobl sy’n cerdded yn rheolaidd.
Ewch i: wefan Dewch i Gerdded Cymru (cyswllt allanol)
- Bike It – menter beilot Sustrans Cymru sy’n anelu at gynyddu nifer y bobl sy’n beicio i’r ysgol trwy hyrwyddo’r manteision; dysgu sgiliau beicio a chynnal digwyddiadau beicio i’r ysgol a theithiau beicio.
Ewch i: wefan Bike It (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)
Dolenni defnyddiol i sefydliadau eraill
Ewch i: wefan Cymdeithas y Cerddwyr (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)
Lawrlwytho Dogfen
Cynllun Gweithredu Cymru ar Gerdded a Beicio 2009 - 2013
Targedau ar gyfer Lleihau Nifer yr Anafusion
Yn 2000, pennodd Llywodraeth Cynulliad Cymru dargedau ar gyfer lleihau nifer yr anafusion mewn damweiniau ffyrdd erbyn 2010. O'i gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer 1994-1998, rydym am weld:
- gostyngiad o 40% yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol;
- gostyngiad o 50% yn nifer y plant sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol;
- gostyngiad o 10% yn nifer y bobl sy'n dioddef mân anafiadau am bob 100 miliwn cilomedr mewn cerbyd.
Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud i gyrraedd y targedau hyn yn mynd rhagddo'n dda. Erbyn 2005, roedd nifer y bobl a gafod eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol wedi gostwng 34%, a nifer y plant a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol wedi gostwng 53%. Yn ogystal, roedd nifer y bobl a gafodd fân anafiadau wedi gostwng 23%.
Mae’r Strategaeth yn nodi amrywiaeth o fesurau sydd wedi’u cynllunio i helpu i gyrraedd y targedau. Mae’r ddogfen lawn a’r Crynodeb Gweithredol i’w cael yma.
Yn 2003, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei Strategaeth Cerdded a Seiclo gyntaf ar gyfer Cymru. Mae gan y strategaeth ddau brif nod:
- Sicrhau mwy o gyfleoedd i bobl gerdded a seiclo i'r gwaith ac yn eu hamser hamdden.
- Cynnwys cerdded a seiclo yn y systemau trafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi eu cynnwys yng nghynllun teithio cynaliadwy Cymru.