Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru: Hyfforddiant

Hyfforddiant Uwchradd


Hyfforddiant cyn gyrru
Yn wreiddiol, fe sefydlwyd cynllun Mega Drive yng Ngwent ym 1995 oherwydd problem ddifrifol iawn, sef bod nifer anghymesur o yrwyr ifanc mewn damweiniau ar y ffordd, yn bennaf oherwydd eu diffyg profiad. Caiff Mega Drive ei gyflwyno i fyfyrwyr coleg sy’n bwriadu cymryd eu prawf gyrru ymarferol cyn bo hir iawn heb iddyn nhw wybod, efallai, am yr holl beryglon a all godi wrth yrru ar ffyrdd Prydain.


Bydd y myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn Mega Drive yn ymweld â’r “gweithfannau rhyngweithiol” mewn grwpiau o dri i gael gwybodaeth hanfodol am faterion gyrru, gan gynnwys:


· ymwybyddiaeth o beryglon
· dogfennau hanfodol
· achosion damweiniau
· effeithiau a chanlyniadau yfed a chymryd cyffuriau
· prynu car newydd neu ail-law
· beth i’w wneud yn y fan a’r lle os bydd damwain


O flwyddyn i flwyddyn, y weithfan fwyaf poblogaidd yw honno lle caiff y myfyrwyr gyfle i fentro i sedd y gyrrwr. Fe gân nhw gyfle hefyd i yrru o gwmpas cwrs arbennig yng nghwmni hyfforddwr gyrru sydd wedi’i gymeradwyo. Dyma, i lawer o’r myfyrwyr, eu profiad cyntaf o fod y tu ôl i’r llyw.


Cynhelir Mega Drive hefyd yn ardaloedd:
Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, Ceredigion, Caerfyrddin. I holi a yw Mega Drive ar gael, cysylltwch â’ch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol.


Hyfforddiant Beicio
Y drefn draddodiadol oedd rhoi hyfforddiant beicio oddi ar y ffordd, h.y. ar iard yr ysgol, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae mwy a mwy o awdurdodau lleol wedi bod yn hyfforddi plant ar y ffordd er mwyn iddynt gael profiad o sefyllfaoedd traffig go-iawn. Gan fod y newid graddol hwn mewn hyfforddiant beicio wedi arwain at gyflwyno Safonau Cenedlaethol Hyfforddiant Beicio, mae awdurdodau wrthi’n ceisio gweithredu’r Safonau hynny. Bydd y broses yn cynnwys rhoi hyfforddiant beicio i oedolion. I weld manylion y Safonau, cliciwch ar www.ctsb.org.uk

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu cyllid i CTC, sef Mudiad Beicwyr Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, i gyflogi Swyddog Datblygu i helpu awdurdodau lleol i wella ansawdd a chynyddu argaeledd hyfforddiant beicio. Bydd bwrsariaethau ar gael i hyfforddi hyfforddwyr i gyflwyno’r Safonau Cenedlaethol ledled Cymru.


Rhaglen hyfforddi mewn tri cham yw Safonau Cenedlaethol neu Bikeability ac fe aiff â chi o sgiliau sylfaenol cydbwyso a llywio i hyfforddiant penodol i’ch galluogi i feicio’n hyderus ar bob ffordd yn eich ardal leol. I’ch helpu i ddod o hyd i hyfforddwr(aig) yng Nghymru mae gan CTC restri o hyfforddwyr cenedlaethol, a gall gynnig cyngor i bob un sy’n cael ei hyfforddi.
I gael gwybod rhagor am ddod yn Hyfforddwr(aig) Safonau Cenedlaethol yng Nghymru, cysylltwch â Ceri Griffin d/o RoSPA 2 Cwrt-y-Parc Llanisien Caerdydd CF14 5GH.
Ffôn 029 20750301 Symudol 07725 076400

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi’n ystyried datblygu hyfforddiant beicio a sut mae hynny’n cysylltu â materion ehangach hamdden a chludiant. Yn y man, cewch ragor o wybodaeth yma am ddatblygiad hyfforddiant beicio yng Nghymru. Yn y cyfamser, i gael manylion y ddarpariaeth hyfforddiant beicio mewn awdurdod lleol penodol, cysylltwch â’r Swyddog priodol ym maes Diogelwch ar y Ffyrdd.



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Go to the English version of this web site.