Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru: Hyfforddiant

Grwpiau o Oedolion


Pass Plus Cymru
Wedi pasio eich prawf gyrru?logo pass plus cymru
Neu ydych chi’n adnabod person ifanc sydd newydd basio’i brawf?

Dyma’r newyddion da…..

Cyfle i ddysgu mwy am dechnegau gyrru, a chael awgrymiadau a chynghorion pellach am £20 yn unig (os ydych chi rhwng 17-25 oed ac yn byw yng Nghymru).

A does dim prawf!


Dyma sut mae’n gweithio…
Byddwch yn canolbwyntio ar:

  • Fynd ar y draffordd
  • Technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon
  • Mynd o gwmpas yn y nos
  • Ymdopi â threfi a dinasoedd prysur
  • Gyrru ar ffyrdd gwledig
  • Meddwl ymlaen – yn union fel y gwnewch chi nawr


Pa fantais gewch chi o hyn?

  • Sgilau gyrru gwell
  • Gallech fod yn talu llai o yswiriant
  • Llai o berygl o gael damwain neu o anafu’ch hun, eich ffrindiau a phobl eraill


Ewch i www.dragondriver.com neu ffoniwch 0845 050 4255 i archebu lle ar gwrs.

----------------------------------------------------------------------------------------------------------

Fersiwn estynedig o’r cwrs safonol Pass Plus yw Pass Plus Cymru a gefnogir gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru.

Mae’n gwrs gyrru uwch byr, dan arweiniad arbenigwr, sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl ifanc i ddatblygu technegau gyrru, bod yn fwy ymwybodol o beryglon ac ehangu profiad.

Mae ar gael i bobl ifanc Cymru am £20 yn unig gan fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymorthdalu’r cwrs drwy’r awdurdodau lleol.

Yn ôl yr ystadegau, mae mwy o bobl ifanc yn cael damweiniau na phobl hyn ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru er mwyn annog pobl ifanc i ddod yn yrwyr gwell gyda’r nod o leihau damweiniau ac achub bywydau.



Hyfforddiant Beicio i Oedolion

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu cyllid i CTC, sef Mudiad Beicwyr Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, i gyflogi Swyddog Datblygu i helpu awdurdodau lleol i wella ansawdd a chynyddu argaeledd hyfforddiant beicio. Bydd bwrsariaethau ar gael i hyfforddi hyfforddwyr i gyflwyno’r Safonau Cenedlaethol ledled Cymru.


Rhaglen hyfforddi mewn tri cham yw Safonau Cenedlaethol neu Bikeability ac fe aiff â chi o sgiliau sylfaenol cydbwyso a llywio i hyfforddiant penodol i’ch galluogi i feicio’n hyderus ar bob ffordd yn eich ardal leol. I’ch helpu i ddod o hyd i hyfforddwr(aig) yng Nghymru mae gan CTC restri o hyfforddwyr cenedlaethol, a gall gynnig cyngor i bob un sy’n cael ei hyfforddi.
I gael gwybod rhagor am ddod yn Hyfforddwr(aig) Safonau Cenedlaethol yng Nghymru, cysylltwch â Ceri Griffin d/o RoSPA 2 Cwrt-y-Parc Llanisien Caerdydd CF14 5GH.
Ffôn 029 20750301 Symudol 07725 076400

 

Mae’r cyfleoedd i oedolion gael eu hyfforddi i feicio’n ddiogel yn cynyddu ledled Cymru. Cysylltwch â’ch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol i gael y manylion.



Cyrsiau Ymadnewyddu i Yrwyr Aeddfed
Yn ôl yr ystadegau, mae gyrwyr aeddfed yn llai tebyg o fod mewn damwain ar y ffordd na gyrwyr ifanc neu lai profiadol. Mae’r ymchwil yn dangos bod tuedd i yrwyr aeddfed wneud llai o deithiau, a theithiau byrrach, na’r grwpiau oedran eraill, a theithio ar ffyrdd cyfarwydd yn ystod oriau’r dydd yn bennaf. Ond gan mai effaith anochel y broses heneiddio, yn aml, yw amharu ar eich golwg, eich clyw a’ch barn, efallai na fyddwch chi’n sylweddoli bod y newidiadau graddol hynny’n digwydd.
Os hoffech chi ddiweddaru’ch sgiliau gyrru, holwch eich Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd a oes cyrsiau ar gael yn eich ardal chi.



BikeSafe Cymru
Bydd BikeSafe – Pontio’r Bwlch, sef menter gan bedwar Heddlu Cymru gyda chefnogaeth y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Leol, yn helpu i asesu a chynghori beicwyr modur ynghylch mwynhau teithio a chadw’n ddiogel. Gan fod beicwyr modur 40 gwaith yn fwy tebyg o gael eu lladd na gyrwyr ceir, mae’n hanfodol iddyn nhw fanteisio ar y cyfle i gael hyfforddiant ychwanegol a sicrhau y gallan nhw deithio’n ddiogel ar y ffordd. Ewch i wefan BikeSafe logo bikesafe

Gwefan am feicio modur yn ddiogel yng Nghymru, wedi'i hysgrifennu a'i rheoli gan feicwyr proffesiynol i feicwyr.

Ewch i wefan Cymru Ar Y Beic

Gwent BikeSafe

 

 

 

 




Uwch-Yrru
Gan mai camgymeriadau gan yrwyr sy’n achosi 95% o ddamweiniau ar y ffyrdd, bydd y mwyafrif o bobl sy’n dilyn cyrsiau uwch-yrru yn gwneud hynny er mwyn gwybod eu bod yn gyrru mor ddiogel â phosibl ac er mwyn gwella’u sgiliau.


Mae hi bob amser yn anodd dweud pa mor dda rydych chi’n gyrru, ond mae bod yn yrrwr da yn golygu na fyddwch chi byth yn gorffen dysgu.


Drwy wella’ch sgiliau gyrru, byddwch chi nid yn unig yn well gyrrwr ond hefyd yn mwynhau gyrru’n fwy.

Cewch hyd i Grwpiau uwch-yrru ar dudalen y cysylltau.

 



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Go to the English version of this web site.