Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru: Hyfforddiant

Hyfforddiant Cynradd


Kerbcraftlogo kerbcraft
Caiff hwn ei hyrwyddo ym mhob un o’r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru am fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi clustnodi cyllid arbennig ar ei gyfer. Bydd y cynllun yn dysgu plant 5-7 oed sut mae cerdded yn ddiogel yn ymyl ffyrdd. Bydd gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi yn mynd â grwpiau o ddim mwy na thri o blant allan o’r ysgol i ddysgu tri phrif sgìl, sef:

  • dewis mannau a llwybrau diogel i groesi’r ffordd
  • croesi’n ddiogel yn ymyl ceir sydd wedi’u parcio
  • croesi’n ddiogel yn ymyl cyffyrdd

Kerbcraft yng Nghymru



Hyfforddiant Beicio


Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant beicio. Fel rheol, bydd ef ar gael pan fydd disgyblion yn cyrraedd blwyddyn 6 (er y caiff ei gynnig ambell waith i flwyddyn 5). Y drefn draddodiadol oedd rhoi hyfforddiant beicio oddi ar y ffordd, h.y. ar iard yr ysgol, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae mwy a mwy o awdurdodau lleol wedi bod yn hyfforddi plant ar y ffordd er mwyn iddynt gael profiad o sefyllfaoedd traffig go-iawn. Gan fod y newid graddol hwn mewn hyfforddiant beicio wedi arwain at gyflwyno Safonau Cenedlaethol Hyfforddiant Beicio, mae awdurdodau wrthi’n ceisio gweithredu’r Safonau hynny. Bydd y broses yn cynnwys rhoi hyfforddiant beicio i oedolion. I weld manylion y Safonau, cliciwch ar www.ctsb.org.uk.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu cyllid i CTC, sef Mudiad Beicwyr Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, i gyflogi Swyddog Datblygu i helpu awdurdodau lleol i wella ansawdd a chynyddu argaeledd hyfforddiant beicio. Bydd bwrsariaethau ar gael i hyfforddi hyfforddwyr i gyflwyno’r Safonau Cenedlaethol ledled Cymru.
Rhaglen hyfforddi mewn tri cham yw Safonau Cenedlaethol neu Bikeability ac fe aiff â chi o sgiliau sylfaenol cydbwyso a llywio i hyfforddiant penodol i’ch galluogi i feicio’n hyderus ar bob ffordd yn eich ardal leol. I’ch helpu i ddod o hyd i hyfforddwr(aig) yng Nghymru mae gan CTC restri o hyfforddwyr cenedlaethol, a gall gynnig cyngor i bob un sy’n cael ei hyfforddi.
I gael gwybod rhagor am ddod yn Hyfforddwr(aig) Safonau Cenedlaethol yng Nghymru, cysylltwch â Gwenda Owen d/o RoSPA 2 Cwrt-y-Parc Llanisien Caerdydd CF14 5GH.
Ffôn 029 20750301 Symudol 07825 081097

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi’n ystyried datblygu hyfforddiant beicio a sut mae hynny’n cysylltu â materion ehangach hamdden a chludiant. Yn y man, cewch ragor o wybodaeth yma am ddatblygiad hyfforddiant beicio yng Nghymru. Yn y cyfamser, i gael manylion y ddarpariaeth hyfforddiant beicio mewn awdurdod lleol penodol, cysylltwch â’r Swyddog priodol ym maes Diogelwch ar y Ffyrdd.

 

 



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Go to the English version of this web site.